Main Content CTA Title

Mae casineb yn brifo Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd sbon i fynd i’r afael â phob math o droseddau casineb yng Nghymru. Beth am i ni sefyll yn erbyn troseddau casineb gyda'n gilydd.

Beth yw trosedd gasineb?
 
Trosedd gasineb yw unrhyw ymddygiad troseddol sy’n ymddangos fel petai wedi’i ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, neu sy’n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n dangos gelyniaeth, yn seiliedig ar nodweddion ymddangosiadol person, er enghraifft, ei:

  • hil
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth trawsryweddol
  • anableddau

Mae trosedd gasineb yn gallu cynnwys difrïo geiriol, brawychu, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrodi eiddo. Gall yr unigolyn sy’n cyflawni’r drosedd fod yn ddieithr i chi, neu yn ffrind. 

Mae troseddau casineb yn gallu digwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Sut gallaf i gefnogi?

Rhannwch y fideo uchod ar gyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r gair a defnyddio hashnod yr ymgyrch #MaeCasinebYnBrifoCymru. Darllenwch yr wybodaeth isod i wybod beth i'w wneud os byddwch chi'n dyst i drosedd casineb:

Sut i roi gwybod am drosedd gasineb

Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb yn eich erbyn, gallwch hysbysu’r Heddlu neu’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr). Gallwch hefyd roi gwybod am y troseddau hyn os ydych yn gweld nhw’n digwydd i rywun arall.

Bydd yr Heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu cynnig cymorth i chi ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd i chi a’ch helpu i benderfynu ar y camau nesaf. 

Yr Heddlu

Mewn argyfwng, ffoniwch 999

Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101

Cymorth i Ddioddefwyr

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru. 

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982

Ewch i’r wefan lle y gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.Mewn argyfwng, ffoniwch 999

Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101

Cymorth i Ddioddefwyr

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru. 

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982

Ewch i’r wefan lle y gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy