Main Content CTA Title

Mae’n amser dod nôl i’r gêm!

Wrth i Gymru barhau i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, mae'r genedl yn cael ei hannog i ddod 'nôl i’r gêm' drwy fanteisio i'r eithaf ar bob cyfle i fod yn actif.

Mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n gwella yn golygu y gall oedolion ddychwelyd i weithgareddau awyr agored trefnus, a bydd pyllau nofio, canolfannau hamdden a champfeydd i gyd yn ailagor ddydd Llun nesaf. Wrth gwrs, mae plant eisoes yn gallu mwynhau gweithgareddau awyr agored trefnus, a gall dosbarthiadau ffitrwydd grŵp dan do a chwaraeon dan do ar gyfer oedolion a phlant ailddechrau hefyd o ddydd Llun 3ydd Mai ymlaen – bythefnos yn gynt  na’r disgwyl.                 

Yn frwd ynghylch sut bydd llacio’r cyfyngiadau’n agor chwaraeon i fwy o bobl, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: "Drwy gydol y cyfnod eithriadol heriol yma, mae'r teulu chwaraeon yng Nghymru wedi dangos amynedd mawr, gan weithredu'n gyfrifol ac yn greadigol i helpu i gefnogi ffyrdd iach o fyw yn ystod y pandemig.

"Mae'r ffaith bod y dyddiadau ailagor wedi'u symud yn nes yn dyst i ymroddiad y sector chwaraeon i sicrhau dychwelyd diogel sy'n cydymffurfio â covid. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod bron yn amser i bawb ddychwelyd a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

"Does dim posib tanbrisio’r hwyl a’r mwynhad pur sydd i’w gael mewn chwaraeon. Mae'n gwneud ein bywydau ni'n well, ac mae’n rhaid i ni wneud y gorau o'r cyfleoedd estynedig hyn i fod yn actif, yn ddiogel. Nid yn unig mae ymarfer corff yn hybu ein hiechyd corfforol ond hefyd mae'n gwneud rhyfeddodau i'n hiechyd meddwl. Dim ond ers ychydig wythnosau mae plant wedi bod yn ôl yn cymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored ond mae’n glir i bawb faint maen nhw’n mwynhau bod yn ôl yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’u ffrindiau, yn bod yn actif ac yn cymdeithasu eto."

Merched yn ymarfer corff mewn parc yn gwisgo masg wyneb

#NolYnYGem

Mae ymchwil Chwaraeon Cymru yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch roedden nhw'n gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau, tra bod 60% o’r oedolion yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff maen nhw'n ei wneud wrth i Gymru ddod allan o'r cyfyngiadau symud.

Ychwanegodd Sarah: "Mae dyhead mawr ymhlith pobl i fod yn fwy actif, ond mae'n naturiol y bydd rhai'n teimlo ychydig yn bryderus am ddychwelyd i weithgareddau ochr yn ochr â phobl eraill, hyd yn oed y gweithgareddau hynny maen nhw wedi'u colli fwyaf. 

"Gallwch fod yn dawel eich meddwl mai diogelwch yw'r brif flaenoriaeth. Efallai y bydd rhai gweithgareddau'n edrych ychydig yn wahanol i'r ffordd roedden nhw’n arfer bod, ond gallwn deimlo'n hyderus y bydd cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol, glanhau a llu o fesurau eraill ar waith i sicrhau bod y gweithgareddau'n ddiogel. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar hyn ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan. 

"Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i gefnogi sector chwaraeon Cymru ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael yr eglurder sydd ei angen i alluogi pawb i wneud yr holl baratoadau gofynnol i gynnal gweithgareddau o'r eiliad mae hynny'n bosibl.

"Rydyn ni i gyd wedi colli llawer o bethau, ond bydd chwaraeon yn parhau i uno ac ysbrydoli'r genedl ac yn chwarae rhan ganolog yn adferiad Cymru o'r argyfwng difrifol yma." 

Newyddion Diweddaraf

Tanni Grey-Thompson yn galw am gamau beiddgar i annog mwy o ferched i wneud chwaraeon

Tanni yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i annog mwy o ferched i ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Darllen Mwy

Sut gall Chwaraeon helpu Cymru i ffynnu: Argymhellion Maniffesto ar gyfer 2026 a thu hwnt

Pedwar argymhelliad yr hoffem i bleidiau gwleidyddol eu cynnwys yn eu maniffestos etholiad 2026.

Darllenwch yr Argymhellion Maniffesto

Y clwb marchogaeth ceffylau sy’n gwneud ei weithgareddau’n fforddiadwy i ferched yng Nghaerffili

Clwb sy'n gwneud i bopeth ddigwydd - marchogaeth fforddiadwy, cyfeillgarwch gydol oes ac arweinwyr benywaidd…

Darllen Mwy