Main Content CTA Title

Ffordd wahanol o gyllido chwaraeon ar lawr gwlad

  1. Hafan
  2. Extra Time March 2022
  3. Ffordd wahanol o gyllido chwaraeon ar lawr gwlad

Yn dilyn cyfnod prawf o chwe mis, mae Chwaraeon Cymru yn ymestyn y gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ sy’n cefnogi ymdrechion codi arian clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau i gyfleusterau oddi ar y cae.

Mae’n gronfa wahanol iawn i unrhyw beth sydd wedi’i gynnig yn flaenorol yng Nghymru gan ei bod yn ofynnol i glybiau godi o leiaf hanner yr arian eu hunain drwy gyllido torfol.

Nid yn unig y mae clybiau wedi cofleidio’r cyfle i ymgysylltu mwy â’u cymunedau lleol, ond hefyd maent wedi meddwl am rai syniadau arloesol iawn – mawr a bach – i wella’r profiad cyffredinol o chwaraeon ar lawr gwlad.

Fel yr eglura Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus: “Mae’r clybiau wedi creu rhai ymgyrchoedd cyllido torfol hynod apelgar sydd wedi denu cefnogaeth gan gannoedd o unigolion yn eu cymunedau lleol. Mae sut mae clybiau wedi dod o hyd i atebion creadigol i helpu mwy o bobl yn eu cymunedau i elwa o weithgarwch corfforol wedi creu argraff fawr arnom ni.

“Does dim amheuaeth bod yr hyn rydyn ni wedi’i greu yn arloesol yn y sector chwaraeon ac mae’r clybiau hynny sydd wedi ei gofleidio wedi dangos y gall weithio. Mae’n amlygu sut mae clybiau chwaraeon yn parhau i fod yn ganolbwynt cymunedol hollbwysig, ac yn cael eu gwerthfawrogi a’u hangen gan y bobl maen nhw’n eu cefnogi, ac sydd, yn eu tro, wedi eu cefnogi hwy.”

Ychwanegodd Owen: “Mae cefnogaeth partneriaid i wneud clybiau’n ymwybodol o’r cyfle cyllido yma wedi cael ei werthfawrogi’n fawr. A fyddech chi cystal â pharhau i ledaenu’r gair ymhlith eich rhwydweithiau os gwelwch yn dda, a helpu i egluro’r broses cyllido torfol i glybiau sydd â diddordeb.”

GWYLIO: OWEN HATHWAY YN ESBONIO MWY AM GYLLIDO TORFOL A 'LLE I CHWARAEON'


Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau codi arian creadigol sydd wedi cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru ers i’r cynllun peilot ddechrau yn hydref 2021... 

Ateb technolegol i chwaraeon dŵr diogel

Diolch i ‘Lle i Chwaraeon’, mae alga gwyrddlas gwenwynig yn cael ei dynnu o lecyn prydferth yn Sir y Fflint i wneud llyn yn addas drwy gydol y flwyddyn ar gyfer nofio, caiacio a deifio. Mae Park In The Past, ger pentref gwledig Caergwrle, yn lleoliad poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr, ond yn aml mae’n rhaid i’r llyn gau am ddyddiau pan mae’r alga’n blodeuo. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, aeth grŵp cymunedol lleol ati i godi arian ar gyfer rhaglen trin dŵr gynaliadwy sy’n cynnwys gosod dau fwi wltrasonig yn eu lle sy’n allyrru tonfeddi uwchsain. Nid yw’r tonfeddi sain yn gwneud unrhyw niwed i'r bywyd gwyllt yn y llyn, ond byddant yn cael gwared ar fwy na 90% o’r alga peryglus. Ym mis Mawrth, llwyddodd y grŵp i godi cyfanswm o £13,560 diolch i 157 o gefnogwyr a £4,050 gan Chwaraeon Cymru.

Llinellau pŵer yn amharu ar chwaraeon

Mae llinellau pŵer uwchben yn difetha ardal fawr o faes chwaraeon Oaklands yng Nghasnewydd, felly dechreuodd Clwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir brosiect cyllido torfol i godi digon o arian i dalu i Western Power am osod y ceblau o dan y ddaear fel bod posib chwarae mwy o chwaraeon yno. Helpodd grant o £10,500 gan Chwaraeon Cymru y clwb i gyrraedd ei darged codi arian cyffredinol o £35,000.

Gwelliannau hygyrchedd

Roedd aelodau Lawnt Fowlio Coed Gwilym yn Abertawe wrth eu bodd yn cyrraedd eu targed codi arian o £24,266 ym mis Ionawr er mwyn iddynt allu adnewyddu’r gofod o amgylch eu lawnt fowlio i’w gwneud yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl anabl, rhannol ddall a henoed. Dros 67 diwrnod yn unig, cefnogwyd eu hymdrechion cyllido torfol gan 132 o roddion a £9,600 o gyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru.

Chwaraeon wrth galon y gymuned

Dros ddeufis yn unig, cyrhaeddodd Canolfan Gymnasteg a Chodi Hwyl Galaxy y Gwy yn Caldicot eu targed o £10,000 tuag at greu caffi cymunedol newydd – The Coffee Beam – drwy godi £6,577 gan 179 o gefnogwyr drwy gyllido torfol gyda Chwaraeon Cymru yn ychwanegu £4,000 mewn cyllid cyfatebol.

Diogelwch tân

Llwyddodd Clwb Hwylio’r Mwmbwls i dderbyn cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru ar gyfer ei brosiect cyllido torfol i wneud gwelliannau diogelwch tân brys. Gyda hwb o £1,650 gan Chwaraeon Cymru, llwyddodd y clwb i gyrraedd ei darged o £5,715 i dalu am ddarpariaethau diogelwch tân a oedd yn cynnwys drysau tân newydd a chaead gwrth-dân i’r oriel.

Cwt byrbrydau’n cefnogi adrannau plant ac iau

Cynhaliodd Clwb Rygbi Abercynon ymgyrch cyllido torfol er mwyn gallu gwneud gwelliannau i'r cwt sy'n gweini byrbrydau a diodydd ar ddyddiau gemau. Mae’r holl elw o’r cwt yn mynd yn syth i adran plant ac iau’r clwb, gan helpu i dalu am offer, cit a chostau eraill. Diolch i £600 gan Chwaraeon Cymru a rhoddion gan y gymuned leol, cyrhaeddodd y clwb eu targed o £2,445 i dalu am atgyweiriadau hanfodol i’r cwt ac i wneud gwelliannau i’r ardal paratoi bwyd.

Poster Crowdfunder gyda merch yn beicio

Gall clybiau gofrestru ar gyfer gweithdy ar-lein

Mae gweminar ar-lein 30 munud yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 10 Mai rhwng 12pm a 12:30pm i helpu clybiau i ddysgu mwy am Gyllido Torfol a sut i gael mynediad at gyllid Chwaraeon Cymru. Gellir cofrestru ar gyfer y weminar yma.