Main Content CTA Title

Rhoi llais i bobl ifanc ym maes diogelu

Gall clybiau a sefydliadau chwaraeon yng Nghymru wneud eu polisïau diogelu yn gliriach ac yn fwy effeithiol drwy wrando ar syniadau athletwyr ifanc.

Dyma gyngor yr arweinwyr ifanc, Elisa Ionascu (22), Guto Thomas-Young (19) a Rachel Hollett (18). Mewn digwyddiad diweddar o flaen Arweinwyr Diogelu o bob rhan o Gymru, fe wnaethon nhw esbonio pam mae eu lleisiau’n bwysig.

Ac mae eu syniadau nhw’n gwneud gwahaniaeth eisoes. Er enghraifft, mae Gymnasteg Cymru yn newid eu gwefan a’u polisïau diogelu yn seiliedig ar adborth Guto.

Pam mae lleisiau ifanc yn bwysig?

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cerri Dando-Thompson, Uwch Ymgynghorydd Diogelu Cymru: “Mae pobl ifanc yn profi amgylcheddau chwaraeon a gweithgarwch corfforol drostyn nhw eu hunain, felly nhw sy’n gallu rhoi’r wybodaeth fwyaf buddiol. Felly roedd mor werthfawr clywed gan Elisa, Guto a Rachel, gan fod eu hadborth nhw wedi tynnu sylw at wir effaith ein hymdrechion ni a’r meysydd sydd angen eu gwella.”

Fe allwch chi ddefnyddio'r cyngor yma mewn meysydd eraill yn eich clwb hefyd. Gall cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau wella hyfforddiant, digwyddiadau a hyd yn oed sut mae timau'n cyfathrebu. Mae rhoi llais iddyn nhw’n creu amgylchedd mwy croesawgar a chefnogol.

Rhannodd Rachel, Guto ac Elisa eu barn yn y fforwm
Rhannodd Rachel, Guto ac Elisa eu barn yn y fforwm

Sut i gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau diogelu

Roedd gan Elisa, Guto a Rachel gyngor gwych ar sut gall clybiau a sefydliadau roi llais i bobl ifanc mewn diogelu. Rydyn ni'n gwrando ar eu hadborth nhw ac yn ei anfon ymlaen er mwyn i chi allu gwneud gwahaniaeth.

Dilynwch y camau syml yma i gael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau diogelu

1. Gadewch i bobl ifanc helpu i greu polisïau diogelu

Fe siaradodd Guto Thomas-Young am sut i gynnwys plant a phobl ifanc wrth greu codau ymddygiad a pholisïau.

Syniadau da gan bobl ifanc:

  • Gofynnwch i athletwyr ifanc beth yw eu barn nhw
  • Gwrando ar eu syniadau a'u defnyddio
  • Eu gwahodd nhw i gyfarfodydd a grwpiau cynllunio.
Mae diogelu’n bwnc sydd angen cymaint o eglurder â phosibl, yn enwedig o ran pobl ifanc a phlant.
Guto

Ac fe all yr awgrymiadau yma fynd y tu hwnt i greu polisi. Mewn sesiwn hyfforddi, cyfarfod bwrdd neu ddiwylliant clwb, rhowch lais i bobl ifanc.

2. Defnyddio iaith glir mae pobl ifanc yn gallu ei deall

Dylai polisïau diogelu fod yn hawdd i bobl ifanc eu darllen a’u deall. Pwysleisiodd Elisa, Guto a Rachel bwysigrwydd defnyddio iaith syml a dylunio clir.

Syniadau da gan bobl ifanc:

  • Peidiwch â defnyddio jargon a geiriau anodd.
  • Defnyddiwch iaith syml a chadw brawddegau'n fyr.
  • Gwneud fersiynau hawdd eu darllen.
  • Meddwl am bobl ifanc wrth ddylunio deunyddiau a gwefannau

Meddyliwch amdano fel hyfforddi - rydych chi'n esbonio pethau mewn ffordd syml. Gwnewch yr un peth ar gyfer polisïau diogelu!

3. Ymddiried mewn pobl ifanc a’u grymuso

Mae Elisa, Guto a Rachel yn enghreifftiau gwych o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fyddwch chi’n grymuso pobl ifanc. Dylai pobl ifanc helpu i wneud penderfyniadau am bolisïau diogelu.

Syniadau da gan bobl ifanc:

  • Rhoi swyddi a thasgau arwain i bobl ifanc yn eich clwb
  • Eu grymuso nhw i wneud penderfyniadau
  • Dechrau bwrdd ieuenctid
Felly pam, pan mae gennym ni’r bobl ifanc anhygoel yma yn ein campau ni, ydyn ni’n dal i guro ein pennau yn erbyn waliau wrth geisio lledaenu’r gair diogelu hebddyn nhw? Mae angen i ni gredu ynddyn nhw ac ymddiried mwy ynddyn nhw.
Jodi Evans, Ymddiriedolaeth Ann Craft, Rheolwr Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon ar gyfer Cymru.

Beth nesaf?

Yn syml, fel y dywedodd Rachel Hollet: “Ni, y plant a’r bobl ifanc – ni yw dyfodol eich camp chi.”

Pan fydd clybiau’n gwrando ar bobl ifanc, maen nhw’n cryfhau polisïau diogelu ac yn creu arweinwyr y dyfodol.

Beth allwch chi ei wneud nawr:

  • Gofynnwch i'r bobl ifanc yn eich clwb neu eich sefydliad chi beth yw eu barn nhw am eich polisïau diogelu.
  • Dechrau grŵp arweinyddiaeth ieuenctid i siarad am bolisïau diogelu
  • Sicrhau bod eich polisïau diogelu yn hawdd eu deall.

Angen help? Dysgwch fwy am gynnwys plant a phobl ifanc yn eich clwb chwaraeon.

Eisiau dod yn arweinydd ifanc? Dyma fwy o wybodaeth am sut i ddod yn Llysgennad Ifanc gyda’r Youth Sport Trust.

Newyddion Diweddaraf

Y clwb marchogaeth ceffylau sy’n gwneud ei weithgareddau’n fforddiadwy i ferched yng Nghaerffili

Clwb sy'n gwneud i bopeth ddigwydd - marchogaeth fforddiadwy, cyfeillgarwch gydol oes ac arweinwyr benywaidd…

Darllen Mwy

Clwb saethyddiaeth yn taro’r targed i ferched a genethod yng Nghanolbarth Cymru

Mae gan Glwb Saethyddiaeth Hafren Foresters genhadaeth i annog mwy o ferched i estyn am fwa a saeth.

Darllen Mwy

Sut mae chwaraeon yng Nghymru yn creu amgylcheddau gwell i ferched a genethod

Rydyn ni wedi dod yn bell ond mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod merched a genethod yn cael cae chwarae…

Darllen Mwy