Main Content CTA Title

Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Lefel 1 nawr am ddim

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Lefel 1 nawr am ddim

Fel rhan o gyfri i lawr a dathlu Gemau Paralympaidd Paris 2024 a Gemau Olympaidd Byddardod Tokyo 2025, mae Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon Cymru yn lansio cyrsiau Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU i Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr ac Addysg Lefel 1 am ddim!

Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gallu darparu Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Lefel 1 am ddim i’r holl hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, athrawon a staff addysg tan fis Ebrill 2025!

Mae'r cynnwys yn cwmpasu:

  • Cyfathrebu effeithiol
  • Model Cynhwysiant Gweithgareddau
  • Creu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Model Gweithredol o Anabledd
  • Fframwaith STEP

Cofrestrwch heddiw a chwblhewch 60 munud o ddysgu am ddim i ddeall yn well sut i wneud eich sesiynau yn fwy cynhwysol i bobl anabl.

  • Mae’r cynnwys ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain.
  • Gellir cwblhau ar amser cyfleus sydd fwyaf addas i chi.
  • Yn cynnwys fideos, cwisiau, a rhoddir tystysgrif ar y diwedd.
  • Yn addas ar gyfer hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, athrawon, staff addysg, ac unrhyw un sy'n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Dim ond ar gael tan 1 Ebrill 2025.

 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU ar gyfer Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr Lefel 1, gallwch wedyn symud ymlaen i Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU Lefel 2 a Lefel 3. 

Gallwch gofrestru ar Lefel 2 yma

Gallwch gofrestru ar Lefel 3 yma

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy