Main Content CTA Title

#RhannwchEichStori

Diweddariad 14/04/2021

Ym mis Medi 2020, daeth UK Sport, Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland at ei gilydd i fynd ati i Drechu Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon gyda'r uchelgais ar y cyd o sefydlu system chwaraeon sy'n gwbl gynhwysol ac yn adlewyrchu cymdeithas y DU yn briodol.    

Fel rhan o gam cyntaf y fenter hon, comisiynodd y Cynghorau Chwaraeon ddau ddarn o waith - prosiect casglu a dadansoddi data dan arweiniad Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam a phrosiect profiadau byw o dan arweiniad AKD Solutions.

Mae'r ddau ddarn o waith wedi'u cwblhau erbyn hyn ac ar hyn o bryd mae'r pum Cyngor Chwaraeon yng ngham terfynol y prosiect ac yn defnyddio'r canfyddiadau a godwyd ac a gyflwynwyd i sefydlu adroddiad llawn a chyfres o argymhellion yn unol â'r uchelgais ar y cyd. Mae disgwyl i'r rhain gael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mai. 

 

Erioed wedi profi hiliaeth mewn chwaraeon? Hoffwn glywed gennych chi...

Tell Your Story

 

16/12/2020 Fforwm rhieni: https://www.storiesmatter.co.uk/parents-session-16th-december-2020/

19/12/2020 - Fforwm hyfforddwyr/swyddogion ar lawr gwlad: https://www.storiesmatter.co.uk/grass-roots-session-19th-december-2020/

21/12/2020 – Fforwm i staff sy’n gweithio ar draws y sector: https://www.storiesmatter.co.uk/staff-forum-21st-december-2020/

23/12/ 2020 Fforwm cyfranogwyr cymunedol Cymru: https://www.storiesmatter.co.uk/wales-forum-23rd-december-2020/a byddant yn gwneud hyn ar eu cyfryngau cymdeithasol o heddiw ymlaen. 

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, cliciwch yma.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy