YN BRESENNOL: Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Nicola Mead-Batten, Nuria Zolle, Rhian Gibson, Hannah Bruce, Rajma Begum, Martin Hurst, Roisin Connolly, Sanjiv Vedi, Owain Schiavone, Alison Parken
STAFF: Brian Davies (PSG), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, Joanne Nicholas, Dan Farmer (eitem 5.3), Wendy Yardley (cofnodion)
Arsylwyr o blith y Staff:
Allanol: Stephen Woodfine (Llywodraeth Cymru)
1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd yr Is Gadeirydd bawb i'r cyfarfod. Rhoddwyd croeso cynnes i Aelodau newydd y Bwrdd a chafwyd cyflwyniadau o amgylch yr ystafell. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Tanni Grey-Thompson oherwydd ymrwymiadau Seneddol.
2. Datgan budd (os yw'n newydd)
Datganodd AP fudd – mae wedi dod yn aelod o'r grŵp Gofynion Polisi a bydd hefyd yn gweithio gyda'r Senedd. Cytunwyd y byddai AP yn cael ei esgusodi o drafodaethau, os oes angen, pe bai unrhyw wrthdaro posibl yn codi.
3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf
3.1 Cofnodion, Cofnod Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi
Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod manwl gywir ac felly fe'u cymeradwywyd. Materion yn codi o'r cyfarfod diwethaf - eitem 5.5: Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar Bêl-rwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror.
3.2 Traciwr Penderfyniadau
Dim camau gweithredu yn weddill.
4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth
4.1 Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth SW(25)45
Papur i'w drafod. Tynnodd y PSG sylw at ychydig o eitemau penodol yn yr adroddiad.
Rhyngweithio Llywodraeth Cymru - trafodaeth fer ar y Canllawiau Cyn-etholiad i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gan yr is-grŵp Gofynion Polisi adran Asesu Effaith bellach ar gyfer unrhyw ddatblygiadau polisi, papurau neu gynigion yn seiliedig ar y canllawiau.
Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC): Mae croeso i aelodau'r Bwrdd fynychu cyfarfod Bwrdd ICC ar 28 Tachwedd, lle bydd y ddau Gadeirydd yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Bydd gwahoddiad yn ôl i gyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru yn y dyfodol
UKSport: Bydd y PSG, y Cadeirydd a dau aelod o staff y System Chwaraeon yn mynychu cynhadledd UKSport yn Leeds ym mis Rhagfyr. Mae Ffederasiwn Pêl-fasged Prydain wedi mynd i ddiddymiad gwirfoddol – mae tri o gyrff y gwledydd cartref (Basketball England, Basketball Scotland, Pêl-fasged Cymru), yn gweithio mewn trafodaeth a chysylltiad agos ar fesur brys tymor byr yn ogystal â chynnig tymor hir.
Nododd yr Is Gadeirydd ei fod wedi cynnal gwerthusiadau a chyfweliadau gadael gydag aelodau'r bwrdd a bydd hefyd yn trafod y broses gydag aelodau newydd y bwrdd.
Cynhaliwyd trafodaeth fer ar AI a chadarnhawyd bod hyfforddiant mewnol gyda chwmni ymgynghorol yn dechrau ddiwedd mis Tachwedd.
CAM GWEITHREDU: EW I RANNU POLISI AI GYDAG AELODAU'R BWRDD
NODODD Y BWRDD Y PAPUR
5. Polisi a Strategaeth
5.1 Diweddariad y Cynllun Busnes – SW(25)46
Papur trafod. Roedd y rhan fwyaf o agweddau'r Cynllun Busnes ar y trywydd iawn ac amlygwyd ychydig o bwyntiau nodedig, fel sefydlu'r 5 Partneriaeth Chwaraeon. Diolchwyd i'r staff allweddol a oedd wedi gweithio mor galed i ddod â'r prosiect hollbwysig yma i'r cam allweddol hwn.
Roedd rhai meysydd i ganolbwyntio arnynt yn cynnwys gwelliannau yn y defnydd o ddata a'r gofyniad i sicrhau lefelau uwch o seibrddiogelwch. Roedd y Weithrediaeth yn hapus i ddarparu unrhyw fanylion ychwanegol am agweddau ar y Cynllun Busnes i aelodau'r Bwrdd ar unrhyw adeg. Gofynnwyd cwestiynau hefyd mewn perthynas â phrosiect CGChC – wrth gwrs bydd canlyniad yr etholiadau ym mis Mai yn arwyddocaol ond mae is-grŵp wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.
CADARNHAWYD SICRWYDD GAN Y BWRDD
5.2 Adroddiad Cynnydd a Dysgu Partneriaid SW(25)47
Papur ar gyfer Sicrwydd a Thrafodaeth. Cyflwynodd JN yr adroddiad cryno chwarterol yn seiliedig ar drafodaethau a diweddariadau gan tua 50 o bartneriaid sy’n cael eu cyllido. Roedd y meysydd a amlygwyd yn cynnwys y gwaith gan bartneriaid ym maes anabledd a chynhwysiant gyda mentrau fel pencampwriaethau cadair olwyn cyntaf Sboncen Cymru, ynghyd â rhaglenni chwaraeon mwy diogel tebyg i fenter "Perchnogi'r Nos" Athletau Cymru. Nododd y Bwrdd yr her gyffredin i bartneriaid o ran gwirfoddoli a thrafododd atebion traws-sector posibl a chyfleoedd i rannu data.
CADARNHAWYD SICRWYDD GAN Y BWRDD
5.3 Cyflwyniad: Cymorth Partneriaid Chwaraeon Cymru – Ffocws ar yr Athrofa
Traddodwyd y cyflwyniad i'r Bwrdd gan DF (Pennaeth Gwasanaethau AthrofaÂ’r System Chwaraeon).
6. Cyllid, Risg a Llywodraethu
6.1 Adroddiad Cyllid SW(25)48
Papur er gwybodaeth. Nodwyd sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru am y saith mis yn dod i ben ar 31 Hydref 2025.
6.2 Cynllun Ariannol Tymor Canolig SW(25)49
Papur ar gyfer penderfyniad. Darparodd EW y cyd-destun mai'r prif amcan oedd rhoi trosolwg i'r Bwrdd o senarios ariannol posibl dros gyfnod o dair blynedd a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer Polisi Cronfeydd Wrth Gefn arfaethedig y Loteri Genedlaethol.
Mae'r papur yn gosod y cefndir ar gyfer y broses cynllunio cyllideb. Mae'r manylion yn yr adroddiad a'r atodiad ar ddyddiad y paratoi a gallent newid yn dibynnu ar benderfyniadau'r Llywodraeth ac incwm y Loteri. Mae rhai rhagdybiaethau mewnol ar eitemau fel dyfarniad cyflog, chwyddiant ac ati. Nid yw'r senarios a gyflwynir yn dangos unrhyw bryderon sylweddol ond maent yn darparu'r sail ar gyfer trafodaeth a meddwl.
CYMERADWYODD Y BWRDD Y PAPUR
7. Adroddiadau Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd
7.1 Cyfansoddiad Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd SW(25)50
Papur er gwybodaeth.
CAM GWEITHREDU: Cyfansoddiad grwpiau'r Bwrdd – unrhyw ymholiadau i'w trafod gyda'r Cadeirydd
7.2 Crynodeb oÂ’r Is-grwpiau - SW(25)51
Papur gwybodaeth a oedd yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau'r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd.
Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd yr Is Gadeirydd i'r Bwrdd gadw noson 9 Gorffennaf 2026 yn rhydd, os yn bosibl, er mwyn ceisio trefnu cyfarfod oÂ’r Bwrdd ar 10 Gorffennaf yn Birmingham i gyd-fynd ag Uwchgynhadledd Fyd-eang y Gweithgor Rhyngwladol (IWG) ar ferched mewn chwaraeon.
Gan nad oedd unrhyw fater pellach iÂ’w drafod, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu. Daeth y cyfarfod i ben am 12:15.
8. Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf: 20 Chwefror 2026, 15 Mai 2026, 9-10 Gorffennaf 2026 (Birmingham i'w gadarnhau), 18 Medi 2026, 20 Tachwedd 2026.
Cymeradwywyd y cofnodion hyn gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2026.