Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae chwaraeon cymunedol ac ar lawr gwlad wrth galon ein gwaith ni. Rydyn ni eisiau i chwaraeon yng Nghymru ffynnu – yn ein parciau, ein hysgolion, ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru – ‘Cenedl actif lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon am oes’.

Rydyn ni eisiau cyrraedd pob cymuned, yn enwedig y rhai â’r cyfraddau uchaf o anweithgarwch.

Mae llawer o ffyrdd rydyn ni’n cefnogi chwaraeon cymunedol ac ar lawr gwlad. O fuddsoddi mewn cyrff rheoli ac awdurdodau lleol i ddarparu gweithgareddau; darparu grantiau i glybiau; buddsoddi mewn adnoddau sy’n gallu helpu pobl i fod yn actif; a mesur y cyfraddau cymryd rhan diweddaraf.

Edrychwch am fwy o wybodaeth am ein gwaith ni mewn chwaraeon cymunedol ac ar lawr gwlad.

Uchafbwyntiau Cynnwys - Chwaraeon Cymunedol a Llawr Gwlad

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Pobl ifanc yn gwirioni ar fowlio lawnt yng Ngogledd Cymru

Mae bowlio lawnt wedi sgubo drwy bentref Llanfairpwll - a'r genhedlaeth iau sy'n arwain y ffordd.Diolch…

Darllen Mwy

Cyngor doeth i hyfforddwyr gwrywaidd sy'n cefnogi merched a genethod gydag iechyd merched mewn chwaraeon

Gall hyfforddwyr gwrywaidd helpu merched i ffynnu trwy gefnogi iechyd benywaidd.

Darllen Mwy

Cwpan y Byd i Glybiau Cymru: Creu Gêm Well i Ferched

Mae rygbi Cymru yn sicrhau bod merched a genethod yn cael y gofod maen nhw’n ei haeddu.

Darllen Mwy