Main Content CTA Title

Mentoriaid ar gael i helpu partneriaid i ddod yn fwy cynhwysol

  1. Hafan
  2. ET Mawrth 2024
  3. Mentoriaid ar gael i helpu partneriaid i ddod yn fwy cynhwysol

Mae mentoriaid ar gael nawr i helpu i gefnogi sefydliadau partner Chwaraeon Cymru i ddod yn fwy cynhwysol wrth iddyn nhw ddilyn y ‘Fframwaith Symud at Gynhwysiant’ newydd.

Wedi’i lansio y llynedd yn dilyn adolygiad o’r hen ‘Safon Cydraddoldeb – Fframwaith ar gyfer Chwaraeon’, mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant wedi cael ei ddatblygu a’i fabwysiadu gan bob un o bedwar Cyngor Chwaraeon y Gwledydd Cartref ac UK Sport. 

Man cychwyn unrhyw sefydliad sydd eisiau datblygu arferion mwy cynhwysol yw iddynt gwblhau adnodd diagnostig hunanadlewyrchol, sydd i’w weld ar wefan Symud at Gynhwysiant.

A woman exercising outdoors

 

Drwy ymgymryd â’r broses hunanadlewyrchu, gall sefydliadau nodi bylchau yn eu harferion a meysydd i’w gwella ar draws pum maes allweddol: diwylliant, arweinyddiaeth, perthnasoedd, profiad a chyfathrebu.

Wedyn byddant yn gallu creu Cynllun Gwella Parhaus a chael eu cefnogi i ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â’r meysydd blaenoriaeth i’w datblygu.

Ac mae'r pecyn cefnogi AM DDIM sydd ar gael i helpu partneriaid gyda'u gwelliant parhaus yn cynnwys mentoriaid bellach. 

Dywedodd Clare Skidmore, Swyddog Datblygu Llywodraethiant yn Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni’n annog ein holl bartneriaid ni i ymgysylltu â’r fframwaith newydd i sbarduno newid ystyrlon yn y sector chwaraeon yng Nghymru. Rydyn ni’n cydnabod bod pob sefydliad yn wahanol, felly bydd eich man cychwyn chi ar hyd eich ‘siwrnai gynhwysiant’ yn amrywio. 

“Felly, yr ymarfer hunanadlewyrchu ydi’r cam cyntaf pwysig i’w gymryd gan y bydd yn rhoi llawer mwy o eglurder i chi ynghylch pa feysydd y mae angen i chi ganolbwyntio arnyn nhw. Ni all un sefydliad fod yn bopeth i bawb. Ond gyda’n gilydd fe allwn ni i gyd gymryd camau i greu sector chwaraeon mwy cynhwysol. 

“Rydyn ni’n gyffrous ein bod ni wedi paru nifer o bartneriaid yn ddiweddar gyda mentoriaid sy’n arbenigwyr mewn meysydd penodol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mewn rhai achosion, mae'r mentoriaid yn darparu cefnogaeth un i un tra bo partneriaid eraill yn cael eu cyngor arbenigol drwy fentora grŵp. 

“Rydyn ni ar hyn o bryd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan bartneriaid a fyddai’n awyddus i gael cefnogaeth fentora sy’n debygol o ddechrau ddiwedd yr haf.” 

I gael gwybod mwy am y Fframwaith Symud at Gynhwysiant, ac i fynegi eich diddordeb mewn cefnogaeth mentora, e-bostiwch clare.skidmore@sport.wales

Trevor Smith

CWRDD AG UN O’N MENTORIAID NI

Mae Trevor Smith yn un o'r mentoriaid sydd ar gael i bartneriaid. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl ganddo ef a’n mentoriaid eraill ni … 

Rydw i wedi gweithio ym maes datblygu chwaraeon, rheoli gwasanaethau hamdden, datblygu addysg gorfforol a hybu gweithgarwch corfforol ac yn gysylltiedig â nhw ers bron i 40 mlynedd.

Y peth rydw i’n edrych ymlaen fwyaf ato am y gwaith yma ydi’r cyfle i ddod ar y siwrnai yma gyda chi, a byddaf yn datblygu ac yn gwella fy sgiliau a fy ymwybyddiaeth fy hun ar hyd y ffordd. Does neb byth yn arbenigwr llwyr mewn gwirionedd, a gall pawb ddysgu rhywbeth gan bobl eraill, felly rydw i’n credu, drwy ofyn cwestiynau da i'n gilydd ac archwilio materion ar y cyd, y gallwn ni fynd o dan groen y pwnc a deall ei gymhlethdodau. Fy null i o weithio bob amser fydd cefnogi’r broses heb farn a heb ragfarn wrth i ni weithio gyda’n gilydd i nodi mannau problemus a chwilio am atebion posibl.

Beth bynnag ydi’r amgylchiadau, rydw i yno fel cydweithiwr a ffrind beirniadol, yn dadansoddi problem heriol efallai, yn eich cyfeirio chi at brofiadau pobl eraill, yn eich cysylltu chi â sefydliadau sy’n wynebu heriau tebyg ac yn meddwl am ddulliau gweithredu posibl. 

Y peth gwych am y fframwaith yma ydi ei hyblygrwydd. Mae ar gael ar sail un i un ar gyfer mewnbwn dau ddiwrnod cychwynnol gan fentor, sy’n cynyddu i dridiau os ydych chi’n gweithio mewn grŵp, a gellir cyflwyno’r dyddiau yma dros unrhyw amserlenni a does dim rhaid iddyn nhw fod yn olynol nac yn ddwys, mae angen iddo weithio i chi. 

Rydw i wedi fy nghyffroi gan y fframwaith Symud at Gynhwysiant, mae’n cynnig mecanwaith cefnogi gwirioneddol bwrpasol i ni asesu ein dulliau gweithredu a’n hagweddau at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ffordd sydd ddim yn rhy ymwthiol, a chreu ein hymyriadau a’n gweithredoedd ni ein hunain sy’n gyraeddadwy ac yn berthnasol. Nid ymarfer “ticio bocsys” ydi hwn, ond proses sy’n esblygu gan ddilyn ei llwybr ei hun, yn ei hamser ei hun ac ar ei graddfa ei hun. Yn y ffordd yma, gall fod yn effeithiol a gwerthfawr i sefydliadau bach a mawr. Y cyfan sydd arnom ni ei angen ydi'r ewyllys i wneud iddo ddigwydd.