Main Content CTA Title

Iechyd a Lles

30. Polisi Absenoldeb Oherwydd Salwch

Adolygiad diwethaf: Mai 2023

Adolygiad nesaf: Mai 2026

30.1. Cyflwyniad 

Mae'r polisi hwn yn nodi dull Chwaraeon Cymru o ymdrin ag absenoldeb oherwydd salwch.  Mae'r polisi'n berthnasol i'r rhai sydd ar gontractau parhaol a thymor penodol. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod manteision iechyd a lles staff. Mae'r polisi hwn wedi'i anelu at reoli absenoldeb oherwydd salwch mewn modd rhagweithiol sy'n diwallu anghenion unigolion. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safonau uchel o ran gwasanaeth a chyflenwi.  Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol i gyflawni hyn a disgwylir i chi ddod i'r gwaith yn unol â'ch contract.  Os ydych chi'n teimlo'n sâl ond yn gallu gweithio o gartref, siaradwch â'ch rheolwr llinell am hyn.  Rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fyddwch yn mynd yn sâl ac yn methu â gweithio. Ni ddisgwylir i chi weithio pan nad ydych yn ddigon da i wneud hynny.   

Mae'r adrannau canlynol yn disgrifio ein polisïau a'n gweithdrefnau ar absenoldeb oherwydd salwch a rheoli presenoldeb. Os yw lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn peri pryder, bydd rheolwyr yn darparu cefnogaeth ac yn cymryd camau priodol i wella presenoldeb, a all gynnwys camau ffurfiol. 

Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod pob rheolwr llinell yn ymwybodol o'r gweithdrefnau rheoli absenoldeb oherwydd salwch ac yn cael cefnogaeth addas gan y tîm Adnoddau Dynol i ddelio â materion o'r fath.  

Bydd eich rheolwr llinell yn trin eich absenoldeb yn sensitif ac yn deg ac yn eich cefnogi i ddychwelyd i'r gwaith. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn gwneud addasiadau i'r amgylchedd gwaith a rôl y swydd er mwyn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb oherwydd salwch neu fel mesur ataliol. 

Os oes unrhyw reswm i gredu eich bod wedi rhoi gwybod eich bod yn sâl pan oeddech yn ddigon da i ddod i'r gwaith, bydd ein Gweithdrefn Ddisgyblu yn cael ei rhoi ar waith, a all arwain at rybuddion neu, o dan rai amgylchiadau, diswyddiad. 

30.2. Ymrwymiad y Rheolwr 

  • Canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â phroblemau iechyd
  • Eich cefnogi i gyrraedd lefel foddhaol o bresenoldeb
  • Ystyried addasiadau dros dro yn y gweithle pan fydd aelodau o'r tîm yn teimlo'n sâl
  • Cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion sydd i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch
  • Monitro absenoldebau a delio â phresenoldeb anfoddhaol

30.3. Eich ymrwymiad chi 

  • Cymryd camau rhesymol i aros yn heini ac yn iach
  • Mynd i’r gwaith yn rheolaidd ac yn unol â’r safon a ddisgwylir gennych
  • Siarad â'ch rheolwr am faterion iechyd a allai effeithio ar lefelau presenoldeb
  • Os ydych chi'n sâl, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'ch rheolwr am eich absenoldeb
  • Mynd i apwyntiadau Iechyd Galwedigaethol os gofynnir i chi wneud hynny

30.4. Rhoi gwybod am absenoldeb oherwydd salwch 

Os nad ydych chi'n ddigon da i fynd i’ch gwaith, rhaid i chi gysylltu â'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddo.  Os nad yw eich rheolwr llinell ar gael, dylech gysylltu ag aelod uwch arall o staff i sicrhau bod y neges yn cael ei derbyn gyda chymaint o rybudd â phosibl cyn y disgwylir i chi ddod i'r gwaith.  Os ydych chi i ffwrdd am fwy nag un diwrnod, bydd angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch rheolwr am eich absenoldeb a'r dyddiad tebygol y byddwch yn dychwelyd.  

Os na fyddwch yn cysylltu â'ch rheolwr llinell, bydd eich absenoldeb yn cael ei ystyried yn absenoldeb heb awdurdod ac efallai y byddwn yn ceisio cysylltu â chi neu eich perthynas agosaf.  Mae absenoldebau heb awdurdod yn rhai di-dâl a gallant arwain at weithdrefn ddisgyblu. 

Mae eich rheolwr yn gyfrifol am gofnodi eich absenoldeb oherwydd salwch ar Cascade a chynnal cyfweliad dychwelyd i'r gwaith pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith yn dilyn absenoldeb oherwydd salwch. 

30.5. Ymddygiad yn ystod absenoldeb oherwydd salwch 

Os ydych chi i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch, disgwylir i chi wneud eich gorau glas i sicrhau eich bod chi'n dychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Ymddiriedir ynoch chi i ymddwyn yn synhwyrol ac yn onest yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb.  Ni ddylech gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau a allai waethygu'r salwch neu'r anaf neu a allai ohirio adferiad. 

Disgwylir i chi gynnal cysylltiad rheolaidd â'ch rheolwr yn ystod eich absenoldeb a chydweithredu ag unrhyw geisiadau am adroddiadau meddygol.  

Os na fyddwch yn cadw at y disgwyliadau hyn, fe allech golli tâl salwch Chwaraeon Cymru a gall hefyd eich gwneud yn anghymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol. 

30.6. Gwyliau Blynyddol a Salwch 

Os byddwch chi'n mynd yn sâl yn ystod cyfnod o wyliau blynyddol a drefnwyd ymlaen llaw (ac eithrio cau'r swyddfa dros y Nadolig), gallwch ofyn am ganslo'r absenoldeb a chael credyd yn ôl. Bydd gweithdrefnau arferol ar gyfer adrodd am absenoldeb salwch yn berthnasol gan nad yw absenoldeb salwch yn debygol o gael ei gymhwyso wrth edrych yn ôl. 

Er na ddylid cymryd gwyliau blynyddol yn lle absenoldeb oherwydd salwch, gallwch ddewis cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnod o salwch hirdymor, neu cyn i chi ddychwelyd i'r gwaith, ar yr amod nad yw'r cyfnod hwn yn dod o dan Nodyn Ffitrwydd. 

30.7. Nodiadau Ffitrwydd 

Os ydych chi i ffwrdd am fwy nag wythnos oherwydd salwch, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ffitrwydd i weithio (nodyn ffitrwydd). Bydd y meddyg teulu naill ai’n cynghori nad yw’r cyflogai’n ffit i weithio neu y gallai fod yn ffit i weithio.  Os na fyddwch yn darparu Nodyn Ffitrwydd, ni fyddwch yn gymwys i gael tâl salwch a gellir ystyried yr absenoldeb hwn fel un heb ei awdurdodi. 

Os bydd y meddyg teulu yn cynghori y gallai'r cyflogai fod yn ffit i weithio, bydd yn awgrymu ffyrdd o gefnogi'r cyflogai yn ôl i'r gwaith ar y nodyn ffitrwydd.  

Dylai rheolwyr roi ystyriaeth ofalus i unrhyw gyngor gan y meddyg teulu y gallai'r cyflogai fod yn ffit i weithio gyda chefnogaeth i ddychwelyd i'r gwaith. Dylid trefnu cyfarfod i siarad â'r cyflogai i drafod y nodyn ffitrwydd ac a yw'n bosibl darparu’r gefnogaeth a nodwyd gan y meddyg teulu.  

Os gellir darparu’r gefnogaeth, dylent gytuno ar ddyddiad dychwelyd i'r gwaith gyda'r cyflogai, unrhyw addasiadau, trefniadau monitro a dyddiad i adolygu'r trefniant dros dro.  

Os nad yw'n bosibl cydymffurfio â chyngor y meddyg teulu, bydd hyn yn cael ei egluro i'r cyflogai a chytunir ar ddyddiad adolygu neu ddyddiad dychwelyd i'r gwaith. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y nodyn ffitrwydd yn cael ei ystyried fel cyngor 'ddim yn ffit i weithio'. 

30.8. Absenoldeb Hirdymor 

Ystyrir absenoldeb sy'n para mwy na phedair wythnos yn olynol yn sgil cyflwr meddygol, salwch difrifol neu anaf fel absenoldeb hirdymor. 

Yn ystod absenoldeb hirdymor, bydd angen i chi ddarparu nodiadau ffitrwydd sy'n cwmpasu'r cyfnod absenoldeb a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch rheolwr llinell am y cynnydd rydych chi'n ei wneud ac unrhyw brognosis rydych chi’n ei dderbyn. 

Efallai y bydd cyfarfod lles yn cael ei drefnu i gynnig cymorth a chefnogaeth i chi, er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer eich absenoldeb parhaus ac i’ch cefnogi i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd nifer y cyfarfodydd adolygu hyn yn cael ei bennu gan eich salwch a'ch amgylchiadau.  

Mae'n debygol y bydd atgyfeiriad iechyd galwedigaethol yn cael ei wneud, yn dibynnu ar natur yr absenoldeb.  Bydd unrhyw gyngor neu argymhellion o’r adroddiad yn cael eu trafod gyda chi, eich rheolwr llinell a’r tîm Adnoddau Dynol.   

Os yw’r absenoldeb yn parhau ac nad oes unrhyw arwydd y byddwch yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn y dyfodol agos, bydd cyfarfod adolygu yn cael ei drefnu a fydd yn cynnwys Pennaeth yr adran neu swyddog uwch. Y pwrpas fyddai adolygu eich absenoldeb a bydd yn ystyried eich cyflwr, unrhyw gynnydd a wnaed, cyngor gan Feddyg Teulu neu Iechyd Galwedigaethol, y tebygolrwydd y byddwch yn gallu dychwelyd yn y dyfodol agos ac a ellid gwneud unrhyw addasiadau ymarferol a rhesymol i hwyluso’r broses ddychwelyd o fewn amserlen resymol. 

Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith yn y dyfodol agos ac nad oes dim byd ymarferol y gellir ei wneud o ran addasiadau a fyddai'n helpu i ddod â'r absenoldeb i ben, efallai y penderfynir dod â chontract y cyflogai i ben.  Fodd bynnag, ni fyddwn yn diswyddo unrhyw un sydd â diagnosis terfynol oherwydd ei gyflwr. 

Os na allwch ddychwelyd i'ch swydd arferol, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, bydd swyddi eraill yn cael eu hystyried. Os oes gennych chi anabledd, byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i gynnwys eich swydd, eich amodau gwaith neu eich amgylchedd a fyddai'n eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith. 

30.9. Dychwelyd i’r gwaith 

Yn dilyn pob cyfnod o salwch, bydd eich rheolwr yn cynnal trafodaeth dychwelyd i'r gwaith i drafod y rhesymau dros eich absenoldeb, sicrhau eich bod yn ffit i weithio a thrafod a oes angen unrhyw gymorth arnoch ar ôl i chi ddychwelyd.  Cedwir cofnod o'r drafodaeth hon ar y system Adnoddau Dynol. 

30.10. Iechyd Galwedigaethol ac Adroddiadau Meddygol 

Os oes angen cymorth a chyngor ar eich rheolwr llinell ynghylch eich iechyd a'ch presenoldeb, gofynnir i chi fynd i apwyntiad gyda'n cynghorydd Iechyd Galwedigaethol, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol ar atal neu ddatrys problemau iechyd a all effeithio ar eich gallu i ddod i'r gwaith neu wneud eich gwaith yn effeithiol. 

Gellir defnyddio cyngor gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol i helpu i gynllunio ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn raddol yn dilyn salwch hirdymor neu i helpu i gynllunio addasiadau i'r gwaith sydd eu hangen o ganlyniad i salwch / anabledd. 

O dan rai amgylchiadau, gall Chwaraeon Cymru ofyn am adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu eich hun. Gofynnir i chi lofnodi i gydsynio i brosesu'r adroddiad meddygol cyn gwneud unrhyw gynnydd. 

30.11. Newidiadau dros dro i'ch gwaith 

Os na allwch gyflawni dyletswyddau arferol eich swydd oherwydd eich salwch, gellir ystyried newidiadau neu drefniadau dros dro eraill i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu fel mesur ataliol.  Gallai dewisiadau gwahanol o'r fath gynnwys y canlynol: 

  • Newid dyletswyddau
  • Oriau byrrach neu newid yr oriau rydych chi'n eu gweithio ar hyn o bryd
  • Gwneud addasiadau i'r gweithle (e.e. gweithio o gartref)
  • Archwilio'r posibilrwydd o adleoli meddygol

30.12. Dychwelyd i'r gwaith yn raddol 

O dan rai amgylchiadau, mae dychwelyd i'r gwaith yn raddol yn briodol i gyflogeion sy'n dychwelyd o gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch hirdymor. Bydd hyn yn galluogi'r cyflogai i gynyddu ei oriau gwaith a / neu ei ddyletswyddau yn raddol a setlo'n ôl i'w batrwm gwaith arferol. 

Dylid cytuno ymlaen llaw ar amserlenni ar gyfer dychwelyd i’r gwaith yn raddol gyda'ch rheolwr, gyda chyngor gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol, eich Meddyg Teulu, a / neu'r tîm Adnoddau Dynol, gan ystyried anghenion y gwasanaeth.  Bydd hyd a natur prosesau dychwelyd yn raddol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.  

Byddwch yn cael eich cyflog llawn wrth i chi ddychwelyd yn raddol i’r gwaith. 

30.13. Triniaeth feddygol heb fod yn hanfodol a thâl salwch 

Ni fyddwch yn cael tâl salwch galwedigaethol am unrhyw driniaeth nad yw'n hanfodol (h.y. cosmetig), darllenwch y Polisi Absenoldeb Arbennig am ganllawiau pellach.   

30.14. Tâl Salwch 

Tâl Salwch Statudol (TSS)

Chwaraeon Cymru fydd yn gyfrifol am dalu’r Tâl Salwch Statudol i chi yn unol â gofynion statudol. Ni fydd TSS yn cael ei dalu ar ben y Tâl Salwch Galwedigaethol (TSG) a bydd yn cael ei wrthbwyso yn erbyn unrhyw TSG a gaiff ei dalu i chi. 

Tâl Salwch Galwedigaethol (TSG)

Ar yr amod eich bod wedi cydymffurfio â'r gofynion uchod ac unrhyw ofynion absenoldeb / adrodd am salwch eraill a bennir gan Chwaraeon Cymru, byddwch yn parhau i dderbyn tâl ar eich cyfradd arferol yn ystod unrhyw absenoldeb anochel oherwydd salwch neu anaf (boed hynny'n barhaus neu'n ysbeidiol) hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog llawn mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, gan symud i chwe mis o hanner tâl, yn amodol ar uchafswm cyffredinol o 12 mis ar dâl llawn neu hanner tâl mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd. 

30.15. Rheoli Presenoldeb Anfoddhaol 

Mae lefelau presenoldeb anfoddhaol yn cynnwys: 

  • methu â dilyn y weithdrefn salwch gywir fel y nodir uchod
  • lefelau uchel o absenoldebau tymor byr (e.e. 6 achlysur neu fwy o fewn cyfnod treigl o 52 wythnos)
  • lefelau parhaus o absenoldebau hirdymor sy'n cael effaith ar y busnes (e.e. 10 diwrnod gwaith neu fwy mewn cyfnod treigl o 52 wythnos)
  • patrymau absenoldebau, er enghraifft, absenoldebau rheolaidd ar ddydd Gwener neu ddydd Llun, absenoldebau ar ôl Gŵyl y Banc neu cyn neu ar ôl gwyliau blynyddol
  • patrymau absenoldeb gan ddefnyddio'r sail blwyddyn dreigl er mwyn osgoi absenoldeb di-dâl

Os yw eich absenoldeb yn deillio o anaf sy'n gysylltiedig â gwaith, problemau iechyd eraill sy'n gysylltiedig â gwaith neu broblemau sy'n gysylltiedig â mamolaeth, ni fydd y rhain yn cyfrif tuag at yr uchod.   

Os bydd eich lefel absenoldeb yn anfoddhaol, bydd y weithdrefn ganlynol yn cael ei gweithredu i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn deg ac yn gyson.   

30.16. Cam Cyfarfod Anffurfiol 

Os ystyrir bod eich absenoldeb salwch yn anfoddhaol, bydd eich rheolwr llinell yn cyfarfod â chi'n anffurfiol i drafod pam mae eich absenoldebau'n destun pryder ac i drafod camau gweithredu angenrheidiol, fel ystyried atgyfeiriad at swyddog Iechyd Galwedigaethol neu weithredu addasiadau rhesymol a allai fod yn angenrheidiol yng nghyswllt anabledd neu gyflwr meddygol arall.  Efallai y bydd angen cyngor gan y tîm Adnoddau Dynol yn y cam hwn o ran y ffordd orau o’ch cefnogi chi i sicrhau presenoldeb derbyniol.  

Ar ôl y cyfarfod cychwynnol, bydd y rheolwr yn pennu cyfnod adolygu priodol, lle caiff lefelau absenoldeb eu monitro.  Bydd methu â gwella lefelau presenoldeb o fewn yr amserlen y cytunwyd arni yn arwain at weithredu camau ffurfiol y weithdrefn. 

30.17. Cam Cyfarfod Ffurfiol 

Caiff camau ffurfiol y weithdrefn rheoli presenoldeb eu rhannu'n dri cham: 

  • Cam Cyntaf
  • Ail Gam
  • Cam Terfynol

Ym mhob cam bydd cyfarfod i drafod yr absenoldebau a cheisio sefydlu a oes achos sylfaenol y mae angen ymdrin ag ef. 

Bydd y cyflogai’n cael hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod/ydd. Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn dod i'r cyfarfod/ydd i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol. Mae gan gyflogeion yr hawl i gael cwmni mewn cyfarfodydd ffurfiol. Gall y sawl a ddewisir fod yn gydweithiwr neu'n gynrychiolydd undeb llafur. 

Os bydd y cyflogai’n methu â dod i gyfarfod ffurfiol heb reswm da, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal, a gwneir penderfyniad yn ei absenoldeb.  Fodd bynnag, os nad yw cynrychiolydd dewisol y cyflogai ar gael ar ddyddiad y cyfarfod, gall y cyflogai ofyn am oedi, unwaith, am hyd at bum niwrnod gwaith, er mwyn galluogi'r cynrychiolydd dewisol i fod yn bresennol. 

30.18. Cyfarfod Ffurfiol Cyntaf 

Cynhelir y cyfarfod ffurfiol cyntaf pan na fydd unrhyw welliant wedi'i wneud yn dilyn y cyfarfod anffurfiol. Y rheolwr llinell fydd yn cadeirio’r cyfarfod hwn. Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn edrych ar a oes angen addasiadau i'r gweithle.   

Os nad oes unrhyw amgylchiadau lliniarol dros lefelau uchel o absenoldeb yn dilyn y cyfarfod ffurfiol cyntaf, bydd y rheolwr llinell yn cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig cyntaf am lefelau uchel o absenoldeb. Bydd y rhybudd hwn yn nodi cyfnod adolygu a bydd disgwyl i'r cyflogai wella ei lefelau absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyd y cyfnod adolygu yn cael ei bennu gan y rheolwr llinell ond ni ddylai fod yn hirach na 6 mis. 

Ar ôl cwblhau'r cyfnod adolygu, dylid cynnal cyfarfod i adolygu lefelau'r absenoldeb. Os bydd y lefelau absenoldeb yn gwella yn ystod y cyfnod adolygu, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.  Bydd y rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn parhau'n weithredol am 6 mis o ddechrau'r cyfnod adolygu. 

Os na chyrhaeddir y lefel presenoldeb ofynnol, bydd y rheolwr yn cynnal ail gyfarfod ffurfiol. 

30.130. Ail Gyfarfod Ffurfiol 

Cynhelir yr ail gyfarfod ffurfiol naill ai pan fydd presenoldeb yn gwaethygu yn ystod y cyfnod adolygu neu os na fydd unrhyw welliant i bresenoldeb yn dilyn rhybudd ysgrifenedig cyntaf a chwblhau'r cyfnod adolygu.  Y rheolwr llinell fydd yn cadeirio’r cyfarfod hwn.  Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn edrych ar a oes angen addasiadau i'r gweithle.   

Os nad oes unrhyw amgylchiadau lliniarol dros lefelau uchel o absenoldeb yn dilyn yr ail gyfarfod ffurfiol, bydd y rheolwr llinell yn cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig terfynol am lefelau uchel o absenoldeb.  Bydd y rhybudd hwn yn nodi cyfnod adolygu a bydd disgwyl i'r cyflogai wella ei lefelau absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn.  Bydd hyd y cyfnod adolygu yn cael ei bennu gan y rheolwr llinell ond ni ddylai fod yn hirach na 6 mis. 

Ar ôl cwblhau'r cyfnod adolygu, dylid cynnal cyfarfod i adolygu lefelau'r absenoldeb. Os bydd y lefelau absenoldeb yn gwella yn ystod y cyfnod adolygu, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.  Bydd y rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn parhau'n weithredol am 12 mis o ddechrau'r cyfnod adolygu. 

Os na chyrhaeddir y lefel presenoldeb ofynnol, bydd y rheolwr yn cynnal cyfarfod ffurfiol terfynol. 

30.20. Cyfarfod Ffurfiol Terfynol 

Cynhelir y cyfarfod ffurfiol terfynol naill ai pan fydd presenoldeb yn gwaethygu yn ystod y cyfnod adolygu neu pan na fydd unrhyw welliant i bresenoldeb yn dilyn rhybudd ysgrifenedig terfynol a chwblhau'r cyfnod adolygu.  Pennaeth yr adran (neu swyddog uwch, os yw'n briodol) fydd cadeirydd y cyfarfod.  Yn ystod y cyfarfod, bydd y rheolwr yn adolygu cofnodion salwch, yn gofyn i'r cyflogai pa gamau y mae wedi’u cymryd i helpu ei hun i wella ei bresenoldeb ac yn archwilio a oes angen addasiadau i'r gweithle.   

Yn dilyn y cyfarfod terfynol, os cadarnheir bod lefel y presenoldeb wedi parhau'n annerbyniol, mae'r ystod o opsiynau'n cynnwys y canlynol: 

  • diswyddiad
  • ymestyn rhybudd ysgrifenedig terfynol gweithredol a gosod cyfnod adolygu pellach (dim ond mewn achosion eithriadol y bydd hyn yn briodol lle ystyrir bod gwelliant sylweddol yn debygol o ddigwydd o fewn cyfnod adolygu pellach)

Dim ond Pennaeth Adran all wneud penderfyniadau diswyddo a bydd y cyflogai’n cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig ynghyd â’r rhesymau dros y diswyddiad, y dyddiad y bydd ei gyflogaeth yn dod i ben, y cyfnod rhybudd perthnasol, os yw'n berthnasol, a'i hawl i apelio. 

Fel rheol, bydd diswyddo'n cael ei wneud gyda rhybudd, neu daliad yn lle rhybudd, oni bai fod y lefelau presenoldeb wedi bod mor esgeulus fel eu bod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ac yn yr achos hwnnw bydd diswyddo'n cael ei wneud heb rybudd neu daliad yn lle rhybudd. 

30.21. Apeliadau 

Os yw cyflogai’n dymuno herio penderfyniad o dan y weithdrefn hon, gall apelio yn ysgrifenedig, gan nodi ei sail lawn dros apelio, o fewn wythnos i'r dyddiad y cafodd wybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad gwreiddiol. 

Os yw'r apêl yn erbyn diswyddo, ni fydd y dyddiad y bydd y diswyddiad yn dod i rym yn cael ei ohirio tra mae canlyniad yr apêl yn cael ei glywed. Fodd bynnag, os bydd yr apêl yn llwyddiannus, bydd y cyflogai’n cael dychwelyd i'w swydd heb golli parhad cyflogaeth na chyflog. 

Bydd y cyflogai’n cael hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl.    

Fel rheol, bydd gwrandawiad yr apêl ar ffurf adolygiad o'r penderfyniad gwreiddiol yng ngoleuni'r weithdrefn a ddilynwyd ac unrhyw wybodaeth newydd a allai fod wedi codi.  

Cynhelir gwrandawiad yr Apêl gan y Swyddog Apêl, a fydd fel rheol ar yr un raddfa â'r rheolwr.  Mewn rhai achosion, lle bo hynny'n briodol, gall hwn fod yn Aelod o'r Bwrdd.  Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn dod i'r cyfarfod i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol.  Efallai y gofynnir i'r rheolwr a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol fod yn bresennol hefyd. 

Gellir gohirio gwrandawiad os oes angen rhagor o wybodaeth neu roi ystyriaeth bellach i faterion a drafodwyd yn y gwrandawiad. Rhoddir cyfle rhesymol i'r cyflogai ystyried unrhyw wybodaeth newydd a geir cyn gwneud penderfyniad terfynol. 

Yn dilyn gwrandawiad yr apêl, gall y rheolwr sydd wedi gwrando ar yr apêl wneud un o’r canlynol: 

  • cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol
  • diddymu’r penderfyniad gwreiddiol
  • adolygu'r sancsiwn

Bydd y cyflogai’n cael gwybod yn ysgrifenedig am y penderfyniad terfynol ac ni fydd hawl bellach i apelio.

31. Polisi Lles Cyfloegion

Adolygiad diwethaf: Mai 2023

Adolygiad nesaf: Mai 2026

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod ei gyfrifoldebau am iechyd, diogelwch a lles ei gyflogeion o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. Mae'r Polisi Lles Cyflogeion yn ymhelaethu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd a Lles Chwaraeon Cymru, i fynd i'r afael â meysydd a allai effeithio ar les cyflogeion, boed yn bersonol neu'n gysylltiedig â’u gwaith. 

31.1. Materion Lles

Gall unrhyw gyflogai sydd â phroblem lles, neu sy'n ymwybodol o broblem o’r fath, roi gwybod am y sefyllfa i'w reolwr llinell neu'r tîm Adnoddau Dynol, fel bod modd cymryd unrhyw gamau priodol. Gallai hyn gynnwys anawsterau sy'n gysylltiedig â gwaith neu anawsterau personol, profedigaeth, neu anawsterau domestig. Bydd unrhyw drafodaethau’n gwbl gyfrinachol. 

31.2. Profion Golwg

Bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi ad-daliad i chi am gost prawf golwg os ydych chi'n defnyddio offer cyfrifiadurol yn rheolaidd neu os yw eich gwaith yn cynnwys gyrru cerbyd. 

Yn ogystal â chost y prawf golwg, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfrannu hyd at £50.00 at gostau sbectol neu lensys cyffwrdd lle mae eu hangen ar gyfer defnyddio VDUs / gyrru cerbyd YN UNIG. 

31.3. Colli, neu ddifrodi, eiddo personol

Cynghorir yr holl staff mai eu cyfrifoldeb hwy yw diogelu unrhyw eitemau personol gwerthfawr maent yn eu gwisgo, h.y. oriorau, gemwaith ac ati, ac mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd Chwaraeon Cymru yn barod i ystyried unrhyw hawliad am iawndal am golled o'r fath. Fel rheol, dylai pob eitem fod wedi’i gwarchod gan yswiriant personol.

Os yw unrhyw waith yn cael ei wneud gan aelodau o staff a allai arwain at ddifrod i'w heiddo personol neu ei golli, dylid tynnu’r eiddo hwnnw cyn ymgymryd â'r dasg. Dim ond o dan amgylchiadau o esgeulustod ar ran Chwaraeon Cymru y gellir ystyried unrhyw gais am golled neu ddifrod. 

31.4. Gwarchodaeth Gyfreithiol

Ar achlysuron prin iawn, efallai y bydd angen cymryd camau cyfreithiol i warchod cyflogeion rhag trydydd partïon, pan fydd bygythiadau'n codi yn ystod eu gwaith i Chwaraeon Cymru, ac o ganlyniad iddo.

Os ydych chi wedi gweithredu'n onest, yn rhesymol ac yn ddidwyll, ni fydd raid i chi ysgwyddo unrhyw atebolrwydd sifil personol o'ch adnoddau personol eich hun a achosir wrth gyflawni, neu honni cyflawni, eich dyletswyddau, oni bai eich bod wedi gweithredu'n ddi-hid. 

31.5. Trais a Cham-drin Domestig

Mae unrhyw weithred o drais neu gam-drin domestig yn annerbyniol ac mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw gyflogai sy'n dioddef o hyn. 

Gellir diffinio trais domestig fel "unrhyw fath o gam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol sy'n digwydd yng nghyd-destun perthynas agos. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y berthynas rhwng partneriaid (priod, cyd-fyw, neu fel arall) neu gyn-bartneriaid".

Gall effeithiau trais domestig yn y gweithle fod fel a ganlyn:

  • Perfformiad salach mewn swydd
  • Effaith ar ddiogelwch y swydd a’r rhagolygon
  • Iechyd gwaeth i’r dioddefwyr, a all arwain at golli incwm oherwydd absenoldeb salwch
  • Colli swydd ac incwm.

Nod y polisi hwn yw darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig. Mae cefnogaeth ar gael ar y ffurfiau canlynol: 

  • Gallwch siarad â’ch rheolwr llinell, neu’r tîm Adnoddau Dynol. Bydd unrhyw sgyrsiau’n cael eu trin yn gyfrinachol cyn belled ag y bo modd. Drwy rannu’r broblem, efallai y byddwch yn teimlo rhyddhad.
  • Gallwch hawlio Absenoldeb Arbennig yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
  • Efallai y bydd eich Rheolwr yn gallu gwneud trefniadau i chi ddefnyddio ystafell gyfarfod fel eich bod yn gallu gweld cwnselydd neu gynghorydd priodol arall yn eich gweithle.
  • Efallai y bydd eich Rheolwr yn gallu amrywio eich trefniadau gwaith dros dro neu’n barhaol i’ch helpu chi i ddatrys eich anawsterau.
  • Gallwch gytuno a’ch Rheolwr pa gamau y dilyd eu cymryd os bydd y troseddwr yn cysylltu â chi yn y gwaith.
  • Bydd eich Rheolwr yn gallu rhoi rhestr i chi o sefydliadau a chysylltiadau sy’n gallu rhoi cymorth proffesiynol i chi.
  • Gall eich Rheolwr gytuno ar ddull cyfathrebu â chi rhag ofn eich bod yn absennol o’r gwaith.

Os byddwch chi'n ymddiried yn eich rheolwr, bydd yn gallu ystyried eich amgylchiadau wrth ystyried materion perfformiad, fel absenoldeb oherwydd salwch a chyfnodau o berfformiad salach yn y gwaith. Gall eich rheolwr hefyd geisio sicrhau bod eich iechyd a'ch diogelwch chi a'ch cydweithwyr yn cael eu diogelu. 

31.6. Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i roi mesurau ar waith i sicrhau bod cyflogeion yn ddiogel wrth weithio ar eu pen eu hunain. Cydnabyddir, er y bydd llawer o gyflogeion yn treulio cyfnod cyfyngedig o amser yn gweithio “ar eu pen eu hunain”, fod y polisi hwn yn cwmpasu cyflogeion unigol sy'n gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol na chyswllt â chydweithwyr eraill. Dyma rai enghreifftiau: 

  • Gweithio y tu allan i oriau arferol ar eich pen eich hun.
  • Teithio i ac o ymweliadau.
  • Ymweld â phobl ar eu pen eu hunain, e.e. yn eu cartef neu mewn lleoliad heb fod yn y gwaith.
  • Darparu gwasanaethau i’r cyhoedd heb gysylltiad â chydweithwyr.

Cyfrifoldeb y Cyflogwr

Chwaraeon Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol: 

  • Sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer nodi, gwerthuso a rheoli risg sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun.
  • Sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer monitro digwyddiadau sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun a bod effeithiolrwydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
  • Darparu diogelwch digonol a goruchwyliaeth effeithiol i gyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain, gan gynnwys rhwystrau gwarchodol, darparu systemau cyfathrebu a gwiriadau ar gyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain, lle bo hynny’n briodol.

Cyfrifoldeb y Rheolwyr a’r Goruchwylwyr

Y Rheolwyr a’r Goruchwylwyr sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • Gweithredu’r polisi hwn, gan wneud pob ymdrech i leihau’r risg sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun.
  • Sicrhau bod pob cyflogai’n ymwybodol o’r polisi a bod cyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn derbyn hyfforddiant i’w galluogi i nodi unrhyw risg bosibl a chymryd camau gweithredu priodol.
  • Nodi sefyllfaoedd lle mae cyflogeion yn gweithio ar eu pen eu hunain a chynnal asesiad risg rheolaidd.
  • Dyfeisio a gweithredu systemau gweithio diogel mewn perthynas â gweithio ar eich pen eich hun i osgoi neu reoli risg lle bo angen.
  • Rhoi trefniadau priodol ar waith ar gyfer cyfathrebu â chyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain a’u tracio, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer pan fydd cyflogai sy’n gweithio ar ei ben ei hun yn hwyr yn cysylltu / dychwelyd i’r ganolfan.
  • Sicrhau bod unrhyw ddigwyddiadau’n cael eu hadrodd, eu hymchwilio a’u cofnodi.
  • Ystyried cyflwr meddygol y cyflogai, gan ddefnyddio’r ffurflen asesu risg.

Cyfrifoldeb y Cyflogeion

Y cyflogeion sy’n gyfrifol am y canlynol: 

  • Sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r polisi ac yn cydymffurfio ag ef.
  • Cymryd gofal rhesymol ohonynt hwy eu hunain ac eraill yr effeithir arnynt gan eu gweithredoedd.
  • Adrodd am bob digwyddiad a pherygl posibl a allai effeithio ar eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain neu eraill a gofyn am arweiniad yn ôl yr angen.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gynlluniwyd i fodloni gofynion y polisi.
  • Sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i bobl eraill pryd a ble maent yn debygol o fod yn gweithio ar eu pen eu hunain.
  • Sicrhau bod calendrau gwaith yn cael eu cadw’n gyfredol i roi gwybod am amseroedd cyrraedd a gadael i bobl.

Arweiniad ar gyfer Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun

  • Dylai cyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain sicrhau eu bod yn gallu cysylltu ag eraill rhag ofn y bydd arnynt angen cymorth.
  • Bydd Chwaraeon Cymru yn talu cost galwadau ffôn symudol mewn sefyllfa o argyfwng.
  • Mae’n arfer da i gyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain gadw manylion ysgrifenedig o ble maent yn mynd, rhag ofn bod digwyddiad.
  • Rhaid i gyflogeion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain roi gwybod am ddigwyddiadau fel damweiniau a digwyddiadau a fu bron â digwydd, fel bod modd gwneud gwaith monitro priodol.

32. Polisi Di-fwg

Adolygiad diwethaf: Mawrth 2023

Adolygiad nesaf: Mawrth 2026

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles cyflogeion, defnyddwyr gwasanaeth, cwsmeriaid, is-gontractwyr ac ymwelwyr ac unrhyw un arall sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan weithrediadau'r sefydliad o'r pwys mwyaf. Felly mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu ac yn gorfodi polisi ysmygu pwrpasol sydd hefyd yn cwmpasu e-sigaréts a fêpio, gan gydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg gyfredol.

32.1. Gofynion 

Polisi Chwaraeon Cymru yw bod ein holl weithleoedd yn ddi-fwg a bod gan bob cyflogai ac unrhyw un arall sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y sefydliad hawl i fod mewn amgylchedd di-fwg. Caiff y polisi ei adolygu yn ôl yr angen yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Mae ysmygu, gan gynnwys defnyddio e-sigaréts a fêpio, wedi'i wahardd ar draws holl weithrediadau Chwaraeon Cymru heb unrhyw eithriadau. Mae hyn yn cynnwys cerbydau’r cwmni, ceir llogi’r cwmni, neu eich cerbyd eich hun os ydych chi'n ei ddefnyddio at ddibenion busnes ac yn cludo cyflogeion eraill.

Dim ond mewn mannau penodol dynodedig y caniateir ysmygu (er enghraifft, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru mae hyn yn y maes parcio cefn yn y lloches ysmygu benodol) – allan o olwg y cyhoedd. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob cyflogai, ymgynghorydd, cwsmer neu aelod, ymwelydd ac is-gontractwr. 

Mae cyflogeion sy'n defnyddio mannau ysmygu penodol wedi'u cyfyngu i gymryd dau seibiant o 10 munud y dydd. Bydd Chwaraeon Cymru yn darparu cynwysyddion i ysmygwyr waredu gwastraff ysmygu mewn mannau penodol. 

I'r cyflogeion hynny sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu, gall y tîm Adnoddau Dynol eu cyfeirio at feysydd cymorth. 

32.2. Gweithredu 

Y Prif Swyddog Gweithredol sy'n gyfrifol am weithredu ac adolygu'r polisi. Bydd y polisi hwn a'i ddefnydd gorfodol yn cael eu cyfleu i bob cyflogai, is-gontractwr, ymwelydd, cwsmer a phartïon sydd â diddordeb. 

Fel rhan o broses sefydlu Chwaraeon Cymru, bydd yr adran Adnoddau Dynol yn hysbysu cyflogeion newydd am y polisi hwn ac yn dangos iddynt ble mae yn llawlyfr y staff. 

Mae cyflogeion yn gyfrifol am hysbysu unrhyw ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr am y polisi a hwyluso gweithredu'r polisi.

Bydd arwyddion 'Dim ysmygu' priodol yn cael eu harddangos yn glir wrth fynedfeydd y safle neu gerllaw. 

Dim ond mewn mannau a ganiateir (manylir ar enghraifft uchod) y caiff cyflogeion, ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr sy'n mynd allan i ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts a fêpio) ysmygu.

32.3. Diffyg Cydymffurfio

Os bydd cyflogai’n torri'r rheolau hyn, gall hynny arwain at gamau disgyblu priodol a fydd yn cael eu trin yn unol â gweithdrefn ddisgyblu Chwaraeon Cymru. Atgoffir y cyflogeion hefyd ei bod yn drosedd i gyflogeion ysmygu mewn mannau di-fwg, gyda dirwyon o hyd at £200.

Gall cyflogwyr gael dirwy o hyd at £2,500 os nad ydynt yn atal pobl rhag ysmygu yn y gweithle neu hyd at £1,000 os nad ydynt yn arddangos arwyddion 'dim ysmygu'. 

Dylai cyflogai yn Chwaraeon Cymru atgoffa ymwelwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid neu is-gontractwyr sy'n ysmygu mewn mannau di-fwg o'r arwyddion dim ysmygu a gofyn iddynt stopio. Os yw ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn parhau i ysmygu, dylai’r cyflogai esbonio bod yr ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn cyflawni trosedd ac na fydd yn cael gwasanaeth os yw'n parhau i wneud hynny.

Os yw'r ymwelydd, defnyddiwr, cwsmer neu is-gontractwr yn parhau i wrthod rhoi'r gorau i ysmygu, dylai’r staff ofyn iddo / iddi adael y safle a, lle bo hynny'n berthnasol, ei gyfeirio / chyfeirio at ble gall ysmygu. Fel dewis olaf, defnyddir gweithdrefn Chwaraeon Cymru ar gyfer delio ag ymddygiad anghyfreithlon neu fethiant i gydymffurfio â rheolau Chwaraeon Cymru ar ei safle.

33. Polisi Alcohol a Chyffuriau

Adolygiad diwethaf: Mai 2023

Adolygiad nesaf: Mai 2026

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gadw at arferion gweithio diogel ac i warchod iechyd, diogelwch a lles ei gyflogeion o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.  I lawer o bobl, mae yfed yn gymdeithasol yn rhan gadarnhaol o fywyd ac nid yw’n achosi unrhyw broblemau.  Fodd bynnag, mewn cyd-destun gwaith, gall cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill nid yn unig niweidio iechyd ond effeithio hefyd ar berfformiad, cynhyrchiant, lefelau absenoldeb a damweiniau.  Mae cyflogeion yn defnyddio alcohol neu gyffuriau yn amhriodol yn gallu bod yn angheuol i staff a chwsmeriaid. 

33.1. Datganiad Polisi

Nod Chwaraeon Cymru yw darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach.  Mae’n cydnabod y gallai hyn gael ei beryglu gan y rhai sy’n defnyddio alcohol neu gyffuriau yn amhriodol i’r graddau y gallai effeithio ar eu hiechyd, eu perfformiad, eu hymddygiad, eu perthynas â chydweithwyr, ac ar ddiogelwch cwsmeriaid neu ymwelwyr. 

Gall defnydd amhriodol gynnwys, ymysg pethau eraill: dibyniaeth; digwyddiadau untro; patrymau digwyddiadau; cymryd sylweddau yn ystod amser gwaith; a dod â sylweddau anghyfreithlon i’r safle.  Gall sylweddau gynnwys, ymysg pethau eraill: alcohol; cyffuriau anghyfreithlon; cyffuriau penfeddwol cyfreithlon (legal highs); cyffuriau ar bresgripsiwn; a thoddyddion (solvents). 

33.2. Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau nad ydynt yn anaddas i weithio o ganlyniad i effeithiau alcohol neu gyffuriau pan fyddant yn dod i’r gwaith.   

Mae pob rheolwr llinell yn gyfrifol am gadw llygad am arwyddion a symptomau defnydd amhriodol o alcohol neu gyffuriau, ac am gynnig cefnogaeth, fel y disgrifir isod. 

Os bydd rheolwr llinell yn gwybod neu’n amau bod cyflogai yn anaddas i weithio o ganlyniad i effeithiau alcohol neu gyffuriau, mae’n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau priodol i’r cyflogai.  Gall hyn gynnwys anfon y cyflogai adref ac felly, fel dyletswydd o ofal i’r cyflogai, sicrhau ei fod yn teithio’n ddiogel ac yn gyfrifol.  Mae cyngor a chymorth ar gael gan y tîm Adnoddau Dynol os bydd problemau’n codi. 

33.3. Systemau gwaith diogel

Mae effeithiau alcohol neu gyffuriau yn y gwaith yn gallu achosi risgiau iechyd a diogelwch difrifol, yn enwedig mewn meysydd fel gyrru, defnyddio peiriannau neu oruchwylio gweithgareddau.  Felly, dylid cadw at y rheolau canlynol: 

  • Peidiwch â dod i’r gwaith o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Holwch eich meddyg neu fferyllydd am sgil-effeithiau meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn.
  • Rhowch wybod i’ch rheolwr llinell os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth a allai achosi sgil-effeithiau.  Bydd hyn yn cael ei drin yn gyfrinachol ond mae’n bwysig bod eich rheolwr llinell yn gwybod rhag ofn y bydd unrhyw broblem.
  • Peidiwch byth â gyrru, gweithredu peiriannau na goruchwylio gweithgareddau o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Cynigiwch gefnogaeth a chyngor i gydweithwyr os ydych chi’n amau eu bod yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau.  Peidiwch â’u ‘gwarchod’ drwy gadw’n dawel.
  • Gofynnwch am gymorth gan eich rheolwr llinell.

33.4. Arwyddion a Symptomau

Nid yw bob amser yn hawdd adnabod arwyddion camddefnyddio, ond dyma rai o’r arwyddion rhybuddio mwyaf cyffredin.  

  • Bod yn absennol yn amlach
  • Anafiadau
  • Angen arian neu broblemau ariannol heb eglurhad
  • Cryndod, siarad yn aneglur neu amhariad ar gydsymudiad
  • Cannwyll y llygad wedi chwyddo neu symudiadau afreolaidd wrth ddilyn gwrthrychau
  • Magu neu golli pwysau yn sydyn
  • Ymddangosiad corfforol ac arferion taclusrwydd personol yn dirywio
  • Arogleuon anarferol ar anadl, corff neu ddillad
  • Newid sydyn mewn ffrindiau, hoff leoedd, a diddordebau
  • Newid sydyn mewn hwyliau, tymer flin neu ffrwydradau blin
  • Ymddangos yn ofnus, yn orbryderus neu’n baranoid heb reswm.

33.5. Gweithdrefnau os bydd camddefnydd o alcohol neu gyffuriau’n cael ei ganfod

Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi broblem gydag alcohol a / neu gyffuriau, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu am driniaeth a chefnogaeth, a rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell am y camau rydych chi wedi’u cymryd er mwyn cael cefnogaeth ychwanegol.  Mae’r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion yn gallu helpu gyda phroblemau camddefnyddio hefyd. 

Os bydd perfformiad gwael, lefelau absenoldeb uchel neu broblemau gydag ymddygiad yn cael eu nodi drwy arsylwi neu weithdrefnau disgyblu arferol, efallai y bydd eich rheolwr llinell yn gallu cynnig cymorth os ydych chi wedi rhoi gwybod iddo am y mater a’r camau rydych chi’n eu cymryd.  

33.6. Cefnogaeth

Bydd Chwaraeon Cymru yn gefnogol ac yn gadarnhaol ei agwedd at gyflogeion sy’n sâl oherwydd defnydd o alcohol neu gyffuriau, a bydd yn helpu i ddarparu triniaeth i gyflogeion cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.  

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o gefnogaeth allanol ychwanegol o bosib, a hynny ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu mewn cysylltiad â ffactorau sy’n achosi straen a allai gyfrannu at ddefnydd amhriodol o alcohol neu gyffuriau, bydd hyn ar gael drwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion. 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo hefyd i helpu i atal y camddefnydd o alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill, a hynny drwy wneud y canlynol: 

  • Codi ymwybyddiaeth o effeithiau alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill
  • Darparu gwybodaeth drwy daflenni a deunyddiau eraill i annog pobl i feddwl am eu harferion yfed
  • Hyrwyddo a chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o alcohol a chyffuriau.

33.7. Camau Disgyblu

Bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i’ch cefnogi chi os ydych chi’n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau. Ond o dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol cymryd camau disgyblu neu gamau rheoli perfformiad: 

  • Os caiff datgeliad o ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau ei wneud fel ffactor lliniaru yn ystod unrhyw gamau disgyblu neu ffurfiol eraill, mae’n bosib y bydd modd gohirio’r camau am gyfnod priodol i ganiatáu i’r unigolyn gael triniaeth a chefnogaeth, fel mynd i raglen adsefydlu, cwnsela, neu ymyriad arall.
  • Os bydd cyflogai’n ymddwyn neu’n gwneud ei waith mewn ffordd sy’n peryglu ei iechyd a’i ddiogelwch ei hun, neu iechyd a diogelwch pobl eraill, a hynny oherwydd dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, bydd camau cywiro prydlon yn cael eu rhoi ar waith i atal niwed. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, er y bydd y ddibyniaeth yn cael ei hystyried, mae’n bosib y bydd yr unigolyn yn wynebu cosb o hyd mewn cysylltiad ag unrhyw ymddygiad canlyniadol os oes risgiau iechyd a diogelwch.
  • Os ydych chi’n gwrthod cael triniaeth sy’n cael ei hystyried yn angenrheidiol a / neu’n briodol o bosib, bydd Chwaraeon Cymru yn monitro eich perfformiad yn y gwaith a gallai gychwyn y weithdrefn ddisgyblu os yw’n credu bod hynny’n briodol.
  • Os byddwch yn niweidio enw da Chwaraeon Cymru o ganlyniad i’ch ymddygiad y tu allan i’r gwaith sy’n deillio o gamddefnyddio alcohol, cyffuriau neu sylweddau eraill, gallech gael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol. Os byddwch yn cael dedfryd o garchar am unrhyw drosedd sy’n gysylltiedig ag alcohol a / neu gyffuriau, mae gan Chwaraeon Cymru yr hawl i’ch diswyddo ar y sail eich bod wedi mynd yn groes i’ch contract cyflogaeth gyda Chwaraeon Cymru, nad ydych yn gallu cyflawni’r dyletswyddau yn eich contract, neu gamymddwyn difrifol.  Os cewch eich cyhuddo o unrhyw drosedd sy’n gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau a bod Chwaraeon Cymru yn credu’n rhesymol bod eich addasrwydd i gyflawni eich swydd wedi cael ei beryglu, efallai y bydd ganddo sail i’ch diswyddo.  Os oes angen i chi yrru cerbyd fel rhan o’ch swydd ond eich bod wedi cael eich gwahardd rhag gyrru unrhyw gerbyd o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol a / neu gyffuriau (yn y gweithle neu y tu allan i’r gwaith), mae gan Chwaraeon Cymru yr hawl i’ch diswyddo.
  • Pan fydd y dystiolaeth yn cyfiawnhau hyn, bydd yr heddlu’n cael gwybod am ddefnydd anghyfreithlon o gyffuriau neu unrhyw weithgaredd neu ymddygiad lle mae pryderon ynglŷn â’i gyfreithlondeb, fel cael damwain yfed a gyrru mewn cerbyd gwaith.

33.8. Digwyddiadau Corfforaethol

Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod diodydd meddal / di-alcohol ar gael mewn digwyddiadau corfforaethol bob amser. Fodd bynnag, mae’n derbyn y bydd rhai digwyddiadau neu dderbyniadau corfforaethol, fel seremonïau gwobrwyo, lle bydd cyflogeion yn dymuno yfed alcohol o bosib.  Mae’r canllawiau canlynol wedi cael eu llunio i’ch diogelu chi a’r sefydliad, ac mae’n rhaid eu dilyn: 

  • Does gennych chi ddim hawl i yfed alcohol os ydych chi ‘ar ddyletswydd’ mewn digwyddiad, a hynny mewn rôl cynnal a chadw, rôl weithredol neu unrhyw rôl arall a allai effeithio ar iechyd a diogelwch pobl eraill.
  • Hyd yn oed os nad ydych chi yn y digwyddiad fel rhan o’ch gwaith, efallai y byddwch yn cynrychioli Chwaraeon Cymru yr un fath.  Er enghraifft, os ydych chi wedi cael eich gwahodd i’r digwyddiad o ganlyniad i’ch swydd neu eich cysylltiadau drwy Chwaraeon Cymru. Os byddwch yn gwneud drwg i enw da Chwaraeon Cymru drwy ymddygiad sy’n deillio o ddefnyddio alcohol, cyffuriau neu sylweddau eraill yn amhriodol, gallech wynebu camau disgyblu, gan gynnwys cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol.
  • Os ydych chi’n ansicr ynghylch eich rôl neu’r disgwyliadau ohonoch chi yn ystod digwyddiad, holwch eich rheolwr llinell ymlaen llaw a oes gennych ganiatâd i yfed alcohol ai peidio.

34. Polisi Iechyd a Lles

Adolygiad diwethaf: Mai 2023

Adolygiad nesaf: Mai 2026

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod iechyd a lles unigolion yn gwneud cyfraniad hanfodol at berfformiad, a’u bod o fudd i fywyd unigolion yn y gweithle a’r tu allan i’r gweithle. Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gwaith sy’n diogelu lles corfforol a meddyliol ein staff.  Mae’r polisi hwn yn darparu fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwn bydd Chwaraeon Cymru yn hybu ac yn hwyluso arferion gweithio a gwasanaethau sy’n cefnogi lles cyflogeion.  Mae hyn yn cael ei gefnogi drwy Werthoedd Chwaraeon Cymru; Gweithredu gydag Integriti, Annog Arloesedd ac Ychwanegu Gwerth drwy Ddysgu Gyda’n Gilydd, Cyflawni Gyda’n Gilydd a Dathlu Gyda’n Gilydd. 

34.1. Ein dull o weithredu 

Mae’r Polisi Iechyd a Lles yn ehangu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch ac Absenoldeb Salwch Chwaraeon Cymru, gan amlinellu sut bydd y sefydliad yn hybu lles cyflogeion yn y ffyrdd canlynol:  

  • Darparu amgylchedd gwaith iach a diogel sy’n hybu ac yn cefnogi iechyd a lles ein staff.
  • Sefydlu trefniadau gweithio lle mae cyflogeion yn teimlo eu bod yn gallu sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
  • Meithrin diwylliant o gydweithredu, ymddiriedaeth a pharch rhwng pawb, lle mae cyflogeion yn cael eu trin yn deg ac yn gefnogol.
  • Annog cyflogeion i ddilyn ffordd o fyw iach.
  • Codi ymwybyddiaeth o’r ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar iechyd a lles.
  • Rhoi cymorth i staff os ydynt yn cael problemau fel problemau iechyd meddwl, alcohol, cyffuriau neu gamddefnyddio sylweddau, fel ymateb cyntaf.

34.2. Swyddi a chyfrifoldebau 

Bydd y Weithrediaeth a’r Uwch Dîm Rheoli yn gwneud y canlynol: 

  • Cymryd camau i feithrin diwylliant o gydweithredu, ymddiriedaeth a pharch rhwng pawb yn y sefydliad.
  • Hyrwyddo arferion rheoli da a sefydlu ethos gwaith yn y sefydliad sy’n hybu iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac yn galluogi cyflogeion i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
  • Hybu cyfathrebu effeithiol a sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i ymgynghori â chyflogeion ynghylch newidiadau yn y sefydliad, a rhoi cymorth iddynt pan fydd newidiadau’n digwydd.
  • Annog mentrau a digwyddiadau sy’n hybu iechyd a lles.

 Bydd Rheolwyr a Goruchwylwyr yn gwneud y canlynol: 

  • Trin unigolion sy’n adrodd iddynt gydag ystyriaeth ac urddas, a hybu diwylliant o barch rhwng pawb yn y timau maent yn eu rheoli.  Ni fyddant yn caniatáu ymddygiad annerbyniol a byddant yn cymryd camau gweithredu pendant pan fydd materion yn cael eu dwyn i’w sylw.
  • Sicrhau bod eu timau’n cyfathrebu’n dda a bod cyfleoedd i unigolion godi pryderon ynglŷn â’u gwaith, gan ofyn i’r tîm Adnoddau Dynol am gyngor yn gynnar pan fydd pryderon yn cael eu codi.
  • Cadw at arferion rheoli cadarn ac ymddygiadau priodol.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant fel y bo’n briodol i gynyddu eu hymwybyddiaeth o achosion ac effeithiau salwch corfforol a salwch meddwl.
  • Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal ar gyfer swyddi neu arferion gweithio a allai arwain at salwch corfforol neu salwch meddwl.
  • Annog staff i gymryd rhan mewn digwyddiadau a mentrau Chwaraeon Cymru i hybu lles ac arferion gweithio mwy effeithiol.
  • Cymryd camau er budd eu holl gydweithwyr os gallai perfformiad aelod o staff achosi straen i’w gydweithwyr.

 Bydd cyflogeion yn gwneud y canlynol: 

  • Trin cydweithwyr a phawb arall maent yn rhyngweithio â hwy fel rhan o’u gwaith gydag ystyriaeth, parch ac urddas.
  • Cefnogi Polisi Iechyd a Lles y sefydliad, a chydweithredu ag unrhyw fentrau a digwyddiadau i gynyddu eu hymwybyddiaeth eu hunain o achosion ac effeithiau lles corfforol a meddyliol da.
  • Rhoi gwybod i’w rheolwr llinell os ydynt yn teimlo bod materion gwaith yn achosi straen iddynt ac yn cael effaith niweidiol ar eu lles.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u lles eu hunain drwy gadw at ffordd o fyw iach.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain i osgoi cynyddu’r risg o amgylchedd gwaith llawn straen i’w hunain ac i bobl eraill.

Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn gwneud y canlynol: 

  • Sicrhau bod y Polisi Iechyd a Lles yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru fel y bo’n briodol.
  • Trefnu digwyddiadau a mentrau priodol i hybu iechyd a lles corfforol a meddyliol.
  • Sicrhau bod hyfforddiant a chymorth addas ar gael i reolwyr i gefnogi iechyd a lles eu cyflogeion.
  • Sicrhau bod trefniadau ar waith i roi cymorth i unigolion sy’n wynebu straen neu salwch meddwl, gan gynnwys darparu cwnsela a gwasanaeth iechyd galwedigaethol.
  • Casglu gwybodaeth reoli a fydd yn galluogi’r sefydliad i fesur ei berfformiad ei hun mewn cysylltiad ag iechyd a lles staff.
  • Holi barn cyflogeion ar effeithiolrwydd Polisi Iechyd a Lles, cyfathrebu a mentrau Chwaraeon Cymru.
  • Defnyddio meincnodau allanol priodol, fel y Safon Iechyd Corfforaethol, i fesur ei berfformiad mewn cysylltiad ag iechyd a lles.

34.3. Ffynonellau o gefnogaeth 

Rhaglen Cymorth i Gyflogeion

  • Mae’r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion yn wasanaeth ffôn ac ar-lein 24 awr y dydd sy’n cynnig y canlynol:
  • cymorth annibynnol a chyfrinachol
  • cyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys iechyd, dyledion, problemau teuluol ac anawsterau yn y gweithle
  • cymorth i reolwyr sydd eisiau rhoi cyngor i’w cyflogeion ar reoli straen a materion eraill
  • cwnsela.

 Iechyd Galwedigaethol 

Mae eich iechyd chi, neu iechyd rhywun rydych chi’n ei reoli, yn effeithio ar les, perfformiad a phresenoldeb. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn gallu helpu yn hyn o beth drwy roi cyngor: 

  • i reolwyr ar atal neu ddatrys problemau sy’n gysylltiedig ag iechyd
  • i gyflogeion ar reoli eu cyflwr
  • ar addasiadau yn y gweithle.

Addasiadau yn y gweithle 

Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle i elfennau o swydd sy’n golygu bod cyflogai anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â chyflogeion eraill.  Bydd addasiadau’n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol. 

34.4. Straen 

Mae Chwaraeon Cymru’n cydnabod bod straen yn cael effaith niweidiol ar les cyflogeion.  Mae’n cydnabod hefyd bod sawl ffurf ar straen, ac felly bod angen ei ddadansoddi’n ofalus a rhoi sylw iddo ar lefel sefydliadol.  Mae achosion straen yn y gweithle, a’r symptomau posib, i’w gweld yma

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i hybu iechyd a lles ei gyflogeion drwy leihau straen yn y gweithle.  Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod pobl yn ymdopi â phwysau mewn gwahanol ffyrdd, a bod gallu pawb i ymdopi yn wahanol. Mae rheoli’n rhagweithiol ac yn gefnogol yn gallu lleihau’r risg o straen. 

Rôl rheolwyr 

Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi cyflogeion mewn cysylltiad â straen.  Mae modd i reolwyr gymryd nifer o gamau i wneud hyn, gan gynnwys: 

  • gosod amcanion realistig
  • dirprwyo gwaith yn briodol
  • monitro ac adolygu baich gwaith unigolion a thimau
  • rhoi’r lefel gywir o hyfforddiant, ymreolaeth a rheolaeth dros eu gwaith eu hunain i gyflogeion
  • bod yn hygyrch ac annog cyflogeion i fod yn onest os ydynt yn teimlo dan bwysau
  • rheoli mewn ffordd gyson a theg
  • mynd i’r afael â phroblemau cyn gynted ag y maent yn codi
  • annog cyflogeion i gymryd eu gwyliau blynyddol i’w helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • atgoffa cyflogeion i gymryd amser o’r gwaith ac egwyliau rheolaidd.

Gofalu amdanoch chi’ch hun 

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud er budd eich iechyd a’ch lles eich hun.  Dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i helpu i leihau straen: 

  • Dod o hyd i bethau sy’n eich helpu i ymlacio
  • Siarad â rhywun
  • Trafod unrhyw bwysau gwaith gyda’ch rheolwr
  • Deall effaith yr hyn rydych chi’n ei fwyta a’i yfed
  • Bod yn actif
  • Cael digon o gwsg

Y gefnogaeth sydd ar gael 

Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n gallu ymdopi, dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell am unrhyw anawsterau. Yn yr un modd, os oes gan eich rheolwr llinell reswm i gredu bod gormod o straen arnoch chi o bosib, bydd yn gofyn am gyfarfod gyda chi i drafod eich pryderon ac i gynnal asesiad risg. 

34.5. Iechyd meddwl 

Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.  Bydd tua un o bob pedwar person yn wynebu problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol.  Mae amryw o gyflyrau iechyd meddwl, yn amrywio o rai cyffredin fel iselder, gorbryder ac anhwylderau bwyta, a rhai llai cyffredin fel anhwylder deubegynol, anhwylderau personoliaeth a sgitsoffrenia.   

Mae’n bwysig peidio ag anwybyddu eich iechyd meddwl. 

  • Gall problemau iechyd meddwl gael effaith niweidiol ar eich iechyd corfforol, eich emosiynau a’ch hwyliau.
  • Gall eich iechyd meddwl gallu effeithio ar eich perthynas â theulu, ffrindiau a chydweithwyr hefyd.
  • Gall problemau iechyd meddwl arwain at benderfyniadau nad ydynt er eich budd pennaf chi.
  • Efallai y bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau arferol o ddydd i ddydd.

Rôl rheolwyr 

Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi cyflogeion mewn cysylltiad ag iechyd meddwl.  Mae modd i reolwyr gymryd nifer o gamau i wneud hyn, gan gynnwys: 

  • mabwysiadu agwedd agos-atoch chi a gwrando ar eu pryderon
  • gwneud atgyfeiriadau cynnar i’r adran Iechyd Galwedigaethol
  • cael cyngor gan y Rhaglen Cymorth i Gyflogeion
  • nodi a mynd i’r afael â materion cysylltiedig â gwaith a allai gyfrannu at salwch meddwl
  • annog y cyflogai i wneud apwyntiad gyda’i feddyg teulu, os yw hynny’n briodol
  • ystyried a fyddai hyfforddiant gwydnwch yn fuddiol
  • creu cynllun lleihau straen
  • ystyried lleihau baich gwaith dros dro
  • ystyried newid patrwm gwaith dros dro

Gofalu amdanoch chi’ch hun 

Dylech fod yn ymwybodol bob amser o’ch iechyd meddwl eich hun a deall sut gallai’r hyn rydych chi’n ei wneud effeithio ar iechyd meddwl pobl eraill.  Dyma rai camau i gynnal eich lles meddyliol: 

  • siarad â rhywun rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad ag ef pan fydd gennych chi unrhyw bryderon
  • siarad â’ch rheolwr os oes rhywbeth yn y gweithle yn effeithio ar eich iechyd meddwl
  • deall sut gallai’r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion helpu
  • gwybod pa gymorth sydd ar gael yn y gweithle a’r tu allan i’r gweithle.

34.6. Anhwylderau Cyhyrysgerbydol

Ystyr anhwylderau cyhyrysgerbydol yw anafiadau neu boen yn eich cymalau, eich ligamentau, eich cyhyrau a’r strwythurau sy’n cefnogi eich breichiau a’ch coesau, eich gwddw a’ch cefn. Anhwylderau cyhyrysgerbydol yw’r math mwyaf cyffredin o salwch galwedigaethol.  Yn ogystal ag effaith gorfforol anhwylderau cyhyrysgerbydol, mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod prawf o gyswllt rhwng anhwylderau cyhyrysgerbydol a phroblemau iechyd meddwl.  Mae rhagor o fanylion am anhwylderau cyhyrysgerbydol ar gael yma. 

Rôl rheolwyr 

Mae ffactorau yn y gweithle’n gallu cyfrannu at broblemau cyhyrysgerbydol. Mae rheolwyr yn chwarae rôl allweddol yn atal y problemau hyn yn y lle cyntaf, yn ogystal â helpu cyflogeion i reoli’r problemau hyn, pan fyddant yn codi.  

Dyma rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud fel rheolwr: 

  • deall a chyflawni eich dyletswyddau iechyd a diogelwch
  • cael hyfforddiant iechyd a diogelwch perthnasol
  • siarad â’r cyflogai i weld sut mae’r cyflwr yn effeithio arno
  • trefnu asesiad risg Cyfarpar Sgrin Arddangos / gweithfan
  • cael cyngor gan y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
  • sicrhau bod y cyflogai’n gwybod am y wybodaeth a’r cymorth arall sydd ar gael iddo
  • atgoffa’r cyflogai o’i gyfrifoldebau iechyd a diogelwch
  • newidiadau dros dro neu barhaol i gyfarpar ac elfennau eraill o’r gweithle.

Gofalu amdanoch chi’ch hun 

Mae llawer o gamau y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud yn llai tebygol o ddatblygu anhwylder cyhyrysgerbydol, gan gynnwys: 

  • Bod yn actif
  • Bwyta deiet cytbwys ac iach
  • Rhoi sylw i risgiau yn y gweithle, e.e. tywallt hylifau
  • Cadw at weithdrefnau’r gweithle ar gyfer codi a chario a defnyddio Cyfarpar Sgrin Arddangos
  • Dewis y cyfarpar cywir a sicrhau bod popeth yn y lle iawn
  • Cymryd seibiannau rheolaidd, cyn i flinder eich taro yn ddelfrydol

34.7. Gweithgarwch Corfforol

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod gweithgarwch corfforol yn hollbwysig ar gyfer iechyd da ac yn cyfrannu at les cadarnhaol.  Mae’r gweithle’n fan pwysig lle mae pobl yn gallu cynyddu eu lefel gweithgarwch i wella eu hiechyd a gwarchod rhag salwch. 

Mae gweithgarwch corfforol yn helpu pobl i reoli straen, poen cefn, eu pwysau, a chyflyrau meddygol.  Mae ymchwil yn dangos bod cyflogeion sy’n gorfforol actif yn dweud eu bod yn sâl yn llai aml ac yn gwella’n gyflymach os ydynt yn sâl.  

Mae cyflogeion sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi dweud eu bod yn cael mwy o fwynhad o’u gwaith, eu bod yn gallu canolbwyntio’n well, bod ganddynt berthynas well â’u cydweithwyr a’u bod yn gweithio’n well gyda’u cydweithwyr. 

Ein Hymrwymiadau 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud y canlynol: 

  • Annog cyflogeion i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd
  • Codi ymwybyddiaeth o fanteision gweithgarwch corfforol
  • Darparu gwybodaeth ac adnoddau mewn perthynas â gweithgarwch corfforol

Y Gefnogaeth Sydd ar Gael 

I hybu gweithgarwch corfforol a lles, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi cyflogeion yn y ffyrdd canlynol: 

  • Darparu mynediad i gyfleusterau chwaraeon i’w staff
  • Cynnal digwyddiadau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol
  • Darparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau gweithgarwch amser cinio

I gael gwared ar rwystrau a galluogi staff i fod yn actif yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, mae Chwaraeon Cymru yn darparu’r canlynol: 

  • Oriau gwaith hyblyg i nifer o gyflogeion i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith
  • Cymhellion i staff sy’n beicio i gyfarfodydd, e.e. talu am filltiroedd teithio
  • Raciau storio diogel ar gyfer beiciau
  • Cynllun beicio i’r gwaith, gan roi cyfle i gyflogeion dalu am gyfarpar beicio drwy aberthu cyflog
  • Cyfleusterau cawod a newid

34.8. Maeth 

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod cael digon o faeth yn fuddiol i iechyd a lles ein cyflogeion.  

Ein Hymrwymiadau 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud y canlynol: 

  • Annog cyflogeion i fwyta’n iach yn y sefydliad
  • Codi ymwybyddiaeth o fuddion iechyd cael digon o faeth, a risgiau iechyd prinder maeth
  • Darparu gwybodaeth ac adnoddau i addysgu cyflogeion am faeth.

Y Gefnogaeth Sydd ar Gael

I annog bwyta’n iach, bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i gefnogi cyflogeion yn y ffyrdd canlynol: 

  • Darparu gwybodaeth ddiduedd am faeth da
  • Darparu cyfle i staff fwyta’n iach, lle bo hynny’n briodol

I gael gwared ar rwystrau a galluogi staff i fwyta’n iach yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, bydd Chwaraeon Cymru yn darparu’r canlynol: 

  • Gwybodaeth i annog a chymell cyflogeion i wneud dewisiadau iach o ran bwyd
  • Dewisiadau bwyd iach drwy adrannau arlwyo Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai
  • Dewisiadau iach mewn peiriannau gwerthu, fel y bo’n briodol
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu dewisiadau iach o ran bwyd
  • Ffynhonnell dŵr yfed i’r holl staff ac ymwelwyr.

34.9. Monitro ac Adolygu 

Bydd y Polisi Iechyd a Lles yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y tîm Adnoddau Dynol.  Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys archwiliad o’r data rheoli y mae’r tîm Adnoddau Dynol wedi’u casglu.