Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar ddydd Gwener 16 Mai 2025 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar ddydd Gwener 16 Mai 2025 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Philip Tilley, Nuria Zolle, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Trystan, Hannah Bruce, Rajma Begum

STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, Joanne Nicholas, Ian Blackburn, Owen Hathway, Wendy Yardley (cofnodion)

Arsylwyr o Blith y Staff: Eleanor Ower

Allanol: Neil Welch, Jack Sargeant (AS), Niall Murphy (Llywodraeth Cymru i gyd).

1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys y Gweinidog Jack Sargeant AS a'i Swyddog Niall Murphy, ynghyd ag Eleanor Ower fel arsylwr o blith y staff. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau bod Chris Jenkins wedi penderfynu rhoi’r gorau i fod yn aelod o'r Bwrdd a diolchwyd iddo am ei gyfraniadau a'i ymrwymiad blaenorol. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Judi Rhys. Llongyfarchwyd Delyth ar ei phenodiad fel Cadeirydd newydd S4C.

2. Datgan budd (os yw’n newydd) 

Delyth Evans (Cadeirydd S4C).

3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf

3.1 Cofnodion, Log Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi 

Nuria i gael ei chofnodi'n gywir fel aelod yn bresennol. Materion yn codi: Prif Swyddog Gweithredol – cynhaliwyd y cyfarfod rhyngweinidogol ar 24 Mawrth. Mynychodd aelodau'r Bwrdd Hyfforddiant Gwrth-Hiliol ar 15 Mai, a diolchwyd i'r hwyluswyr Ian Blackburn ac EW.

Cam Gweithredu: WY i ddiwygio'r cofnodion dyddiedig 21 Chwefror 2025.

3.2 Traciwr Penderfyniadau

Dim camau gweithredu heb eu rhoi ar waith.

4. Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol 

Mynegodd ei bleser o allu ymuno ¢ chyfarfod y Bwrdd, er bod hynny o bell. Roedd JS yn awyddus i arsylwi yn bennaf yn y cyfarfod hwn ond roedd hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd ac estynnodd ei longyfarchiadau personol i Delyth ar ei phenodiad i S4C. Croesawodd y newyddion bod y Bwrdd wedi derbyn hyfforddiant gwrth-hiliol a thynnodd sylw at y gallu sydd gan chwaraeon i ddylanwadu ar amcanion cydraddoldeb eraill a gwella iechyd meddwl. Pwysleisiodd hefyd y ffocws eleni ar chwaraeon merched a genethod. Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd a'r Is Gadeirydd am bwysigrwydd y Weledigaeth a Strategaeth Chwaraeon Cymru, cadarnhaodd eu harwyddoc¢d yn ei bortffolio diwylliannol a chyfeiriodd at bwysigrwydd mynediad; yr angen am i bobl ifanc fod ¢ dyheadau a'r gallu i hyrwyddo iechyd a lles drwy chwaraeon. Diolchwyd i'r Gweinidog am ei gefnogaeth, gan fod cefnogaeth y Llywodraeth i'r Weledigaeth a'r Strategaeth yn helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hirdymor.

5. Polisi a Strategaeth

5.1 Diweddariad y Cynllun Busnes – SW(25)15

Papur trafod. Roedd rhai uchafbwyntiau nodedig yn cynnwys cynnydd pellach gyda Phartneriaethau Chwaraeon gyda phedair bellach yn weithredol. Diolchodd tm y swyddogion i aelodau'r Bwrdd am eu cefnogaeth. Mae materion yn ymwneud ¢'r agenda Iechyd Ataliol yn ymddangos yn ddiweddarach ar yr agenda. Mae ffocws ar y "Flwyddyn o chwaraeon i ferched yng Nghymru", ac un fenter enghreifftiol yw'r digwyddiad llwyddiannus "HI’NFfynnu" gyda mwy na 100 yn bresennol. O ran Cynaliadwyedd – soniwyd am y rheolwr arlwyo ar gyfer ffocws ar gynhyrchion o Gymru a lleihau nifer ac amlder y danfoniadau. Bu oedi gyda gweithgarwch ar y cyd y cyrff Prydeinig ynghylch cynaliadwyedd – ond mae'r mater wedi'i ddatrys. Mae gweithgareddau pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed wedi bod yn llwyddiannus ac wedi gofyn am adnoddau sylweddol gan y t®m Cyfathrebu, ond maent yn tynnu at eu terfyn bellach.

5.2 Adroddiad Cynnydd a Dysgu Partneriaid - SW(25)16

Papur trafod, sy'n gwasanaethu fel cipolwg craff ar yr holl ddysgu gan Bartneriaid a gyllidir. Mae'r them¢u a'r tueddiadau sy'n ymddangos yn gyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynnwys effaith ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; gweithgareddau Merched a Genethod; yn ogystal ¢ chyfraniad ehangach chwaraeon at iechyd. Bydd y gwersi allweddol yn cael eu rhannu'n´l gyda'r sector drwy'r fenter dysgu carlam. Mae'r sesiwn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Mehefin yn cynnwys cynllun gweithredu gwrth-hiliol Tennis Cymru a phrofiad comisiynu Actif North Wales. Mae croeso bob amser i aelodau'r Bwrdd ac maent yn derbyn gwahoddiadau i'r sesiynau hyn.

Nododd yr aelodau y gall gwersi o fethiannau fod yn ddefnyddiol hefyd ac efallai mai un dacteg i ddod o hyd i wybodaeth o'r fath yw gofyn beth fu eu her fwyaf.

5.3 Etholiadau’r Senedd 2026: Cynigion Maniffesto Chwaraeon Cymru - SW(25)17

Papur penderfyniad. Mae llai na 12 mis i fynd bellach tan etholiadau nesaf y Senedd.

Cytunodd y Bwrdd bod y pedwar argymhelliad yn y papur yn synhwyrol eang eu natur ac yn adlewyrchu iaith o adroddiadau diweddar Pwyllgor Diwylliant y Senedd a hefyd yn adlewyrchu sylwadau Partneriaid. Gyda mewnbwn cychwynnol yn ystod y datblygiad gan amrywiaeth o Bartneriaid, bydd yr argymhellion bellach yn cael eu hailgyflwyno iddynt yn ystod gwahanol gyfleoedd yn dilyn mewnbwn / cymeradwyaeth y Bwrdd heddiw. Cyflwynodd y papur amserlen hefyd ar gyfer y camau nesaf eraill.

Nododd yr aelodau bod y system etholiad newydd yn cefnogi'r ymdrech sydd wedi'i gwneud o ran y prosiect hwn a'r ymgysylltu angenrheidiol â'r sefydliad gwleidyddol.

Gwnaeth yr aelodau sylw hefyd fod niwtraliaeth wleidyddol a'n r´l ni i eiriol yn parhau i fod yn bwysig dros y 12 mis nesaf.

CYMERADWYODD Y BWRDD Y PAPUR 

5.4 Adroddiad Iechyd a Diogelwch (IaD) Blynyddol - SW(25)18

Papur trafod. Croesawodd y Bwrdd yr adroddiad hwn. Mae'r Pwyllgor IaD yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn sicrhau bod unrhyw faterion a nodwyd o ran cydymffurfio yn arwain at gamau priodol. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw dueddiadau cyson mewn damweiniau sy'n gysylltiedig ¢ gwaith - ac mae'r holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd. Nodwyd pwysigrwydd cysondeb mewn iaith gan yr Aelodau e.e. "honiadau" o gymharu ¢ "digwyddiad a adroddwyd". Bu rhywfaint o drafodaeth ar effaith gweithio gartref mewn perthynas ¢ hyfforddiant DSE a chadarnhawyd bod angen adolygu priodoldeb hyfforddiant o'r fath yn erbyn swyddi gwirioneddol. Roedd y pwyllgor IaD hefyd wedi trafod yr angen am gynnwys adrodd am ddamweiniau agos fel rhan o fonitro parhaus.

Diolchwyd i CN am ei fewnbwn, a hefyd i HB fel hyrwyddwr y Bwrdd.

5.5 Adroddiad Diogelu Blynyddol - SW(25)19

Papur trafod. Tynnodd EW sylw at ychydig o eitemau, gan gynnwys yr adnodd adrodd ar-lein sy'n effeithiol ac wedi cael croeso da. Bu mwy o ffocws ar hyfforddiant ar draws staff yr Athrofa a'r Ganolfan Genedlaethol – gyda hyfforddiant o'r fath yn orfodol i staff sy’n dechrau o’r newydd. Y gobaith yw y bydd yr adnodd hyfforddi ac adrodd yn ein helpu ni i nodi unrhyw dueddiadau penodol. Mae cynlluniau i gyflogi arbenigwr diogelu i adolygu ein polis¯au. Cadarnhawyd gyda'r Aelodau mai Legacy Leisure (LL) sydd bellach yn gyfrifol am Ddiogelu ym Mhlas Menai, fodd bynnag, mae hefyd wedi'i gynnwys fel eitem sefydlog ar yr agenda fel rhan o'n cyfarfodydd adolygu chwarterol gyda hwy.

5.6 Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau Cymdeithasol – SW(25)20

Papur trafod. Soniodd EW fod hwn yn adroddiad blynyddol newydd fel rhan o'n cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'n werth adlewyrchu ar y ffaith ei bod wedi bod yn bartneriaeth dda gyda chydweithwyr o PCS wrth gynhyrchu'r adroddiad ar y cyd hwn. Mae'n darparu baich gwaith ychwanegol heriol i gydweithwyr PCS a bydd yn cynnwys cynllunio ymlaen llaw.

Cadarnhawyd i'r Aelodau fod yr adroddiad yn dilyn templed a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a'i fod yn cael ei ddarparu i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Mae aelodaeth PCS yn gynrychioliadol o bob gradd bron yn y sefydliad.

6.1 Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(25)21

Nodwyd bod trefn arferol y cyfarfod wedi newid oherwydd presenoldeb y Gweinidog.

Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw penodol i ychydig o eitemau yn yr adroddiad.

Rhyngweithio ¢ Llywodraeth Cymru (LlC) - crybwyllwyd yr adolygiad Gweinidogol blynyddol o r´l y Cadeirydd ynghyd ¢ chyhoeddi mai Elin Burns fydd yn cymryd lle Ruth Meadows fel Cyfarwyddwr. Mae cais i ymestyn y tymor i gael ei wneud i'r Gweinidog mewn perthynas ¢'r grŵp nesaf o aelodau'r Bwrdd y mae eu tymor yn dod i ben yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn. Dyma'r casgliad olaf o newidiadau er mwyn darparu cysondeb a digon o fylchau rhwng ffenestri recriwtio – cysylltir ¢'r rhai sydd ¢ diddordeb o'r grŵp i ganfod diddordeb. Bydd hysbyseb yr Uned Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer y gyfres nesaf o aelodau Bwrdd newydd yn cael ei dosbarthu i hyrwyddo'r ddolen ac i annog cronfa eang o ymgeiswyr posibl. Cyfarfod llwyddiannus iawn rhwng Chwaraeon Cymru ac amrywiaeth o Bartneriaid o'r sector ynghyd ¢'n Gweinidog a'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy. Fe'i trefnwyd i drafod a chyflwyno'r dull "Perthynol" o weithredu sy'n cael ei fabwysiadu gydag Iechyd Meddwl gan y sector. Mae cyfarfod tebyg gyda’r Gweinidogion Addysg yn cael ei gynnig hefyd.

Cyfarfod Prif Swyddogion Gweithredol Cynghorau Chwaraeon y DU - derbyniwyd cyngor cyfreithiol ynghylch y Cyfarwyddyd Trawsryweddol, a ddaeth i'r casgliad nad oes angen newid y Cyfarwyddyd yn sylweddol. Fodd bynnag, bydd Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon (SCEG) yn archwilio'r testun i weld a oes angen diweddaru unrhyw gyfeiriadau a therminoleg a hefyd a oes unrhyw newid mawr wedi bod yn y dystiolaeth wyddonol y seiliwyd y cyfarwyddyd gwreiddiol arni. Roedd yr aelodau'n awyddus i sicrhau bod y staff perthnasol a oedd yn ymwneud ¢'r gwaith hwn yn cael cefnogaeth briodol. Gallai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ddarparu r´l hefyd o bosibl a byddai hyn yn cael ei archwilio yn dilyn y cyfarfod perthnasol o’r SCEG.

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Bwrdd ynghylch adwaith y Cyrff Rheoli i'r dyfarniad, esboniwyd bod y gweithdai Cyfarwyddyd a Chyfreithiol yn parhau i weithredu a bod niferoedd da wedi cofrestru ar eu cyfer.

Roedd gan yr un cyfarfod eitem sylweddol hefyd ar y prosiect "Chwaraeon Diogel" ledled y DU a bydd Adroddiad y gweithgor yn cael ei ryddhau ar 24 Mehefin. Cafodd y Bwrdd wybod hefyd bod y rhaglen Panorama sydd i'w darlledu nos Lun nesaf yn tynnu sylw at broblemau gyda chlwb nofio penodol yn Lloegr. Mae ein Pennaeth Cyfathrebu a'r Rheolwr Perthnasoedd yn gweithio'n agos gyda Nofio Cymru, er nad oes unrhyw glybiau yng Nghymru yn gysylltiedig, fel eu bod yn barod am unrhyw ymateb.

Gwydnwch y Sector - mae ychydig o faterion diweddar o ran Partneriaid yn dangos pwysigrwydd y gwaith hwn. Mae'r Gweinidog wedi cyfarfod ¢ CRhC penodol ac eglurodd y Prif Swyddog Gweithredol y bydd angen galw cyfarfod Grŵp Llywodraethu Beirniadol efallai i drafod y mater penodol hwnnw.

Fforwm y Cadeiryddion - yn ddiweddar trefnwyd cyfle fforwm pellach ar gyfer Cadeiryddion y Partneriaid a gyllidir, a fynychwyd gan ein Cadeirydd ni. Teimlwyd ei bod yn bwysig parhau i symud ymlaen ¢'r fenter hon.

Roedd y sylwadau eraill ynghylch yr adroddiad yn cynnwys siom y Bwrdd ynghylch gwrthod y grant datblygu Cwricwlwm. Hysbyswyd y Bwrdd hefyd mai Cadeirydd blaenorol UK Sport, y Fonesig Kath Grainger, yw Cadeirydd newydd Cymdeithas Olympaidd Prydain (BOA). Gofynnwyd hefyd am ddiweddariad ar lafar ar y sefyllfa gydag URC a chadarnhawyd ei fod yn cael ei gyllido gyda'r Grŵp Goruchwylio yn darparu adroddiad chwarterol ar gynnydd yn erbyn argymhellion Adolygiad Rafferty. Roedd y Cadeirydd hefyd yn bwriadu cyfarfod ¢ Phrif Swyddog Gweithredol URC yr wythnos nesaf.

7. Cyllid, Risg a Llywodraethu

Dim adroddiadau i'w cyflwyno.

8. Adroddiadau Grwpiau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau Sefydlog

8.1 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – SW(25)22

Papur trafod. NZ – dyma'r adroddiad blynyddol cyntaf gan Bwyllgor sy'n tyfu o ran cryfder a phwrpas. Un uchafbwynt penodol oedd hyfforddiant Gwrth-Hiliol Cymru a'r adolygiad parhaus o bolis¯au Recriwtio.

8.2 Crynodeb o’r Is-grwpiau - SW(25)23

Roedd y papur hwn yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Nodwyd diddymu is-grŵp y Partneriaethau Chwaraeon a diolchwyd i bawb am eu hymdrechion.

Unrhyw Fater Arall

Sesiwn Ffocws 1pm – dosbarthwyd papur briffio ar wah¢n ar “Beth rydym yn ei wneud ac a ydym yn gwneud y pethau cywir i gyflawni’r Strategaeth?”

Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth y cyfarfod i ben am 12:15.

9. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf: 

18 Gorffennaf, 18 i 19 Medi (Plas Menai), 21 Tachwedd 2025

Mae’r cofnodion i’w cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2025.