19. Absenoldeb Arbennig
Adolygiad diwethaf: Gorffennaf 2024
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2027
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu arferion gwaith a pholisïau Adnoddau Dynol sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfle cyfartal mewn cyflogaeth.
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod y bydd achlysuron pryd bydd angen i chi gymryd amser o’r gwaith am resymau nad ydynt o reidrwydd yn dod o dan ddarpariaethau gwyliau blynyddol neu absenoldeb salwch arferol. Mewn llawer o sefyllfaoedd gellir rheoli hyn yn hyblyg ac yn anffurfiol rhyngoch chi a'ch rheolwr llinell.
Mae'r polisi hwn yn nodi ystod o opsiynau absenoldeb arbennig, a all fod gyda thâl neu heb dâl, i'ch helpu chi i gadw cydbwysedd rhwng ymrwymiadau personol, neu o dan amgylchiadau a allai fod y tu hwnt i'ch rheolaeth. Mae'r polisi hwn wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg i'ch amgylchiadau, felly yn y rhan fwyaf o achosion nid oes hyd amser penodol a ystyrir yn addas, fodd bynnag efallai y bydd terfyn ar faint o amser sy'n cael ei dalu'n llawn. Mae rheolwyr llinell a’r adran Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi'n cael ei weithredu’n deg ac yn gyfartal.
19.1. Gweithdrefn
I wneud cais am absenoldeb arbennig, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am absenoldeb arbennig, sydd ar gael o'r fewnrwyd. Bydd eich rheolwr llinell yn ystyried y cais, gyda chyngor gan y tîm Adnoddau Dynol (lle bo hynny'n berthnasol). Wedyn dylid anfon y ffurflen at y tîm Adnoddau Dynol i'w chymeradwyo. Bydd pob cais am absenoldeb arbennig yn cael ei ystyried gan edrych ar amgylchiadau unigol a thegwch.
19.2. Cyfrifoldebau wrth ofyn am absenoldeb arbennig
Cyfrifoldebau cyflogeion
- Ystyriwch a yw gwyliau blynyddol a / neu oriau hyblyg yn fwy priodol o dan yr amgylchiadau (ac eithrio gwasanaeth rheithgor).
- Byddwch yn ymwybodol na fydd ceisiadau am amser o’r gwaith gyda thâl neu heb dâl yn cael eu caniatáu bob amser.
Cyfrifoldebau rheolwyr
- Byddwch yn ymwybodol o hawliau statudol i amser o’r gwaith - er enghraifft, i gymryd rhan mewn dyletswyddau cyhoeddus neu ddelio ag argyfyngau sy'n cynnwys dibynyddion.
- Ystyriwch bob cais yn deg ac yn gyfartal yn erbyn anghenion y busnes a'r hyn sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau
- Ystyriwch a yw unrhyw fath arall o absenoldeb yn fwy priodol (gwyliau blynyddol, oriau hyblyg, TOIL neu salwch)
Cyfrifoldebau Adnoddau Dynol
- Gwneud yn siŵr bod y polisi hwn yn cael ei gynnal, ei fod yn gyfredol a’i fod yn cydymffurfio â darpariaethau statudol.
- Goruchwylio ceisiadau am absenoldeb arbennig gan sicrhau tegwch a gweithredu’n gyfartal.
19.3. Absenoldeb Argyfwng Domestig
Mae argyfwng domestig yn cynnwys amser o’r gwaith ar gyfer sefyllfaoedd a fydd yn annisgwyl neu nad oedd modd eu rhagweld. Gall y dehongliad o 'domestig' fod yn hyblyg. Er enghraifft, gellir caniatáu'r math hwn o amser o’r gwaith os ydych wedi bod yn ddioddefwr trosedd, neu dân neu lifogydd yn eich cartref.
Byddwch yn cael amser o’r gwaith i roi sylw i'r argyfwng. Byddwch yn cael eich talu am hyd at 1 diwrnod gwaith y flwyddyn ar gyfer absenoldeb argyfwng domestig. Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
19.4. Absenoldeb argyfwng ar gyfer dibynyddion
Mae gennych hawl statudol i gymryd cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith i ddelio ag argyfwng annisgwyl sy'n cynnwys dibynnydd.
Dibynyddion yw gwŷr neu wragedd, partneriaid, plant, rhieni, ffrindiau neu aelodau o'r teulu sy'n dibynnu arnoch chi am ofal.
Gallai absenoldeb argyfwng ar gyfer dibynnydd fod yn un o’r rhain:
- Salwch dibynnydd a'r angen am wneud trefniadau gofal
- Tarfu neu ymyrraeth annisgwyl â threfniadau gofal
- Digwyddiad yn ystod oriau ysgol plentyn e.e. anaf neu waharddiad
Mae gennych hawl statudol i gymryd amser o’r gwaith heb dâl i ddelio â'r argyfwng. Bydd Chwaraeon Cymru yn cynyddu hyn i roi hyd at 3 diwrnod o absenoldeb argyfwng dibynnydd gyda thâl i chi y flwyddyn (pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser).
Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
19.5. Absenoldeb Gofalwyr
Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, mae gennych hawl statudol i gymryd amser o'r gwaith. Mae absenoldeb gofalwr yn berthnasol i rywun sydd angen darparu neu drefnu gofal i ddibynnydd sydd â’r canlynol:
- Salwch neu anaf corfforol neu feddyliol sy'n golygu y disgwylir iddo fod angen gofal am fwy na 3 mis
- Anabledd (fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)
- Anghenion gofal oherwydd henaint
Mae gennych hawl statudol i gymryd amser o’r gwaith heb dâl ar gyfer absenoldeb gofalwr. Bydd Chwaraeon Cymru yn cynyddu hyn i ddarparu hyd at 5 diwrnod gyda thâl llawn ar gyfer yr absenoldeb hwn y flwyddyn (pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser). Gellir cymryd hwn mewn symiau llai neu floc llawn o 5 diwrnod, yn ôl yr angen.
Os yw eich absenoldeb gyda thâl wedi'i ddefnyddio, gellir caniatáu absenoldeb heb dâl. Os oes angen cyfnod hwy, dylech drafod hyn gyda'ch rheolwr, a fydd yn ystyried opsiynau eraill fel gwyliau blynyddol neu weithio hyblyg.
19.6. Absenoldeb Tosturiol
Efallai y byddwch yn wynebu amgylchiadau personol anodd os bydd perthynas agos yn cael salwch difrifol neu’n marw. Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod y bydd cyflogeion angen cymryd amser o’r gwaith efallai o dan yr amgylchiadau hyn.
Gellir caniatáu amser o’r gwaith gyda thâl mewn achos o salwch difrifol neu farwolaeth dibynnydd, perthynas agos neu berson rydych mewn perthynas agos ag ef. Er enghraifft, gŵr, gwraig, plentyn, partner sifil, partner, rhiant, brawd neu chwaer, taid neu nain, rhiant-yng-nghyfraith neu rywun sydd wedi gweithredu fel rhiant.
Bydd faint o amser o’r gwaith gyda thâl a gewch ar gyfer salwch difrifol neu brofedigaeth deuluol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch perthynas â'r sawl sydd wedi marw. Gwneir penderfyniadau fesul achos.
Mae gan rieni sy'n dioddef marwolaeth plentyn (o dan 18 oed neu'n farw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd) hawl statudol i 2 wythnos o leiaf o absenoldeb arbennig gyda thâl. Nid yw'r amser hwn o’r gwaith wedi'i gyfyngu i 2 wythnos a bydd yn cael ei ymestyn fesul achos.
19.7. Maethu
Efallai eich bod yn ofalwr maeth neu'n ofalwr teuluol cymeradwy ac angen hyblygrwydd i ddiwallu anghenion eich plentyn neu berson ifanc maeth. Gellir rhoi amser o’r gwaith gyda thâl os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gwneud cais i ddod yn ofalwr maeth
- rydych yn ofalwr maeth cymeradwy ac mae gennych blentyn mewn lleoliad (neu wedi cael plentyn mewn lleoliad am 75% o'r deuddeg mis blaenorol)
- rydych yn ofalwr teuluol cymeradwy
Byddwch yn cael amser gyda thâl dros gyfnod o 12 mis, pro-rata os ydych yn gyflogai rhan amser, fel a ganlyn:
- asesiad a hyfforddiant cyn cael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth - hyd at dridiau
- presenoldeb mewn panel ar gyfer cymeradwyo - un diwrnod
- cyfarfodydd adolygu plant, cyfarfod adolygu gofalwyr maeth blynyddol, hyfforddiant - hyd at bum niwrnod.
Mae ein polisïau gweithio hyblyg, absenoldeb rhiant, ac amser o’r gwaith mewn argyfwng ar gyfer dibynyddion i gyd yn berthnasol i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf uchod. Os oes angen amser ychwanegol o’r gwaith, dylech ystyried y polisïau hyn neu wyliau blynyddol.
19.8. Mynychu Llys neu Dribiwnlys
Os cewch eich galw i wasanaethu ar reithgor, dod yn aelod o dribiwnlys, neu i ymddangos mewn llys a / neu dribiwnlys fel tyst, byddwch yn cael absenoldeb arbennig gyda thâl am yr holl gyfnod y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswydd o'r fath.
Os byddwch yn derbyn Gwŷs i Wasanaethu ar Reithgor, dylech hysbysu eich rheolwr llinell cyn gynted â phosibl a darparu copi o'r llythyr cadarnhau gwasanaeth rheithgor i'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.
Ar unrhyw ddyddiau pan nad oes angen i chi fod yn y llys, disgwylir i chi fynychu'r gwaith neu weithio o gartref lle bo modd.
19.9. Absenoldeb Astudio
Os ydych chi eisiau ymgymryd â chymhwyster neu ddatblygiad achrededig arall a fyddai o fudd i chi yn eich gwaith, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl er mwyn mynychu tiwtorials a sefyll arholiadau.
Am ragor o fanylion, edrychwch ar y polisi Astudio Hirdymor yn y Llawlyfr Staff.
19.10. Cymryd Rhan mewn Digwyddiadau Chwaraeon
Bydd Chwaraeon Cymru yn caniatáu absenoldeb arbennig gyda thâl i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol aml-chwaraeon, o safon byd, gan gynnwys y Gemau Olympaidd, Cystadleuaeth o Safon Byd, Gemau Ewropeaidd a Gemau'r Gymanwlad. I gael eich ystyried ar gyfer absenoldeb arbennig, bydd rhaid i chi gael eich dewis ar lefel ryngwladol lawn (nid grŵp oedran). Bydd y cyfnod o absenoldeb arbennig yn cynnwys teithio i'r digwyddiad a chymryd rhan ynddo.
Os ydych chi wedi cael eich dewis i weithredu fel swyddog ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol aml-chwaraeon, o safon byd, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl ar yr amod bod y canlynol yn berthnasol:
- Bod capasiti i gwmpasu ymrwymiadau gwasanaeth presennol yn ystod y digwyddiad ei hun ac yn ystod unrhyw amser o’r gwaith wedi hynny yn ei le.
- Mae mynychu'n cynrychioli cyfle datblygu y cytunwyd arno.
- Cwblhau gwaith gweinyddu angenrheidiol y Corff Rheoli neu'r gymdeithas Olympaidd / Paralympaidd.
Gellir rhoi absenoldeb arbennig hyd at y cyfnod llawn, ond rydym yn cadw'r hawl i ddidynnu o'ch cyflog unrhyw daliadau a wneir i chi gan hyrwyddwyr neu gyrff rheoli.
Os ydych chi wedi cael eich dewis i weithredu fel swyddog i gefnogi digwyddiad chwaraeon nad yw'n cynrychioli cyfle datblygu y cytunwyd arno, efallai y cewch absenoldeb arbennig gyda thâl hyd at hanner yr amser sydd ei angen (gyda gwyliau blynyddol neu absenoldeb heb dâl yn cael ei gymryd am y gweddill).
19.11. Presenoldeb yn ystod tywydd garw
Rydym yn gwerthfawrogi na fyddwch yn gallu cyrraedd eich gweithle efallai mewn tywydd garw. O dan amgylchiadau o'r fath, dylech weithio o gartref os yw hyn yn bosibl. Os na allwch weithio o gartref neu deithio i'ch gweithle, gellir rhoi absenoldeb arbennig gyda thâl ar gyfer y cyfnod pan nad yw teithio'n bosibl. Mae disgwyl i chi ddangos sut cawsoch eich atal rhag mynychu eich gweithle.
19.12. Tarfu mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus
Os bydd tarfu mawr annisgwyl ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n eich atal rhag gallu gweithio ac nad yw'n bosibl i chi weithio o gartref, a bod pob dull trafnidiaeth amgen fel beicio, defnydd o gar cronfa neu dacsi wedi'i ystyried, efallai y cewch ganiatâd i absenoldeb arbennig gyda thâl. Os yw'r tarfu mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hysbys ymlaen llaw, efallai y byddai'n fwy priodol defnyddio gwyliau blynyddol, os nad yw hyn yn bosibl, bydd absenoldeb arbennig heb dâl yn cael ei ddyfarnu.
19.13. Penodi i Gyrff Cyhoeddus
Mae gennych hawl statudol i gael cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith heb dâl i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus e.e. llywodraethwr ysgol, ynad neu aelod o fwrdd.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi unigolion sydd eisiau cyfrannu at y gymuned ehangach. Felly, fel rheol caniateir absenoldeb arbennig gyda thâl i'ch galluogi i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus. Mae Chwaraeon Cymru yn cadw'r hawl i ddidynnu o'ch cyflog unrhyw daliadau a wneir i chi gan gyrff cyhoeddus i gyflawni'r dyletswyddau hyn.
Dylech hysbysu eich rheolwr llinell pan fyddwch chi'n ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus a rhoi cymaint o rybudd â phosibl. Mae'r amser sy'n 'rhesymol' yn dibynnu ar yr hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni'r rôl, fodd bynnag, ni fyddai hyn fel rheol yn fwy na 5 diwrnod y flwyddyn.
19.14. Milwyr Wrth Gefn
Byddwn yn eich cefnogi os ydych chi'n aelod o'r Lluoedd Wrth Gefn, i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae Milwyr Wrth Gefn yn ei wneud i amddiffyn y genedl a'r manteision personol a chysylltiedig â swydd sy'n deillio o'r sgiliau ychwanegol sy’n cael eu meithrin.
Byddwn yn darparu absenoldeb arbennig gyda thâl i'ch cynorthwyo i ymgymryd â'ch hyfforddiant Lluoedd Wrth Gefn. Os oes arnoch angen amser ychwanegol o’r gwaith, bydd Chwaraeon Cymru, lle bynnag y bo modd, yn hyblyg wrth ganiatáu gwyliau blynyddol neu absenoldeb arbennig heb dâl. Mae'n ofynnol i chi roi cymaint o rybudd â phosibl o'r holl ofynion absenoldeb at ddibenion hyfforddi.
Caiff milwyr wrth gefn eu galw i wasanaeth milwrol llawn amser i gefnogi gweithrediadau milwrol. Nid oes tâl am absenoldeb arbennig tra byddwch wedi eich galw i wasanaeth milwrol. Ni fydd gennych hawl i wyliau blynyddol na gwyliau banc tra byddwch yn gwasanaethu fel milwr wrth gefn.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, dylech ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted â sy’n rhesymol bosibl.
19.15. Gwirfoddoli
Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod yr ymrwymiad sydd ei angen i wirfoddoli a gwasanaethu'r gymuned, a hefyd datblygu sgiliau a rhwydweithiau newydd gwerthfawr. I gydnabod yr ymrwymiad hwn ac i annog cyfranogiad cymunedol gweithredol, bydd Chwaraeon Cymru yn darparu amser o’r gwaith gyda thâl. Bydd hyd yr amser yn amrywio yn dibynnu ar y gwaith dan sylw ond rhagwelir na fydd yn fwy na 5 diwrnod y flwyddyn.
19.16. Llawfeddygaeth / gweithdrefnau dewisol
Bydd amser o’r gwaith ar gyfer llawdriniaeth, triniaeth ac adferiad sy'n ymwneud â chyflwr meddygol neu seicolegol ac a gefnogir gan dystysgrif feddygol yn cael ei drin fel absenoldeb salwch yn yr un modd ag unrhyw apwyntiad meddygol arall.
Mewn achosion o lawdriniaeth ddewisol, dylid cymryd gwyliau blynyddol i ddechrau. O dan amgylchiadau eithriadol gellir caniatáu absenoldeb heb dâl, yn amodol ar anghenion gweithredol. Llawfeddygaeth ddewisol yw llawdriniaeth / gweithdrefnau nad ydynt yn cael eu hystyried yn angenrheidiol yn feddygol, gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig. Dylai ceisiadau am amser o’r gwaith ar gyfer llawdriniaeth, triniaeth ac adferiad ddilyn y broses arferol ar gyfer gofyn am wyliau blynyddol. Os bydd triniaeth o'r fath yn arwain at eich gwneud yn anaddas i weithio, e.e. oherwydd haint neu gymhlethdodau eraill, byddai'r weithdrefn salwch yn berthnasol.
19.17. Triniaeth Ffrwythlondeb
Os ydych chi'n dilyn cwrs o driniaeth ffrwythlondeb ac wedi bod yn gyflogedig gan Chwaraeon Cymru am fwy nag un flwyddyn yn barhaus, byddwch yn gymwys i wneud cais am absenoldeb arbennig ar gyfer triniaeth ffrwythlondeb. Mae hyn yn cynnwys partneriaid o'r un rhyw a phobl sengl.
Wrth dderbyn triniaeth: Hyd at 5 diwrnod o absenoldeb gyda thâl o fewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y driniaeth angenrheidiol yn ystod cylch o driniaeth ffrwythlondeb.
Partneriaid: Hyd at 2 ddiwrnod o absenoldeb gyda thâl o fewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y driniaeth angenrheidiol ac i ddarparu cefnogaeth yn ystod cylch o driniaeth ffrwythlondeb.
Mae'r cyfnod o 12 mis yn weithredol o'r diwrnod cyntaf y cymerir absenoldeb at ddibenion triniaeth ffrwythlondeb. Os byddwch yn mynd yn sâl oherwydd, neu yn ystod, triniaeth anffrwythlondeb ac yn methu â mynychu'r gwaith, byddai'r weithdrefn absenoldeb salwch yn berthnasol.
19.18. Absenoldeb arbennig arall
Gallwch wneud cais i'ch rheolwr am absenoldeb arbennig gyda thâl neu heb dâl am resymau personol eraill sydd heb eu cynnwys yn y polisi hwn. Mae cyngor ar wneud cais am absenoldeb arbennig arall ar gael gan y tîm Adnoddau Dynol.