Main Content CTA Title

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Wrth i ni ddechrau 2026, bydd llawer o glybiau chwaraeon ledled Cymru yn chwilio am gyllid i wella cyfleoedd i'w cymunedau fwynhau bod yn actif.

Yn Chwaraeon Cymru, mae ein ffenestr ymgeisio ni ar gyfer Cronfa Cymru Actif newydd gau ac mae'n ailagor eto ym mis Ebrill.

Ond mae ein cynllun Lle i Chwaraeon ni gyda Crowdfunder ar agor drwy gydol y flwyddyn i helpu clybiau i wella eu cyfleusterau a'r profiad chwaraeon cyffredinol. Felly, fe allwch chi ddechrau codi arian heddiw.

I'ch rhoi chi ar ben ffordd ar gyfer eich siwrnai Cyllido Torfol, darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd o amgylch pedwar clwb gwahanol i godi cyllid hanfodol ar gyfer prosiectau. 

Y peth gorau? Mae popeth rydych chi’n ei godi’n gallu cael cyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru, oherwydd fe allwn ni ddarparu hyd at 60% o'ch targed hyd at uchafswm o £15,000.

Daliwch i ddarllen i ddarganfod sut rydyn ni wedi helpu i wneud y canlynol:

  • adfer cwchdy yn Sir Benfro fel bod posib ei ddefnyddio i addysgu diogelwch dŵr i bobl ifanc
  • gwella cyfleusterau parcio mewn clwb gymnasteg yng Nghaerdydd
  • trawsnewid ardal awyr agored oedd wedi gordyfu yng Nghasnewydd yn ofod ar gyfer chwaraeon a lles
  • codi adeilad newydd sbon ar gyfer golffwyr iau yn y Bala

Adfer hen gwchdy yn ystafell ddosbarth chwaraeon dŵr

Tŷ Clwb Paddle West wedi'i leoli ar y llyn o dan y castell.

Clwb: Paddle West

Cyfanswm a godwyd: £30,238

Yn swatio o dan Gastell Penfro mae adeilad hanesyddol Cwchdy Penfro. Ond wedi'i esgeuluso ers blynyddoedd, mae'r adeilad wedi bod yn llaith, wedi pydru ac yn beryglus i'w ddefnyddio. Fodd bynnag, roedd gan Paddle West – sy'n darparu hyfforddiant diogelwch dŵr a chwaraeon rhwyfo – freuddwyd i'w droi'n ystafelloedd newid ac yn ystafell ddosbarth.

Mae wedi'i leoli ar Lyn Castell Penfro sy'n cynnig amgylchedd dŵr cysgodol iawn – delfrydol ar gyfer cyflwyno pobl o bob oed i chwaraeon rhwyfo. Drwy gynllun Crowdfunder a Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru, sy'n cynnig cyllid cyfatebol, mae'r gymuned leol wedi ymuno i gefnogi ymdrechion Paddle West.

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Graham Booth: “Roedd y gymuned leol wir yn gallu gweld ein gweledigaeth ni ac fe ymunodd â ni i greu gofod lle gallwn ni ddysgu mwy o bobl ifanc am ddiogelwch dŵr. Rydyn ni eisoes yn addysgu 1000 o bobl ifanc bob blwyddyn ond rydyn ni wedi gorfod defnyddio pebyll ar gyfer mannau newid ac ar gyfer ystafelloedd dosbarth, sy'n eithaf oer yn y gaeaf. Rydyn ni bellach ar fin dyblu nifer y bobl ifanc rydyn ni’n eu haddysgu gyda'r cyfleusterau newydd.”

Bydd y clwb nawr yn gallu gweithredu am fwy o fisoedd o'r flwyddyn, hyfforddi mwy fyth o bobl ifanc ac mae'r dref hyd yn oed yn gobeithio dod â Regata Penfro yn ôl, gyda’r dref gyfan yn dod at ei gilydd i rasio cychod rhwyfo, caiacs a chanŵs.

Cyngor doeth: Siaradwch â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol fel eich Cyngor Tref sy'n rhannu eich gweledigaeth chi. Os ydyn nhw'n fodlon cyfrannu, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gwneud hynny drwy Crowdfunder fel eich bod chi’n gallu manteisio i’r eithaf ar y cyllid cyfatebol.

Gwella parcio a hygyrchedd i gymnastwyr Caerdydd

Pump merched ifanc yn eistedd ar drawst cydbwysedd.

Clwb: Gymnasteg Olympaidd Caerdydd yn Nhrelái, Caerdydd

Cyfanswm a godwyd: £15,000

Mae tua 500 o blant yn cael eu croesawu drwy'r drysau yn y clwb gymnasteg yma yng Nghaerdydd bob wythnos. Ond y broblem i'r clwb yma oedd y tu allan. Roedd darn garw o dir, wedi gordyfu a ddim yn cael unrhyw ddefnydd, angen ei ailwynebu yn ddybryd fel bod y clwb yn gallu darparu lle parcio penodol ar gyfer ei ddefnyddwyr a sicrhau gwell hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.  

Wedi'i leoli mewn ardal o Gaerdydd lle mae cost yn rhwystr, roedd raid i'r clwb gadw ei ffioedd yn isel ac felly trodd at Crowdfunder. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Joely Griffiths: “Fe wnaeth y cymhelliant o gyllid cyfatebol ysbrydoli ein tîm codi arian ni, a drefnodd bob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys nosweithiau bingo a phartïon. Fe wnaethon ni gynnig sesiynau cyn-ysgol aros a chwarae am gyfraniad bach ac fe wnaeth hyn ein helpu ni nid yn unig i gyrraedd ein targed, ond hefyd i gyrraedd pobl newydd yn ein cymuned ni.

“Nawr mae’r aelodau newydd yn cael argraff gyntaf lawer gwell o'r clwb gan ei fod yn edrych yn fwy proffesiynol. Ac oherwydd bod y rhieni bellach yn ei chael yn haws parcio a gollwng eu plant yn ddiogel, rydyn ni wedi gallu cadw aelodau.” 

Cyngor doeth: Os oes arnoch chi angen unrhyw help, cysylltwch â'r tîm yn Crowdfunder – fe wnaethon nhw ein helpu ni ac esbonio sut i sefydlu ein hymgyrch. 

Adeiladu ystafelloedd newid newydd i golffwyr iau yn y Bala

Llun grŵp o aelodau Clwb Golff y Bala ar gwrs golff.

Clwb: Clwb Golff y Bala
Cyfanswm a godwyd: £15,255

Er bod adran iau Clwb Golff y Bala yn ffynnu, roedd ei gyfleusterau'n edrych braidd yn llwm. Gyda chlwb prysur yn llawn dop, mae'r rhai iau wedi bod yn newid ac yn storio eu hoffer mewn hen sied ceidwad lawnt.

A gyda'r clwb yn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo golff drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yn teimlo fel pe bai’n hen bryd sicrhau lle priodol i’r chwaraewyr ifanc. Felly, fe ddechreuodd y clwb godi cyllid torfol ar gyfer ardal newid a storio newydd. Ar ôl codi mwy na £15,000 – sy'n cynnwys cyllid cyfatebol o £5,600 gan Chwaraeon Cymru – mae'r clwb yn dechrau gweithio ar yr adeilad newydd yn fuan.

Dywedodd Ysgrifennydd y Clwb, Alwyn Roberts: “Mae'r adeilad yn mynd i gael effaith fawr ar ein hadran iau ni. Fe fydd ganddyn nhw le diogel, pwrpasol nawr i storio eu hoffer. Rydyn ni’n gosod loceri yn eu lle ac fe fyddan nhw’n gallu gwefru eu ffonau. Rydyn ni eisiau ei wneud yn amgylchedd braf er mwyn gallu datblygu'r genhedlaeth nesaf o aelodau ar gyfer Clwb Golff y Bala.”

Mae'r clwb bellach yn barod i barhau i weithio gydag Ysgol Godre'r Berwyn a Golff Cymru i gyflwyno mwy o ferched i'r gamp.

Cyngor doeth: Os oes gan eich clwb aelodau, gallwch ofyn iddynt roi rhan o'u ffi aelodaeth arferol i'ch prosiect. Gallwch wneud hyn drwy gynnig "gwobr" syml ar Crowdfunder y gall aelodau ei hawlio.Mae hyn yn eich helpu chi i gyrraedd eich targed ariannol yn ogystal â'r nifer gofynnol o roddion unigryw sydd eu hangen i fod yn gymwys ar gyfer cyllid cyfatebol.

Trawsnewid ardal awyr agored oedd wedi gordyfu yng Nghasnewydd yn ofod ar gyfer chwaraeon a lles

Dynion yn sbario ochr yn ochr â bag dyrnu bocsio mewn ardal awyr agored.

Sefydliad: Jam’e Masjid Canol Casnewydd
Cyfanswm a godwyd: £30,100

Mae mosg yng Nghasnewydd wedi troi gofod awyr agored oedd wedi gordyfu yn ardd ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch a lles meddyliol.

Wedi'i ffensio i mewn am flynyddoedd, nid oedd aelodau'r mosg yn gwybod faint o ofod awyr agored oedd yn bodoli hyd yn oed. Ond, cyn gynted ag y gwnaethon nhw ddarganfod eu gardd gyfrinachol, fe wnaethon nhw ddechrau cynllunio a dylunio ardal sydd bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd a lles cyfannol.

Drwy Crowdfunder a Chwaraeon Cymru, fe gododd y mosg fwy na £30,000 i dirlunio'r ardd a phrynu offer ffitrwydd awyr agored.

Mae Nazrul Islam yn weithiwr ieuenctid ac yn hyfforddwr chwaraeon yn NCJM. Dywedodd: “Nid dim ond lle addoli ydyn ni. Yma yn NCJM, rydyn ni’n hwb cymunedol gydag adran ieuenctid brysur iawn. Rydyn ni eisoes yn defnyddio'r ardd ar gyfer ein clwb ieuenctid ni a sesiynau bocsio i ddynion. Ac yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, mae ein sesiynau ni i ferched yn dechrau, a fydd yn gymysgedd o ffitrwydd a hunanamddiffyn.

“Mae'r ardd wedi ailuno ein cymuned ni gyda phobl o bob cwr o Gasnewydd a Chaerdydd yn dod i fwynhau'r gofod.”

Cyngor doeth: Does dim rhaid i chi fod yn glwb chwaraeon traddodiadol i elwa o gyllid cyfatebol Chwaraeon Cymru. Doedden ni ddim yn sylweddoli ein bod ni’n gymwys ar gyfer Cronfa Lle i Chwaraeon, ond fel sefydliad di-elw sy'n cynnig chwaraeon, fe gawson ni £18,000.

Beth yw Lle i Chwaraeon?

Ers 2021, mae Chwaraeon Cymru a Crowdfunder wedi helpu clybiau chwaraeon cymunedol ledled Cymru i godi mwy na £1miliwn i wella cyfleusterau neu i brynu offer ‘oddi ar y cae’. 

Gyda chyllid a chefnogaeth gymunedol, mae prosiectau ledled Cymru sy'n gallu cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn actif. Edrychwch i weld allwch chi wneud cais.

Edrychwch ar ein canllaw cam wrth gam ni ar gyfer sut i wneud cais i gronfa Lle i Chwaraeon x Crowdfunder.