Main Content CTA Title

Cyflog, Manteision, Pensiynau a'ch Preifatrwydd

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Canllaw Staff
  4. Cyflog, Manteision, Pensiynau a'ch Preifatrwydd

1. Cyflog  

Adolygiad diwethaf: Medi 2024  

Adolygiad nesaf: Medi 2026  

Mae Chwaraeon Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar fod â system gyflog sy'n cael ei chymhwyso'n deg ac yn gyfartal, sy'n cynnig hyblygrwydd a fforddiadwyedd ar gyfer y dyfodol, ac sy'n gwobrwyo cyflogeion yn deg am y gwaith maent yn ei wneud. Mae'r polisi hwn yn nodi ein dull o weithredu gyda chyflogau, ein strwythur cyflog a'n trefniadau cyflog.  

1.1 Cydraddoldeb

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gefnogi egwyddor o gyfle cyfartal yn y gweithle. Mae Chwaraeon Cymru yn credu y dylai ei gyflogeion gwrywaidd a benywaidd dderbyn cyflog cyfartal am yr un gwaith neu waith tebyg, gwaith sy’n cael ei raddio fel cyfwerth o dan werthusiad swydd, neu waith o werth cyfartal.

I gefnogi'r uchod, bydd Chwaraeon Cymru yn cynnal Archwiliad Cyflog Cyfartal bob dwy flynedd.

Mae asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael ei gynnal ac ni chredir bod y polisi hwn yn effeithio'n niweidiol ar unrhyw bobl ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, iaith, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu'r iaith Gymraeg.

1.2 Cyd-destun

Mae Chwaraeon Cymru yn atebol i Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio o fewn fframwaith cyllido a disgwylir i ni reoli ein harian yn onest ac er budd y cyhoedd. Mae ein system gyflog a'n graddfeydd cyflog yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod y PCS at ddibenion Bargeinio ar y Cyd ar gyfer ein system gyflog a'n graddfeydd cyflog.

Rydym yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol wrth bennu cyflog a thâl ein cyflogeion. Mae Chwaraeon Cymru yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu o ran cyflog o fewn ei strwythurau cyflog a'i lwfansau a bod modd cyfiawnhau gwahaniaethau cyflog yn wrthrychol drwy ddefnyddio'r Cymorth Gwerthuso a Graddio Swyddi (JEGS).

1.3 Strwythur cyflog

Mae ein strwythur cyflog a'n graddfeydd cyflog cysylltiedig yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'r ystyriaethau canlynol:

  • Yr angen am recriwtio, cadw a chymell pobl sy'n alluog, yn gymwys ac o safon uchel;
  • Cynnal tryloywder a bod yn agored;
  • Talu’n deg i gyflogeion am y gwaith maent yn ei wneud;
  • Fforddiadwyedd cyffredinol o fewn yr adnoddau sydd ar gael;
  • Arferion cyflog yn y sector cyhoeddus ehangach a sefydliadau cymharol; a
  • Rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol gan gynnwys gofynion cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu.

Mae'r strwythur graddio’n cynnwys graddfeydd cyflog penodol ac mae pob rôl wedi'i neilltuo i raddfa benodol o fewn y strwythur. Rydym yn talu i’n cyflogeion ar lefel gyflog sy'n gymesur â'r cyfrifoldeb a'r rôl, gyda chyflog cyfartal am swyddi o werth cyfartal. Mae'r strwythur cyflog wedi'i gytuno gyda'n Hundeb Llafur cydnabyddedig ac mae unrhyw newidiadau iddo’n destun ymgynghoriad a thrafodaeth gyda hwy o dan gytundeb bargeinio cyfunol. Caiff unrhyw newidiadau i'r strwythur cyflog eu hasesu o ran yr effaith ar gydraddoldeb. 

Caiff pob swydd yn Chwaraeon Cymru ei gwerthuso gan ddefnyddio'r Cymorth Gwerthuso a Graddio Swyddi (JEGS), a gydnabyddir gan ein Hundeb Llafur ac sydd wedi'i gynllunio i fodloni amcanion cydraddoldeb a darparu cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal. Mae Gwerthuso Swyddi’n darparu sgôr ar gyfer rôl, gyda sgoriau wedi'u grwpio i ystodau sy'n cyfateb i radd benodol. Cynhelir y sgorio gan banel gwerthuso swyddi, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru ac Undebau Llafur. Edrychwch ar y Polisi Gwerthuso Swyddi am ragor o wybodaeth.

1.4 Trefniadau Cyflog

Mae pob graddfa gyflog yn seiliedig ar flynyddoedd ariannol. Adolygir graddfeydd cyflog ar 1af Ebrill, oni bai fod graddfeydd cyflog wedi'u cytuno am gyfnod hirach, h.y. dwy neu dair blynedd.

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar gylchoedd cyflog derbyniol. Yn dilyn hyn, bydd undeb y PCS yn cyflwyno hawliad cyflog i Chwaraeon Cymru. Bydd Chwaraeon Cymru yn trafod y graddfeydd cyflog nes bod cytundeb yn cael ei sicrhau, ac wedyn ceisir cymeradwyaeth y Tîm Gweithredol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Tîm Gweithredol, gall y PCS gynnal pleidlais ymhlith ei aelodau. Bydd canlyniad y bleidlais yn effeithio ar holl gyflogeion Chwaraeon Cymru. Unwaith y bydd y PCS yn derbyn cymeradwyaeth, bydd cyflwyniad yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru. Unwaith y byddant yn derbyn y cylch gwaith, bydd y tîm Adnoddau Dynol yn ei weithredu yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt.

Mae Chwaraeon Cymru wedi gweithredu'r Cyflog Byw. Mae gweithredu ac adolygu'r Cyflog Byw yn cyd-fynd â'r cylch adolygu cyflog blynyddol, ar 1af Ebrill bob blwyddyn.

Mae pob cyflogai’n cael ei dalu drwy drosglwyddiad BACS ar y 25ain o bob mis. Telir oriau goramser a gwyliau banc yn fisol mewn ôl-ddyledion.

1.5 Tryloywder tâl uwch staff a thâl Aelodau'r Bwrdd

Diffinnir uwch staff fel y rhai sydd â dylanwad sylweddol dros wneud penderfyniadau ar ran Chwaraeon Cymru. Adroddir ar dâl yr uwch staff sy'n ffurfio'r Tîm Gweithredol yn Chwaraeon Cymru yn yr adroddiadau a'r cyfrifon blynyddol.

Adroddir ar dâl Bwrdd Chwaraeon Cymru yn yr adroddiad a'r cyfrifon blynyddol hefyd.

1.6 Perthynoledd Cyflog

Y cyflog isaf yn Chwaraeon Cymru yw'r gyfradd gychwynnol ar Raddfa 1, yr uchaf yw Graddfa 14. Rydym yn cyhoeddi cymariaethau perthynoledd cyflog rhwng y cyflogeion sy’n cael y cyflog uchaf ac isaf yn ein hadroddiad a'n cyfrifon blynyddol.

Bydd y trefniadau cyflog yn ystyried unrhyw ffocws penodol sydd ei angen ar gyfer cyflogeion ar gyflog is neu wrth helpu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y tynnir sylw atynt drwy archwiliadau cyflog cyfartal.

1.7 Cynnydd Cyflog

Bydd cyflogeion yn symud ymlaen drwy'r pwyntiau cynyddrannol o fewn y raddfa a neilltuwyd iddynt, nes cyrraedd brig y raddfa.

Y dyddiad ar gyfer eich cynnydd cynyddrannol fydd blwyddyn o’r dyddiad pryd gwnaethoch ymuno â'r sefydliad. Bydd hyn yn berthnasol i bob cyflogai ar gontract tymor penodol / parhaol, a hefyd i'r rhai sydd ar secondiad allanol. Bydd cyflogeion sy'n absennol o'r gwaith, boed hynny'n absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu / rhiant a rennir, absenoldeb salwch neu seibiant gyrfa, yn cael codiad cynyddrannol o fewn blwyddyn i’w penodi.

Bydd pob cyflogai’n cael cyfle i symud ymlaen i'r pwynt cynyddrannol uchaf ar gyfer ei rôl o fewn uchafswm o dair blynedd. Nid oes unrhyw fath o gyflog sy'n gysylltiedig â pherfformiad.

1.8 Cyflog Wrth Recriwtio

Fel rheol, penodir pob cyflogai ar isafswm y raddfa gyflog briodol. O dan amgylchiadau eithriadol, gall y rheolwr sy'n penodi ymarfer disgresiwn a phenodi uwchlaw hyn, yn amodol ar drafodaeth gyda'r tîm Adnoddau Dynol. Gall amgylchiadau eithriadol gynnwys y canlynol:

  • I sicrhau'r ymgeisydd gorau, o ystyried amgylchiadau presennol yr ymgeisydd; a
  • Gwerth cyffredinol am arian wrth ystyried costau ymarfer recriwtio pellach.

1.9 Dyrchafiadau / newid swydd

Os yw cyflogeion yn cael eu dyrchafu'n fewnol i raddfa uwch, byddant yn derbyn dyddiad adnewyddu cynyddrannol newydd, sef y dyddiad dechrau yn y rôl newydd. Bydd y cyflogai’n symud ymlaen i waelod y raddfa newydd.

Os yw cyflogeion yn symud o un swydd i'r llall, ond ar yr un raddfa, byddant yn cadw eu dyddiad adnewyddu cynyddrannol presennol.

Os yw gofynion rôl wedi newid, gall cyflogai neu reolwr ofyn am gynnal gwerthusiad swydd. Os bydd y rôl yn newid i raddfa uwch o ganlyniad i'r gwerthusiad swydd, bydd hyn yn cael ei drin fel dyrchafiad mewnol, fel uchod.

1.10 Cyflenwi

Mae cyflenwi’n berthnasol pan fydd cyflogai’n gweithredu i fyny i swydd ar raddfa uwch. Mae hyn yn cynnwys cyflawni holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd honno.

Dim ond pan mae’r trefniadau dros dro ac am fwy nag un mis y mae'r polisi hwn yn berthnasol - er enghraifft, i gyflenwi ar gyfer salwch hirdymor, absenoldeb mamolaeth neu ofynion tymor byr eraill. Yr eithriad yw'r achlysuron hynny lle mae'r cyflenwi’n cael ei gwblhau ar sail shifft. Os oes angen cyflenwi parhaol, ystyrir hwn fel cyfle am ddyrchafiad a dylai ddilyn ein gweithdrefn recriwtio a dethol.

Os yw cyflogeion yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau llawn swydd ar raddfa uwch, byddant yn derbyn y gwahaniaeth yn eu cyflog presennol a'r pwynt cynyddrannol lleiaf ar gyfer y raddfa uwch. Os yw cyflogeion yn ymgymryd â rhan o'r dyletswyddau neu'r cyfrifoldebau ychwanegol, er enghraifft, rhannu cyfrifoldebau gyda chyflogai arall, dylid gwerthuso eu rôl ac os yw hyn yn arwain at y rôl yn dod o dan raddfa uwch, bydd y cyflogai’n cael cyflog ar bwynt isaf y raddfa a werthuswyd o’r newydd. Bydd y dyddiad y dechreuodd y cyflenwi’n cael ei gydnabod fel y dyddiad cynyddrannol newydd.

Unwaith bydd y cyflogai’n dod â'r trefniant cyflenwi i ben, bydd yn dychwelyd i'w raddfa flaenorol a bydd y dyddiad cynyddrannol blaenorol yn berthnasol.

Pan fydd cyflogeion yn cyflenwi mewn rôl arall sydd â’r un raddfa, ni fydd y polisi hwn yn berthnasol. Os oes ansicrwydd ynghylch a all y cyfrifoldebau ychwanegol arwain at newid graddfa, dylai'r rheolwr ddilyn y polisi Gwerthuso Swyddi.

Dylai rheolwyr gysylltu â’r tîm Adnoddau Dynol i drafod trefniadau cyflenwi a bydd angen eu hawdurdodi drwy'r Ffurflen Amrywio Contract a'u cadarnhau i’r cyflogeion yn ysgrifenedig.

1.11 Lwfansau

Yn dibynnu ar y gofynion busnes, gall cyflogeion fod yn gymwys i gael lwfansau ychwanegol wrth gyflawni eu rôl. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y Polisi Lwfansau.

1.12 Goramser a TOIL

Gall goramser neu TOIL fod yn berthnasol o dan rai amgylchiadau. Caiff goramser ei dalu ar y gyfradd sylfaenol ond bydd yn cynnwys lwfansau i gyflogeion rhan amser am y 37 awr gyntaf. Pan fydd goramser yn cael ei weithio ar ŵyl banc, bydd amser o’r gwaith yn lle’r oriau a weithiwyd (TOIL) yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y polisi Goramser a TOIL.

1.13 Gwobrau Ehangach

Yn ogystal â chyflog cyflogai, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig ystod o fuddion gweithle ariannol ac anariannol. Mae hyn yn cynnwys aelodaeth i ddewis o ddau gynllun pensiwn, Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a Scottish Widows (edrychwch ar y polisi Pensiwn). Mynediad at drefniadau aberthu cyflog, opsiynau i brynu absenoldeb ychwanegol, cyfleoedd dysgu a datblygu eithriadol a chynlluniau lles cyflogeion. Yn ogystal, mae Chwaraeon Cymru yn croesawu trefniadau gweithio hyblyg.

1.14 Gadael gwirfoddol, diswyddo gwirfoddol a diswyddo gorfodol

I gefnogi newid sefydliadol, efallai y byddwn o bryd i'w gilydd yn dewis cynnal cynlluniau diswyddo. Bydd manylion y cynllun ac unrhyw daliadau iawndal yn cael eu cyfathrebu ar y pryd. Edrychwch ar y Polisi Diswyddo am ragor o wybodaeth.

1.15 Contractau Achlysurol a Chyfraddau Fesul Awr

Mae Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod ein cyfraddau fesul awr sylfaenol ar gyfer cyflogeion achlysurol yn Gyflog Byw neu uwch. Byddwn yn sicrhau bod cyflogeion achlysurol yn cael eu talu'n deg am y gwaith maent yn ei wneud, a bydd hyn yn cael ei gyfateb â swyddi parhaol cyfatebol, lle bo hynny'n berthnasol. Bydd y cyfraddau fesul awr hyn yn cael eu hadolygu ar y 1af o Ebrill bob blwyddyn, yn unol â'r graddfeydd cyflog. 

Cynigir gwaith i unigolion ar gontractau achlysurol yn ôl yr angen. Ni fydd unigolion nad ydynt yn derbyn gwaith am ba reswm bynnag yn dioddef anfantais o ran cael cynnig gwaith eto yn y dyfodol.

Bydd y rhai sydd wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod estynedig o amser yn cael eu hadolygu i benderfynu a yw contract achlysurol yn parhau i fod y math mwyaf addas o gontract iddynt.

Bydd unigolion sy'n ymgymryd â gwaith achlysurol yn gallu cronni gwyliau blynyddol, fel y nodir yn eu telerau ac amodau cyflogaeth. Os nad yw'n bosibl trefnu gwyliau yn ystod y cyfnod o waith, gwneir taliad i adlewyrchu hawl yr unigolyn i dâl gwyliau statudol ar ddiwedd y cyfnod gwaith.

1.16 Diogelu Cyflog

Efallai y bydd angen trefniadau diogelu cyflog mewn sefyllfaoedd fel y canlynol:

  • Newidiadau i raddfa’r swydd, er enghraifft, yn dilyn gwerthusiad swydd sy'n lleihau band cyflog y rôl
  • Os caiff swydd ei datgan yn ddi-fudd neu os yw'n diflannu mewn ailstrwythuro a bod yr unigolyn yn ymgymryd â gwaith ar raddfa is

Mae diogelu cyflog yn golygu y bydd cyflog cyflogai’n cael ei gadw ar ei lefel gyflog bresennol am gyfnod o amser, hyd yn oed pan fydd y cyflog yn fwy na'r uchafswm ar gyfer graddfa ei swydd wedi’i hadolygu.

Fel rheol, bydd diogelu cyflog yn digwydd ar ôl blwyddyn, ar gyflog llawn o'r dyddiad y daw'r newid negyddol mewn cyflog i rym. Gall hyn amrywio o ran hyd yn dibynnu ar y sefyllfa ac anghenion y busnes.

Gall cyfnod byrrach fod yn berthnasol o dan amgylchiadau penodol, er enghraifft, os yw unigolyn wedi gofyn am adleoli i swydd â chyflog is neu os yw adleoli o'r fath yn ganlyniad i weithrediadau perfformiad. Bydd unrhyw ddiogelwch o'r fath yn cael ei ystyried gan y tîm Adnoddau Dynol fesul achos, gan edrych ar y polisïau Adnoddau Dynol perthnasol.

2. Lwfansau

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

Taliadau a wneir yn ychwanegol at gyflog sylfaenol i gydnabod dyletswydd, sgil neu gyflwr neu amgylchiad penodol yw lwfansau. Eglurir isod sut defnyddir lwfansau o'r fath. 

Bydd pob lwfans yn cael ei adolygu fel rhan o adolygiad polisi rheolaidd.

Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau hyn yn cael eu gweithredu'n rhesymol ac yn deg, yn enwedig o ran effaith y polisi ar staff gwrywaidd a benywaidd, y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, a staff rhan amser. Cynhelir archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd i sicrhau cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal.  

Gall y defnydd o lwfans newid wrth i ofynion busnes newid. O dan yr amgylchiadau hyn, rhoddir rhybudd digonol i unigolion o'r newid neu am ddileu'r lwfans. Os yw dileu'r lwfans o ganlyniad i unigolyn yn gwneud cais am swydd newydd yn fewnol, nad yw'n gofyn am ddefnyddio lwfans, bydd y lwfans yn cael ei ddileu o'r dyddiad dechrau yn y swydd newydd. 

2.1 Lwfans Shifftiau

Dyfernir lwfans shifft pan fydd patrwm gwaith unigolyn yn amrywio o wythnos i wythnos ar sail rota. Nid yw'n daladwy pan nad yw unigolyn ar batrwm rota sefydlog neu pan fydd yn gweithio'r un oriau bob wythnos, hyd yn oed os yw'r oriau hynny y tu allan i oriau swyddfa arferol. Dim ond i swyddi hyd at ac yn cynnwys Graddfa 5 y mae hyn yn berthnasol, er mwyn cydnabod y lefelau cyflog is ynghyd â gofynion cyflogeion sydd angen bod yn hyblyg. 

Mae’r lwfans shifftiau’n cael ei gymhwyso ar ddau gyfradd wahanol:

  • Rhoddir lwfans o 16% ar gyfer swyddi sy'n gofyn am batrwm shifftiau pythefnos neu fwy, gan gynnwys penwythnosau, ac oriau y tu allan i 7am i 8pm.
  • Lwfans shifftiau o 8% ar gyfer patrwm shifftiau pythefnos neu fwy a all gynnwys penwythnosau, gydag oriau rhwng 7am ac 8pm.
  • Mae'r ddau lwfans yma’n bensiynadwy.

2.2 Ffonau Symudol

Mae'r lwfans ffôn symudol yn cael ei gymhwyso i gyflogeion drwy gais. Darperir y lwfans i gyflogeion nad ydynt wedi cael ffôn symudol gan Chwaraeon Cymru, ac sydd angen gwneud a derbyn galwadau ffôn y tu allan i'r swyddfa. Un elfen o'r cytundeb hwn yw y bydd modd cysylltu â'r cyflogai yn ystod oriau gwaith arferol a'i fod yn defnyddio'r swyddogaeth e-bost i weld ei negeseuon e-bost pwysig diweddaraf ac ati. Felly, bydd y cyfrifoldeb am y ffôn, ei uwchraddio a’r cynnwys ar y ffôn yn un personol. 

I ddigolledu'r cyflogai, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfrannu swm o £25.00 y pen y mis yn gynhwysol cyn didyniadau, a fydd yn cael ei dalu drwy broses arferol y gyflogres. Sylwch nad yw'r cyfraniad hwn yn cyfrif tuag at hawl pensiwn nac unrhyw daliadau ychwanegol eraill.  

Mae'n ofynnol i gyflogeion sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer Lwfans Ffôn Symudol wneud y canlynol:

  • Llenwi'r Ffurflen Lwfans Ffôn Symudol sydd ar gael ar y fewnrwyd;
  • Defnyddio offer yn synhwyrol i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith iddynt hwy eu hunain a chydweithwyr;
  • Peidio â defnyddio ffonau symudol wrth yrru na gweithredu peiriannau yn ystod oriau gwaith;
  • Darparu'r rhif ffôn symudol i'r tîm TGCh fel bod posib ei ddefnyddio'n fewnol at ddibenion penodol i'r gwaith;
  • Darparu ffôn symudol neu ffôn clyfar addas sy'n gallu cysylltu â'r system e-bost gorfforaethol. Edrychwch isod am ganllawiau ar gyfer setiau llaw addas;
  • Cytuno i Chwaraeon Cymru ddileu cynnwys eich dyfais os caiff ei golli neu ei ddwyn. Dim ond ar ôl ymgynghori â chi y gwneir hyn ac mae'n amod ar gysylltu â'r system e-bost gorfforaethol. Dylech wneud copïau wrth gefn rheolaidd o'r holl gynnwys ar eich dyfais i leihau colli gwybodaeth pe bai'r sefyllfa hon yn codi;
  • Hysbysu Canolfan Wasanaethu’r adran TGCh os yw eich dyfais wedi'i cholli neu wedi'i dwyn. Sylwch eich bod yn cael eich cynghori i ddefnyddio adnodd fel ‘Find my phone’ i’ch helpu i ddod o hyd i ddyfeisiau coll;
  • Galluogi 'Cyfrinair' neu 'PIN' diogelwch ar eich dyfais i gynyddu diogelwch.

Mae’n ofynnol i reolwyr wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod cyfiawnhad busnes priodol dros ofyn am y lwfans ffôn symudol.
  • Adolygu’r defnydd o’r lwfans i sicrhau bod y cyfiawnhad yn parhau i fod yn berthnasol.
  • Hysbysu’r gyflogres os nad yw'r lwfans yn berthnasol mwyach.
  • Mae Chwaraeon Cymru yn ymrwymo i wneud y canlynol:
  • Ddarparu mynediad addas o bell i’r system e-bost gorfforaethol;
  • Hysbysu'r defnyddiwr am unrhyw broblemau a allai effeithio ar gysylltu â systemau Chwaraeon Cymru.

2.3 Ar alwad

Mae'r lwfans hwn yn cael ei gymhwyso i gyflogeion y mae'n ofynnol iddynt fod yn rhan o rota ar alwad sefydlog a bod ar gael yn barhaus ac ar unwaith gartref y tu allan i oriau arferol am gyfnod o fwy na 12 awr. Mae’r lwfans hwn yn cael ei gymhwyso i swyddi hyd at ac yn cynnwys Graddfa 9.

Efallai y bydd gofyn i gyflogeion ymateb i argyfyngau neu fonitro gweithgarwch cyfryngau. Bydd cyflogeion sy'n derbyn y lwfans hwn yn sicrhau bod eu rhif ffôn symudol ar gael ac yn sicrhau eu bod ar gael ar unwaith i ymateb i alwadau pan fyddant ar alwad.  

Pan fydd cael eu galw allan yn golygu ei bod yn ofynnol i gyflogeion fynychu eu gweithle neu fater cyfryngau am fwy na hanner awr, bydd yr amser yn cael ei ddigolledu fel amser hyblyg neu fel taliad goramser os nad yw hyn yn bosibl. 

Gwerth y lwfans yw £159.77 y mis, neu £1,917 y flwyddyn. Bydd hyn yn cael ei adolygu ochr yn ochr â'r adolygiad cyflog blynyddol. Bydd hyn ar sail pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan amser, os ydynt ar rota ar alwad sydd wedi’i lleihau'n gymesur. Nid yw'r lwfans hwn yn bensiynadwy.

Bydd y lwfans hwn yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i swyddi perthnasol. Os ydych chi'n teimlo y dylid cymhwyso'r lwfans hwn i'ch swydd chi, codwch hyn gyda'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.

Mae cymhwyso'r polisi hwn ar yr amod bod gofyniad busnes parhaus. Os yw galwadau allan yn anaml ac nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod, bydd y lwfans hwn yn cael ei ddileu, gyda rhybudd digonol.

2.4 Gweithio Gartref

Mae'r lwfans gweithio gartref yn cael ei gymhwyso i gyflogeion sy'n gweithio o gartref yn barhaol am y rhan fwyaf o'u horiau cytundebol, a gall hyn fod o ganlyniad i angen busnes neu drwy gais. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch trefniadau ymarferol yn y polisi Gweithio Gartref. 

Caiff cyflogeion eu digolledu ar y gyfradd a gynghorir gan CThEF ar gyfer iawndal trydan, nwy, rhyngrwyd a rhent llinell ffôn. Mae'r gyfradd hon ar sail pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan amser. Pe bai'r trefniant gweithio gartref yn dod i ben, byddai'r lwfans gweithio gartref yn dod i ben hefyd. Nid yw'r taliad hwn yn bensiynadwy.

2.5 Recriwtio a Chadw

Gellir defnyddio Lwfans Recriwtio a Chadw (LRCh) ar gyfer swyddi unigol, neu grwpiau o swyddi, lle mae pwysau'r farchnad gyflogaeth yn ei gwneud yn anodd i Chwaraeon Cymru recriwtio a chadw niferoedd digonol o gyflogeion ar y raddfa gyflog arferol. Bydd taliadau o dan y polisi hwn yn seiliedig ar achos busnes clir a byddant yn destun penderfyniadau annibynnol.

Mae pob taliad LRCh yn amodol ar gyflwyno achos busnes clir i'w gymeradwyo. Mae Penaethiaid Adrannau’n gyfrifol am lunio a chyflwyno achosion a'u hailgyflwyno i'w hadolygu lle bo hynny'n berthnasol. Dylai achosion busnes o'r fath gynnwys tystiolaeth fel y canlynol:

  • Ymarferion recriwtio aflwyddiannus yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf lle nad yw Chwaraeon Cymru, er gwaethaf hysbysebu, wedi gallu denu'r ymgeisydd cywir a bod y dystiolaeth yn awgrymu bod hyn oherwydd y lefel cyflog.
  • Tystiolaeth o gyfweliadau gadael sy’n dangos bod cyflog yn rheswm sylweddol dros adael, gyda thystiolaeth o gynnig swydd am rôl debyg ar lefel cyflog uwch.
  • Tystiolaeth o arolygon cyflog cyfredol sy'n dangos bod cyflog am swydd gymharol mewn sefydliad cymharol o leiaf 10% yn uwch nag yn Chwaraeon Cymru. Dylai'r swydd fod yn debyg o ran dyletswyddau, gofynion cymhwysedd, ehangder a chymhlethdod y rôl, lleoliad, rheolaeth a chyfrifoldebau cyllidebol.

Rhaid gwneud cymariaethau ar sail y pecyn cyfan, gan gynnwys elfennau eraill o'r pecyn gwobrwyo, gan gynnwys gwyliau blynyddol a buddion pensiwn.

Bydd yr achos busnes yn cael ei gyflwyno i’r tîm Adnoddau Dynol i graffu arno a'i argymell i'r Tîm Gweithredol, a fydd yn gwneud y penderfyniad. Dim ond achosion busnes lle mae gwahaniaeth o fwy na 10% rhwng cyfanswm y cyflog yn Chwaraeon Cymru, o gymharu â'r lefel cyflog y mae'r dystiolaeth yn ei awgrymu, y bydd y panel yn eu hystyried.

Bydd y LRCh yn berthnasol i swyddi yn hytrach na chyflogeion a bydd yn cael ei chymhwyso'n gyfartal i bob cyflogai perthnasol. Os bydd cyflogai’n symud i swydd wahanol nad yw'n denu'r lwfans, bydd ei hawl i unrhyw LRCh blaenorol yn dod i ben. 

Gellir defnyddio LRCh tymor byr lle disgwylir i amodau'r farchnad gyflogaeth fod yn dymor byr a lle disgwylir i'r angen am y lwfans ddiflannu neu leihau yn y dyfodol rhagweladwy. Dyfernir hwn am gyfnod penodol a chaiff ei adolygu ar ddiwedd y tymor hwn. Gellir tynnu'r lwfans hwn yn ôl neu addasu ei werth, yn amodol ar gyfnod rhybudd digonol.

Bydd LRCh tymor hir yn berthnasol lle mae amodau'r farchnad gyflogaeth yn fwy sefydledig ac nad oes disgwyl i'r angen am y lwfans amrywio'n sylweddol yn y dyfodol rhagweladwy. Bydd y lwfans hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd a gellir ei dynnu'n ôl neu addasu ei werth, yn amodol ar gyfnod rhybudd o chwe mis.

Bydd LRCh tymor hir a thymor byr yn cael eu mynegi fel canran o'r cyflog sylfaenol ar gyfer y swydd. Bydd y taliad yn cyfrif tuag at hawl pensiwn y cyflogeion. Ni fydd y swm hwn yn fwy na 25% o'r cyflog sylfaenol. 

2.6 Galw Eithriadol am Waith

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae’n mynd ati'n weithredol i beidio â chefnogi diwylliant 'oriau hir' ac mae’n annog ac yn ymddiried yn ei staff i reoli eu hamser yn briodol ac yn synhwyrol. Fodd bynnag, gall eithriadau i hyn godi, oherwydd natur ein busnes h.y. os yw staff yn gweithio mewn amgylchedd partner sydd â gofynion lefel uchel, lle mae patrymau gwaith yn cael eu pennu gan y partner neu ganlyniad busnes. Er enghraifft, presenoldeb am gyfnodau hir mewn digwyddiadau chwaraeon neu angen cyson am ddarparu gwasanaethau i athletwyr y tu allan i oriau gwaith arferol ac yn ychwanegol atynt.

Yn y rhan fwyaf o swyddi bydd lefelau amrywiol o angen busnes o bryd i'w gilydd ac mae Chwaraeon Cymru yn gwerthfawrogi hyblygrwydd cyflogeion wrth ddiwallu anghenion busnes. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn am gyfnod byr neu gellir ei reoli drwy addasu patrymau gwaith. Mae'r lwfans Galw Eithriadol am Waith wedi cael ei gynllunio i ddigolledu staff yn deg pan fydd lefel y galw busnes yn cyrraedd lefel lle na ellir addasu patrymau gwaith i ddiwallu'r galw. Bydd hyn yn effeithio ar rai cyflogeion yn fwy nag eraill, felly, bydd y lwfans hwn yn cael ei gymhwyso ar sail achos busnes a bydd yn cynnwys cyfnod adolygu.

Mae pob taliad Galw Eithriadol am Waith yn amodol ar gyflwyno achos busnes clir i'w gymeradwyo. Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am gyflwyno achos i'w adolygu. Dylai achosion busnes o'r fath gynnwys y canlynol:

  • Tystiolaeth na ellir addasu patrymau gwaith presennol a dyraniad gwaith i fodloni lefel y galw busnes.
  • Manylu ar natur y pwysau busnes, boed hyn am gyfnod estynedig oherwydd digwyddiad chwaraeon neu oherwydd galw cyson gan athletwyr.

Bydd yr achos busnes yn cael ei gyflwyno i'r tîm Adnoddau Dynol i graffu arno a'i argymell i'r Tîm Gweithredol, a fydd yn gwneud y penderfyniad. Wrth wneud eu penderfyniad, bydd y Tîm Gweithredol yn pennu cyfnod adolygu i sicrhau bod y lwfans yn berthnasol ac i sicrhau nad yw cyflogeion yn cael eu rhoi o dan bwysau gormodol am gyfnodau hir o amser.

Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn hysbysu cyflogeion o ganlyniad y penderfyniad ynghyd â'r cyfnod adolygu. Disgwylir i gyflogeion gadw cofnod o'u galw eithriadol am waith a bydd angen i Benaethiaid Adrannau fonitro hyn i sicrhau nad yw’r oriau gwaith yn ormodol. Bydd y taliad Galw Eithriadol am Waith yn cael ei fynegi fel canran o'r cyflog sylfaenol ar gyfer y swydd. Ni fydd y taliad hwn yn fwy na 5%.

Bydd cydraddoldeb y defnydd o'r lwfans hwn yn cael ei fonitro drwy'r archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd.

2.7 Lwfans Oriau Anghymdeithasol

Mae'r lwfans hanesyddol hwn yn berthnasol i bobl sydd wedi dewis peidio â bod yn rhan o'r strwythur cyflog a graddio presennol. Mae hyn yn golygu bod gan y rhai sy'n derbyn y lwfans hwn gyfrifoldeb ac ymrwymiad rheolaidd i weithio oriau sy'n sylweddol hirach na'r hyn a ddisgwylir fel rheol gan staff. Disgwylir i staff weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion busnes. Bydd yr oriau hyn a weithir o natur anghymdeithasol ac afreolaidd gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus. Nid yw'r rhai sy'n ei dderbyn yn gymwys i gael taliad goramser, amser hyblyg, TOIL, lwfans shifftiau na lwfans ar alwad, nac unrhyw lwfans sy'n gysylltiedig â'r strwythur cyflog a graddio newydd.

Mae’r lwfans oriau anghymdeithasol wedi'i bennu fel canran o'r cyflog. Ar gyfer Graddfeydd hyd at ac yn cynnwys Graddfa D, ar yr hen raddfeydd cyflog, y lwfans yw 20% o'r cyflog. Yn achos rhai swyddi Graddfa E, mae'n 12% o'r cyflog. Telir y lwfans hwn, sy'n bensiynadwy, gyda'r cyflog.

3. Polisi Preifatrwydd Staff

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol.

O dan gyfraith diogelu data, rydym yn “rheolydd data”. Mae hyn yn golygu ein bod yn dal gwybodaeth bersonol am, er enghraifft, ein cyflogeion ac yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn storio ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol honno.

Fel rheolydd data, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ddarparu gwybodaeth benodol i unigolion yr ydym yn casglu, cael, storio a defnyddio eu gwybodaeth bersonol. Mae'r wybodaeth honno wedi'i chynnwys yn y ddogfen hon (ein "hysbysiad preifatrwydd").

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y ddogfen hon (ynghyd ag unrhyw hysbysiadau preifatrwydd eraill y byddwn yn eu darparu i chi ar achlysuron penodol), fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a'r hawliau sydd gennych mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol.

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i bob cyflogai, gwirfoddolwr, gweithwyr ar secondiad, myfyrwyr profiad / lleoliad gwaith, staff tymhorol ac ymgynghorwyr (“Gweithwyr”).

Byddwn yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae’r gyfraith hon yn dweud bod y canlynol yn berthnasol i'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch:

  1. Rhaid ei defnyddio yn gyfreithlon, yn deg ac mewn ffordd dryloyw.
  2. Rhaid ei chasglu at ddibenion dilys yn unig, yr ydym wedi’u hesbonio’n glir i chi, ac ni ddylai gael ei defnyddio mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny.
  3. Rhaid iddi fod yn berthnasol i’r dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt ac wedi’u cyfyngu i’r dibenion hynny yn unig.
  4. Rhaid iddi fod yn gywir ac yn gyfredol.
  5. Rhaid ei chadw dim ond cyhyd ag sydd ei angen at y dibenion rydym wedi dweud wrthych amdanynt.
  6. Rhaid ei chadw’n ddiogel.

3.1 Pa Wybodaeth Bersonol sydd gennym amdanoch chi? 

Fel Gweithiwr i'r Sefydliad, byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol benodol amdanoch chi i ni ar ddechrau eich gwaith gyda ni ac yn ystod eich cyflogaeth / ymgysylltu.

Mae cyfraith diogelu data yn gwarchod gwybodaeth bersonol, sef unrhyw wybodaeth y gellir adnabod unigolyn oddi wrthi. Mae math o wybodaeth bersonol sy'n derbyn gwarchodaeth ychwanegol oherwydd ei natur sensitif neu breifat. Cyfeirir at y wybodaeth hon weithiau fel 'gwybodaeth bersonol categori arbennig' ac mae'n golygu gwybodaeth bersonol am hil, tarddiad ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur (neu ddiffyg aelodaeth), gwybodaeth geneteg, gwybodaeth fiometrig (lle caiff ei defnyddio i adnabod unigolyn) a gwybodaeth ynghylch iechyd, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.

Cesglir y wybodaeth hon naill ai'n uniongyrchol gan Weithwyr neu weithiau gan asiantaeth gyflogaeth neu ddarparwr archwiliadau cefndir, er enghraifft y Fenter Brand Genedlaethol. Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth ychwanegol weithiau gan drydydd partïon, gan gynnwys cyn-gyflogwyr a chanolwyr eraill, asiantaethau gwirio credyd neu asiantaethau gwirio cefndir eraill, gweinyddwr pensiynau, gweithwyr meddygol proffesiynol, cyflogeion eraill, y Swyddfa Gartref, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cyfleusterau mewnrwyd a rhyngrwyd.

Bydd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn ystod eich cyflogaeth / ymgysylltu â ni yn cynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
  • eich dyddiad geni
  • eich rhywedd
  • manylion eich teulu
  • eich addysg a’ch cymwysterau
  • eich sgiliau, profiad ac aelodaeth o gyrff proffesiynol
  • eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch cod treth
  • eich manylion cyswllt brys a’ch perthynas agosaf
  • eich manylion banc, manylion cyflogres a gwybodaeth am statws treth
  • manylion eich cyflog, gwyliau blynyddol, pensiwn a buddion
  • tystiolaeth o’ch gallu i weithio yn y DU, eich cenedligrwydd a’ch statws mewnfudo
  • eich trwyddedd yrru
  • gwybodaeth a ddarparwyd amdanoch gan eich cyflogwr(wyr) blaenorol a chanolwyr eraill
  • gwybodaeth am hanes eich cyflogaeth a gasglwyd yn ystod y broses recriwtio yr ydym yn ei chadw yn ystod eich cyflogaeth
  • eich telerau ac amodau gwaith (e.e. cyflog, oriau gwaith, gwyliau, buddion)
  • manylion am unrhyw swyddi neu benodiadau neu fuddiannau busnes eraill sydd gennych chi
  • unrhyw ddamweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith
  • unrhyw hyfforddiant rydych chi wedi’i gwblhau
  • unrhyw faterion disgyblu, cwynion neu faterion eraill sy’n ymwneud â’ch cyflogaeth neu y gallwch ddarparu gwybodaeth amdanynt
  • eich cofnod presenoldeb a’r absenoldeb rydych chi wedi’i gymryd (e.e. gwyliau, absenoldeb salwch, absenoldeb teuluol)
  • eich adolygiadau perfformiad
  • unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n ei rhannu gyda ni, gan gynnwys ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • unrhyw addasiad(au) rhesymol a wnaed i’ch rôl neu eich gwaith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • lluniau teledu cylch cyfyng ac unrhyw wybodaeth arall a sicrhawyd drwy ddulliau electronig
  • gwybodaeth am eich defnydd o’n systemau TG, cyfathrebu a systemau eraill
  • manylion am eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â busnes fel LinkedIn

3.2 Ar gyfer beth fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol a beth yw ein sail gyfreithiol dros wneud hynny? 

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch at nifer o wahanol ddibenion, a restrir isod. O dan gyfraith diogelu data mae arnom angen sail gyfreithiol ddilys i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, ac rydym hefyd yn nodi isod y seiliau cyfreithiol y byddwn yn dibynnu arnynt.

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi am y rhesymau canlynol:

  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a dangos cydymffurfiaeth â hwy, fel gwirio bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y DU, didynnu cyfraniadau PAYE ac Yswiriant Gwladol, cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a deddfau cyflogaeth eraill
  • i atal twyll
  • i gydymffurfio â rhwymedigaethau iechyd a diogelwch
  • i gydymffurfio ag unrhyw ofynion rheoleiddio a dangos cydymffurfiaeth â hwy

Yn yr achosion hyn, y sail gyfreithiol y byddwn yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol fydd oherwydd ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi am y rhesymau canlynol:

  • i gydymffurfio â’n contract gyda chi a’i orfodi a’ch hysbysu o unrhyw newidiadau
  • i dalu i chi a rhoi unrhyw fuddion rydych yn gymwys i’w cael i chi, gan gynnwys pensiwn
  • i ddelio ag unrhyw faterion disgyblu a chwynion a all godi sy’n ymwneud â chi neu y gallech ddarparu gwybodaeth berthnasol amdanynt
  • i gofnodi eich absenoldebau o’r gwaith a’ch gwyliau
  • i adolygu a rheoli eich perfformiad a’ch datblygiad
  • at ddibenion cyflogaeth neu weinyddu contractau cyffredinol
  • i fonitro cydymffurfiaeth ag unrhyw un o’n polisïau a’n gweithdrefnau

Ym mhob un o'r achosion hyn, y sail gyfreithiol y byddwn yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol fydd ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r contract rhyngom ni.

Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi am y rhesymau canlynol:

  • i alluogi rheoli a chynllunio busnes, gan gynnwys cyfrifyddu ac archwilio
  • i ymateb i geisiadau am eirda
  • i gynnal adolygiadau perfformiad, rheoli perfformiad a phennu gofynion perfformiad
  • i wneud penderfyniadau ynghylch adolygiadau cyflog ac iawndal
  • i asesu cymwysterau ar gyfer swydd neu dasg benodol, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch dyrchafiadau
  • i gasglu tystiolaeth ar gyfer gwrandawiadau cwyno neu ddisgyblu posibl
  • i wneud penderfyniadau ynghylch eich cyflogaeth neu ymgysylltu parhaus
  • i wneud trefniadau ar gyfer terfynu ein perthynas waith
  • i asesu gofynion addysg, hyfforddiant a datblygu
  • i fonitro eich defnydd o’n systemau gwybodaeth a chyfathrebu
  • i sicrhau diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth, gan gynnwys atal mynediad heb awdurdod i’n systemau cyfathrebu cyfrifiadurol ac electronig ac atal dosbarthu meddalwedd faleisus
  • i gynnal astudiaethau dadansoddi data i adolygu a deall cyfraddau cadw a gadael cyflogeion yn well

Yn yr achosion hyn, y sail gyfreithiol y byddwn yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol fydd oherwydd ei bod er ein buddiannau cyfreithlon. Ein buddiannau cyfreithlon penodol yw:

  • bod yn gyflogwr teg a rhesymol mewn perthynas â’ch cyflogaeth / ymgysylltu chi a’n cyflogaeth / ymgysylltu ni ag eraill a gallu dangos arfer cyflogaeth da a / neu
  • cydymffurfio â’n rhwymedigaethau fel cyflogwr a / neu ein polisïau a’n gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gweithwyr a dangos cydymffurfiaeth â nhw a / neu
  • ein galluogi i reoli’r Sefydliad yn effeithiol ac yn effeithlon

3.3 Pa Wybodaeth Bersonol Categori Arbennig sydd gennym amdanoch chi? 

Bydd angen i ni gadw gwybodaeth bersonol categori arbennig benodol mewn perthynas â chi a allai fod yn berthnasol i'ch cyflogaeth, fel eich:

  • tarddiad hiliol neu ethnig
  • barn wleidyddol
  • credoau crefyddol neu athronyddol
  • aelodaeth o undeb llafur
  • iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys manylion unrhyw anabledd)
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • manylion am unrhyw anabledd hysbys
  • cyflawni neu gyflawni honedig ar unrhyw drosedd, gan gynnwys canlyniadau archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (‘DBS’)

3.4 Ar gyfer beth fyddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig a beth yw ein sail gyfreithiol dros wneud hynny? 

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth bersonol categori arbennig sydd gennym amdanoch at nifer o wahanol ddibenion, a restrir isod. Mae cyfraith diogelu data’n ein gwahardd rhag prosesu unrhyw wybodaeth bersonol categori arbennig oni bai y gallwn fodloni o leiaf un o'r amodau a nodir gan y gyfraith diogelu data. Rydym hefyd yn nodi isod yr amodau penodol yr ydym yn dibynnu arnynt wrth brosesu data categori arbennig.

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth bersonol categori arbennig sydd gennym amdanoch am y rhesymau canlynol:

  • i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Yn yr achos hwn, yr amod rydym yn dibynnu arno ar gyfer prosesu'r wybodaeth yw i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol, sef at ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl a bennir mewn perthynas â'r categori hwnnw, gyda'r bwriad o alluogi hyrwyddo neu gynnal cydraddoldeb o'r fath.

Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol categori arbennig sydd gennym amdanoch at y dibenion canlynol:

  • i gydymffurfio â chyfraith cyflogaeth ac arfer gorau ac unrhyw gyfreithiau cymwys eraill a dangos cydymffurfiaeth â hwy
  • i gydymffurfio ag unrhyw ofynion rheoleiddio a dangos cydymffurfiaeth â hwy
  • i ddelio ag unrhyw faterion disgyblu a chwynion a all godi sy’n ymwneud â chi neu eraill y gallech ddarparu gwybodaeth berthnasol mewn perthynas â hwy
  • i gofnodi eich absenoldebau o’r gwaith
  • i roi i chi unrhyw fuddion iechyd y gallech fod â hawl iddynt
  • i asesu eich addasrwydd i weithio
  • i weinyddu eich aelodaeth o undeb lafur
  • i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’ch rôl

Yn yr achosion hyn, yr amodau rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth yw oherwydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni'r rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol ym maes cyfraith cyflogaeth.

Mewn achosion lle mae hawliad wedi'i gyflwyno yn erbyn y Sefydliad neu lle mae risg bosibl o anghydfod neu hawliad cyfreithiol, efallai y bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol categori arbennig lle mae'n angenrheidiol ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Efallai y bydd amgylchiadau lle mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol categori arbennig, yn enwedig mewn perthynas â'ch iechyd, lle mae'n angenrheidiol i ddiogelu eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych chi'n gallu rhoi eich caniatâd.

Rydym yn rhagweld y byddwn yn cadw gwybodaeth am euogfarnau troseddol.

Dim ond os yw'n briodol o ystyried natur y rôl a lle mae gennym hawl gyfreithiol i wneud hynny y byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel rhan o'r broses recriwtio neu efallai y byddwn yn cael gwybod am y wybodaeth honno'n uniongyrchol gennych chi yn ystod y broses recriwtio neu yn ystod eich cyfnod gwaith.

Dim ond lle mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio gwybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol. Fel rheol, bydd hyn yn digwydd pan fo prosesu o'r fath yn angenrheidiol am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd, sef atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon, gwarchod y cyhoedd rhag anonestrwydd, atal twyll neu amheuaeth o derfysgaeth neu wyngalchu arian.

Yn llai cyffredin, efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol lle bo hynny'n angenrheidiol mewn perthynas â hawliadau cyfreithiol, lle bo hynny'n angenrheidiol i warchod eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych yn gallu rhoi eich caniatâd, neu lle rydych chi eisoes wedi cyhoeddi'r wybodaeth.

3.5 Gwybodaeth gyffredinol bellach am ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

Dim ond at y dibenion y gwnaethom ei chasglu y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol fod angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben anghysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn egluro'r sail gyfreithiol sy'n caniatáu i ni wneud hynny.

Sylwch y gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol heb eich gwybodaeth na'ch caniatâd, yn unol â'r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.

Bydd rhywfaint o'r data personol y byddwn yn gofyn amdanynt oherwydd bod gennym ofyniad cyfreithiol neu gytundebol i gael a defnyddio'r wybodaeth neu ei bod yn angenrheidiol i ni gael y wybodaeth er mwyn gallu ymrwymo i gontract gyda chi. Un enghraifft o hyn fyddai o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006, sy’n datgan ei bod yn ofynnol i ni fodloni ein hunain bod gennych yr hawl i weithio yn y DU. Bydd methu â darparu gwybodaeth benodol yn ein hatal rhag eich cyflogi neu ymgysylltu â chi neu gyflawni'r contract rydym wedi ymrwymo iddo gyda chi.

Nid ydym yn gweithredu unrhyw benderfyniadau awtomatig na phroffilio mewn perthynas â chi.

3.6 Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth? 

Bydd eich data personol yn cael eu cadw gan yr adran Adnoddau Dynol. Bydd eich data personol yn cael eu rhannu'n fewnol gydag unigolion a / neu adrannau eraill lle bo hyn yn rhesymol angenrheidiol at y dibenion prosesu a nodir yn adran 2 uchod. Er enghraifft, bydd angen rhannu rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol gyda'r Adran Gyllid er mwyn talu i chi.

O bryd i'w gilydd bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda phobl a sefydliadau allanol. Dim ond lle mae gennym sail gyfreithlon neu gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny y byddwn yn gwneud hynny ac yn unol â'n rhwymedigaethau o dan gyfreithiau diogelu data.

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei datgelu i’r canlynol:

  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) mewn cysylltiad â’ch cyflog a’ch buddion
  • Banciau a sefydliadau ariannol eraill mewn cysylltiad â’ch cyflog a’ch buddion
  • Darparwyr pensiynau (Cynllun Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg) ar gyfer darparu a gweinyddu eich pensiwn
  • Darparwr cyflogres (RSM ar hyn o bryd) i’n galluogi i dalu i chi
  • Cwmnïau a busnesau sy’n darparu neu’n gweinyddu unrhyw fuddion rydym yn eu cynnig
  • Pobl eraill sy’n ein helpu i ddarparu ein gwefan, rhwydwaith WIFI mewnol, maent yn cynnwys arbenigwyr technoleg gwybodaeth sy’n dylunio ac yn cynnal ein gwefan
  • Ein hyswirwyr a’n broceriaid yswiriant (Gwasanaeth Yswiriant y Goron) sy’n rhoi yswiriant cynhwysfawr i ni yn erbyn risgiau rhedeg busnes
  • Asiantaethau cyflogaeth a recriwtio a sefydliadau all-leoli
  • Cyrff a rheoleiddwyr proffesiynol fel Swyddfa Archwilio Cymru a Deloitte
  • Ein cynghorwyr proffesiynol, gan gynnwys ein cyfrifwyr, pan fydd arnynt ei hangen i roi eu cyngor proffesiynol i ni
  • Yr Heddlu, awdurdodau lleol, y llysoedd ac unrhyw awdurdod llywodraeth arall os ydynt yn gofyn i ni wneud hynny (ond dim ond os yw gwneud hynny’n gyfreithlon)
  • Pobl eraill sy’n gwneud cais mynediad at wybodaeth, lle caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
  • Achwynwyr, lle mae hyn yn angenrheidiol i ymateb i unrhyw gwynion a dderbynnir
  • Ymchwilwyr preifat
  • Asiantau casglu ac olrhain dyledion
  • Lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny, e.e. i gydymffurfio â gorchymyn llys
  • Darpar gyflogwyr mewn ymateb i geisiadau am eirda
  • Sefydliadau addysgol, cyrff arholi, darparwyr cyrsiau mewn perthynas ag unrhyw hyfforddiant rydych chi’n ymgymryd ag ef neu wedi ymgymryd ag ef
  • Darparwyr gwasanaethau marchnata sy’n cynnal gweithgareddau marchnata ar ein rhan
  • Darparwyr gwasanaethau cwmwl fel Cascade, Halogen, Office 365
  • Eich teulu neu gynrychiolwyr

3.7 Trosglwyddo Eich Gwybodaeth yn Rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

3.8 Am Ba Hyd y Byddwn yn Cadw Eich Gwybodaeth? 

Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelu data a phreifatrwydd, dim ond cyhyd ag y mae ei hangen arnom mewn gwirionedd at y dibenion y gwnaethom ei chasglu i ddechrau y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y byddwch yn cael eich cyflogi neu cyhyd ag y byddwch yn ymgysylltu â ni ac am gyfnod o 7 mlynedd wedi hynny. Y rheswm dros gadw eich data personol am y cyfnod hwn yw i gydymffurfio â gofynion CThEF ac oherwydd y ffaith y gellir gwneud rhai hawliadau hyd at 6 mlynedd ar ôl i'ch cyflogaeth / ymgysylltu ddod i ben.

Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried maint, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddefnydd neu ddatgeliad heb awdurdod o'ch data personol, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

3.9 Hawliau Unigolion

Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data yn rhoi nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. Mae'r rhain wedi'u rhestru isod ac maent yn berthnasol o dan rai amgylchiadau penodol:

  • Gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol (a elwir yn gyffredin yn "gais am fynediad at ddata gan y gwrthrych"). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei phrosesu'n gyfreithlon.
  • Gofyn am gywiriad i'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael cywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi.
  • Gofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddiddymu neu ddileu gwybodaeth bersonol lle nad oes rheswm da dros barhau i'w phrosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddiddymu neu ddileu eich gwybodaeth bersonol lle rydych chi wedi arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod).
  • Gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol lle rydym yn dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu fudd trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu os ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  • Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, er enghraifft, os ydych chi eisiau i ni sefydlu ei manwl gywirdeb neu'r rheswm dros ei phrosesu.
  • Gofyn am hygludedd data eich gwybodaeth bersonol. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gennych yr hawl i ofyn i ni ddarparu copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol i chi, naill ai ar gyfer eich defnydd eich hun neu fel eich bod yn gallu ei rhannu gyda sefydliad arall. Os yw'r hawl hon yn berthnasol, gallwch ofyn i ni, lle bo hynny'n ymarferol, i drosglwyddo eich data personol yn uniongyrchol i'r parti arall.

Os ydych chi eisiau adolygu, gwirio, cywiro neu ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu eich data personol, neu ofyn i ni drosglwyddo copi o'ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â’r Pennaeth Adnoddau Dynol.

Nid oes angen ffi fel rheol 

Ni fydd yn ofynnol i chi dalu ffi i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol (neu i arfer unrhyw un o'r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw'n amlwg bod eich cais am fynediad yn ddi-sail neu'n ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â'r cais o dan amgylchiadau o'r fath.

Yr hyn y gallem fod ei angen gennych chi

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi i’n helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau eich hawl i gael mynediad at y wybodaeth (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch priodol arall i sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i’w derbyn.

3.10 Y gallu i dynnu caniatâd yn ôl 

Pan fydd eich data personol yn cael eu prosesu ar sail eich caniatâd neu ganiatâd penodol, mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd i'r prosesu yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio’r Pennaeth Adnoddau Dynol. Ni fydd unrhyw dynnu caniatâd yn ôl yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu ar eich data personol yn seiliedig ar ganiatâd cyn hysbysu am y tynnu'n ôl.

3.11 Manwl gywirdeb

Os bydd unrhyw un o'ch manylion personol yn newid yn ystod eich cyflogaeth / ymgysylltu, dylech gysylltu ag aelod o'r tîm Adnoddau Dynol i'w hysbysu a rhoi'r wybodaeth fanwl gywir ddiweddaraf iddo. Fel mater o drefn, byddwn yn anfon e-bost yn flynyddol i atgoffa pawb o'r angen am sicrhau bod y data personol rydych chi wedi'u darparu i ni yn fanwl gywir.

3.12 Diweddariadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu'r ffyrdd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn rheolaidd. Wrth wneud hynny, efallai y byddwn yn newid pa fath o wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei storio, gyda phwy rydym yn ei rhannu a sut rydym yn gweithredu yn ei chylch.

O ganlyniad, bydd angen i ni newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i’w gadw’n fanwl gywir ac yn gyfredol.

Byddwn yn adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn fanwl gywir ac yn gyfredol.

Ein henw llawn yw Cyngor Chwaraeon Cymru.

Ni yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni. Mae'r term "rheolydd data" yn ymadrodd cyfreithiol a ddefnyddir i ddisgrifio'r person neu'r endid sy'n rheoli'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei defnyddio a'i phrosesu.

3.14 Ble i Fynd os Ydych Chi Eisiau Mwy o Wybodaeth am Eich Hawliau neu i wneud Cwyn

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn rheoleiddio materion diogelu data a phreifatrwydd yn y DU. Maent yn sicrhau bod llawer o wybodaeth ar gael ar eu gwefan ac yn sicrhau bod manylion cofrestredig pob rheolydd data fel ni ein hunain ar gael i'r cyhoedd. Gallwch eu gweld yma.

Gallwch wneud cwyn i'r ICO unrhyw bryd ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y byddech yn ystyried codi unrhyw fater neu gŵyn sydd gennych chi gyda ni i ddechrau. Byddwn yn gwneud ein gorau glas bob amser i ddatrys unrhyw broblemau sydd wedi codi gennych.

3.15 Cysylltu â ni

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich gwybodaeth unrhyw bryd. Rydym wedi penodi swyddog diogelu data (SDD) i oruchwylio cydymffurfiaeth â'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r SDD. Dyma fanylion cyswllt y SDD;  

Phil Stevens

E-bost [javascript protected email address]

4. Pensions

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

4.1 Cofrestru Awtomatig 

 Categoreiddio 

Penderfynir pa gynllun y bydd unigolion yn cael eu cofrestru'n awtomatig iddo, os o gwbl, yn ôl eu categori isod:

Deiliaid Swyddi Cymwys

Mae Deiliaid Swyddi Cymwys yn 'gymwys' ar gyfer cofrestru awtomatig. Bydd Chwaraeon Cymru yn cofrestru deiliaid swyddi cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig Scottish Widows (y cynllun cofrestru awtomatig).

Mae Deiliaid Swyddi Cymwys:

  • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth
  • yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU o dan eu contract
  • gydag enillion cymwys sy’n daladwy gan y cyflogwr yn y cyfnod cyfeirio cyflog perthnasol sy'n uwch na'r sbardun enillion ar gyfer cofrestru awtomatig

Deiliaid Swyddi Anghymwys

Nid yw deiliaid swyddi anghymwys yn bodloni'r meini prawf ychwanegol sy'n ofynnol i fod yn ddeiliaid swyddi cymwys, felly nid oes angen eu cofrestru'n awtomatig. Fodd bynnag, mae ganddynt hawl i 'optio i mewn' i gynllun cofrestru awtomatig Chwaraeon Cymru, neu gynllun CARE Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014 os dymunant.

Mae Deiliaid Swyddi Anghymwys yn cynnwys gweithwyr sydd naill ai:

rhwng 16 a 74 oed

yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU o dan eu contract

gydag enillion cymwys sy’n daladwy gan y cyflogwr yn y cyfnod cyfeirio cyflog perthnasol ond sy'n is na’r sbardun enillion ar gyfer cofrestru awtomatig

rhwng 16 a 21 oed, neu oedran pensiwn y wladwriaeth a 74

yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU o dan eu contract

gydag enillion cymwys sy’n daladwy gan y cyflogwr yn y cyfnod cyfeirio cyflog perthnasol sy'n uwch na'r sbardun enillion ar gyfer cofrestru awtomatig

Gweithwyr â Hawl

Nid yw Gweithwyr â Hawl yn cael eu cofrestru'n awtomatig i gynlluniau pensiwn Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae ganddynt hawl i ymuno â chynllun pensiwn. Cynllun cyfraniadau diffiniedig a ddarperir gan Scottish Widows yw’r cynllun pensiwn a ddefnyddir gan Chwaraeon Cymru ar gyfer Gweithwyr â Hawl.

Gellir disgrifio Gweithwyr â Hawl fel rhai sydd:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU o dan eu contract
  • heb enillion cymwys yn daladwy gan y cyflogwr yn y cyfnod cyfeirio cyflog perthnasol

Optio Allan 

Er y bydd Chwaraeon Cymru yn cofrestru’r rhai a nodwyd fel Deiliaid Swyddi Cymwys yn awtomatig, ac yn 'optio i mewn' y Deiliaid Swyddi Anghymwys sy'n gofyn am hyn, nid oes rhaid parhau i fod yn aelod o’r cynllun perthnasol.

Pan fydd unigolyn wedi cael ei gofrestru'n awtomatig, neu wedi cofrestru o ganlyniad i gais optio i mewn, gall ddewis 'optio allan' o'i gynllun:

  • Gall deiliaid swyddi cymwys ddewis optio allan ar ôl iddynt gael eu cofrestru'n awtomatig*
  • Gall deiliaid swyddi anghymwys sydd wedi optio i mewn ddewis optio allan ar ôl iddynt gael eu cofrestru*
  • Nid oes gan Weithwyr â Hawl sydd wedi gofyn am ymuno â chynllun yr hawl i ddewis optio allan.  Os yw Gweithiwr â Hawl eisiau gadael y cynllun, rhaid iddo roi'r gorau i’r aelodaeth yn unol â rheolau’r cynllun perthnasol

* dim ond yn ystod yr hyn a elwir yn 'gyfnod optio allan' y ceir optio allan

Cyfnod Optio Allan

  • Un mis calendr yw’r cyfnod optio allan. Mae’n dechrau o'r dyddiad diweddaraf o'r dyddiad y mae'r unigolyn:
  • yn dod yn aelod gweithredol o'r cynllun, yn weithredol o'r dyddiad cofrestru awtomatig (h.y. y dyddiad y mae'r camau gweinyddol ar gyfer cyflawni aelodaeth weithredol yn cael eu cwblhau)

Neu

  • yn cael gwybodaeth ysgrifenedig am gofrestru

Nid oes modd i unigolion optio allan cyn i'r cyfnod optio allan ddechrau nac ar ôl iddo ddod i ben. Os byddant yn penderfynu gadael y cynllun y tu allan i'r cyfnod hwn, byddant yn hytrach yn 'rhoi'r gorau i aelodaeth weithredol'.

Mae rhagor o fanylion am y broses optio allan ar gael gan ddarparwr y cynllun pensiwn perthnasol.

4.2 Ailgofrestru 

Os yw’r staff yn dal yn gymwys, bydd Chwaraeon Cymru yn ailgofrestru'r rhai sydd wedi dewis optio allan yn ôl i’r cynllun pensiwn cofrestru awtomatig. Bydd yr ailgofrestru hwn yn digwydd bob 3 blynedd.  

Bydd staff yn cael yr opsiwn i optio allan o’r cynllun ar ôl iddynt gael eu hailgofrestru. Bydd angen i’r optio allan ddigwydd yn unol â'r un mis o gyfnod optio allan fel y disgrifir uchod.

4.3 Monitro Cymhwysedd 

Newidiadau o ran Oedran a/neu Gyflog

Mae Chwaraeon Cymru yn monitro newidiadau yn oedran ac enillion ei staff yn rheolaidd er mwyn gallu gwybod pwy sy'n dod yn gymwys ar gyfer cofrestru awtomatig.

Os nodir bod unigolion wedi dod yn gymwys ar gyfer cofrestru awtomatig neu optio i mewn i gynllun, bydd Chwaraeon Cymru yn dilyn y broses ar gyfer cofrestru awtomatig, sydd ar gael gan yr adran Adnoddau Dynol.

Gweithwyr Newydd

Wrth benodi aelod newydd o staff, bydd Chwaraeon Cymru yn gweld a yw’n gymwys ar gyfer cofrestru awtomatig ac yn dilyn y broses sy'n berthnasol i'r categori o weithiwr y mae’n perthyn iddo.

4.4 Cynlluniau Pensiwn 

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

Hyd at 31 Mawrth 2014, roedd cynllun Buddion Diffiniedig y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn seiliedig ar gyflog terfynol ac yn addo talu incwm yn seiliedig ar faint y byddai unigolyn yn ei ennill pan fyddai'n ymddeol o Chwaraeon Cymru neu’n gadael Chwaraeon Cymru.

Ar 1 Ebrill 2014, newidiodd y cynllun hwn i gynllun CARE (Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi'u Hailbrisio). Mae cynllun CARE hefyd yn gynllun buddion diffiniedig. Fodd bynnag, yn wahanol i'r cynllun cyflog terfynol, mae cynllun CARE yn addo talu incwm yn seiliedig ar yr incwm cyfartalog y mae unigolyn wedi'i ennill ar draws ei yrfa.

Bydd y staff hynny a oedd yn rhan o gynllun Cyflog Terfynol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar 1 Ebrill 2014 wedi cael eu trosglwyddo i gynllun CARE y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o'r dyddiad hwn. Bydd yr holl fuddion a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014 o dan y cynllun Cyflog Terfynol wedi'u diogelu'n llawn, sy'n golygu y bydd pob aelodaeth hyd at y dyddiad hwn yn dal i gael ei chyfrifo gan ddefnyddio cyflog terfynol yr unigolyn wrth ymddeol o Chwaraeon Cymru neu adael Chwaraeon Cymru.

Mae cynllun CARE y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun buddion diffiniedig. Mae cynllun CARE yn addo talu incwm yn seiliedig ar yr incwm cyfartalog y mae unigolyn wedi'i ennill ar draws ei yrfa. I gael rhagor o wybodaeth fanwl, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.cardiffandvalepensionfund.org.uk/cy/

Scottish Widows

Cynllun pensiwn Scottish Widows yw ein cynllun cymwys at ddibenion cofrestru awtomatig. Cynllun Cyfraniadau Diffiniedig ydyw, sy'n golygu ei fod yn cael ei gronni drwy gyfraniadau unigolyn a chyfraniadau Chwaraeon Cymru, ynghyd â rhyddhad treth gan y llywodraeth. Mae cynlluniau cyfraniadau diffiniedig yn rhoi swm cronedig ar ymddeoliad.

Bydd staff sy'n dod o fewn y categori Deiliaid Swyddi Cymwys yn cael eu cofrestru'n awtomatig yn y cynllun hwn oni bai eu bod yn dweud eu bod am ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae cynllun cyfraniadau diffiniedig Scottish Widows hefyd ar gael i'r rhai sy'n dod o fewn y categori Deiliaid Swyddi Anghymwys a Gweithwyr â Hawl os ydynt yn dymuno optio i mewn i'r cynllun.

  • I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â chynllun Scottish Widows, cysylltwch â'r adran Adnoddau Dynol.
  • I gael gwybodaeth am bolisi Scottish Widows, cysylltwch â Scottish Widows yn uniongyrchol.

4.5 Cyfraddau Cyfraniadau 

Cyflog Pensiynadwy 

Mae cyfraddau cyfraniadau unigolion yn seiliedig ar gyflog pensiynadwy. Mae hyn yn cynnwys cyflog sylfaenol a goramser, yn ogystal â phob lwfans arall ar wahân i'r lwfans ffôn symudol.

Cyfraddau Cyfraniadau Cynllun CARE Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014 

Cyfradd Cyfraniadau Cyflogeion:

  • Mae cyfraddau’r cyfraniadau’n amrywio yn dibynnu ar eich cyflog blynyddol.
  • Bydd Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi lefelau cyfraniadau diwygiedig ar gyfer Chwaraeon Cymru a'i gyflogeion. Mae’r rhain yn lefelau cyfraniadau sefydlog ac nid ydynt yn hyblyg.

Fel dewis arall, gall aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014 ymrwymo i drefniant 50/50, lle maent yn cyfrannu hanner canran y cyfraniad sy'n berthnasol i'w cyflog ac yn derbyn hanner y buddion y byddent wedi'u derbyn o dan brif adran y cynllun.

Cyfraddau Cyfraniadau Cyflogwyr:

  • Waeth beth fo cyfradd cyfraniad yr unigolyn, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfrannu at gronfa'r rhai sy'n cymryd rhan yng nghynllun pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Newidiadau mewn Cyflog

Os bydd cyflogau wedi newid yn ystod y flwyddyn, byddwn yn adolygu band eich cyflog newydd ac yn hysbysu adran y gyflogres a phensiynau yng Nghaerdydd am y newid hwn.

Cyfraddau Cyfraniadau Scottish Widows

Cyfraddau Cyfraniadau Cyflogeion:

  • Bydd gofyn i staff sy'n ymuno â chynllun pensiwn Scottish Widows dalu cyfradd cyfraniadau sylfaenol o gyfanswm eu cyflog pensiynadwy.

Cyfraddau Cyfraniadau Cyflogwyr:

  • Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i gyfrannu canran o’ch cyflog pensiynadwy yn unol â’r ddeddfwriaeth.

4.6 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Dewisiadau Ymddeol a Darpariaethau Pensiwn 

Opsiynau ar gyfer Ymddeol 

O fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gall Ymddeol gymryd sawl ffurf:

Ymddeoliad Arferol

Bydd oedran ymddeol y cynllun yn cael ei gysylltu ag oedran pensiwn y wladwriaeth ar adeg ymddeol.

Ymddeoliad cynnar a ysgogir gan aelodau

Gall cyflogeion hawlio eu pensiwn o 55 oed ymlaen. Fodd bynnag, byddai hyn yn golygu gostyngiadau sylweddol.

Salwch

Os bydd Chwaraeon Cymru yn terfynu, ar sail salwch, cyflogaeth aelod gweithredol sydd â gwasanaeth cymwys am gyfnod o ddwy flynedd, cyn i'r aelod gyrraedd oedran pensiwn arferol, bydd ganddo’r hawl i gael pensiwn ymddeol yn gynt, a rhaid iddo ei gymryd, os yw'r aelod hwnnw'n bodloni'r amodau canlynol:

  • Nid yw’r aelod, o ganlyniad i salwch, yn gallu cyflawni dyletswyddau'r swydd yr oedd yn ei gwneud yn effeithlon, a bod hynny'n barhaol
  • Nid yw'r aelod, o ganlyniad i salwch, yn gallu ymgymryd ag unrhyw waith â thâl ar ei union

Mae tair haen o ymddeoliad oherwydd salwch ar gael:

Buddion Haen 1
Os nad yw’n debygol y bydd yr aelod yn gallu ymgymryd â chyflogaeth â thâl cyn oedran pensiwn arferol, bydd gan yr aelod hawl i daliad buddion ar unwaith heb ostyngiad, a gwelliant i aelodaeth sy'n cyfateb i 100% o'r cyfnod o'r dyddiad gadael hyd at oedran pensiwn arferol.

Buddion Haen 2

Os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid oes gan yr aelod hawl i fuddion Haen 1; ac
  • os nad yw’r aelod yn debygol o allu ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth â thâl o fewn tair blynedd i adael y gyflogaeth; ond
  • mae’r aelod yn debygol o allu ymgymryd â chyflogaeth â thâl cyn cyrraedd oedran pensiwn arferol.

Lle dyfernir pensiwn ail haen, bydd gan yr aelod hawl i gael taliad o fuddion ar unwaith heb ostyngiad, a gwelliant i aelodaeth sy'n cyfateb i 25% o'r cyfnod o’r dyddiad gadael hyd at oedran pensiwn arferol.

Buddion Haen 3

Os yw'n debygol y bydd yr aelod yn gallu ymgymryd â chyflogaeth â thâl o fewn tair blynedd i adael y swydd, neu cyn oedran pensiwn arferol os yw'n gynharach, bydd buddion Haen 3 ar gael heb ostyngiad ond heb unrhyw welliant.

Dileu Swyddi

Cyfeiriwch at y polisi Dileu Swyddi am ganllawiau ar ymddeoliad cynnar a dileu swyddi

Am ragor o wybodaeth am yr opsiynau ymddeol a restrir, siaradwch ag aelod o'r tîm Adnoddau Dynol.

4.7 Y Rheol 85 Mlynedd 

Os oeddech chi'n aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol unrhyw bryd rhwng 1 Ebrill 1998 a 30 Medi 2006, mae’n bosibl y gallai eich buddion i gyd neu rai ohonynt gael eu diogelu rhag cosb talu'n gynnar, o dan yr hyn a elwir yn rheol 85 mlynedd.  Mae Chwaraeon Cymru wedi arfer ei ddisgresiwn i gymhwyso'r rheol 85 mlynedd ar gyfer aelodau perthnasol. Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol.

4.8 Ymddeoliad Hyblyg 

Bydd ceisiadau am weithio hyblyg yn cael eu trin fesul achos.  Cyfeiriwch at y polisi Gweithio Hyblyg ynglŷn â cheisiadau gweithio hyblyg.

I'r rhai sydd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gall gweithwyr dros 55 oed wneud cais i ymddeol yn hyblyg, gan barhau yn eu swydd ar sail llai o oriau a/neu radd is. Yn yr amgylchiadau hyn, gall y cyflogai barhau i gyfrannu at ei gronfa bensiwn pan fydd yn derbyn buddion ei bensiwn. Fodd bynnag, byddai eich pensiwn yn cael ei leihau yn yr amgylchiadau hyn yn dibynnu ar eich oedran ar ymddeoliad hyblyg.

Fel arfer, dim ond pan nad oes cost i'r sefydliad a bod anghenion y busnes yn cael eu diwallu y bydd Chwaraeon Cymru yn ystyried achosion ymddeol yn hyblyg.

Meini prawf

Rhaid i gyflogeion fodloni'r meini prawf isod:

  • Rhaid i gyflogeion fod yn 55 oed neu'n hŷn
  • Rhaid i gyflogeion gyflwyno eu cais i ymddeol yn hyblyg yn ysgrifenedig i'w rheolwr
  • Rhaid i gyflogeion ddangos na fydd caniatáu’r cais hwn yn golygu cynnydd mewn costau
  • Rhaid i'r cyflogai ymrwymo i ostyngiad parhaol mewn oriau neu ostyngiad mewn gradd neu'r ddau.

Cais i Leihau Oriau

  • Rhaid iddo fod yn o leiaf 40% o ostyngiad o'r oriau a gontractiwyd yn flaenorol
  • Bydd yn newid contractiol parhaol
  • Ni fydd cyflogeion yn gallu gweithio oriau ychwanegol uwchlaw'r oriau contract newydd sydd wedi'u lleihau, tra byddant yn y swydd hon

Sylwch na fydd y newid yn effeithio ar y pensiwn a gronnwyd cyn lleihau’r oriau, ond bydd yn effeithio ar bensiwn a gronnir ar ôl y newid.

Bydd lleihau oriau hefyd yn effeithio ar fuddion dileu swyddi a buddion salwch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Os gofynnir am leihau oriau, rhaid llenwi ffurflen gais ymddeol yn hyblyg a'i chyflwyno i'ch rheolwr llinell. Yna bydd y cais hwn yn dod o dan y Polisi Gweithio Hyblyg.

4.9 Cyfraniadau a Thaliadau Ychwanegol 

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol 

Gall cyflogai ddewis talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol sy'n cael eu buddsoddi ar wahân mewn cronfeydd a reolir gan ddarparwr y Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Bydd cost y cyfraniadau ychwanegol hyn yn cael ei hariannu’n llawn gan y cyflogai.

Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol 

Gall cyflogai ddewis optio i mewn i brynu pensiwn ychwanegol ar gyfer ei ymddeoliad drwy dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol. Os yw'r cyflogai ym mhrif adran y Cynllun, gall dalu mwy mewn cyfraniadau i brynu hyd at £6,500 o bensiwn ychwanegol.

Mae unrhyw bensiwn ychwanegol a brynir yn daladwy bob blwyddyn yn ystod ymddeoliad, a hynny ar ben buddion arferol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae cost y cyfraniadau ychwanegol hyn yn cael ei hariannu’n llawn gan y cyflogai.

Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau 

Mae Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau yn talu am y pensiwn a ‘gollwyd’ yn ystod cyfnodau o absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu a Thadolaeth ychwanegol heb dâl neu gyfnodau o absenoldeb awdurdodedig heb dâl.

Absenoldeb Rhiant Newydd

Os yw'r cyflogai’n rhiant newydd gyda chyfnod o absenoldeb perthnasol sy'n gysylltiedig â phlant, ni fydd hyn yn effeithio ar faint o bensiwn a gronnir.

Mae absenoldeb perthnasol sy'n gysylltiedig â phlant yn cynnwys pob cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin, Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin ac Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin ac unrhyw Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol, Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol ac Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol â thâl.

Mae hynny'n golygu, os oes gan y cyflogai gyfnod o gyflog contractiol is yn ystod absenoldeb perthnasol sy'n gysylltiedig â phlant, fod ei bensiwn yn dal i gael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfartaledd o'i gyflog pensiynadwy arferol (cyn y gostyngiad mewn cyflog).  

Dim ond ar unrhyw gyflog y byddant yn ei dderbyn y bydd cyflogeion yn talu cyfraniadau.

Absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu neu Dadolaeth ychwanegol heb dâl

Os yw'r cyflogai’n penderfynu cymryd cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu (fel arfer o wythnos 39 i wythnos 52) neu Dadolaeth ychwanegol heb dâl, ni fydd yn cronni buddion pensiwn. Gall ddewis talu am y cyfnod o bensiwn 'a gollwyd' drwy gymryd contract Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau.

Os cymerir contract Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau i dalu am y pensiwn 'a gollwyd' yn ystod cyfnod o absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu neu Dadolaeth ychwanegol heb dâl, rhennir y gost – 1/3 i'r cyflogai a 2/3 i Chwaraeon Cymru – ar yr amod y dewisir prynu'r pensiwn 'a gollwyd' o fewn 30 diwrnod i ddychwelyd i'r gwaith.

Absenoldeb Di-dâl Awdurdodedig

Os bydd cyflogai’n penderfynu cymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, ni fydd yn cronni buddion pensiwn. Gall y cyflogai ddewis talu am y cyfnod pensiwn ‘a gollwyd’ drwy gymryd contract Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau. Os cymerir contract Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol Rhannu Costau i dalu am y pensiwn 'a gollwyd' yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, rhennir y gost – 1/3 i'r cyflogai a 2/3 i Chwaraeon Cymru – ar yr amod y dewisir prynu'r pensiwn 'a gollwyd' o fewn 30 diwrnod i ddychwelyd i'r gwaith.

Dileu Swyddi

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i roi pensiwn blynyddol ychwanegol i aelodau gweithredol y Cynllun, na'r rhai o fewn 6 mis i adael, y terfynwyd eu cyflogaeth ar sail dileu swyddi neu effeithlonrwydd busnes.

4.10 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Ymddeoliad Cynnar a Gostyngiadau Actiwaraidd

Bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio disgresiwn i hepgor gostyngiadau actiwaraidd dim ond pan fydd mantais ariannol neu weithredol glir i'r sefydliad.

Y Pwyllgor Taliadau fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am ymddeoliad cynnar ar sail dosturiol a hepgor yr holl fuddion pensiwn gostyngedig neu rywfaint ohonynt.

Mae'r disgresiwn canlynol yn berthnasol i’r rhain:

  • Aelodau gweithredol sy'n ymddeol yn wirfoddol pan fyddant yn 55 oed neu ar ôl hynny sy'n dewis cael eu buddion ar unwaith
  • Pensiynwyr salwch haen 3 gohiriedig ac ataliedig
  •  
Meini PrawfSail DosturiolSail Arall
Aelodaeth ar ôl 1 Hydref 2006Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2014Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor, yn llawn neu’n rhannol, y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwyd ar ôl 31 Mawrth 2014
Aelodau cyn 1 Hydref 2006 a fydd yn 60 oed neu'n hŷn ar 31 Mawrth 2016Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwy cyn 1 Ebrill 2016Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor, yn llawn neu’n rhannol, y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwyd ar ôl 31 Mawrth 2016
Aelodau cyn 1 Hydref 2006 na fyddant yn 60 oed neu'n hŷn ar 31 Mawrth 2016 ac na fyddant yn cyrraedd 60 oed rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2020Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor, yn llawn neu’n rhannol, y gostyngiadau actiwaraidd a fyddai fel arall yn cael eu cymhwyso i fuddion a gronnwyd ar ôl 31 Mawrth 2020

4.11 Disgresiwn a Therfynu Aelodaeth Weithredol 

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2008 – Disgresiwn 

Mae'r disgresiwn canlynol yn berthnasol i aelodau'r cynllun a roddodd y gorau i fod yn aelodau gweithredol rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014.

Ceisiadau i dalu buddion gohiriedig yn gynnar

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i ganiatáu ceisiadau i dalu buddion pensiwn gohiriedig yn gynnar ar neu ar ôl 55 oed a chyn 60 oed.

Hepgor gostyngiadau actiwaraidd ar fuddion gohiriedig

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor unrhyw ostyngiad actiwaraidd a fyddai fel arfer yn cael ei gymhwyso i fuddion gohiriedig a delir cyn 65 oed, ar sail dosturiol

Ceisiadau i dalu pensiwn salwch haen 3 ataliedig yn gynnar

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i ganiatáu ceisiadau i dalu pensiwn salwch haen 3 ataliedig ar neu ar ôl 55 oed a chyn 60 oed.

Hepgor gostyngiadau actiwaraidd ar bensiwn salwch haen 3 ataliedig

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i hepgor unrhyw ostyngiad actiwaraidd a fyddai fel arfer yn cael ei gymhwyso i unrhyw fuddion pensiwn salwch haen 3 ataliedig sy'n cael eu hadfer cyn 65 oed, ar sail dosturiol.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1995 – Disgresiwn 

Mae'r disgresiwn canlynol yn berthnasol i aelodau'r cynllun a roddodd y gorau i fod yn aelodau gweithredol cyn 1 Ebrill 1998.

Ceisiadau i dalu buddion gohiriedig yn gynnar

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn arfer ei ddisgresiwn i ganiatáu ceisiadau i dalu buddion pensiwn gohiriedig yn gynnar ar neu ar ôl 50 oed a chyn 65 oed, ar sail dosturiol.

Disgresiwn Scottish Widows

Nid oes unrhyw ddisgresiwn ar gael o dan Gynllun Pensiwn Personol Grŵp Scottish Widows.

5. Polisi Goramser a TOIL (Amser o’r Gwaith yn Lle Amser a Weithiwyd)

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

5.1 Goramser

Cymeradwyo Goramser

Nid yw goramser yn gytundebol ac nid oes rhaid i gyflogeion ymgymryd â goramser fel rhan o'u rôl, yn yr un modd nid oes rhaid i Chwaraeon Cymru gynnig goramser i gyflogeion. Lle bo angen goramser, caiff ei gynnig i bob cyflogai perthnasol. Gellir talu goramser drwy gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Bennaeth Adran. Dim ond i swyddi sy'n gweithredu ar batrwm shifft / rota y mae'r polisi hwn yn berthnasol.

 Cyfradd Goramser

Telir y gyfradd goramser ar y gyfradd sylfaenol. Ar gyfer staff rhan amser, bydd hyn yn cynnwys lwfans shifft hyd at y 37 awr gyntaf, ac wedi hynny, ar y gyfradd sylfaenol yn unig.

Yn ôl disgresiwn y Pennaeth Adran perthnasol, efallai y cewch yr oriau cyflogedig cyfatebol fel ‘amser o’r gwaith yn lle amser a weithiwyd’ (‘TOIL’) yn lle tâl am oramser. Dim ond os bodlonir y meini prawf TOIL a amlinellir isod y caniateir hyn. Os caiff ei awdurdodi, bydd eich cofnod TOIL yn cael ei addasu yn unol â hynny.

Rheolau Goramser

Rhaid cofnodi goramser a TOIL mewn cyfnodau o 15 munud, y mae'n rhaid eu gweithio, nid eu talgrynnu i fyny. Rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan y rheolwr llinell perthnasol.

Bydd goramser yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-daliadau.

Hawl a Thaliadau Premiwm ar gyfer Gwyliau Banc

Y dybiaeth yw y bydd cyflogeion yn cymryd eu hamser i ffwrdd ar wyliau banc oni bai ei bod yn ofynnol iddynt weithio. Mae’r lefelau staffio yn ystod Gwyliau Banc yn ôl disgresiwn y rheolwr llinell.

Bydd cyflogeion ar batrwm shifftiau sydd wedi'u hamserlennu i weithio ar ŵyl banc yn derbyn taliad llawn am eu horiau cytundebol fel rhan o'r taliad cyflog misol arferol.

Os bydd y cyflogai’n mynychu'r gwaith ar ŵyl y banc, bydd yn:

  • cael TOIL gyda'r hawl i ŵyl banc i'w chymryd ar ddiwrnod gwahanol.
  • derbyn taliad premiwm am yr oriau gwirioneddol a weithiwyd a fydd yn cael eu talu ar y gyfradd sylfaenol ynghyd â lwfansau.
  • os yw'r cyflogai’n sâl ar y diwrnod hwn, ni fydd yn derbyn y taliad premiwm

Os yw'r ŵyl banc yn syrthio ar ddiwrnod gorffwys wedi'i drefnu, bydd yr hawl i ŵyl banc naill ai'n cael ei chredydu i falans gwyliau blynyddol y cyflogai, neu'n cael ei chredydu fel TOIL i'w gymryd ar ddiwrnod gwahanol.

Os yw'r ŵyl banc yn syrthio ar ddiwrnod gorffwys wedi'i drefnu ond bod y cyflogai’n gweithio ar y diwrnod, bydd yn:

  • derbyn taliad premiwm am yr oriau gwirioneddol a weithiwyd a fydd yn cael eu talu ar y gyfradd sylfaenol ynghyd â lwfansau.
  • bydd yr hawl i ŵyl banc yn cael ei chredydu fel TOIL i'w gymryd ar ddiwrnod gwahanol.

7.4 awr / 37 x eich oriau rhan amser = hawl i wyliau banc mewn oriau.

Os yw'r ganolfan yn cau ar ddiwrnod yr oeddech i fod yn y gwaith a bod eich hawl i ŵyl banc yn llai na'ch oriau cytundebol ar gyfer y diwrnod hwnnw, bydd yr oriau sy'n weddill yn cael eu tynnu o'ch hawl gwyliau blynyddol neu gerdyn TOIL.

Os yw'r Ganolfan yn cau ar ddiwrnod yr oeddech i fod yn y gwaith a bod eich hawl i ŵyl banc yn fwy na'ch oriau cytundebol ar gyfer y diwrnod hwnnw, bydd yr oriau sy'n weddill yn cael eu hychwanegu at eich hawl gwyliau blynyddol neu gerdyn TOIL i chi eu cymryd ar ddiwrnod gwahanol.

5.2 Amser o’r Gwaith yn Lle Amser a Weithiwyd (TOIL)

Mae'r adran hon yn darparu rhai canllawiau a meini prawf ynghylch cymryd TOIL.

Cymeradwyo TOIL

Fel gyda Goramser, rhaid i Bennaeth yr Adran roi cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer cronni TOIL.

Dim ond os yw'r holl feini prawf perthnasol isod yn berthnasol y bydd TOIL yn cael ei awdurdodi. Os caiff ei awdurdodi, bydd eich cofnod TOIL yn cael ei addasu yn unol â hynny. 

Os na fodlonir y meini prawf isod, telir yr oriau cyfatebol fel goramser y mis canlynol. 

Rhaid i'ch rheolwr llinell gymeradwyo'r holl wyliau ymlaen llaw, gan gynnwys TOIL. Dim ond ar ôl i'ch rheolwr llinell awdurdodi eich cais i gymryd TOIL y gallwch ymrwymo i'ch cynlluniau gwyliau, gan gynnwys archebu gwyliau. 

Os gwrthodir eich cais am TOIL, bydd eich rheolwr llinell yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl. Lle mae gwyliau blynyddol neu geisiadau TOIL sy'n gwrthdaro, rhoddir blaenoriaeth i'r aelod o staff y derbyniwyd ei gais gyntaf, yn amodol ar anghenion y busnes. 

Rheolau TOIL

Rhaid cofnodi TOIL mewn cyfnodau o 15 munud. Rhaid i chi weithio am y cyfnod llawn o 15 munud rydych chi'n ei hawlio. Ni ddylid talgrynnu hwn i fyny. 

Ni ellir cario mwy na 4 diwrnod (30 awr) o gredyd drosodd i'r mis canlynol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, fel yr awdurdodir gan y Pennaeth Adran perthnasol. Telir unrhyw oriau ychwanegol fel goramser. 

Ni fydd modd cario mwy nag 1 diwrnod (7.5 awr) o ddebyd TOIL drosodd i'r mis canlynol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, fel yr awdurdodir gan y Pennaeth Adran perthnasol. Bydd unrhyw oriau debyd ychwanegol yn cael eu prosesu fel absenoldeb di-dâl.

Cardiau TOIL

Y staff sy’n gyfrifol am gwblhau eu cerdyn TOIL a’r rheolwyr sy’n gyfrifol am gymeradwyo credydu TOIL ac awdurdodi ceisiadau TOIL. Dylai rheolwyr llinell hefyd gofnodi unrhyw weithgarwch TOIL drwy Cascade.

Mae rheolwyr llinell yn gyfrifol am gofnodi unrhyw TOIL ar gyfer gwyliau banc.

6. Treuliau

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

6.1. Treuliau Teithio 

Egwyddorion Allweddol

Bydd Chwaraeon Cymru yn talu'r gost lle mae'n ofynnol i gyflogeion deithio ar fusnes swyddogol. 

Dylai cyflogeion sicrhau eu bod yn defnyddio'r dulliau teithio mwyaf effeithlon ac economaidd, gan ystyried costau teithio, costau cynhaliaeth ac arbedion mewn amser swyddogol.  Dim ond pan fydd budd gweithredol y cytunwyd arno ymlaen llaw yn cyfiawnhau dulliau teithio drutach y byddant yn cael eu hawdurdodi.  Rhaid osgoi unrhyw deithio diangen.

Os yw cyflogai’n teithio ar fusnes swyddogol rhaid iddo fanteisio ar unrhyw gyfleusterau rhad a allai fod ar gael, er enghraifft, tocynnau dychwelyd undydd neu docynnau tymor, lle mae eu defnydd yn gyson â chynnal busnes swyddogol yn effeithlon ac yn economaidd.

Os yw cyflogai’n ystyried bod ei gynigion ar gyfer teithio yn cynnwys defnydd newydd neu ddadleuol o'r egwyddorion hyn, dylai gael cymeradwyaeth ei Reolwr Llinell / Cyfarwyddwr yn gyntaf. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cadw'r hawl i wrthod talu'r cyfan neu ran o hawliadau yng nghyswllt treuliau afresymol neu dreuliau y gellid bod wedi'u hosgoi petai'r daith wedi cael ei chynllunio'n well.

Mae'r cyfraddau lwfans cyfredol ar gyfer teithio a chynhaliaeth ar gael ar y fewnrwyd neu gan y tîm Adnoddau Dynol.

Defnyddio Cardiau Caffael

Wrth ddefnyddio cerdyn caffael at ddibenion teithio a llety, bydd angen awdurdodiad gan y Rheolwr Llinell a Deiliad y Gyllideb cyn gwneud y pryniant ac yn unol â'r lefelau gwariant a nodir yn y polisi hwn.

Mae angen i gyflogeion sicrhau eu bod hefyd yn cadw at eu cyfrifoldebau fel deiliad Cerdyn Caffael fel y nodir yn y weithdrefn Cynllun Cerdyn Caffael (FIN010) sydd i'w gweld yn adran Cyllid y fewnrwyd.

Er bod y broses ar gyfer defnyddio cardiau caffael yn cael ei rheoleiddio gan weithdrefn y Cynllun Cardiau Caffael, mae'r egwyddorion a nodir ar gyfer teithio a chynhaliaeth yn y polisi hwn yn parhau i fod yn berthnasol. 

Cyflwyno Hawliadau

Dylai cyflogeion gyflwyno eu hawliadau’n brydlon gan ddefnyddio’r ffurflen hawlio costau teithio a chynhaliaeth, sydd ar gael ar y fewnrwyd.

Gall hawliadau a gyflwynir yn hwyrach na'r terfynau amser canlynol gael eu gwrthod (oni bai fod rheswm da dros yr oedi):

  • bob mis, i gyflogeion sy'n teithio'n rheolaidd
  • o fewn cyfnod rhesymol o amser, ond yn sicr o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol

Rhaid i gyflogeion sicrhau bod hawliadau am lwfansau teithio a chynhaliaeth wedi'u cydlofnodi gan ddeiliad y gyllideb teithio a chynhaliaeth perthnasol neu ei reolwr llinell, pa un bynnag sydd yn y safle uchaf.

6.2 Mathau o Wariant 

Gallai treuliau cyflogeion gynnwys un neu fwy o'r canlynol:

Teithio:

  • Teithio ar y ffordd
  • Teithio ar drên
  • Teithio mewn awyren

Cynhaliaeth:

  • Prydau bwyd
  • Llety dros nos
  • Treuliau Personol Achlysurol sy'n gysylltiedig â llety dros nos

Bydd Chwaraeon Cymru yn ad-dalu cyflogai os yw'r daith at ddibenion busnes yn unig.

6.3 Teithio 

Pa deithiau sy'n gymwys fel teithiau busnes?

Diffinnir teithio busnes ar gyfer treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol fel y teithiau hynny y mae'n rhaid i gyflogai eu gwneud i gyflawni ei swydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Os bydd cyflogai’n teithio o'i swyddfa i ymweld â thrydydd parti ac yn defnyddio ei gerbyd ei hun
  • Os bydd cyflogai’n teithio'n uniongyrchol o'i gartref i ymweld ag ail barti (oni bai fod y daith bron yr un fath â'i daith arferol o'i gartref i'r gwaith, oherwydd bod yr adeilad ychydig i lawr y ffordd o'r swyddfa)

Pa deithiau NAD YDYNT yn gymwys fel teithiau busnes?

Mae teithiau nad ydynt yn cyfrif fel teithiau busnes yn cynnwys:

  • Cymudo cyffredin - teithio rhwng cartref, neu unrhyw le arall y mae cyflogai’n mynd iddo am resymau personol (fel cartref ffrind neu berthynas) a'i weithle arferol
  • Teithio preifat - unrhyw deithio arall lle nad yw'r pwrpas at ddibenion busnes

6.4 Teithio ar y ffordd 

Car, Beic neu Feic Modur y Cyflogai ei Hun

Polisi Chwaraeon Cymru yw peidio â thalu am gostau teithio oni bai eu bod yn gymwys fel teithio busnes fel y cânt eu diffinio uchod.

Bydd milltiroedd busnes yn cael eu had-dalu yn unol â'r cyfraddau cymeradwy. Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan yr Uwch Dîm Rheoli, yn unol â rheoliadau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Yswiriant ar gyfer Defnydd Busnes

Mae'n ofynnol i gyflogeion sy'n defnyddio eu cerbyd eu hunain ar fusnes Chwaraeon Cymru sicrhau bod eu polisi yswiriant yn eu gwarchod i ddefnyddio’r cerbyd at ddibenion busnes. Rhaid i'r cyflogai dalu unrhyw gostau ychwanegol.

Pan fydd cyflogeion yn defnyddio eu cerbyd modur preifat at ddibenion busnes swyddogol, rhaid iddynt lenwi a llofnodi ffurflen teithio a chynhaliaeth, gan gydnabod eu bod yn gwybod ac yn deall y gofynion yswiriant hyn, eu bod wedi'u gwarchod yn unol â hynny ac y byddant yn rhoi gwybod i Chwaraeon Cymru ar unwaith am unrhyw newid sy'n eu gadael â llai o warchodaeth na’r hyn sy'n ofynnol gan y rheolau.

Ceir Cronfa

Mae polisi ar wahân ar gyfer defnyddio Ceir Cronfa.

Llogi Car

Os nad oes modd defnyddio car cronfa Chwaraeon Cymru, neu gar modur preifat, neu os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus na thacsi yn darparu'r dull teithio mwyaf effeithlon, gall cyflogeion ofyn am logi car.

Dylai cyflogeion ddewis yr opsiwn rhataf wrth logi cerbyd.  Fel arfer, bydd hyn yn golygu defnyddio cynllun llogi ceir cymeradwy Chwaraeon Cymru.  Mae manylion y drefn ar gyfer gofyn am logi car ar y fewnrwyd.

Fel rheol, dylid defnyddio ceir wedi’u llogi ar gyfer teithiau sy'n gofyn am fod yn absennol o’r gweithle arferol am fwy na hanner diwrnod a phellter o fwy na 60 milltir.  Rhaid cael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan eich rheolwr llinell cyn llogi ceir sy'n gyrru eu hunain.

Mae gan Chwaraeon Cymru ei bolisi yswiriant fflyd cynhwysfawr ei hun sy'n cynnwys llogi cerbydau.  Mae hyn wedi'i gyfyngu i gerbydau sydd ag uchafswm o saith sedd.  Os oes raid i gyflogeion logi bws mini, rhaid iddynt gael yswiriant ychwanegol gan y cwmni llogi hefyd.  Mae'r polisi'n cwmpasu unrhyw gyflogai yn Chwaraeon Cymru.

Taliad Atodol am Deithwyr

Os bydd cyflogeion yn defnyddio eu cerbyd modur preifat ac yn cludo teithwyr y byddai Chwaraeon Cymru yn talu eu prisiau fel arall, efallai y bydd modd iddynt gael taliad atodol am bob teithiwr sy'n cael ei gludo. Mae modd gweld y gyfradd gyfredol ar y fewnrwyd, neu holi’r tîm Adnoddau Dynol. 

Treuliau Cysylltiedig

Bydd ffioedd parcio ceir, taliadau tagfeydd a thollau pontydd a delir yn ystod busnes swyddogol yn cael eu had-dalu yn amodol ar gyflwyno prawf o’r gwariant.

Dylid cyflwyno hawliadau gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Teithiau o'r Cartref i'r Swyddfa

Cyfrifoldeb y cyflogai yw teithio bob dydd rhwng ei gartref a'i weithle.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caniateir talu lwfansau milltiroedd am ddefnyddio cerbyd preifat ar gyfer y siwrnai hon, h.y. os oes gofyn i gyflogai ddod i’w waith ar adegau ychwanegol y tu allan i’w oriau gwaith arferol.

Dirwyon

Ni fydd Chwaraeon Cymru yn ad-dalu’r canlynol:

  • Dirwyon parcio
  • Dirwyon tâl tagfeydd
  • Ffioedd rhyddhau clampio
  • Ffioedd adfeddiannu cerbydau
  • Dirwyon troseddau moduro

Sylwch nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Gwaharddiad

Efallai y bydd gofyn i gyflogeion y mae'n ofynnol iddynt deithio wrth gyflawni eu dyletswyddau arferol wneud trefniadau amgen addas a thalu am gost hynny eu hunain os cânt eu gwahardd rhag gyrru.

Colled neu Ddifrod

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff canlynol, ni fyddai Chwaraeon Cymru yn ad-dalu unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio cerbydau modur preifat ar fusnes swyddogol, os gellir hawlio cost y golled neu’r difrod hwnnw o dan eich polisi yswiriant ai peidio.

Os yw'r polisi yswiriant yn ddarostyngedig i gymal atodol, gall Chwaraeon Cymru ad-dalu cost unrhyw golled a difrod na ellir ei adennill gan y cwmni yswiriant oherwydd gweithredu’r cymal atodol hwnnw, ar yr amod: 

  • Bod y golled neu'r difrod na ellir ei adfer hyd at £165
  • Bod unrhyw golled neu ddifrod wedi digwydd tra oedd y cyflogai ar fusnes swyddogol
  • Bod cyflogeion yn ad-dalu unrhyw arian i Chwaraeon Cymru a dalwyd yn wreiddiol gan y sefydliad yn unol â’r ddarpariaeth hon, os ceir ad-daliad gan unrhyw barti arall
  • Nad oedd y golled neu'r difrod wedi digwydd yn sgil esgeulustod y cyflogai

Damweiniau

Os bydd damwain yn cynnwys partïon eraill, dylai cyflogeion gael enwau, cyfeiriadau, rhif(au) cofrestru ac yswirwyr y partïon eraill a hefyd enwau a chyfeiriadau tystion. 

Ni ddylai cyflogeion gyfaddef atebolrwydd i unrhyw drydydd parti yn y fan a'r lle.  Ar ôl unrhyw ddamwain, rhaid iddynt lenwi a chyflwyno ffurflen adrodd am ddamwain i Chwaraeon Cymru, ac mae'r ffurflen ar gael ar y fewnrwyd.  Dylid anfon ffurflenni wedi'u cwblhau at y Rheolwr Adnoddau Dynol.

Lladrad

Os bydd car wedi'i logi neu unrhyw gynnwys ynddo'n cael ei ladrata, dylech roi gwybod i'r heddlu yn syth ar ôl i chi sylwi, a’r cwmni llogi yn syth ar ôl hynny. 

Bydd gofyn i gyflogeion lenwi a chyflwyno ffurflen adrodd am ladrad cerbydau modur i Chwaraeon Cymru, ac mae'r ffurflen ar gael ar y fewnrwyd.  Dylid anfon ffurflenni wedi'u cwblhau at y Rheolwr Adnoddau Dynol.

6.5 Teithio ar Feic 

Gall cyflogeion hawlio lwfans milltiroedd am bob siwrnai fusnes (ac eithrio i'ch gweithle arferol ac yn ôl) a wneir ar feic.  Edrychwch ar y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd.

6.6 Teithio mewn Tacsi 

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir ad-dalu ffioedd tacsi:

  • Ar gyfer siwrneiau lle nad oes dull trafnidiaeth gyhoeddus addas arall ar eu cyfer
  • Pan mae'n rhaid cludo bagiau trwm i orsafoedd neu oddi yno
  • Lle mae arbed amser swyddogol yn bwysig. Efallai na fydd llawer o amser swyddogol yn cael ei arbed drwy ddefnyddio tacsis mewn trefi mawr ac yng nghanol Llundain.
  • Lle byddai cyflogeion fel arall yn cael eu rhoi mewn perygl personol er mwyn ymgymryd â busnes swyddogol e.e. siwrnai hwyr y nos a allai olygu aros mewn gorsaf fysiau / trenau unig

6.7 Teithio ar Drên 

Wrth deithio ar drên, dylai cyflogeion, cyn belled ag y bo modd, deithio yn y dosbarth safonol a dylent archebu eu teithiau ddigon ymlaen llaw i gael y prisiau gorau posibl.

Os yw’n well gan gyflogeion beidio â thalu am daith reilffordd gymeradwy eu hunain cyn gwneud hawliad, gallant gael gwarant rheilffordd gan y tîm Cyllid. Gellir gwneud cais am warant rheilffordd drwy’r fewnrwyd \ Dogfennau Cyllid. Wedyn caiff y warant rheilffordd ei chyfnewid am docyn yn swyddfa docynnau'r orsaf. 

Fel arall gallant brynu'r tocyn gan ddefnyddio cerdyn caffael (mae gwybodaeth am gardiau caffael ar gael gan y tîm Cyllid).

Dylai cyflogeion gadw pob tocyn a thaleb cerdyn credyd.

6.8 Teithio mewn Awyren 

O fewn y DU

Mae pob taith awyr o fewn y DU yn cael ei hystyried yn Daith Ansafonol ac felly mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Rheolwr Llinell.

Dim ond lle mae'n amlwg bod teithio o'r fath yn arwain at arbedion cost uniongyrchol neu anuniongyrchol, lle nad oes dull ymarferol arall o deithio, neu lle mae amgylchiadau arbennig eraill yn berthnasol, y dylid gwneud teithiau mewn awyren.

Gall teithwyr rheolaidd fod yn gymwys ar gyfer un o gynlluniau ‘milltiroedd awyr’ y prif gwmnïau hedfan. Fodd bynnag, ni ddylai cyflogeion elwa'n bersonol o gronni milltiroedd awyr ond dylent eu defnyddio i wrthbwyso costau teithiau swyddogol.

Teithio’n Rhyngwladol

Mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol ar gyfer pob taith dramor.

Fel rheol, rhaid gwneud pob taith mewn awyren gan ddefnyddio'r pris mwyaf economaidd sydd ar gael wrth i chi archebu. Disgwylir y bydd cyflogeion yn teithio yn y dosbarth economi. O dan amgylchiadau eithriadol, gall teithio mewn dosbarth busnes fod yn briodol. Bydd angen cymeradwyaeth yr Uwch Dîm Rheoli o dan yr amgylchiadau hyn.

Dylid gwneud archebion cyn gynted â phosibl i fanteisio ar brisiau arbennig.

Bydd gofyn i staff sy'n dewis teithio mewn dosbarth busnes, dosbarth clwb neu ddosbarth cyntaf heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Uwch Dîm Rheoli roi ad-daliad i Chwaraeon Cymru am y gwahaniaeth mewn cost rhwng y pris economaidd a'r pris a godwyd.

Mae angen i gyflogeion sicrhau bod ganddynt basbort llawn a dilys wrth deithio'n rhyngwladol. Mae gofyn cael fisâu penodol i deithio i rai gwledydd a dylai'r cyflogai drefnu'r rhain ynghyd ag yswiriant teithio.

6.9 Colli neu Ddifrod i Eiddo Personol 

Dylai cyflogeion nodi, wrth deithio ar fusnes swyddogol, nad oes gan Chwaraeon Cymru unrhyw atebolrwydd i dalu iawndal am golli neu ddifrodi unrhyw eiddo personol, naill ai yn y wlad hon neu dramor.

Felly dylai cyflogeion wneud eu trefniadau yswiriant personol eu hunain yn ôl eu hanghenion.

6.10 Cynhaliaeth 

Ni fyddai Chwaraeon Cymru yn dymuno i gyflogeion fod dan anfantais ariannol wrth fynd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill y tu allan i'w swyddfa arferol. Felly, bydd Chwaraeon Cymru yn talu cynhaliaeth os ydynt yn wynebu treuliau ychwanegol angenrheidiol pan fyddant i ffwrdd o'r cartref neu'r swyddfa o ganlyniad uniongyrchol i'w gwaith.

Ar y llaw arall, mae'n rhaid i Chwaraeon Cymru ddangos priodoldeb wrth ddefnyddio cyllid cyhoeddus.  O ganlyniad, mae'r polisi a'r broses hon yn ceisio mabwysiadu dull cytbwys o weithredu.

Hawlio Cynhaliaeth 

Bydd Chwaraeon Cymru yn ad-dalu treuliau rhesymol a achosir gan gyflogai pan:

  • Mae'n rhaid iddo aros i ffwrdd dros nos
  • Mae treuliau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo o ganlyniad i orfod teithio ar fusnes Chwaraeon Cymru

Pan mae’r costau’n fwy na’r cyfraddau a bennir, ni ellir hawlio amdanynt, oni bai fod amgylchiadau eithriadol a’i bod wedi bod yn bosibl cael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Gyfarwyddwr Corfforaethol y cyflogai.  O dan amgylchiadau o'r fath, dylid cael derbynebau a'u cyflwyno gyda'u ffurflen dreuliau.

Mae gwybodaeth am y cyfraddau perthnasol i'w chael yn y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd.

Prydau bwyd 

Dim ond ar ôl cyflwyno derbynebau gwreiddiol hyd at y terfynau cymeradwy y bydd gwariant ar brydau bwyd yn cael ei ad-dalu (edrychwch ar y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd). Rhaid cyflwyno derbynebau unigol ar gyfer pob hawliad.

Ni chaniateir derbynneb sy'n cael ei rhannu gan nifer o hawlwyr. Fodd bynnag, lle mae un cyflogai yn cyflwyno hawliad am dreuliau ar gyfer nifer o gyflogeion, rhaid nodi enw a swydd pob cyflogai.

Ni ellir hawlio cynhaliaeth am brydau bwyd pan ddarperir y rhain heb unrhyw gost i gyflogeion.

Bydd y terfynau prydau bwyd presennol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan yr Uwch Dîm Rheoli a'u diweddaru yn unol â hynny.

Ad-daliad Brecwast

Dim ond pan fydd busnes Chwaraeon Cymru yn gofyn i gyflogeion adael eu cartref cyn 7am neu aros dros nos y gellir hawlio cost brecwast. Mae ad-daliad yn amodol ar y gwerthoedd uchaf a bennir yn y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd.

Ad-daliad Cinio 

Pan fydd gofyn i gyflogai weithio neu fynd i’w waith mewn lleoliad heblaw ei fan gwaith arferol, disgwylir iddo ddarparu ei drefniadau cinio arferol heb wneud hawliad am dreuliau.

Fodd bynnag, lle mae unrhyw fusnes yn golygu bod rhaid i gyflogeion weithio drwy gydol yr egwyl ginio lawn rhwng 12pm a 2pm ar gyfer cyfarfod â phartïon allanol a bod gwariant ychwanegol yn cael ei ysgwyddo wrth brynu prydau bwyd, gan gynnwys diodydd di-alcohol ac ati, bydd gwariant angenrheidiol a chytunedig yn cael ei ad-dalu, yn amodol ar y gwerthoedd uchaf a bennir yn y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd.

Ad-daliad Pryd Gyda’r Nos  

Dim ond pan fydd cyflogeion, o ganlyniad i fusnes Chwaraeon Cymru, yn aros i ffwrdd dros nos neu ddim yn dychwelyd adref tan ar ôl 8pm y gellir hawlio cost pryd gyda'r nos (gan gynnwys diodydd di-alcohol). Mae’r cyfraddau i’w gweld ar y fewnrwyd.

NODYN: Ni ellir hawlio cynhaliaeth am brydau bwyd sydd wedi'u darparu, er enghraifft, mewn seminar, cwrs hyfforddi neu gynhadledd, neu os yw'r llety mewn gwesty yn cynnwys brecwast neu bryd bwyd gyda'r nos.

Lluniaeth

Pan fydd aelod o staff i ffwrdd o'i weithle drwy'r dydd, gellir hawlio cost lluniaeth a byrbrydau hefyd o fewn yr uchafswm a nodir yn y cyfraddau sydd ar gael ar y fewnrwyd.

6.12 Llety Dros Nos 

Gwestai

Bydd cyflogeion yn cael eu had-dalu am gost llety dros nos rhesymol pan fyddant yn gorfod bod i ffwrdd at ddibenion busnes Chwaraeon Cymru.

Er mwyn dangos priodoldeb wrth ddefnyddio cyllid cyhoeddus, dylid dod o hyd i lety mewn gwesty ac, os yw'n briodol, ei archebu ymlaen llaw gan ddefnyddio'r cyfraddau is ar gyfer cyrff y llywodraeth.

Edrychwch ar y Cyfraddau Treuliau a Lwfansau ar y fewnrwyd am fanylion y lwfansau uchaf ar gyfer llety mewn gwesty.

Os nad oes gwestai gyda chyfraddau is ar gael, neu os yw'r costau'n uwch na'r cyfraddau canllaw, bydd costau gwirioneddol yn cael eu had-dalu yn erbyn derbynebau TAW ar yr amod bod cyflogeion yn gallu bodloni eu rheolwr llinell mai dyma'r opsiwn mwyaf effeithlon sydd ar gael, gan ystyried cost, amser a chyfleustra.  Dylai cyflogeion dalu'r bil a chyflwyno hawliad am ad-daliad ar y gyfradd briodol. 

Llety’r Ganolfan Genedlaethol

Disgwylir i gyflogeion aros yn un o’r Canolfannau Cenedlaethol pan fydd busnes yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd neu ym Mhlas Menai, neu'n rhesymol o agos atynt. Dylid dehongli 'rhesymol o agos' fel pellter o fewn 30 milltir.

Os nad oes llety ar gael, dylai cyflogeion drefnu llety yn lleol am brisiau economaidd neu ystyried newid trefniadau'r cyfarfod os yw hynny'n briodol.

Os bydd cyflogeion yn aros mewn Canolfan Genedlaethol, bydd cost y gwely a brecwast, ynghyd â phrydau eraill, yn ôl yr angen, yn cael eu codi'n uniongyrchol ar Chwaraeon Cymru gan reolwyr Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, neu Blas Menai.

6.13 Lwfans Dyletswydd Hwyr 

Pan mae gofyn i gyflogai weithio hyd at o leiaf 20:00 awr, yn ychwanegol at oriau ei ddyletswydd arferol, gall hawlio pryd ysgafn / byrbryd, o ystyried bod y diwrnod gwaith yn gorffen yn hwyr. Bydd hyn yn cael ei hawlio yn y ffordd arferol, os nad yw wedi bod yn bosibl cael y pryd ysgafn / byrbryd o'r Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd neu Blas Menai.

Bydd gweithio hwyr o'r fath yn cael ei drin fel goramser, oni bai fod cyflogeion yn derbyn lwfans oriau anghymdeithasol.

6.14 Cildwrn

Nid yw’n bolisi gan Chwaraeon Cymru i dalu am roi tip neu gildwrn am wasanaeth. Bydd y rhain yn cael eu heithrio o unrhyw hawliad am ad-daliad, oni bai eu bod wedi'u cynnwys yn benodol fel tâl gwasanaeth. Mae'n hanfodol cadw at hyn er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

6.15 Treuliau Afresymol 

Gall Chwaraeon Cymru wrthod ad-dalu treuliau afresymol yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.

7. Polisi Ad-dalu Ffioedd Proffesiynol

Adolygiad diwethaf: Medi 2024

Adolygiad nesaf: Medi 2026

Mae ad-dalu ffioedd proffesiynol yn gynllun a gyflwynwyd i amlygu ymrwymiad Chwaraeon Cymru i ddatblygu ei staff a darparu gwasanaeth proffesiynol i'w gwsmeriaid a'i bartneriaid.

7.1 Meini Prawf

Bydd Chwaraeon Cymru yn ad-dalu'r ffioedd proffesiynol rydych chi'n eu talu lle mae cymhwyster neu aelodaeth benodol wedi'i nodi fel gofyniad hanfodol o'ch rôl, h.y. wedi'i nodi fel hanfodol o fewn manyleb y person neu'r hysbyseb swydd.

7.2 Gwerth yr Ad-daliad

Os ystyrir bod aelodaeth o gorff proffesiynol yn hanfodol i chi gyflawni eich dyletswyddau, byddwch yn gymwys i gael eich ad-dalu am swm llawn y tanysgrifiad ar ôl derbyn prawf o daliad aelodaeth.

Sylwch mai dim ond un aelodaeth a gefnogir, oni bai fod gofyniad deddfwriaethol bod aelodaeth yn cael ei dal ochr yn ochr â chymhwyster proffesiynol, fel sy'n digwydd gyda Chyngor y Proffesiwn Gofal Iechyd

7.3 Adolygu Swyddi

Efallai y bydd rheolwyr yn dymuno adolygu gofynion y rôl yn eu hadrannau lle ystyrir bod gofyniad hanfodol am gymhwyster proffesiynol neu aelodaeth, ond na ofynnwyd am hyn yn flaenorol.

Os gwneir newidiadau i'r disgrifiad swydd a manyleb y person, dylid ymgynghori'n llawn â’r tîm Adnoddau Dynol a gofyn am gymeradwyaeth gan y Cyfarwyddwr perthnasol.

7.4 Cyrsiau

Bydd Chwaraeon Cymru yn talu aelodaeth os ydych chi'n ymgymryd ag unrhyw gwrs sy'n ofynnol ac a noddir gan Chwaraeon Cymru, lle mae aelodaeth yn hanfodol er mwyn i chi ymgymryd â'r cwrs (er enghraifft, cyrsiau mewn marchnata, cyllid, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, adnoddau dynol).

Os byddwch yn dewis cadw eu haelodaeth ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd ceisiadau am ad-daliad ffioedd proffesiynol yn cael eu hystyried yn unol â meini prawf y polisi hwn.

7.5 Gwneud Cais am Ad-daliad

Dylid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen gais 'Ad-dalu Ffioedd Proffesiynol' ac, ynghyd â ffurflen dreuliau wedi'i chwblhau, derbynneb a chopi o fanyleb y person neu’r hysbyseb swydd ar gyfer y rôl* sy'n dangos y gofyniad, eu hanfon ymlaen at y rheolwr llinell a ddylai lofnodi'r cais.

Dylai'r cais wedi'i gwblhau gael ei lofnodi gan y rheolwr llinell a'i gymeradwyo gan unrhyw un o'r Cynghorydd Adnoddau Dynol / Datblygiad Sefydliadol, y Rheolwr Adnoddau Dynol / Datblygiad Sefydliadol neu’r Pennaeth Perfformiad Corfforaethol.

Wedyn bydd y tîm Adnoddau Dynol yn gwneud trefniadau gyda’r adran Gyllid ar gyfer taliad drwy'r broses dreuliau arferol.

Sylwch y bydd yr holl ffioedd yn daladwy o gyllideb yr adran a dylid nodi hyn ar y ffurflen dreuliau.

* Os nad oes manyleb y person na hysbyseb swydd ar gael, bydd angen tystiolaeth i ddangos, at ddibenion rheoleiddio neu broffesiynol, bod yr aelodaeth yn hanfodol i'r rôl.