- Mamolaeth
- Tadolaeth
- Mabwysiadu
- Absenoldeb Rhiant a Rennir
- Absenoldeb Cymorth Mabwysiadu
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
8. Mamolaeth
Adolygiad diwethaf: Medi 2025
Adolygiad nesaf: Medi 2028
Mae'r polisi hwn yn nodi gweithdrefn Chwaraeon Cymru ar gyfer absenoldeb mamolaeth a thâl i gyflogeion sy’n feichiog. Yn Chwaraeon Cymru, ein nod ni yw sicrhau bod pob cyflogai’n cael cefnogaeth ac anogaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl dychwelyd i'r gwaith o absenoldeb mamolaeth.
Rydym yn defnyddio iaith gynhwysol yn y polisi hwn. Mae'r polisi hwn yn berthnasol yn gyfartal i gyflogeion benywaidd, traws neu anneuaidd.
8.1 Absenoldeb Mamolaeth
Mae gennych hawl i 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth i gyd, wedi'i rannu fel a ganlyn:
- 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth cyffredin (AMC)
- 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol (AMY) yn dechrau yn syth ar ôl yr AMC.
Gallwch ddechrau eich absenoldeb mamolaeth unrhyw bryd ar ôl dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y mae disgwyl genedigaeth eich plentyn.
Mae dau achos lle mae'r absenoldeb mamolaeth yn cael ei sbarduno'n awtomatig:
- os ydych chi'n absennol am reswm sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd ar unrhyw adeg ar ôl dechrau'r 4ydd wythnos cyn mae disgwyl i'ch plentyn gael ei eni, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod cyntaf ar ôl eich absenoldeb.
- os yw eich plentyn yn cael ei eni cyn i chi fwriadu dechrau eich absenoldeb mamolaeth, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i'ch plentyn gael ei eni.
Os oes angen gofal newyddenedigol ar eich babi newydd-anedig ar ôl ei eni, edrychwch ar y polisi newyddenedigol.
8.2 Cyflog yn ystod absenoldeb mamolaeth
Mae gennych chi hawl i gyflog llawn yn ystod 26 wythnos gyntaf eich absenoldeb mamolaeth os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych chi wedi cwblhau 1 flwyddyn o leiaf o wasanaeth gyda Chwaraeon Cymru erbyn y 15fed wythnos cyn y mae disgwyl i'ch babi gael ei eni
- rydych chi’n bwriadu dychwelyd i'r gwaith am dri mis o leiaf ar ddiwedd eich absenoldeb mamolaeth
Mae’r tâl mamolaeth wedi'i rannu fel a ganlyn:
- 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth cyffredin ar gyflog llawn
- Y 13 wythnos gyntaf o absenoldeb mamolaeth ychwanegol ar gyfraddau Tâl Mamolaeth Statudol (cyfraddau TMS yma)
- Y 13 wythnos olaf o absenoldeb mamolaeth ychwanegol – dim tâl
Os nad ydych yn gymwys i gael cyflog llawn yn ystod y 26 wythnos gyntaf, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn TMS neu Lwfans Mamolaeth. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y rhain yma.
8.3 Amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol
Mae gennych hawl i amser rhesymol o’r gwaith gyda thâl yn ystod oriau gwaith arferol i dderbyn gofal cynenedigol, sy'n cynnwys apwyntiadau gyda'ch meddyg teulu, clinigau ysbyty ac unrhyw apwyntiadau eraill a wneir ar gyngor meddyg, bydwraig neu ymwelydd iechyd.
Rhowch wybod i'ch rheolwr llinell ymlaen llaw am yr apwyntiadau hyn. Efallai y gofynnir i chi ddarparu eich cerdyn apwyntiad i gadarnhau manylion yr apwyntiad.
8.4 Gofynion hysbysu
Fe'ch anogir i hysbysu eich rheolwr llinell am eich beichiogrwydd cyn gynted ag yr ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. Mae hyn er mwyn galluogi Chwaraeon Cymru i fod yn ymwybodol o unrhyw faterion iechyd a diogelwch a allai godi i gyflogeion beichiog.
Ar ôl i chi dderbyn eich ffurflen MATB1 (sy’n cael ei rhoi i chi tua'r cyfnod 20 wythnos fel rheol), anfonwch hon at y tîm Adnoddau Dynol. Ar ôl ei derbyn, bydd y tîm Adnoddau Dynol yn anfon llythyr atoch yn egluro eich hawl i absenoldeb mamolaeth a 'Ffurflen Opsiynau Mamolaeth' y byddwch yn ei defnyddio i ddweud wrthym pryd y disgwylir i'ch babi gael ei eni a phryd hoffech chi i'ch absenoldeb mamolaeth ddechrau / dod i ben.
8.5 Iechyd a Diogelwch
Ar ôl cael gwybod eich bod yn feichiog, byddwn yn cynnal asesiad o'r risgiau i chi ac yn gweithredu mesurau priodol i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch.
Os yw eich swydd yn cynnwys unrhyw risg i chi neu'r plentyn heb ei eni, byddwn yn eich symud oddi wrth y risgiau hynny. Gall hyn olygu bod eich amodau gwaith yn cael eu haddsu neu y cynigir swydd arall fwy addas i chi am gyfnod eich beichiogrwydd. Os nad yw'r naill opsiwn na'r llall yn bosibl, byddwn yn eich atal o’ch gwaith dros dro ar gyflog llawn nes nad ydych mewn perygl mwyach.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ar unrhyw adeg, dylech siarad â'ch rheolwr neu'r tîm Adnoddau Dynol.
8.6 Buddion cytundebol
Pan fyddwch chi’n absennol ar Absenoldeb Mamolaeth, bydd yr holl fuddion cytundebol yn parhau.
Yn ystod eich Absenoldeb Mamolaeth, mae'n ofynnol i chi gydymffurfio â holl delerau ac amodau cyflogaeth Chwaraeon Cymru a pharhau i gadw at reolau, polisïau a gweithdrefnau Chwaraeon Cymru yn ystod eich absenoldeb.
Byddwch yn parhau i gronni hawl i wyliau blynyddol yn ystod eich cyfnod llawn o Absenoldeb Mamolaeth. Dylid cymryd y gwyliau blynyddol a gronnwyd o fewn 12 mis i chi ddychwelyd i'r gwaith.
Fel aelod pensiwn, byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn ar unrhyw absenoldeb mamolaeth gyda thâl. Bydd y cyfraniad rydych yn ei dalu’n seiliedig ar y gwir gyflog rydych chi’n ei dderbyn, ond bydd y cyfnod yn cyfrif at ddibenion pensiwn fel pe baech wedi talu cyfraniadau arferol.
Pan nad ydych yn cael unrhyw gyflog, bydd y cyfraniadau pensiwn yn dod i ben, ac ni fydd y cyfnod yn cyfrif at ddibenion pensiwn. Gallwch ddewis gwneud cyfraniadau yn ystod cyfnod o ddim cyflog ac, os ydych yn dymuno gwneud hynny, cysylltwch â'r tîm Adnoddau Dynol.
Yn ystod eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth, byddwch yn parhau i gael eich cynnwys yn unrhyw fudd-dal marwolaeth mewn gwasanaeth.
Nid yw eich parhad cyflogaeth yn cael ei dorri gan absenoldeb mamolaeth.
8.7 Marw-enedigaeth a chamesgor
Yn anffodus, os byddwch chi'n camesgor cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, ni fyddwch yn gymwys i gymryd absenoldeb mamolaeth bellach.
Mewn sefyllfa o farw-enedigaeth ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd, ni fydd eich hawl i absenoldeb mamolaeth yn cael ei heffeithio a byddwch yn gallu cymryd yr amser o’r gwaith yr un fath, a derbyn tâl, fel y cynlluniwyd. Mae absenoldeb rhiant ar ôl galar ar gael hefyd i gyflogeion sy'n dioddef marw-enedigaeth. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn y polisi absenoldeb arbennig.
Byddwn yn helpu i'ch cefnogi chi drwy'r cyfnod hwn a gall eich rheolwr drafod opsiynau gyda chi, fel amser o'r gwaith, trefniadau gweithio llai neu gwnsela pwrpasol. Rydym yn cynnig gwasanaeth Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n darparu cwnsela, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gellir dod o hyd i fanylion am hyn ar ein Mewnrwyd.
8.8 Cadw mewn cysylltiad
Byddwch chi a'ch rheolwr yn trafod ac yn cadarnhau'r lefel o gyswllt yr hoffech ei gynnal drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth. Bydd eich rheolwr yn anfon gwybodaeth berthnasol atoch yn ystod eich absenoldeb mamolaeth fel eich bod yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd yn Chwaraeon Cymru.
Cewch weithio hyd at 10 diwrnod yn ystod eich absenoldeb mamolaeth ar gyfer sesiynau hyfforddi neu friffio fel eich bod yn gwybod yn gyson am y newidiadau yn Chwaraeon Cymru. Eich dewis chi yw hyn ac nid oes rhaid i chi weithio. Os byddwch yn dewis gweithio yn ystod eich absenoldeb mamolaeth pan fyddech ond wedi derbyn tâl mamolaeth statudol, neu ddim tâl o gwbl, bydd eich tâl arferol yn cael ei ddarparu am yr oriau a weithiwyd (gan gynnwys TMS). Bydd hwn yn cael ei drin fel cyflog pensiynadwy.
Bob tro y byddwch yn gweithio, bydd yn cyfrif fel un diwrnod Cadw mewn Cysylltiad (KIT), dim ots faint o oriau rydych chi’n eu gweithio. Gellir defnyddio dyddiau KIT i ymestyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth (hyd at uchafswm o 10 diwrnod). Dylid cytuno ar hyn gyda'r rheolwr llinell a’r tîm Adnoddau Dynol ymlaen llaw i sicrhau nad oes unrhyw ordaliad cyflog.
8.9 Dychwelyd i'r gwaith
O dan ddarpariaethau Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, ni chaniateir i gyflogai ddychwelyd i'r gwaith yn ystod y cyfnod absenoldeb mamolaeth gorfodol, sydd am bythefnos yn dechrau ar ddiwrnod genedigaeth y plentyn.
Wrth ddychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd eich absenoldeb mamolaeth, mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd, gyda'r un telerau ac amodau, ag yr oeddech yn gweithio ynddi cyn eich absenoldeb. Os ydych eisiau ystyried dychwelyd ar drefniadau hyblyg, edrychwch ar y polisi gweithio hyblyg.
Byddwch yn cael eich trin fel pe baech wedi ymddiswyddo os byddwch yn hysbysu Chwaraeon Cymru yn ysgrifenedig nad ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith.
Os byddwch yn penderfynu yn ystod absenoldeb mamolaeth nad ydych eisiau dychwelyd i'r gwaith, dylech roi hysbysiad ysgrifenedig o ymddiswyddiad i Chwaraeon Cymru cyn gynted â phosibl ac yn unol â'ch contract cyflogaeth.
Os na fyddwch yn dychwelyd ar ôl eich absenoldeb mamolaeth neu'n ymddiswyddo cyn i chi gwblhau tri mis o wasanaeth ar ôl i chi ddychwelyd, bydd gofyn i chi ad-dalu'r holl dâl mamolaeth rydych chi wedi'i dderbyn sy'n ychwanegol at eich hawl i TMS. Os byddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth ond am lai na 3 mis calendr, ni fyddai angen ad-dalu'r swm llawn o dâl mamolaeth uwch fel rheol, ond byddai cyfran ohono'n cael ei chyfrif ar sail pro rata yn ôl am faint o amser rydych chi wedi dychwelyd i'r gwaith, h.y. mae'n ofynnol i chi ddychwelyd am 3 mis, os byddwch chi'n dychwelyd am 1 mis, bydd yn ofynnol i chi ad-dalu 2/3 o'r taliad uwch.
Os ydych chi'n rhy sâl i ddychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd eich cyfnod absenoldeb mamolaeth, bydd yr absenoldeb salwch arferol yn berthnasol.