Main Content CTA Title

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn un o bum felodrom dan do a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrydain.

Mae ei fyrddau wedi bod yn dyst i dalentau eithriadol Syr Chris Hoy, Syr Bradley Wiggins, Jason a Laura Kenny wrth i Team GB a ParalympicsGB ddewis trac Casnewydd fel ei leoliad ar gyfer gwersylloedd hyfforddi cyn Rio 2016, Llundain 2012, Beijing 2008 ac Athen 2004.

Cynhelir cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar y trac 250m yn rheolaidd a dyma ble mae talentau sêr beicio Cymru’n cael eu meithrin.

Mae enwau cyfarwydd fel Geraint Thomas, Becky James, Elinor Barker a Luke Rowe i gyd wedi gwneud cynnydd drwy bwerdy Beicio Cymru, sy’n rhestr nodedig iawn o unigolion.

Agorwyd y cyfleuster yn 2003 a’r enw gwreiddiol arno oedd Felodrom Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei ailenwi i anrhydeddu Geraint Thomas ar ôl ei fuddugoliaeth ysgubol yn y Tour de France yn 2018.

Cyllidwyd y cyfleuster gwerth £7.5m o gyllideb y Loteri Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn rhannol.

Er ei fod wedi bod yn allweddol i lwyddiant aruthrol beicio Cymru ar y trac, mae hefyd ar agor i’r cyhoedd. Gall aelodau’r cyhoedd – gan gynnwys plant – fanteisio ar y cyfle i feicio ar y byrddau, yn ddechreuwyr neu’n feicwyr ar lefel uwch, gydag amrywiaeth eang o sesiynau ar gael.

Y cyfleusterau sydd ar gael yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

  • Trac hirgrwn 250 metr gydag ymylon 42 gradd yn y naill ben a’r llall Stiwdio ICG (Grŵp Beicio Dan Do) gyda beiciau llwyddiannus Tomahawk IC7x
  • Trac beicwyr rasio awyr agored sy’n gartref i  Glwb Beicwyr Rasio Casnewydd
  • Campfa gydag offer llawn
  • Stiwdio ymarfer grŵp
  • Campfa pwysau rhydd
  • Arena chwaraeon dan do aml-bwrpas
  • Cae pêl droed 3G
  • Ystafelloedd digwyddiadau ar gael i’w llogi

 

Cyswllt

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd
Velodrome Way
Casnewydd
De Cymru
NP19 4RB

 01633 656757 

enquiries@newportlive.co.uk

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy