Main Content CTA Title

Pobl ifanc yn gwirioni ar fowlio lawnt yng Ngogledd Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pobl ifanc yn gwirioni ar fowlio lawnt yng Ngogledd Cymru

Mae bowlio lawnt wedi sgubo drwy bentref Llanfairpwll - a'r genhedlaeth iau sy'n arwain y ffordd.

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae Clwb Bowlio Llanfairpwll wedi dod yn ganolfan gymunedol ar gyfer hwyl, mwynhad a chyfeillgarwch.

Bowlio i bob oed 

Er mwyn cyflwyno bowlio lawnt i'r genhedlaeth nesaf, lansiodd y clwb ar Ynys Môn yr 'Academi' - rhaglen wedi’i chreu er mwyn i bobl ifanc allu rhoi cynnig ar y gamp. Ers hynny, mae’r chwaraewyr iau wedi cael eu syfrdanu gan faint o gyffro mae'r gêm yn ei gynnig iddyn nhw.

Cymaint felly fel bod y clwb wedi gwneud cais am gyllid i helpu'r gamp i gyrraedd uchelfannau newydd yn y gymuned leol a rhoi'r profiad gorau posibl i'w aelodau ifanc.

Bowliwr lawnt wrywaidd ifanc.
Efallai nad ydi bowlio mor ffasiynol â phêl-droed neu chwaraeon poblogaidd eraill, ond fe fyddwn i’n annog unrhyw berson ifanc i roi cynnig arni. Mae'n llawer o hwyl, fe roddodd gyfle i mi gyfarfod pobl newydd, ac rydw i wedi mynd ymlaen i gynrychioli tîm ieuenctid Cymru.
Matthew Davies, aelod iau o Glwb Bowlio Llanfairpwll

Cefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Yn 2019, derbyniodd Clwb Bowlio Llanfairpwll £1,500 o gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru. Aeth yr arian tuag at ‘bowlio bach ar gyfer dwylo bach’ - offer wedi’i gynllunio i helpu chwaraewyr ifanc i ddysgu’r gêm.

Grant bach oedd hwn, ond mae wedi gwneud byd o wahaniaeth, gan ddarparu’r sylfaen sydd wedi trawsnewid y clwb dros y chwe blynedd diwethaf. Mae wedi dod yn hwb cymunedol lle gall chwaraewyr ifanc ddatblygu eu sgiliau, meithrin cyfeillgarwch a syrthio mewn cariad â bowlio.

Nid yn unig y mae’r chwaraewyr ifanc yn ffynnu yn yr ‘Academi’, ond mae llawer hefyd bellach yn mwynhau chwarae’r gamp mewn gwahanol gynghreiriau ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

“Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant yr ‘Academi’ yn Llanfairpwll.

“Y tymor yma fe fyddwn ni’n gwneud mwy fyth o ddefnydd o’r ‘bowlio bach’ ac yn cyflwyno mwy o sesiynau i chwaraewyr ifanc gymryd rhan. Mae’n ymddangos bod bowlio yn y pentref yn cymryd yr awenau gan bêl-droed fel y gamp fwyaf blaenllaw.” - Alun Jones, Cadeirydd Clwb Bowlio Llanfairpwll

Bowlwyr lawnt ifanc yng Nghlwb Bowlio Llanfairpwll

Dyfodol bowlio ar yr ynys 

“Mae ein cynllun ni ar gyfer y dyfodol yn syml. Parhau â’r gwaith da i greu mwy o lwyddiant a chyflwyno’r gamp i genhedlaeth iau o blant.” - Alun Jones, Cadeirydd Clwb Bowlio Llanfairpwll

Gyda’r Academi yn tyfu a chwaraewyr ifanc yn camu ar y lawntiau, mae dyfodol bowlio ar Ynys Môn yn edrych yn ddisglair.

Oes gennych chi syniad i gael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon? Fel Clwb Bowlio Llanfairpwll, fe allai eich clwb chi wneud cais i Gronfa Cymru Actif i wireddu’r syniad.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy