Main Content CTA Title

Pwll Cenedlaethol Cymru

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Pwll Cenedlaethol Cymru

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe yn gartref i bwll cystadlu 50m wyth lôn o safon ryngwladol a phwll cynhesu 25m.

Gyda’r 1200 o seddau i wylwyr, cyfleusterau newid a chyfleusterau cryfder a siapio, mae’n gartref i Ganolfan Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru – canolfan i nofio elitaidd a pherfformiad yng Nghymru. 

Mae gan y cyfleuster cwbl fodern drawst sy’n gallu mynd o dan y dŵr yn llwyr fel bod posib rhannu’r pwll mwyaf yn ddau bwll 25m. Ac mae’r llawr symudol yn caniatáu ar gyfer dyfnderoedd ac onglau llawr amrywiol.

Agorwyd y ganolfan nodedig yn 2003 a’i gwneud yn bosib ar ôl i Chwaraeon Cymru ddyfarnu i’r prosiect ei grant unigol mwyaf erioed gan y Loteri Genedlaethol, sef mwy nag £8m. Cyfrannodd Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe gyllid tuag at y prosiect hefyd.

Wedi’i adeiladu ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, mae ar agor i’r cyhoedd hefyd.

 

Gwasanaethau Perfformiad Uchel

Gall nofwyr sydd wedi’u dewis fel rhan o raglenni elitaidd neu ddatblygiad elitaidd Nofio Cymru, neu fel rhan o raglenni Podiwm neu Botensial Podiwm Nofio Prydain, ddefnyddio’r gwasanaethau cefnogi. Hefyd gall myfyrwyr y brifysgol ddefnyddio’r gwasanaethau drwy gyfrwng y rhaglen ysgoloriaeth neu’r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwr Talentog.

Pwy sy’n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe, yn bwerdy ennill medalau ac mae wedi bod yn stabl hyfforddi ar gyfer enwau mwyaf Nofio Prydain, gan gynnwys enillwyr medalau Olympaidd Dwbl, Jazz Carlin a David Davies, a’r arwyr Paralympaidd, David Roberts ac Ellie Simmonds.

Ar hyn o bryd, mae unigolion fel Alys Thomas, Daniel Jervis a Calum Jervis – sydd â llu o fedalau Gemau’r Gymanwlad rhyngddynt – yn hyfforddi yn Abertawe.

Rhagor o Wybodaeth

Ewch i: https://www.walesnationalpoolswansea.co.uk/

cyswllt

Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe,
Lon Sgeti,
Abertawe
SA2 8QG

01792 513513

Newyddion Diweddaraf

£2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

Mae'r Grant Arbed Ynni yn helpu clybiau i dorri costau ac ailfuddsoddi arbedion yn ôl mewn chwaraeon…

Darllen Mwy

Plant sydd ag anghenion ychwanegol yn mwynhau cyffro sgïo, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i gyllid drwy Chwaraeon Cymru, mae Ice Cool Kids wedi gallu adnewyddu ei offer oedd wedi mynd…

Darllen Mwy

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru gael cyllid i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn drwy Le…

Darllen Mwy