Main Content CTA Title

Jeremiah Azu: Y sylfeini cadarn wnaeth feithrin y dyn cyflymaf yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Jeremiah Azu: Y sylfeini cadarn wnaeth feithrin y dyn cyflymaf yng Nghymru

Os bydd Jeremiah Azu yn sicrhau lle yng ngharfan athletau Prydain Fawr ar gyfer Paris, bydd yn siŵr o ddod o hyd i dawelwch mewnol i setlo unrhyw nerfau.

Mae’r sbrintiwr – a ddaeth yn ddiweddar yr athletwr cyntaf erioed o Gymru i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad – yn mynnu bod ei ffydd grefyddol, ei fagwraeth deuluol a’i ymdeimlad cadarn o gymuned i gyd yn rhoi sylfaen wych iddo sydd mor gadarn ag unrhyw set o flociau dechrau.

Mae Jeremiah yn athletwr modern iawn gyda dylanwadau byd-eang. Wedi'i eni yn yr Iseldiroedd i rieni o Ghana, symudodd i Gaerdydd pan oedd yn dair oed, ond ar hyn o bryd mae'n byw yn yr Eidal fel rhan o grŵp hyfforddi sbrintio Prydeinig o bedwar.

Aeth yr athletwr 23 oed i Ysgol Uwchradd Llanisien yn y brifddinas lle roedd pêl droed ac athletau yn cystadlu am ei sylw.

Fel gyda chymaint o ddoniau chwaraeon Cymru, cafodd ei allu ei ganfod a'i annog gan athro cefnogol - yn ei achos ef, yr athro Addysg Gorfforol David Griffin.

“Roedd Mr Griffin bob amser yn fy annog i ac rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd, hyd yn oed nawr,” meddai Jeremiah.

“Roedd yn arfer dweud wrtha’ i bod angen i mi fod ar y trac yn rheolaidd oherwydd bod gen i lawer o dalent ac y gallwn i fod yn sbrintiwr gwych pe bawn i'n gweithio'n galed.”

Roedd yr ysgol yn darparu amgylchedd llawn anogaeth ar gyfer y rhai oedd yn awyddus i wneud cynnydd a datblygu eu medrau. Yn yr un grŵp blwyddyn â Jeremiah roedd Rabbi Matondo, pêl droediwr gyda Rangers a Chymru ar hyn o bryd. 

“Rydw i’n edrych yn ôl ar yr amser hwnnw a dyna pryd wnes i ddatblygu hoffter o’r trac a’r maes,” meddai Jeremiah.

“Roedd yn ymwneud â chael hwyl, profi eich hun, a bod yng nghwmni ffrindiau. Mae rhai o fy atgofion gorau i o'r ysgol yn cynnwys eistedd ar y bws ar ein ffordd i Stadiwm Lecwydd.

“Fe fyddech chi'n cael amser da gyda ffrindiau, yn mynd yn nerfus pan oedd eich tro chi i gystadlu yn cyrraedd, ac wedyn yn dysgu'n araf sut i ddelio â'r holl emosiynau hynny. Roedd yn werthfawr iawn.”

Adeiladodd ei hyfforddwr cyntaf, Helen James o Glwb Athletau Caerdydd, ar y sylfeini hynny.

“Fe sefydlodd hi fy mywyd cyfan i drwy roi’r hyfforddiant yn ei le. Roeddwn i gyda hi am bum mlynedd ac fe aeth hi â mi i le nad oeddwn i erioed wedi dychmygu fyddai'n bosibl. Fe newidiodd hi fy mywyd i yn fawr.”

Jeremiah Azu yn croesi'r llinell derfyn rhwng dau athletwr arall
Llun: Owen Morgan
Fe fyddech chi'n cael amser da gyda ffrindiau, yn mynd yn nerfus pan oedd eich tro chi i gystadlu yn cyrraedd, ac wedyn yn dysgu'n araf sut i ddelio â'r holl emosiynau hynny. Roedd yn werthfawr iawn.
Jeremiah Azu

Newyddion Diweddaraf

Y cynllun beicio cymunedol sy’n cael mwy o ferched ar gefn beic

Wedi'i lansio yn 2011, mae Breeze yn anelu at gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn beicio.

Darllen Mwy

Cadw pawb yn y gêm yn ddiogel: Y tu mewn i ymdrechion diogelu’r byd chwaraeon yng Nghymru

Rydyn ni’n rhannu pum enghraifft o arfer da sy'n dangos sut mae sefydliadau ledled Cymru yn rhoi diogelwch…

Darllen Mwy

Prosiect Casnewydd Fyw yn rhoi'r hyder i ferched fod yn actif

Girls Takeover yn brosiect sy'n annog merched i symud, rhoi cynnig ar bethau newydd a theimlo'n dda.

Darllen Mwy