Mae cydweithwyr ar draws y sector chwaraeon yng Nghymru yn cael eu gwahodd i ymuno â gweithgor sy’n cael ei ffurfio i helpu i siapio degawd nesaf rhaglen y Llysgenhadon Ifanc.
Bydd aelodau'r gweithgor yn gyfrifol am sicrhau bod y rhaglen yn parhau i esblygu ac yn grymuso pobl ifanc drwy chwaraeon. Bydd y grŵp yn ystyried argymhellion sydd wedi cael eu gwneud yn dilyn adolygiad diweddar a bydd yn pennu blaenoriaethau newydd ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Daeth y syniad am raglen y Llysgenhadon Ifanc gan yr Arglwydd Seb Coe yn 2006 fel gwaddol y cais llwyddiannus am gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Fe’i cyflwynwyd gyntaf yng Nghymru yn 2010, gyda chyllid a chefnogaeth yn cael eu darparu gan Chwaraeon Cymru mewn cydweithrediad â’r Youth Sport Trust.
Mae mwy na 25,000 o fodelau rôl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, gan feithrin sgiliau arwain gwerthfawr, tra bo miloedd yn rhagor wedi cael eu hysbrydoli ganddynt i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ddechrau gwirfoddoli.
Y gaeaf diwethaf, penododd Chwaraeon Cymru yr ymgynghorwyr ngatahi sport i gynnal yr adolygiad allanol cyntaf o'r rhaglen. Mae canfyddiadau'r adolygiad, sydd i'w gweld yma, yn nodi llwyddiannau a chryfderau niferus, fel ymrwymiad a chysondeb hirdymor y rhaglen, y ffordd y mae’n rhoi llais i bobl ifanc, a hefyd yn canmol y llwybr cynnydd sy’n gweld Llysgenhadon Ifanc yn cael cyfleoedd datblygu ychwanegol wrth iddynt fynd yn hŷn.
Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at rai heriau y bydd angen i aelodau'r gweithgor eu hystyried. Er enghraifft, er bod angen gwneud ymdrechion pellach i recriwtio pobl ifanc i'r rhaglen yn gyffredinol, dylid canolbwyntio'n benodol ar gynyddu cynrychiolaeth pobl ifanc o gefndiroedd mwy amrywiol. Hefyd mae angen i raglen y Llysgenhadon Ifanc gynyddu ei dylanwad strategol a’i phroffil ar draws Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner.
Er bod rhai achosion wedi bod o awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd i rannu dysgu, arfer da ac adnoddau, dywedwyd hefyd bod hwn yn dod yn ddigwyddiad prin ac y dylid edrych ar fwy o gyfleoedd i ddod â phartneriaid at ei gilydd. Y gobaith yw y bydd ffurfio Partneriaethau Chwaraeon yn chwarae rhan allweddol yn hyn.