Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar ddydd Gwener 21 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar ddydd Gwener 21 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Judi Rhys, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Davies, Hannah Bruce, Rajma Begum

STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, Rachel Davies, Wendy Yardley (cofnodion)

Arsylwyr o blith y Staff: Zaynub Akbar

Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru)

1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod ac wedyn cafwyd trafodaeth dros ginio gyda Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Gweithgor Rhyngwladol ar ferched a chwaraeon. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2. Datgan budd (os yw’n newydd)

Dim.

3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf

3.1) Cofnodion, Log Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi

Cytunwyd bod nodiadau'r cyfarfod dyddiedig 22 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir. Dim camau gweithredu.

3.2) Traciwr Penderfyniadau

Dim camau gweithredu heb eu rhoi ar waith.

4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth - SW(25) 01

4.1) Tynnodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw at y canlynol o'r adroddiad:

  • Aeth y cyfarfod Gweinidogol sy’n cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn yn dda, a chadarnhawyd y cyhoeddiad cyllidebol cadarnhaol ar 20 Chwefror. Cyfarfod manylach i'w drefnu eto ond cadarnhawyd presenoldeb yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai.
  • Grŵp llywio Ewros 25 UEFA - cyfrannodd y Prif Swyddog Gweithredol at y cylch gorchwyl a thynnodd sylw at y ffaith y dylai fod synergedd o lu o ddigwyddiadau chwaraeon merched arwyddocaol eraill yn 2025.
  • Cyfarfod Bwrdd UK Sport 6 Chwefror - mae un CRhC yn mynd i apelio yn erbyn y penderfyniad i'w osod yn Sport Org. Cyfarfod 17 Mawrth fydd cyfarfod olaf y Fonesig Kath Grainger fel Cadeirydd. Nid oes unrhyw olynydd wedi’i gyhoeddi eto.
  • Prif Swyddog Gweithredol Sport England yn gorffen ar´l 6 blynedd yn y swydd.
  • Diweddariad ar y Partneriaethau Chwaraeon; cadarnhad yr wythnos hon o fodel cynnal ar gyfer Gwent, gyda'r pum partneriaeth yn cael eu sefydlu. Diolch i'r staff perthnasol ac aelodau'r is-grŵp.
  • Cyfarfod Cabinet Rhyngweinidogol (Cabinet Chwaraeon fel yr oedd) wedi'i drefnu ar gyfer 24 Mawrth.
  • Hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth - diweddariad ar ddatblygiadau ac amserlen gyflwyno gan gynnwys hyfforddiant y Bwrdd.

Cais am grant addysg - gobeithio y clywir erbyn mis Ebrill am gynnydd y grant.

5. Polisi a Strategaeth

5.1) Diweddariad y Cynllun Busnes ac Estyniad - SW(25) 02

Papur penderfyniad. Ymhlith yr uchafbwyntiau nodedig roedd: Partneriaethau Chwaraeon gyda'r camau cadarnhaol tuag at sefydlu'r 5; datblygu ein rhwymedigaethau Partneriaethau Cymdeithasol; Ymgysylltu ¢'r Hwb Gwyddorau Bywyd ar gynnydd gyda chynaliadwyedd.

Ymholiad a sylw a godwyd ar yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru - cadarnhawyd mai arolwg "sampl ar hap" yw hwn drwy arolwg Llywodraeth Cymru o faint sampl o 12,000, ond gyda'r gobaith o gynyddu i 20,000. Bydd y sylwadau'n cael eu hadrodd yn ôl.

Mae'r penderfyniad i ymestyn y Cynllun Busnes yn cyd-fynd ¢'r ffaith ei fod yn Gynllun Busnes ailadroddus yn seiliedig ar lythyr cylch gorchwyl tymor y Llywodraeth sydd ag ychydig dros 12 mis i redeg cyn etholiadau nesaf y Senedd. Darparwyd cadarnhad bod yr asesiad effaith integredig o'r cynllun busnes yn cynnwys cydraddoldeb.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur 
5.2) Cynnydd a Dysg Partneriaid (yn unol ¢’r cylch) - SW(25) 03

Papur gwybodaeth, sy'n giplun llawn gwybodaeth o'r holl ddysgu gan Bartneriaid s’n cael eu cyllido. Cynhaliwyd ail sesiwn dysgu carlam gyda phartneriaid. Roedd aelodau'r Bwrdd yn falch o weld rhai o'r enghreifftiau o arfer da a nodwyd. Cafwyd trafodaeth ar sicrhau rhagor o wybodaeth e.e. arolygon barn partneriaid - awgrymwyd y dylai datblygu Partneriaethau Chwaraeon a Thraciwr Gweithgarwch presennol Cymru fod yn fecanweithiau defnyddiol yn y cyswllt hwn a hefyd ar gyfer tynnu sylw at themâu pwysig.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur 
5.3) Cyllideb 2025 - 26 SW(25) 04

Papur penderfyniad. £1.3m ychwanegol wedi'i nodi yng Nghyllideb LlC ers ysgrifennu'r papur. Diolchodd y Bwrdd i'r Gweinidog a’i gydweithwyr yn LlC. Trafodaeth ar y cyfle i ailgyflwyno toriad y llynedd i Bartneriaid a'r t®m Gweithredol yn ystyried pecyn cymorth Gwydnwch a fydd yn cyflymu gweledigaeth mewn chwaraeon ar gyfer Cymru. Loteri rhai gostyngiadau yn y gyllideb o'r blynyddoedd diwethaf ond mae polisi Cronfeydd Wrth Gefn yn ei le bellach. Mae’r incwm yn y dyfodol yn cael ei fonitro'n fanwl gyda'r Gweithredwr, Allwyn.

Cwestiwn ar ragolygon y loteri a'r cynnydd a ragwelir yn 27/28 mae hwn yn ffigur pragmatig o 50% o ragolygon Allwyn a ddarparwyd.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur 
5.4) Buddsoddiadau Partner 2025-26 - SW(25) 05

Papur penderfyniad. Bydd angen cynyddu'r manylion o ran symiau yn dilyn cyhoeddiad y gyllideb a'i ddarparu fel Atodiad dilynol ar´l y cyfarfod.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur
5.5) Papur cydnabyddiaeth (Codi Hwyl Mewn Gemau) - SW(25) 06

Papur penderfyniad. Mae Sportscotland a Sport NI wedi cymeradwyo'r argymhelliad ac mae Sport England yn mynd drwy’r broses. Mae'r aelodau'n frwdfrydig am y ddemograffeg mae'r gamp hon yn apelio ati.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur 
5.6) Papur cydnabyddiaeth (Taekwondo) - SW(25) 07

Papur penderfyniad. Esboniad o'r gwahaniaethau rhwng y ddau gorff presennol a chadarnhad bod yr holl Gynghorau Chwaraeon eraill wedi cymeradwyo bellach.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur
5.7) Etholiadau’r Senedd 2026 - Diweddariad ar Gynigion Polisi a Maniffesto - SW(25) 08

Papur trafod. Diolchwyd i'r rhai a gymerodd ran a'i symud ymlaen yn gyflym. Yn rhannu'n strategol / tactegol. Mae angen i'r sector ddeall yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas ag iechyd a dylai'r ddadl ataliol ganolbwyntio ar iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.

Mae'n bwysig cydnabod bod y system Etholiadol newydd yn debygol o arwain at lywodraeth glymblaid, felly mae angen ymgysylltu ¢ nifer o bleidiau. Rydym yn mynychu pob cynhadledd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Mae angen i unrhyw negeseuon gyd-fynd ar draws y sector ac mae'r grŵp wedi bod yn ymgynghori'n eang ¢ Phartneriaid. Parhaodd yr aelodau i fod yn gefnogol a chynnig cymorth yn l yr angen.

6. Cyllid, Risg a Llywodraethu

6.1) Adroddiad Cyllid Mis 10 2024-25 - SW(25) 09

Papur trafod. Mae adolygiad chwarterol o’r adrannau wedi nodi rhywfaint o danwariant ond mae cynlluniau i gwrdd ¢ therfynau cario drosodd ar waith.

6.2) Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol - SW(25) 10

Papur penderfyniad. Mae m¢n newidiadau yn y fersiwn newydd wedi'u cymeradwyo gan ARAC.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur
6.2) Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau - SW(25) 11

Papur penderfyniad. M¢n newidiadau yn bennaf sydd wedi'u cymeradwyo'n flaenorol gan bwyllgorau ac is-grwpiau perthnasol. Cadarnhawyd y bydd angen iddi fod yn broses adolygu flynyddol.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur
6.3) Dyhead Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol - SW(25) 12

Papur penderfyniad. Yr unig drafodaeth oedd mewn perthynas ¢ gofyniad LlC i gyflawni AISME erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Cymeradwyodd y bwrdd y papur

7. Adroddiadau Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd

7.1) Crynodeb o’r Is-grwpiau - SW(25)13

Crynhodd y papur hwn drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau'r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Cyfeiriwyd yn gryno hefyd at natur gadarnhaol cyfarfod diweddar gyda Chyngor Dinas Caerdydd mewn perthynas â’r gwaith FRG ar Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

8. Unrhyw Fater Arall

TGT  bydd yn dosbarthu pleidlais WhatsApp ynghylch argaeledd Aelodau ar gyfer y diwrnod cyn cyfarfod mis Mai y Bwrdd.

Gan nad oedd unrhyw fusnes pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth y cyfarfod i ben am 12pm.

9. Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf: 

16 Mai 2025, 18 Gorffennaf 2025, 18-19 Medi 2025 (Plas Menai), 21 Tachwedd 2025

Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 16 Mai 2025.