Main Content CTA Title

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Yn ddiweddar, mae un o glybiau rygbi'r gogledd, Clwb Rygbi y Rhyl, wedi gosod paneli solar ar do’r tŷ clwb, ond maen nhw'n gwneud mwy na dim ond sicrhau biliau ynni is.

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i’r tîm o Sir Ddinbych ym mis Hydref, er mwyn iddo osod paneli solar i help gyda straen yr argyfwng costau byw a gwneud ei ran dros yr amgylchedd ar yr un pryd.

Ychydig yn ôl, roedd ei filiau ynni misol wedi codi'n frawychus o tua £1,800 i £4,500, ond mae'r clwb yn amcangyfrif y bydd y paneli solar yn arbed tua £20,000 y flwyddyn iddo.

Mae'r arbedion yn sgil y newid i ynni solar yn cael eu defnyddio i ariannu sawl gwelliant ac uwchraddiad o amgylch y safle i wneud y gamp yn fwy pleserus. Dros yr haf, bydd pyst newydd yn cael eu gosod yn ogystal â ffens newydd ar gyfer y gwylwyr, tra bydd rhandir garddio yn cael ei greu i fyfyrwyr lleol ddysgu sut i arddio a bydd ardal ailgylchu newydd yn helpu i leihau ôl troed carbon y clwb ymhellach. 

Mae diogelwch ariannol gwell Clwb Rygbi y Rhyl hefyd yn golygu y gall barhau i redeg ei Hwb Cymunedol sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl leol.

Wrth i’r biliau godi, roeddem yn wynebu cymryd camau llym i dalu'r gost. Diolch byth, mae'r Grant Arbed Ynni yn ein galluogi i barhau, ond nawr mewn ffordd fwy cynaliadwy yn ariannol.

Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Tony Evans: "Wrth i’r biliau godi, roeddem yn wynebu cymryd camau llym i dalu'r gost. 

"Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos, yn rhedeg timau o blant bach i bobl hŷn ac yn cynnig canolbwynt cymunedol i bawb yn yr ardal leol.  Rydym yn cynnal disgos wythnosol ar gyfer oedolion ag anghenion ac anableddau ychwanegol ac yn gweini bwyd a diod bob nos.

"Dydyn ni ddim yn ardal gefnog. Diolch byth, mae'r Grant Arbed Ynni yn ein galluogi i barhau i wneud y pethau hyn, ond nawr mewn ffordd fwy cynaliadwy yn ariannol.” 

Mae stiward y clwb, Lee Blackmore, yr un mor werthfawrogol o'r cyllid a gawsant gan Chwaraeon Cymru:

"Byddwn yn annog unrhyw glwb i wneud cais am grantiau a chyllid. Mae wedi lleihau nid yn unig ein gwariant misol ond hefyd ein hôl troed carbon. Oni bai am y Grant Arbed Ynni, ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud.”

Ers gosod y paneli solar mae'r clwb wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ei ôl troed carbon, ar ôl arbed 2948kg o Allyriadau CO2 - sy'n cyfateb i blannu 178 o goed.

Haul yn machlud dros faes Clwb Rygbi'r Rhyl.
Llun: L.I.S Aerial Photography

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae stori Clwb Rygbi y Rhyl yn enghraifft berffaith o pam ein bod am gynnig grantiau sy'n galluogi clybiau i fuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni gan eu bod nid yn unig yn fanteisiol i'r amgylchedd, ond hefyd yn helpu i sefydlu clybiau i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol.

"Yn y pen draw, mae hyn yn eu galluogi i aros yn ganolog i fywydau pobl fel y gallant deimlo cysylltiad a byw bywyd actif ac iach.”

Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, dyfarnwyd Grantiau Arbed Ynni i 78 o glybiau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Defnyddiodd y rhan fwyaf o glybiau a dderbyniodd grantiau - a oedd yn arwain i gyfanswm o hyd at bron i £1.4m - eu cyllid i osod paneli solar, tra bod ffyrdd eraill o'i ddefnyddio yn cynnwys gwelliannau inswleiddio, uwchraddio systemau gwresogi a chael gafael ar ddŵr yn gynaliadwy.

Yn yr hydref, bydd Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi'r clybiau sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda'u ceisiadau am Grantiau Arbed Ynni eleni, gyda chyllid gwerth £1.5m yn barod i'w ddyrannu. 

Er bod y rownd hon o'r Grant Arbed Ynni ar gau, mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael drwy Chwaraeon Cymru o hyd. O'n Cronfa Cymru Actif, gan gefnogi pob agwedd ar ddarparu chwaraeon, i'n partneriaeth â Crowdfunder yn cyflwyno profiadau gwell o amgylch y cynnig chwaraeon hwnnw. Gellir dod o hyd i'r manylion yma.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy