Ledled Cymru, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon yn ‘newid y gêm’ ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Rhodd Alaw-Parry a Rhys Blacker yn defnyddio pŵer chwaraeon i greu newid parhaol.
Fe wnaeth y ddau yma sy’n ‘Newid y Gêm ar gyfer y Dyfodol’ effaith i ddechrau mewn chwaraeon fel gwirfoddolwyr gyda’r Urdd. Ond nawr, mae’r arweinwyr ifanc hyn yn gwneud chwaraeon yn hwyl ac yn hygyrch i bawb.
Dyma sut maen nhw’n defnyddio chwaraeon i newid bywydau:
Newid y Gêm yn y Dyfodol
Mae Newid y Gêm yn y Dyfodol yn dathlu oedolion ifanc, 18 i 30 oed, sydd â'r egni a'r syniadau i ysgrifennu dyfodol eu cymunedau.
Canfu arolwg diweddar gan y Loteri Genedlaethol y canlynol:
- Mae 92% o oedolion ifanc eisiau gwneud mwy o newid cadarnhaol
- Cymerodd 78% ran mewn prosiect cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
- Mae 82% eisiau cynrychiolaeth well mewn mentrau cymdeithasol
Mae ymchwil Chwaraeon Cymru, drwy’r Traciwr Gweithgarwch Cymru, hefyd yn datgelu dyhead cryf i wirfoddoli mewn chwaraeon:
- Mae un o bob tri o bobl ifanc yng Nghymru (16 i 34 oed) eisoes yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- Mae mwy na hanner yn dweud eu bod eisiau gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y flwyddyn nesaf
Dau o'r rhai sy'n defnyddio chwaraeon i greu effaith yw Rhodd a Rhys.
Rhodd: Angerdd dros chwaraeon merched
Wrth dyfu i fyny, gwelodd Rhodd sut roedd chwaraeon yn aml yn cael eu hanelu mwy at fechgyn. Ond ni adawodd i hynny ei stopio – a nawr mae hi'n sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ferched yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn.
"Fel merch fy hun, rydw i'n angerddol am chwaraeon i ferched. Mae cefnogi merched a genethod ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi."
Nawr, drwy ei gwaith gyda’r Urdd, mae hi'n ysbrydoli merched ifanc drwy gyfleoedd chwaraeon newydd mewn digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar ferched, fel #FelMerch.
"Mae hwn yn brosiect rydyn ni'n ei redeg ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru i sicrhau bod gan ferched amgylchedd diogel a chyfforddus i gymryd rhan mewn chwaraeon, mewn lleoliad cystadleuol neu gymdeithasol.