Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion Bwrdd - Gorffenaf 2025

Cofnodion Bwrdd - Gorffenaf 2025

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Philip Tilley, Nuria Zolle, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Trystan, Hannah Bruce, Rajma Begum

STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, Joanne Nicholas, Ian Blackburn, Owen Hathway (eitem 5.4 yn unig), Sarah Walters, Wendy Yardley (cofnodion)

Arsylwr o blith y Staff: Phillipa Lang

Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru)

1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Diolchwyd yn gynnes iawn i Delyth Evans a Dafydd Trystan gan mai hwn fyddai eu cyfarfod Bwrdd olaf oherwydd ymrwymiadau arwyddocaol eraill i'r ddau, ac estynnwyd llongyfarchion iddynt am hynny hefyd. Byddent yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod ym mis Medi ond, yn anffodus, mae'n annhebygol y byddant yn gallu derbyn.

2. Datgan budd (os yw’n newydd)

Dim.

3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf

3.1 Nodiadau Cyfarfod CGG – 6 Mehefin 2025 SW(25)24

Papur ar gyfer penderfyniad. Un diwygiad bach, nid oedd Delyth Evans yn y cyfarfod.

Cam gweithredu: Yn amodol ar y diwygiad uchod, cymeradwyodd y Bwrdd y nodiadau.

3.2 Cofnodion, Log Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi SW(25)25

Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod manwl gywir ac felly cawsant eu cymeradwyo.

3.3 Traciwr Penderfyniadau

Dim camau gweithredu heb eu rhoi ar waith.

4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth

4.1 Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth SW(25)26

Papur ar gyfer penderfyniad. Tynnodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw at ychydig o eitemau penodol yn yr adroddiad. Roedd y Prif Swyddog Gweithredol a'r Cadeirydd wedi cyfarfod r Gweinidog, Jack Sargeant AS, ar gyfer y cyfarfod dwywaith y flwyddyn ac roedd yn ddefnyddiol bod ei gynghorydd arbennig, Phillipa Marsden, yn bresennol hefyd. Cynhaliwyd cyfarfod hefyd yn y Ganolfan Genedlaethol gydag Elin Burns, y Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru. Mae angen cadarnhau’r trefniadau o hyd i Nick Webborn (Cadeirydd UKSport) fynychu cyfarfod o'r Bwrdd.

ICC: Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud gyda'r berthynas a'r bartneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Plas Menai: cynhelir cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi ym Mhlas Menai a darperir llety ar gyfer y nos Iau ynghyd swper. Cadarnhawyd y bydd adroddiad blynyddol ar Blas Menai yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod o’r Bwrdd.

Digwyddiadau a'r Cyfryngau: mae'r haf pwysig hwn o gystadlaethau chwaraeon i Ferched a Genethod ar y gweill. Ein strategaeth Gyfathrebu ni yw sicrhau bod y sylw’n canolbwyntio ar naratif ehangach ar gyfer chwaraeon merched a genethod yn hytrach na'r cystadlaethau yn unig.

UKSport: mae'n ymddangos bod gan y Cadeirydd newydd ddiddordeb mewn dyletswydd o ofal a bydd hefyd yn canolbwyntio ar bontio i athletwyr (ymddeoliad). Daw Prif Swyddog Gweithredol newydd Sport England o Gofrestrfa Tir y DU ac mae'n dechrau ym mis Medi.

Pwysleisiodd y Prif Swyddog Gweithredol bwysigrwydd y gwaith llywodraethu sy'n cael ei wneud yn barhaus gyda phartneriaid yn gyffredinol ond, yn benodol, bod llawer o weithgarwch a datblygiadau wedi bod ers cyfarfod y CGG ar 6 Mehefin mewn perthynas phªl rwyd. Mae ymgynghoriaeth annibynnol (BDO) wedi cael ei chyflogi i adolygu'r datblygiadau a'r cynigion diweddaraf. Fodd bynnag, bydd unrhyw ateb posibl yn ymwybodol o'r Egwyddorion a sefydlodd y Bwrdd ar 6 Mehefin ac mae'n debygol y bydd angen cyfarfod pellach o’r Grŵp Llywodraethu Beirniadol (CGG).

5. Polisi a Strategaeth

5.1 Diweddariad y Cynllun Busnes – SW(25)27

Papur trafod. Ymhlith yr uchafbwyntiau nodedig roedd y cyfarfod Gweinidogol bwrdd crwn ar ddull perthynol y sector o ymdrin ag iechyd meddwl. Bu cynnydd sylweddol yn y Fframwaith Sylfeini a gyflwynwyd i'r Bwrdd fis Medi diwethaf ac mae Iwerddon wedi dangos diddordeb hefyd yn y gwaith hwnnw. Er bod elfen Cynaliadwyedd y Cynllun Busnes wedi bod yn arafach nag a ragwelwyd, mae secondiad i ddatblygu ein harbenigedd caffael yn dechrau'n fuan. Mae cyfarfodydd wedi'u trefnu neu eu cynnal gyda phartneriaid allweddol ar yr Arolwg Chwaraeon Ysgol nesaf a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi. Partneriaethau Chwaraeon – mae Bwrdd Cysgodol ar gyfer Gwent yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yn fuan. Codwyd cwestiwn mewn perthynas â’r gwaith 60+, a chadarnhawyd bod trafodaethau wedi digwydd ynghylch cyfleoedd ar gyfer y cynllun 60+ mewn cyd-destun rhanbarthol ond ni wnaed unrhyw gyswllt hyd yma â'r Comisiynydd Pobl Hŷn.

5.2 System Chwaraeon – Dull o Weithredu gyda Beth Sy’n Bwysig a Chefnogaeth

Cyflwyniad a ddarparwyd i'r Bwrdd gan JN a SW. Croesawodd aelodau'r Bwrdd gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth a nodwyd bod rhai partneriaethau gwych yn datblygu. Soniodd JN hefyd y bydd arolwg i gael adborth gan bartneriaid yn cael ei gyhoeddi, ar ddiwedd y cylch hwn o bosibl.

5.3 Cynnydd / Dysg Partneriaid - SW(25)28

Papur trafod. Croesawodd y Bwrdd yr adroddiad a nododd bod pawb yn y sector yn profi gwahanol bwysau ond awgrymodd hefyd y dylid rhoi sylw i rywfaint o'r arloesi llwyddiannus sy'n digwydd a gellid crybwyll hyn yn y Fforwm Cadeiryddion / Prif Swyddogion Gweithredol nesaf.

5.4 Papur Diweddariad Maniffesto - SW(25)29

Papur trafod. Ailadroddodd y Cadeirydd mai dim ond 12 mis oedd i fynd tan Etholiadau'r Senedd a rhoddodd yr Is Gadeirydd gefndir i'r papur hefyd. Cefnogodd y Bwrdd y ffaith y byddai rhywfaint o rwydweithio a dadansoddi gwybodaeth pellach yn cael ei gynnal, yn enwedig o ran yr agenda iechyd ataliol. Yr adlewyrchiad cyffredinol oedd ei fod wedi bod yn ddarn o waith rhagorol, buddiol a defnyddiol. Mae cyfyngiadau ar ein gallu yn y maes hwn, nid yn unig fel corff hyd braich. Fodd bynnag, mae wedi cael ei groesawu gan y sector a thrafododd yr aelodau a oedd potensial ar gyfer dogfen ar rôl eiriolaeth ar gyfer aelodau'r Bwrdd. Diolchwyd i'r staff dan sylw am eu gwaith hyd yn hyn.

6. Cyllid, Risg a Llywodraethu

6.1 Adolygiad Effeithiolrwydd Bwrdd – Diweddariad – SW(25)31

Papur ar gyfer penderfyniad. Soniodd yr Is Gadeirydd ei fod yn adeiladu ar Gynllun Gweithredu Llywodraethu'r Bwrdd ac yn gyfle i adlewyrchu ar ein cynnydd. Tynnodd EW sylw at y ffaith y bydd categori "Er Sicrwydd" yn cael ei ychwanegu at bapurau'r Bwrdd yn y dyfodol. Mae'n bosibl, ymhen amser, y gellid hwyluso proses yn y dyfodol yn allanol.

CYMERADWYODD Y BWRDD Y PAPUR

6.2 Adroddiad Cyllid – SW(25)32

Papur ar gyfer gwybodaeth. Soniodd RD ein bod yn monitro ac yn trafod y gwarged cyllidebol posibl ar hyn o bryd. Mae'r cynnydd adfer i bartneriaid, sy'n gyfanswm o £800k y cytunwyd arno gan y Bwrdd, wedi cael ei ddosbarthu ac mae adolygiad o ganrannau addasu'r loteri wedi cael ei gynnal. Mae'r timau Gweithredol ac Arweinyddiaeth yn edrych ar amrywiol brosiectau sy'n gysylltiedig ag effaith y Weledigaeth ac mae cyfarfodydd cyllidebu rheolaidd gyda phenaethiaid gwasanaeth yn digwydd. Mae'r archwiliad diwedd blwyddyn yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac nid oes dim byd o bwys wedi'i nodi hyd yn hyn. Mae cyfarfodydd wedi'u trefnu yn fuan gyda holl ddosbarthwyr y Loteri a'r gweithredwr newydd, Allwyn. Cytunodd y Bwrdd y byddai croeso i ddiweddariad pellach ar unrhyw warged cyllidebol yn y cyfarfod nesaf.

6.3 Cofrestr Risg Gorfforaethol – SW(25)33

Papur ar gyfer gwybodaeth. Newidiadau bach iÂ’r geiriad. Archwiliad Mewnol – nododd feysydd ar adrodd i ARAC.

7.  Adroddiadau Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd

7.1 Adroddiad Blynyddol ARAC – SW(25)34

Papur trafod. Dywedodd Cadeirydd ARAC, MV, bod yr adroddiad yn nodi stori dda am yr holl waith sy'n cael ei wneud yn llwyddiannus a bod y pwyllgor sefydlog hwn wedi ymgysylltu'n dda ac wedi cael ei ddiolch. Mae pob maes allweddol wedi'i gwblhau. Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredol a'r Cadeirydd ddiolch swyddogol i MV o gofio mai hwn oedd ei Adroddiad Blynyddol olaf ar gyfer ARAC. Cododd yr Is Gadeirydd y posibilrwydd o archwiliad Effaith Gymdeithasol yn y dyfodol. Ymrwymodd y Weithrediaeth i edrych i ddechrau ar a oedd gan yr Archwilwyr Mewnol y sgiliau a'r profiad angenrheidiol.

7.2  Crynodeb o’r Is-grwpiau - SW(25)35

Papur gwybodaeth yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiauÂ’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd.

Unrhyw Fater Arall

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ym Mhlas Menai. Bydd WY yn trefnu’r logisteg ac yn cysylltu ag aelodau'r Bwrdd ynghylch eu gofynion. Y gwahoddiad i gael ei estyn i aelodau newydd y Bwrdd os yw hynny’n bosibl.

Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth y cyfarfod i ben am 12:30.

8. Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf: 

18-19 Medi (Plas Menai), 21 Tachwedd 2025 (CGChC).

Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2025.