39. Ymddiswyddo
Adolygiad diwethaf: Medi 2025
Adolygiad nesaf: Medi 2028
Os ydych chi eisiau symud ymlaen o Chwaraeon Cymru, bydd angen i chi roi gwybod i'ch rheolwr yn ysgrifenedig, drwy lythyr neu e-bost. Dylai eich ymddiswyddiad fod wedi'i ddyddio, cynnwys eich rheswm dros adael, a'ch diwrnod olaf arfaethedig.
Dylech roi digon o rybudd fel y nodir yn eich contract cyflogaeth; 4 wythnos ar gyfer Graddfa 1 i 6 a 12 wythnos ar gyfer Graddfa 7 ac uwch.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi am ran o flwyddyn wyliau yn unig, bydd gennych hawl i wyliau blynyddol gyda thâl ar sail pro rata hyd at eich dyddiad gadael. Dylech geisio cymryd unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill cyn eich diwrnod olaf. Os ydych chi wedi cymryd mwy neu lai na'ch hawl i wyliau blynyddol fel y cyfrifwyd uchod, bydd addasiad yn seiliedig ar eich cyfradd gyflog arferol yn cael ei wneud yn eich cyflog terfynol. Bydd yr addasiad naill ai drwy ddidyniad os ydych chi wedi cymryd mwy na'ch hawl, neu daliad ychwanegol os ydych chi wedi cymryd llai na'ch hawl, wedi'i gyfrif ar sail pro rata.
Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn ysgrifennu atoch ar ôl derbyn eich llythyr ymddiswyddo yn cadarnhau eich diwrnod olaf o gyflogaeth, unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill ac yn manylu ar unrhyw offer y dylech ei ddychwelyd.
Ar ôl i chi adael Chwaraeon Cymru, byddwn yn hysbysu ein darparwr pensiwn. Bydd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich trefniadau pensiwn. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch darparwr pensiwn am unrhyw newidiadau i'ch enw neu gyfeiriad. Os ydych chi'n ymddiswyddo i ymddeol, edrychwch ar y polisi ymddeol.
40. Ymddeol
Adolygiad diwethaf: Medi 2025
Adolygiad nesaf: Medi 2028
40.1. Cynllunio ar gyfer ymddeol
Gallwch ddewis ymddeol a thynnu arian o’ch pensiwn unrhyw bryd ar ôl 55 oed.
Efallai y byddwch eisiau ystyried gweithio oriau llai wrth i chi agosáu at oedran ymddeol. Os yw'n berthnasol, edrychwch ar y polisi gweithio hyblyg.
Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu ar eich dyddiad ymddeol, dylech gael trafodaeth gyda'ch rheolwr a rhoi rhybudd fel sydd wedi’i gynnwys yn eich contract cyflogaeth.
40.2. Ymddeol
Gall cyflogeion sy'n aelodau o Gronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro weld eu hawl pensiwn posibl ar wefan Pensiynau Caerdydd a'r Fro.
Bydd gan bensiwn LGPS a phensiwn Scottish Widows oedran isafswm ar gyfer tynnu pensiwn. Os tynnir y budd cyn oedran ymddeol, efallai y bydd gostyngiad cymesur yn y swm sy'n daladwy.
Unwaith y byddwch chi wedi cadarnhau eich dyddiad ymddeol arfaethedig gyda'ch rheolwr, bydd y tîm Adnoddau Dynol yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich dyddiad ymddeol, unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill, a manylu ar unrhyw offer y dylech ei ddychwelyd.
Dylech geisio cymryd unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill cyn eich diwrnod olaf. Fodd bynnag, os na allwch wneud hynny, efallai y byddwch yn derbyn taliad am unrhyw wyliau sy'n weddill.
Os oes arnoch chi angen cymorth i gael mynediad at eich darparwr pensiwn, cysylltwch â’r adran Adnoddau Dynol am arweiniad.