Main Content CTA Title

O ymyl y dibyn i ddatblygiad – y clwb tennis sy’n gwasanaethu adfywiad cymunedol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. O ymyl y dibyn i ddatblygiad – y clwb tennis sy’n gwasanaethu adfywiad cymunedol

Y mis yma, bydd Gogledd Cymru’n dyst i dennis o'r radd flaenaf am y tro cyntaf wrth i Daith Tennis y Byd ITF gyrraedd Wrecsam. Hwn fydd y twrnamaint tennis mwyaf yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd ac mae'n siŵr o fod yn llawn digwyddiadau.

Ond nid dyma'r unig ddrama tennis sy'n digwydd yng Ngogledd Cymru. Ychydig i fyny'r ffordd, yn Sir y Fflint gerllaw, mae stori Clwb Tennis Pen-y-Ffordd - clwb a oedd ar fin chwalu ychydig flynyddoedd yn ôl. Heb fawr ddim arian na chwaraewyr, roedden nhw'n meddwl bod eu set olaf wedi'i chwarae.

Ond gyda help gan Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol, ynghyd â phenderfyniad pobl leol, mae'r clwb bellach yn cyflwyno tennis i'r gymuned gyfan, gyda'r ddau hyfforddwr, Mike Herd a Michaela McDonald, yn arwain yr adfywiad. 

Goleuo'r ffordd gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol                   

Un broblem fawr a wynebai'r clwb oedd diffyg llifoleuadau. Yn ystod misoedd y gaeaf, nid oedd amser ar y cwrt yn bodoli o gwbl gyda'r nos. I ddod o hyd i ateb, yn 2022 gwnaeth y clwb gais am grant gan Chwaraeon Cymru a dyfarnwyd £35,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol iddo drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i oleuo'r clwb yn llythrennol.

Ond dim ond y dechrau oedd y llifoleuadau.

Sesiynau cymdeithasol

Roedd Michaela McDonald yn gymharol newydd i dennis, gan mai dim ond yn ganol oed wnaeth hi gydio mewn raced am y tro cyntaf, ond daeth yn ffigwr annatod yn gyflym i stori Pen-y-Ffordd.

Awgrymodd i bwyllgor y clwb y dylent ddechrau cynnal sesiynau cymdeithasol ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr llai profiadol. Diolch i dafod lleferydd a hysbysebu ar raddfa fechan, roedd yn amlwg bod yr awydd yn lleol am sesiynau tennis cymdeithasol yn uchel.

Cynyddu cyfranogiad merched a genethod

Roedd y clwb eisiau cynyddu nifer y merched a’r genethod oedd yn dod iddo, ac roedd y Prif Hyfforddwr Mike Herd yn teimlo bod arnynt angen hyfforddwr benywaidd i arwain y ffordd. 

Camodd Michaela ymlaen i helpu, gan hyfforddi yn 2023 i ddod yn hyfforddwr cymwys Lefel 2 diolch i grant Loteri Genedlaethol o £1,900, a ddyfarnwyd hefyd gan Chwaraeon Cymru. 

Fe ymunodd y merched i ddechrau ar gyfer chwarae cymdeithasol. Wedi'u hysbrydoli gan Michaela, fe wnaethant ennill hyder yn gyflym, gwneud ffrindiau, a dechrau cystadlu yn erbyn clybiau lleol hyd yn oed.

Hefyd mae Mike a Michaela wedi mynychu cyrsiau dirifedi i ddeall yn well sut i annog mwy o ferched a genethod i gamu ar y cwrt.

O ganlyniad, mae Michaela bellach yn cynnal sesiynau hyfforddi i ferched yn unig, gan ganolbwyntio ar waith tîm a hyder yn hytrach na chystadlu. Ac mae wedi sicrhau rhywfaint o gynnydd mewn cyfranogiad benywaidd gyda merched yn dychwelyd i'r cyrtiau bob wythnos gyda ffrindiau hefo nhw. 

Dywedodd Mike: “Fe gawson ni wybodaeth am ddewisiadau, anghenion a rhwystrau merched i gyfranogiad, sydd wedi ein galluogi ni i deilwra’r sesiynau i fod yn fwy cynhwysol ac yn ddifyrrach. Bydd y ddealltwriaeth yma’n ein helpu ni i barhau i dyfu ein haelodaeth a sicrhau bod tennis yn parhau i fod yn hygyrch ac yn bleserus i bawb yn y gymuned.”

Mae Michaela yn sefyll y tu ôl i rwyd denis, yn dal dwy bêl denis.
Rydw i’n teimlo mor falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. O fod bron â chwalu, rydyn ni nawr yn glwb tennis go iawn. Diolch i Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae gennym ni lawer o wersi i blant iau nawr, cystadlaethau i ferched a sîn tennis gymdeithasol wirioneddol fywiog. Mae’r clwb bellach yn ei sefyllfa gryfaf erioed, gyda niferoedd mwy nag erioed o aelodau ac amgylchedd cymdeithasol ffyniannus.
Michaela

Cael mwy fyth o bobl i chwarae tennis

A dydi Mike a Michaela ddim am stopio yma. Mae eu llygaid ar y dyfodol a sut gallant helpu mwy fyth o bobl i elwa o dennis. Mae Mike eisoes wedi sefydlu sesiwn tennis cerdded ac mae ganddo fwy o gynlluniau ar y gweill.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys y canlynol:

  • Tennis i bobl anabl.
  • Rhaglen bwrpasol o sesiynau tennis ar gyfer pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson.

Mae'r cyrtiau gwag yn hen hanes a does gan y clwb ddim trafferthion bellach. Mae Clwb Tennis Pen-y-Ffordd wedi cael ei drawsnewid ac wedi dychwelyd yn llwyddiannus yn rhan o'r gymuned.

Cefnogi eich cymuned drwy chwaraeon

Ydych chi'n meddwl am helpu pobl yn eich cymuned i ffynnu drwy chwaraeon? Fel Clwb Tennis Pen-y-Ffordd, gallai Cronfa Cymru Actif helpu eich clwb chi i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob gallu.