Main Content CTA Title

Mamau gyda phramiau: y clwb rhedeg sy’n helpu rhieni i gadw’n actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mamau gyda phramiau: y clwb rhedeg sy’n helpu rhieni i gadw’n actif

Mae clwb rhedeg ym Mhont-y-pŵl yn cael gwared ar un o'r rhwystrau mwyaf i ymarfer corff i rieni newydd – gofal plant.

Mae’r Free Wheelers yn gwahodd mamau a thadau i ddod â'u babanod a'u plant bach gyda nhw am reid mewn bygis rhedeg arbenigol, gan greu lle diogel lle mae bywyd teuluol yn cwrdd â ffitrwydd.

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi gallu darparu'r offer a'r hyfforddiant i gael mamau i redeg gyda phramiau.

Sut mae’r Free Wheelers yn gweithio 

Bob wythnos ym Mharc Pont-y-pŵl, mae rhieni'n cwrdd â'r hyfforddwr Alex Jones i fynd ati i ymarfer gyda sesiwn ysbeidiol neu redeg 5k. A ’dyw’r babanod a’r plant bach ddim yn cael eu gadael gartref gydag aelodau eraill o'r teulu – maen nhw wedi'u strapio’n ddiogel i mewn fel aelodau bach o'r clwb.

Ac unwaith mae’r awr ar ben am yr wythnos, mae pawb yn mynd yn ôl i'r ganolfan hamdden am goffi a sgwrs. ​​Mae'n gymuned o bobl debyg sy'n deall yn llwyr beth rydych chi'n mynd drwyddo - y nosweithiau di-gwsg, y problemau cael dannedd a'r pryderon bwydo. Maen nhw hyd yn oed yn diddanu plant bach ei gilydd yn ystod y sesiynau ysbeidiol.

Sut gwnaeth cyllid y Loteri Genedlaethol wneud hyn yn bosibl

Diolch i £1,500 o gyllid y Loteri Genedlaethol sydd wedi cael ei ddosbarthu gan Chwaraeon Cymru, mae’r Free Wheelers wedi gallu gwneud y canlynol:

  • Hyfforddi Alex fel arweinydd rhedeg gwirfoddol i helpu rhieni lleol i herio eu hunain yn ddiogel.
  • Prynu chwech o fygis rhedeg newydd, gan gael gwared ar rwystrau cost i rieni.
  • Talu am gynnal a chadw’r offer presennol i gadw popeth mewn cyflwr perffaith.
Alex yn sefyll mewn caffi gyda phram.
Yn y gorffennol, roedd rhaid i ni wrthod pobl oherwydd nad oedd gennym ni ddigon o fygis rhedeg. Ond diolch i’r Loteri Genedlaethol, rydyn ni wedi gallu prynu chwech arall fel bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan. Mae’n gyfle yn ystod yr wythnos i ni dreulio ychydig o amser yn gofalu amdanom ni ein hunain.
Alex Jones, gwirfoddolwr gyda’r Free Wheelers.

Pam mae'r prosiect yn gweithio

Mae'r prosiect a sefydlwyd gan glwb Rhedwyr Pont-y-pŵl a'r Cylch yn rhoi cyfle i famau (a thadau) gymryd rhan mewn ymarfer corff, heb orfod poeni am ofal plant.

Mae’r Free Wheelers wedi dod yn achubiaeth i lawer o rieni. Drwy neilltuo rhywfaint o amser yn ystod eu hwythnos i feddwl amdanyn nhw eu hunain, maen nhw’n gallu buddsoddi yn eu hiechyd a'u lles eu hunain, wrth ddangos i'w plant yn uniongyrchol bod mynd ati i fod yn actif yn hwyl ac yn bwysig.

Stori Nicola: dod yn fodel rôl actif ac iach i'w merched

O sawl deiet eithafol i ddelwedd negyddol o'r corff, roedd gan Nicola Needs, 32 oed, berthynas wael gydag ymarfer corff. Hynny yw, nes iddi ymuno â Free Wheelers. Pan ddaeth Nicola yn fam i ddwy ferch, fe wnaeth hi benderfyniad mawr: bod yn fodel rôl heini ac iach.

Mae hi'n gobeithio y bydd gwneud rhedeg yn rhan arferol o'r wythnos yn golygu y bydd ei merched yn tyfu i fyny gan wybod bod ffitrwydd yn dda i'w hiechyd.

Nicola yn rhedeg gyda phram ym Mharc Pont-y-pŵl
Mae’r Free Wheelers wedi cael effaith aruthrol ar fy mywyd i. Mae'n fy helpu i fod y fersiwn orau ohonof i fy hun, yn fodel rôl iach a chryf i fy merched. Fe fyddwn i wedi bod braidd yn ofnus i roi cynnig arni ychydig flynyddoedd yn ôl – ond os gallaf i wneud hyn, fe allwch chithau hefyd.
Nicola Needs

Stori Helen: teimlo'n gryfach nag erioed

Mae’r Free Wheelers wedi helpu Helen Griffiths hefyd i ailddarganfod ffitrwydd a lles ar ôl geni plentyn.

Ar ôl cael Cesarian brys, roedd Helen Griffiths, 31 oed, yn teimlo bod ei ffitrwydd wedi cael ei daro. Ond nawr mae hi'n gryfach nag erioed.

Cyn gynted ag yr oedd ei mab yn chwe mis oed, fe ymunodd Helen â'r Free Wheelers. O deimlo allan o wynt ar ôl dim ond 1km pan ddechreuodd hi, mae hi bellach yn rhedeg 10km.

Helen yn rhedeg gyda phram ym Mharc Pont-y-pŵl
Roeddwn i'n teimlo bod fy ffitrwydd corfforol i wedi cael ergyd fawr ar ôl y Cesarian brys. Ond mae’r Free Wheelers wedi fy helpu i symud ymlaen yn fawr, ac rydw i bellach yn fwy heini ac yn gryfach nag erioed.
Helen Griffiths

Beth gall clybiau eraill ei ddysgu?

Mae’r Free Wheelers yn dangos ei bod hi’n bosibl dod o hyd i ffyrdd o gael rhieni’n actif. Drwy gael gwared ar rwystrau ymarferol, fel costau gofal plant ac offer, gall mamau a thadau gadw’n actif, adfer ar ôl genedigaeth a bod yn esiampl gadarnhaol i’w rhai bach.

Newyddion Diweddaraf

Y cynllun beicio cymunedol sy’n cael mwy o ferched ar gefn beic

Wedi'i lansio yn 2011, mae Breeze yn anelu at gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn beicio.

Darllen Mwy

Cadw pawb yn y gêm yn ddiogel: Y tu mewn i ymdrechion diogelu’r byd chwaraeon yng Nghymru

Rydyn ni’n rhannu pum enghraifft o arfer da sy'n dangos sut mae sefydliadau ledled Cymru yn rhoi diogelwch…

Darllen Mwy

Prosiect Casnewydd Fyw yn rhoi'r hyder i ferched fod yn actif

Girls Takeover yn brosiect sy'n annog merched i symud, rhoi cynnig ar bethau newydd a theimlo'n dda.

Darllen Mwy