Main Content CTA Title

Newid Sefydliadol

36. Gwerthuso Swyddi

Adolygiad diwethaf: Medi 2021

Adolygiad nesaf: Medi 2024

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn talu cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal. Mae gwerthuso swyddi yn pennu ansawdd cymharol swyddi o fewn sefydliad ac yn darparu sail resymegol ar gyfer dylunio a chynnal strwythur graddio teg ac amddiffynadwy. Er mwyn asesu gwerth ein swyddi, rydym yn defnyddio'r system Cymorth Gwerthuso a Graddio Swyddi (JEGS). Mae JEGS yn system ddadansoddol, sy'n seiliedig ar bwyntiau, sydd wedi cael ei defnyddio'n bennaf ar gyfer swyddi Gwasanaeth Sifil y DU ac sydd wedi cael ei mabwysiadu gan nifer o gyrff cyhoeddus.

Mae cyfraniad unigol at y rôl wedi'i gwmpasu gan Ymddygiadau Chwaraeon Cymru, sydd wedi'i gynllunio i helpu i ddatblygu'r cymysgedd cywir o sgiliau ac ymddygiadau i wneud y swydd yn dda. Mae gwerthuso swyddi ar wahân i gyfraniad unigol. Mae'n asesu gofynion y rôl.

Nid yw Gwerthuso Swyddi yn ymwneud â pha mor brysur yw swydd na pha mor drwm yw ei baich. Mae'r gwerthusiad yn canolbwyntio ar natur y tasgau y mae angen eu cyflawni yn y rôl a'r math o gyfrifoldebau y mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol eu cyflawni.

36.1. Cydraddoldeb

Cydnabyddir bod gwerthuso swyddi dadansoddol yn sail gadarn ar gyfer pennu gwaith o werth cyfartal, fel y nodir yn y Ddeddf Cyflog Cyfartal sydd bellach wedi'i hymgorffori yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Felly mae'n darparu modd i sicrhau bod materion cyflog gwerth cyfartal yn cael sylw.

36.2. Cyflawni Tegwch a Chysondeb

Cymerwyd gofal wrth gynllunio'r JEGS i osgoi rhagfarn. Y prif risg i sicrhau tegwch a chysondeb wrth werthuso swyddi yw rhagfarn, a all gael ei chyflwyno i'r broses o werthuso swyddi mewn amrywiol ffyrdd. Os yw gwerthuso swyddi i fod yn effeithiol a llwyddo i gefnogi strwythur graddio / bandio cyflog credadwy a derbyniol, rhaid osgoi pob math o ragfarn a rhaid i'r gwerthuswr ganolbwyntio ar y rôl a'i gofynion. Mae arfer da wrth werthuso swyddi’n ymwneud ag adeiladu gwarchodaeth rhag rhagfarn bosibl drwy gydol y broses o werthuso swyddi. Er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb yn Chwaraeon Cymru, mae’r arfer da canlynol yn cael ei roi ar waith:

  • cynnwys deiliaid swyddi a / neu reolwyr llinell wrth gwblhau dogfennau gwybodaeth swydd perthnasol pan fydd swyddi’n cael eu gwerthuso
  • defnyddio gwerthuswyr hyfforddedig i gynnig cymorth i ddeiliaid swyddi i gwblhau dogfennau gwybodaeth swydd
  • sicrhau bod gwerthuswyr ac aelodau’r panel wedi’u hyfforddi mewn gwerthuso swyddi
  • sicrhau bod aelodau’r panel gwerthuso swyddi yn gynrychioliadol o’r grwpiau gwaith sy’n cael eu gwerthuso
  • naill ai defnyddio disgrifiad swydd sy’n dilyn ffactorau JEGS, neu Ffurflen Dadansoddi Swydd ddienw (JAF) neu broffil swydd cyn i’r swydd gael ei sgorio gan werthuswyr a / neu aelodau’r panel
  • cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur i gefnogi deiliaid swyddi drwy’r broses, os oes angen
  • sicrhau tryloywder, cadw cofnodion ar gyfer pob rôl a werthusir gan gynnwys y rheswm dros bob asesiad ffactor
  • anwybyddu nodweddion a rhinweddau deiliad y swydd (er engraifft rhywedd, oedran a phrofiad) a chanolbwyntio ar y rôl.

36.3. Proses

Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o werthusiadau JEGS a gynhelir gan adrannau’n rhai ar bapur. Mae'r broses hon yn cynnwys y camau canlynol:

  • ystyried pa wybodaeth sydd angen ei chyfleu i’r rhai sy’n gysylltiedig gan gynnwys yr undebau llafur
  • y gwerthuswr yn cael disgrifiad swydd neu Ffurflen Dadansoddi Swydd (JAF) y cytunwyd arni lle bo modd mewn trafodaeth gyda deiliad y swydd a’r rheolwr
  • dau werthuswr yn sgorio’r proffil swydd dienw ac wedyn yn trafod unrhyw wahaniaethau i gyrraedd argymhelliad sgorio y cytunwyd arno
  • y canlyniad yn cael ei lofnodi a’i gofnodi gan y ddau werthuswr
  • Dim ond pan mae’r materion a godwyd yn debygol o fod yn syml y dylid cynnal gwerthusiadau papur. Pan mae swyddi’n debygol o godi materion cymhleth neu ddadleuol, dylid cynnal gwerthusiad llawn.

Gellir defnyddio gwerthusiad llawn pan mae’r canlynol yn berthnasol;

  • swydd newydd yn cael ei chreu ac nid yw’r raddfa yn amlwg
  • swydd bresennol yn newid yn sylweddol, gan godi amheuon ynghylch y raddfa
  • swyddi ar ffin gwahanol raddfeydd
  • swyddi’n destun adolygiad graddfa
  • penderfyniad am raddfa’n cael ei herio

Mae proses werthuso lawn JEGS yn cynnwys y camau canlynol:

Casglu’r dystiolaeth

  • ystyried pa wybodaeth sydd angen ei chyfleu i’r rhai sy’n gysylltiedig gan gynnwys yr undebau llafur
  • lle nad yw disgrifiad swydd yn ddigonol, bydd angen i ddeiliad y swydd neu’r rheolwr llinell lenwi Ffurflen Dadansoddi Swydd (JAF), gan ymgynghori â deiliad y swydd. Lle mae sawl deiliad swydd, dylai’r rheolwr llinell ymgynghori â nifer gynrychiadol.
  • Cwestiynau dilynol ac, os oes angen, gwerthuswr hyfforddedig yn cynnal cyfweliad gyda deiliad y swydd.

Sgorio’r Swydd

  • bydd y panel yn cynnwys tri gwerthuswr hyfforddedig, ac un ohonynt yn gynrychiolydd undeb llafur a fydd yn sgorio’r swydd gan ddefnyddio meddalwedd JEGS
  • bydd y JAF, neu ddisgrifiad swydd os yw’n ddigonol, yn cael ei ystyried gan banel gwerthuso swyddi sy’n trafod y swydd ar y cyd ac yn cytuno ar ganlyniad
  • dylid cofnodi’r sgôr gyfan a’r sgoriau ffactor, ynghyd â rhesymeg, os oes angen

36.4. Adolygu Penderfyniadau Gwerthuso

Os yw penderfyniad gwerthuso wedi cael ei wneud am swydd gan banel gwerthuso swyddi, mae'n annhebygol y bydd achos dros adolygu'r penderfyniad hwnnw. Dylid hysbysu deiliad y swydd am y penderfyniad. Fodd bynnag, efallai y bydd angen adolygu gwerthusiad llawn neu werthusiad papur lle mae'n ymddangos bod y canlynol yn berthnasol:

  • methiant wedi bod yn y broses, er engraifft, nid yw’r canllawiau perthnasol wedi cael eu dilyn yn briodol
  • nid yw gwybodaeth newydd arwyddocaol neu agweddau arwyddocaol ar y swydd wedi cael eu hystyried wrth sicrhau canlyniad y gwerthusiad neu
  • mae rhyw fath o wahaniaethu (triniaeth annheg, ragfarnllyd neu anghyson) wedi digwydd yn y ffordd y cynhaliwyd y gwerthusiad.

Efallai y bydd modd datrys rhai materion drwy drafodaeth anffurfiol ond os nad yw hyn yn datrys y sefyllfa, efallai y bydd angen dilyn proses fwy ffurfiol. Byddai angen i ddeiliad y swydd ysgrifennu at y tîm Adnoddau Dynol i egluro ei reswm dros ofyn am adolygiad. Os yw'r cais yn annigonol, bydd deiliad y swydd yn derbyn esboniad ysgrifenedig ynghylch pam y gwrthodwyd y cais. Os cytunir ar adolygiad, gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • amserlen glir gyda therfynau amser rhesymol fel bod pawb yn deall pa mor hir y bydd y broses yn ei gymryd a phryd y bydd wedi’i chwblhau
  • cynnal gwerthusiad llawn os nad yw’r rôl eisoes wedi’i gwerthuso’n llawn
  • os yw’r swydd wedi’i gwerthuso’n llawn, cynnull panel gwerthuso pellach i adolygu’r canlyniadau sgorio. Gallai’r panel hwn gynnwys aelodau o’r panel gwreiddiol ochr yn ochr ag aelodau newydd, annibynnol.

36.5. Cynnal Llyfrgell Werthuso JEGS

Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn cadw llyfrgell o werthusiadau swyddi. Mae'r rhain yn ddefnyddiol wrth geisio nodi swyddi ar gyfer meincnodi a darparu sicrwydd ansawdd. Fel isafswm, dylid cadw cofnod sy'n dangos y canlynol ar gyfer pob swydd sydd wedi'i gwerthuso:

  • dyddiad y gwerthusiad
  • disgrifiad swydd / JAF ddienw
  • sgoriau yn ôl ffactor
  • y sgôr gyffredinol y cytunwyd arni yn derfynol
  • y band cyflog a werthuswyd.

36.6. Sicrwydd i’r Dyfodol

Mewn llawer o achosion, bydd nodweddion swyddi’n newid dros gyfnod o amser ond mae'n annhebygol y bydd newidiadau bach yn arwain at newid graddfa. Fodd bynnag, lle bu newid sylweddol, mae gan reolwyr gyfrifoldeb arweiniol i fonitro newidiadau a chyfeirio'r swydd i'w gwerthuso lle bo angen.

37. Recriwtio

Adolygiad diwethaf: Ebrill 2021
Adolygiad nesaf: Ebrill 2024

Mae un peth yn gwneud mwy o wahaniaeth i'n sefydliad nag unrhyw beth arall; ein pobl. Rydym yn cydnabod bod ein gallu i recriwtio cyflogeion o'r ansawdd gorau yn effeithio'n uniongyrchol ar gyflawni ein strategaeth. Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r egwyddorion allweddol y byddwn yn eu dilyn mewn perthynas â'r holl weithgarwch recriwtio a dethol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd twf a datblygiad i'n staff a rhoddir cefnogaeth i helpu cyflogeion i baratoi eu hunain ar gyfer swyddi uwch, lle mae hyn yn ddymunol ac yn briodol. Gwneir pob penodiad i Chwaraeon Cymru ar sail teilyngdod.

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ddarparu cyfleoedd swyddi a phrosesau recriwtio sy'n deg, yn gyson ac yn gyfartal. Gall methu â glynu wrth y polisi hwn ein gadael yn agored i her, ac o'r herwydd, dylai pob cyflogai sy’n ymwneud â recriwtio a dethol fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau am ei weithredu'n briodol.

37.1. Egwyddorion Allweddol

Er mwyn sicrhau ein bod yn denu ac yn recriwtio'r bobl gywir i gefnogi cyfeiriad a diwylliant y sefydliad, mae ein gwerthoedd wedi'u hymgorffori ym mhob agwedd ar recriwtio a dethol. Bydd y rhain wedi'u cynnwys ym mhob disgrifiad swydd a manyleb person, yn cael eu hadlewyrchu mewn cwestiynau cyfweliad, ac yn parhau drwy ddulliau sefydlu, perfformiad a datblygu.

Cyn awdurdodi swydd wag, bydd rheolwyr yn ystyried pob opsiwn ar gyfer cynllunio'r gweithlu ar gyfer eu hadran. Mae'r tîm Adnoddau Dynol ar gael i gefnogi'r broses gynllunio a nodi cyfleoedd a dewisiadau eraill lle nad yw swyddi newydd yn bosibl.

Mae'r canllaw recriwtio a dethol ar gyfer rheolwyr yn rhoi cyngor pellach i reolwyr sy'n recriwtio.

37.2. Recriwtio a hysbysebu

Rhaid i bob swydd fod â disgrifiad swydd / manyleb person cyfredol. Bydd y disgrifiad swydd yn disgrifio’r dyletswyddau, y cyfrifoldebau a’r lefel sy'n gysylltiedig â'r swydd, a bydd manyleb y person yn disgrifio'r cymwysterau, yr wybodaeth, y profiad, y sgiliau a’r gwerthoedd sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.

Cynhelir ymarfer gwerthuso swydd ar gyfer pob swydd newydd (nid swyddi i gymryd lle rhai eraill), ac ym mhob achos lle bu newid sylweddol yn natur y swydd ers y gwerthusiad diwethaf.

Ar rai achlysuron, efallai y bydd yn briodol hysbysebu swyddi ar sail fewnol yn unig. Gall hyn fod i annog cyfleoedd datblygu a chydnabod a gwobrwyo sgiliau staff o fewn y sefydliad. Efallai y bydd angen hyn hefyd lle mae angen cymhwyso egwyddorion adleoli oherwydd ailstrwythuro, a lle mae sgiliau ar gael o fewn y gweithlu presennol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall swyddi mewnol yn unig fod ar agor i unigolion a gyflogir ar sail achlysurol neu secondiad, yn ogystal ag i unigolion ar gontractau parhaol neu dymor penodol. Gofynnir i gyflogeion drafod unrhyw gais gyda'u rheolwr llinell cyn gwneud cais am swydd yn fewnol.

Ar achlysuron eraill, efallai y bydd yn angenrheidiol hysbysebu swydd wag yn fewnol ac yn allanol ar yr un pryd. Er enghraifft, efallai y bydd angen hyn er mwyn ehangu'r gronfa o ymgeiswyr posibl neu lle nad ystyrir bod y sgiliau sydd eu hangen yn cael eu hadlewyrchu o fewn y gweithlu presennol. Bydd ymgeiswyr mewnol yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am y swyddi gwag hyn ond byddant yn cystadlu yn erbyn ymgeiswyr allanol.

Bydd y penderfyniad i hysbysebu'n fewnol ac yn allanol yn unol â disgresiwn y rheolwr recriwtio, ar ôl trafodaeth gyda'r tîm Adnoddau Dynol.

Gall y tîm Adnoddau Dynol gynghori ar ddulliau hysbysebu arfer gorau a chostau cysylltiedig. Bydd rheolwyr recriwtio’n cynghori ar gyfryngau neu gyhoeddiadau arbenigol yn y diwydiant yr hoffent eu defnyddio.

Bydd pob swydd wag allanol yn cael ei hyrwyddo drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol.

37.3. Amrywiaeth

Ein staff ni yn Chwaraeon Cymru yw ein hased mwyaf, ac rydym yn dangos hyn drwy ein hymrwymiad i ddatblygu amgylchedd gwaith gwirioneddol gynhwysol yn Chwaraeon Cymru. Mae ein polisïau a'n gweithdrefnau ynghylch recriwtio a dethol yn sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol, anghyfreithlon ar sail oedran, rhywedd, lliw, anabledd, lleiafrif ethnig, statws rhiant neu briodasol, cenedligrwydd, cred grefyddol, statws cymdeithasol a thueddfryd rhywiol.

Bydd hysbysebion swyddi’n cael eu gosod yn strategol er mwyn gwarantu'r cyrhaeddiad ehangaf posibl, gan sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant. Mae pob hysbyseb swydd yn amlinellu ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gydraddoldeb, fel y mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn ein deunyddiau recriwtio.

Bydd pob rheolwr recriwtio a chyfranogwr sy'n ymwneud â recriwtio a dethol wedi derbyn hyfforddiant cydraddoldeb. Bydd gwybodaeth a chanllawiau ar gael hefyd gan y tîm Adnoddau Dynol, yn amlinellu gweithdrefnau teg a chadarn i ddileu unrhyw gyfleoedd i wahaniaethu. 

Bydd rhestr fer ‘ddall’ yn cael ei llunio ar gyfer pob swydd wag, gyda’r ceisiadau’n ddienw a’r holl fanylion personol yn cael eu tynnu, cyn i’r panel llunio rhestr fer eu gweld. Mae hyn yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw wahaniaethu’n rhan o brosesau recriwtio a dethol ac felly ni ddylent roi unrhyw ymgeisydd am swydd dan anfantais.

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd lefel 2 ac yn cynnig cyfweliadau i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer swydd wag, yn unol â'r cynllun.

37.4. Yr Iaith Gymraeg

Bydd cyfle i bob ymgeisydd wneud cais am swydd yn y Gymraeg, ar gais ar hyn o bryd. Pan fydd ymgeisydd yn mynegi'r Gymraeg fel ei iaith ddewisol, cynigir gweddill y broses recriwtio a dethol, gan gynnwys yr holl ohebiaeth a chyfweliadau, yn y Gymraeg.

37.5. Dethol

Bydd llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad yn cynnwys asesiad yn erbyn y disgrifiad swydd a manyleb y person gan ddefnyddio eu cais am swydd. Bydd dau berson o leiaf yn llunio’r rhestr fer, ac un ohonynt fydd y Rheolwr Recriwtio ar gyfer y swydd. Gall y tîm Adnoddau Dynol gynghori ar y ffordd orau o asesu a sgorio ymgeiswyr yn ystod y broses o lunio rhestr fer.

Bydd y broses ddethol yn sicrhau cyn lleied ag y bo modd o ragfarn. Felly, ni ddylai unrhyw un sydd â pherthynas bersonol agos ag ymgeisydd lunio rhestr fer na bod ar y panel cyfweld.

Cynhelir pob cyfweliad gan banel o ddau berson o leiaf, un yn Rheolwr Recriwtio (Cadeirydd) ac un yn aelod o'r tîm Adnoddau Dynol. Ni ddylai paneli gynnwys mwy na phedwar unigolyn.

Y rheolwr recriwtio sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cwestiynau cyfweliad. Yn ystod cyfweliadau, bydd holl aelodau'r panel yn defnyddio hyn i wneud nodiadau a sgorio ymgeiswyr. Bydd angen i nodiadau fod yn glir ac yn deg a rhaid gallu eu cyfiawnhau, oherwydd gallent fod yn agored i her.

Dylai cwestiynau cyfweliad gynnwys cyfuniad o gwestiynau technegol (penodol i'r swydd) a chwestiynau sy'n seiliedig ar werth. Ni ddylai cwestiynau cyfweliad fod yn wahaniaethol nac yn ymwthiol yn ddiangen mewn unrhyw ffordd. Mae canllawiau ar gwestiynau cyfweliad ar gael i Reolwyr Recriwtio.

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu dethol y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â'r cyfweliad traddodiadol a fydd yn helpu'r panel i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r ymgeisydd. Mae’r mathau cyffredin o asesiadau’n cynnwys cyflwyniadau, profion seicometrig, a phrofion gallu a dawn. Mae canllawiau pellach ar gael i Reolwyr Recriwtio.

Yn dilyn y cyfweliad / asesiad, bydd y rheolwr recriwtio’n gwneud argymhellion penodi, gan ddangos yn glir y rheswm dros y penodiad neu beidio â phenodi. 

Bydd ymgeiswyr sy'n mynychu cyfweliad yn cael ad-daliad am unrhyw dreuliau rhesymol.

37.6. Cynnig cyflogaeth

Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, bydd cynigion cyflogaeth uniongyrchol yn cael eu gwneud gan y Rheolwr Recriwtio.

Dim ond ar gais y rhoddir adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ar y rhestr fer ar eu cais a'u cyfweliad. Oherwydd ein harfer o lunio rhestr fer yn ddienw, nid ydym yn gallu rhoi adborth penodol i ymgeiswyr oedd yn aflwyddiannus yn ystod y cam llunio rhestr fer.

37.7. Rhestri wrth gefn

Os yw'r ymgeisydd â'r ail sgôr uchaf wedi sgorio'n ddigon uchel i gael ei benodi, mae gan y rheolwr recriwtio'r opsiwn o ychwanegu'r ymgeisydd hwn at restr wrth gefn. Cedwir y rhestr wrth gefn am 6 mis. Os bydd swydd wag yn codi yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda'r un disgrifiad swydd, manyleb y person a graddfa cyflog, mae gan y Rheolwr Recriwtio'r opsiwn o gynnig y rôl i'r ymgeisydd ar y rhestr wrth gefn, heb fod angen cyfweliad pellach.

37.8. Dogfennaeth

Bydd cofnodion ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hychwanegu at eu ffeil bersonél ar ddechrau’r gyflogaeth. Cedwir yr holl ddogfennaeth arall sy'n ymwneud â'r swydd wag, gan gynnwys cofnodion o asesiadau unigol, am flwyddyn.

Bydd y data cydraddoldeb ac amrywiaeth a geir drwy brosesau ymgeisio yn cael eu defnyddio i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n angenrheidiol i'n helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cydraddoldeb. Bydd gwybodaeth a gesglir am ymgeiswyr unigol yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, a'i phrosesu yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd yn unig.

Bydd pob penodiad yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol. Dim ond ar ôl derbyn cynnig o benodiad y gofynnir am eirdaon. Dim ond yn ysgrifenedig y dylid darparu geirdaon ar gyfer staff sy'n gadael, neu sydd wedi gadael, y sefydliad. Rhaid iddynt fod yn ffeithiol ac yn wrthrychol, oherwydd gallent fod yn agored i her. Cyfeiriwch y geirda at y tîm Adnoddau Dynol i'w adolygu cyn ei gyhoeddi, er mwyn gwarchod buddiannau Chwaraeon Cymru.

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i alluogi penderfyniadau recriwtio mwy diogel drwy nodi ymgeiswyr a allai fod yn anaddas ar gyfer gwaith penodol, yn enwedig gwaith sy'n cynnwys cyswllt agos a rheolaidd â phlant neu oedolion agored i niwed. Bydd angen archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer swyddi cymwys, a bydd hyn yn cael ei egluro i ymgeiswyr cyn gwneud unrhyw gynnig cyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, a manylion llawn y weithdrefn, edrychwch ar Bolisi DBS Chwaraeon Cymru.

37.9. Croesawu a Sefydlu

Mae croeso cynnes i Chwaraeon Cymru yn hanfodol i helpu pobl sy’n dechrau o’r newydd mewn swydd i ymgartrefu yn eu rôl newydd ac i sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd arnynt eu hangen i gyflawni eu rôl. Mae hyn yn dechrau cyn iddynt ymuno (croesawu) ac yn parhau drwy gydol eu misoedd cyntaf yn y swydd (sefydlu).

37.10. Cyfnod Prawf

Gwneir pob penodiad yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis calendr. Ar ôl tri a chwe mis, cynhelir cyfarfod adolygu rhwng deiliad y swydd a'i reolwr llinell. Gellir ymestyn y cyfnod prawf am dri mis pellach os yw'r rheolwr llinell yn ystyried bod hyn yn briodol.

37.11. Gwasanaethau cwsmeriaid

Er y bydd y rhan fwyaf o’r cyfathrebu ag ymgeiswyr yn awtomatig drwy ein system recriwtio ar-lein bellach, mae'n bwysig cynnal lefel uchel o foddhad cwsmeriaid. Felly, bydd gan ymgeiswyr fynediad o hyd at fanylion cyswllt rhag ofn y byddant yn cael anhawster i gael mynediad at y system neu ei defnyddio, neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y rôl.

Bydd cyflogeion sy'n gadael y sefydliad yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad gadael. Mae'r wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol wrth nodi tueddiadau, dysg a datblygiad, a gwerthuso effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol.

37.12. Cwynion

Dylai unrhyw ymgeisydd sy'n credu ei fod wedi cael ei drin yn annheg neu sydd â chwyn am y broses recriwtio gysylltu â'r tîm Adnoddau Dynol gan amlinellu ei bryderon. 

38. Polisi Diswyddo

Adolygiad diwethaf: Medi 2021

Adolygiad nesaf: Medi 2024

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymfalchïo bob amser mewn cynllunio ymlaen ac mewn bod yn sefydliad sy'n meddwl ymlaen llaw. Bwriad Chwaraeon Cymru yw osgoi, lle bynnag y bo modd, yr angen am ddiswyddo. Fodd bynnag, mae Chwaraeon Cymru a’r PCS (ein Hundeb Llafur cydnabyddedig) yn cydnabod bod ymrwymiad i welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a darparu gwerth am arian. Bydd Chwaraeon Cymru yn ymdrechu i gefnogi pob cyflogai drwy gydol y broses hon, os ydynt yn aros yn Chwaraeon Cymru neu'n gadael.

Mae Chwaraeon Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod manteision gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'n hundeb; ​​byddwn yn ceisio ymgysylltu â’r PCS drwy gydol unrhyw broses ddiswyddo. Bydd ymgynghoriad ar ein dull o weithredu a'n hegwyddorion gyda’r PCS ar y dechrau a bydd yn parhau drwy gydol y broses. Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gymryd mesurau priodol i osgoi diswyddiadau. Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau triniaeth deg a chyfartal i'w holl gyflogeion.

Mae'r ddogfen hon yn nodi dull Chwaraeon Cymru o gynnal ymarfer diswyddo. Byddwn bob amser yn anelu at osgoi diswyddiadau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, os nad oes modd eu hosgoi, ein nod ni yw sicrhau cyn lleied o effaith â phosib yn sgil newid o'r fath.

38.1. Osgoi Diswyddo

Cyn cadarnhau unrhyw ddiswyddiadau, bydd Chwaraeon Cymru yn cymryd camau i archwilio pob opsiwn arall sy'n addas i gynnal anghenion ein sefydliad.

Bydd Chwaraeon Cymru yn edrych ar yr opsiynau canlynol (nid ydynt yn hollgynhwysfawr):

  • Gall adleoli cyflogeion i waith addas arall gydag ailhyfforddi fod yn briodol
  • argymell cyflogeion ar gyfer swyddi gwag sy'n codi mewn adrannau eraill o fewn Chwaraeon Cymru
  • os oes gan gyflogai neu gyflogeion o fewn Chwaraeon Cymru brofiad priodol a sgiliau addas, bydd Chwaraeon Cymru yn troi atynt hwy cyn ceisio cymorth gan gontractwyr, staff asiantaeth neu ymgynghorwyr
  • cyfyngu ar recriwtio
  • trosiant naturiol
  • gostyngiad mewn oriau a / neu gyflog (gyda chytundeb gan gyflogeion)
  • lleihau neu ddileu goramser
  • peidio ag adnewyddu contractau cyflogeion tymor penodol os oes gan Chwaraeon Cymru gyfiawnhad rhesymol dros wneud hynny
  • ystyried diswyddo gwirfoddol (er bod Chwaraeon Cymru yn cadw'r hawl i beidio â derbyn cynnig gwirfoddol os oes ganddo resymau rhesymol dros wrthod hynny).

38.2. Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Rheolwyr

  • Llunio cynnig ailstrwythuro gan gynnwys y rhesymeg dros ailstrwythuro.
  • Cael cytundeb gan y Bwrdd a / neu Lywodraeth Cymru, os yw hynny'n briodol.
  • Cwrdd â chyflogeion sy’n cael eu heffeithio fel rhan o'r broses ymgynghori.
  • Ymateb i adborth ymgynghoriad cyflogeion.
  • Cyfathrebu penderfyniadau canlyniadau gyda'r tîm ehangach.
  • Cadarnhau diswyddiadau gyda'r rhai sy’n cael eu heffeithio.
  • Gweithredu yn unol â'r polisi hwn a chanllawiau gan yr adran Adnoddau Dynol.
  • Trafod cyfleoedd adleoli addas gyda staff sydd 'mewn perygl' o gael eu diswyddo.
  • Cefnogi cyflogeion drwy gydol y broses.
  • Ystyried ceisiadau am apêl (bydd hyn yn cael ei ystyried gan y rheolwyr nad ydynt yn rhan o'r broses ailstrwythuro).

Adnoddau Dynol

  • Darparu cyngor, cefnogaeth a chynllunio i'r rheolwyr drwy gydol yr ymarfer ailstrwythuro.
  • Sicrhau bod cadw at y cyfnodau ymgynghori statudol.
  • Hysbysu'r Undeb Llafur yn gynnar, lle bo hynny'n ymarferol, gan ddarparu manylion y cynnig cyn unrhyw gyfnod ymgynghori.
  • Mynychu cyfarfod ymgynghori gyda chyflogeion sydd 'mewn perygl', os oes angen.
  • Cysylltu â'r rheolwyr i nodi cyfleoedd cyflogaeth eraill addas ar gyfer cyflogeion 'mewn perygl'.
  • Ochr yn ochr â'r rheolwr llinell, cefnogi cyflogeion sy’n cael eu heffeithio drwy gydol y broses.

Cyflogeion

  • Mynychu cyfarfodydd ymgynghori a chyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.
  • Darparu dogfennau ysgrifenedig i gynorthwyo gyda’r broses adleoli, os yw hynny'n berthnasol.
  • Cyflwyno unrhyw geisiadau am ddiswyddiad gwirfoddol o fewn yr amserlen a bennwyd.

38.3. Ymgynghori

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i gynnwys cyflogeion a'u cynrychiolwyr yn llawn drwy gydol unrhyw ymarfer diswyddo a bydd digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau bod yr ymgynghori yn ystyrlon. I'r perwyl hwn, bydd Chwaraeon Cymru yn ymgysylltu â'r undeb llafur / cyflogeion i ddadansoddi unrhyw gynigion a gyflwynir. Bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod y cyflwyniadau hyn yn cael eu hymgorffori yn y broses o drin y diswyddiadau posibl.

Nod yr ymgynghori yw rhoi cyfle i gyflogeion drafod y sefyllfa diswyddo, rhannu eu barn ac archwilio'r posibilrwydd o gamau gweithredu amgen. Bydd cyfle i gyflogeion leisio eu pryderon, teimlo'n rhan o'r broses a bod mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau gwybodus.

Y Broses Ymgynghori

Bydd amseriad yr ymgynghoriad yn adlewyrchu darpariaethau statudol wrth drin sefyllfaoedd diswyddo posibl. Y rhain yw 30 diwrnod ar gyfer ailstrwythuro sy'n cynnwys 20 i 99 o ddiswyddiadau a 45 diwrnod ar gyfer mwy na 99 o ddiswyddiadau. Bydd cyflogeion sydd ar wyliau, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a salwch, yn cael gwybod cyn gynted â phosibl a bydd gwarchodaeth yn berthnasol yn ôl yr angen.

Bydd cyfnod ymgynghori’n dechrau i'r rhai sydd wedi’u nodi fel cyflogeion ‘mewn perygl' o ddiswyddiad. Bydd Chwaraeon Cymru yn eu hysbysu o'r canlynol:

  • y rheswm (rhesymau) dros y cynigion diswyddo.
  • y strwythur arfaethedig sy'n tynnu sylw at y swyddi hynny sydd mewn 'perygl' o wynebu diswyddiad.
  • cyfanswm y cyflogeion sy’n cael eu heffeithio. 
  • y dull arfaethedig o ddewis y cyflogeion a allai gael eu diswyddo.
  • y dull arfaethedig o gyflawni'r diswyddiadau gan roi sylw dyledus i unrhyw weithdrefn y cytunwyd arni, gan gynnwys y cyfnod ar gyfer pryd mae'r diswyddiadau i ddod i rym.
  • y dull arfaethedig o gyfrif swm unrhyw daliadau diswyddo.

Bydd yr Undeb Llafur a / neu gynrychiolydd y cyflogai’n cael y wybodaeth hon hefyd.

Cynhelir ymgynghoriad gyda'r bwriad o ddod i gytundeb gyda'r cynrychiolwyr priodol (ar y cyd) a'r cyflogeion (unigol). Bydd y wybodaeth (a grybwyllir uchod) yn cael ei thrafod yn ogystal â ffyrdd o osgoi diswyddiadau, sut gellir lleihau nifer y cyflogeion i'w diswyddo, a sut gellir lliniaru canlyniadau'r diswyddiadau. Ni fydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud nes bod cyflogeion a / neu gynrychiolwyr priodol wedi cael cyfle i ymateb i'r cynigion o fewn amserlen benodol. Os na ellir dod i gytundeb, bydd Chwaraeon Cymru yn egluro pam na all fabwysiadu'r safbwyntiau a gyflwynwyd gan y cynrychiolwyr neu'r cyflogeion.

38.4. Proses Diswyddo

Os cyflwynir hysbysiad diswyddo, gwahoddir y cyflogai i drafod y penderfyniad gyda'i reolwr neu gynrychiolydd priodol. Yn ystod y cyfarfod hwn, hysbysir y cyflogai o amserlenni'r diswyddo yn ogystal ag unrhyw daliad diswyddo sydd ar gael.

Paru a Dewis

Bydd Chwaraeon Cymru yn ymgynghori â’r cyflogeion sy’n cael eu heffeithio ynghylch y strwythur newydd arfaethedig, gan gynnwys manylion y Disgrifiad Swydd. Os oes newidiadau i swyddi presennol, bydd Disgrifiad Swydd a Graddfa newydd yn cael eu darparu. Mewn rhai achosion bydd hon yn raddfa ddangosol a chaiff hynny ei gyfleu yn glir.

Os oes newidiadau i swyddi, bydd Chwaraeon Cymru yn edrych ar dystiolaeth ynghylch pa swyddi presennol sy'n cyfateb i'r swydd newydd. Bydd hyn yn cynnwys pennu meini prawf paru drwy gymharu'r Disgrifiad Swydd neu'r Ffurflen Dadansoddi Swydd â'r swydd arfaethedig newydd. Y Cyfarwyddwr, Pennaeth y Gwasanaeth neu Arweinydd perthnasol fydd yn cwblhau'r paru a bydd yn cael ei wirio'n annibynnol gan Gyfarwyddwr, Pennaeth Gwasanaeth neu Arweinydd arall. Os oes paru o 70% neu uwch, bydd deilia(i)d y swydd yn cael ei baru â'r swydd newydd. Os oes nifer uwch o ddeiliaid swyddi cyfatebol na sydd ei angen ar gyfer y strwythur newydd, ystyrir diswyddo gwirfoddol. Os bydd nifer uwch o ddeiliaid swyddi ar ôl, bydd cyfweliad / asesiad dewis yn berthnasol, a fyddai'n cynnwys matrics sgorio, gyda'r deilia(i)d swydd sydd â'r sgôr isaf yn cael ei ddewis ar gyfer diswyddiad. Yn y cam hwn, os nad yw cyflogeion yn dymuno cymryd diswyddiad gwirfoddol, bydd Chwaraeon Cymru yn ceisio osgoi hyn drwy ymgymryd ag opsiynau adleoli fel yr amlinellir isod.

Os nad oes unrhyw swyddi gyda chyfatebiaeth o 70% neu uwch, bydd y swydd yn cael ei chlustnodi (diogelu) ar gyfer y cyflogai (cyflogeion) sydd wedi'i ddadleoli sydd o fewn y maes gwaith perthnasol, gyda'r rhai ar y raddfa berthnasol yn cael blaenoriaeth. Er mwyn pennu addasrwydd, bydd proses gyfweld / asesu yn cael ei defnyddio, gyda maen prawf dewis gofynnol yn seiliedig ar y gofynion ar gyfer y swydd a manyleb y person. Bydd y rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf gofynnol, neu sy'n sgorio isaf, yn cael eu dewis ar gyfer diswyddiad. Yn y cam hwn, os nad yw'r rhai sy'n gymwys i gael taliad diswyddo yn dymuno cymryd diswyddiad gwirfoddol, bydd Chwaraeon Cymru yn ceisio osgoi hyn drwy ymgymryd ag opsiynau adleoli fel yr amlinellir isod. Os nad oes ymgeisydd llwyddiannus, bydd y swydd yn cael ei hysbysebu'n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd.

Os caiff cyflogai ei ddadleoli o ganlyniad i’r ffaith nad oes angen ei swydd mwyach yn y strwythur arfaethedig, bydd yn cael ei osod yn y gronfa adleoli. Bydd hefyd yn gallu gwneud cais am unrhyw swyddi gwag eraill addas yn y sefydliad (nad ydynt wedi’u clustnodi). Bydd cyfle i unrhyw gyflogeion sy’n cael eu dadleoli wneud cais am swyddi ar raddfa uwch ac is os nad yw’r swydd wedi’i chlustnodi neu os yw’r swydd wedi’i chlustnodi ond nad oes unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus.

Efallai y bydd opsiynau ar gyfer diswyddo gwirfoddol os derbynnir mynegiant o ddiddordeb. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu fesul achos. Un ystyriaeth allweddol fydd a fydd gwirfoddolwr yn gwarchod swydd cydweithiwr arall sydd mewn perygl os gall wedyn symud i'r swydd sydd bellach yn wag.

38.5. Diswyddo Gwirfoddol

Pan gynigir ymarfer diswyddo, efallai y bydd Chwaraeon Cymru yn cymryd y cam cyntaf o wahodd ceisiadau o bob rhan o'r busnes am ddiswyddiad gwirfoddol am gyfnod cyfyngedig o amser.

Panel o Chwaraeon Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch derbyn cais am ddiswyddo gwirfoddol. Rhaid i gyflogeion fod yn ymwybodol na fydd gwirfoddoli ar gyfer diswyddiad yn arwain o reidrwydd at gymeradwyo'r cais hwnnw. Gall Chwaraeon Cymru ystyried bod sgiliau a galluoedd gwirfoddolwr o'r fath yn rhy dda fel y byddai'n niweidiol i ragolygon Chwaraeon Cymru yn y dyfodol pe na baent ar gael mwyach. Mewn rhai achosion, mae cost diswyddo’n ormodol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'n debygol y bydd y cais yn cael ei wrthod.

Bydd unrhyw dderbyn ar gais am ddiswyddiad gwirfoddol yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig a bydd yr unigolyn yn cael ei wahodd i gyfarfod i drafod y trefniadau ar gyfer terfynu ei gyflogaeth, gan gynnwys unrhyw hawl i dâl diswyddo.

38.6. Adleoli

Er mwyn osgoi diswyddiadau, bydd cyflogeion nad ydynt yn cael eu paru â swydd addas neu sy'n methu â chael swydd addas yn gallu ymuno â'r gronfa adleoli. Bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i gyflogeion am unrhyw gyflogaeth arall er mwyn galluogi cyflogeion i asesu eu haddasrwydd ar gyfer y swydd cyn i'w contract cyflogaeth ddod i ben.

Os gellir dod o hyd i gyflogaeth arall addas, mae gan y cyflogai a Chwaraeon Cymru hawl i awgrymu bod ailgyflogaeth yn digwydd dros gyfnod prawf (er enghraifft, pedair wythnos) a bydd unrhyw gyfnod prawf o'r fath yn cael ei ysgrifennu yn y cynnig. Os bydd Chwaraeon Cymru neu'r cyflogai’n penderfynu nad yw'r cyfnod prawf yn gweithio, bydd gan Chwaraeon Cymru a'r cyflogai hawl i ystyried defnyddio diswyddiad gwirfoddol, oni bai nad yw'r rheswm dan sylw yn gysylltiedig â'r swydd newydd, fel achos o gamymddwyn difrifol. Yn ogystal, bydd gan y cyflogai opsiwn i aros yn y gronfa adleoli am weddill ei gyfnod rhybudd.

Os bydd Chwaraeon Cymru yn cynnig ailgyflogaeth i'r cyflogai mewn swydd sydd ar yr un raddfa a gyda’r un sgiliau, ond bod y cyflogai’n gwrthod y cynnig o gyflogaeth arall addas yn afresymol, ni fydd hawl i daliad diswyddo. Bydd yr un peth yn berthnasol os bydd y cyflogai, ar ôl derbyn y cynnig o rôl arall addas, yn ymddiswyddo wedyn cyn diwedd y cyfnod prawf.

Bydd cyflogeion sy'n feichiog neu sydd wedi dechrau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu riant a rennir yn ystod y 18 mis diwethaf yn cael blaenoriaeth dros gyflogeion eraill wrth chwilio am swyddi gwag addas eraill. 

Os oes mwy nag un ymgeisydd addas ar gyfer swydd wag, bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio proses ddewis debyg i'r un a ddefnyddir mewn proses recriwtio arferol, er mwyn galluogi dewis yr ymgeisydd mwyaf addas yn deg. 

Os caiff y cyflogai ei ailgyflogi gan Chwaraeon Cymru mewn unrhyw gapasiti o fewn 12 mis i adael, ni fydd yr hawl i iawndal yn berthnasol mwyach a bydd gwasanaeth y cyflogai yn cael ei drin fel un parhaus at ddibenion cytundebol. Bydd gofyn i'r cyflogai ad-dalu'r swm iawndal llawn. Os yw'r cyflogai’n cael ei gyflogi gan gorff a restrir yng Ngorchymyn Addasu Llywodraeth Leol ar ôl egwyl o ddim mwy na 4 wythnos, bydd parhad cyflogaeth presennol y cyflogai’n cael ei gydnabod, fodd bynnag bydd rhaid iddo ad-dalu'r swm iawndal yn llawn. 

38.7. Taliadau Diswyddo

Bydd Diswyddo Gwirfoddol yn cael ei weithredu fel a ganlyn ar gyfer cyflogeion sydd â mwy na dwy flynedd o wasanaeth:

  • 3 wythnos o gyflog am bob blwyddyn o wasanaeth, yn seiliedig ar gyflog wythnosol gwirioneddol (efallai y bydd gan gyflogeion dros 55 oed ac yn y CPLlL straen pensiwn fel y manylir isod)
  • Taliad wedi'i gapio ar gyfwerth â 18 mis o gyflog
  • Mae'r taliad yn amodol hefyd ar unrhyw gap a weithredir gan y llywodraeth, e.e. cyflwyno cap talu iawndal o £95,000
  • Bydd rhybudd cytundebol yn berthnasol. Disgwylir i bob cyflogai weithio eu cyfnod rhybudd.
  • Bydd gan bawb sydd dros 55 oed yn y CPLlL fynediad at eu pensiwn heb ei leihau. Bydd taliadau iawndal yn cael eu haddasu i ystyried unrhyw gostau straen pensiwn. Bydd unrhyw iawndal dros ben yn cael ei dalu i'r cyflogai gan Chwaraeon Cymru.
  • Yn unol â rheolau CThEF, bydd y £30k cyntaf o unrhyw daliad iawndal ar derfynu cyflogaeth yn cael ei dalu'n ddi-dreth a heb gynnwys Yswiriant Gwladol (yn amodol ar unrhyw ffactorau cymwys eraill).

Bydd Diswyddo Gorfodol yn cael ei weithredu fel uchod gyda'r addasiadau canlynol i gyfrifiad y taliad iawndal:

  • 2 wythnos o gyflog am bob blwyddyn o wasanaeth
  • Taliad wedi'i gapio ar gyfwerth â 12 mis o gyflog

Ni fydd cyflogeion sydd â llai na 2 flynedd o wasanaeth yn gymwys i gael tâl diswyddo ond byddant yn derbyn rhybudd cytundebol.

38.8. Apeliadau

Bydd gan gyflogeion hawl i apelio yn erbyn eu dewis ar gyfer diswyddiad. Bydd manylion am sut i apelio wedi'u cynnwys yn y llythyr cadarnhau diswyddiad.

38.9. Cefnogaeth

Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod cyfnod o newid yn creu ansicrwydd ac anesmwythyd. Byddwn yn cynnig cymorth a chefnogaeth i gyflogeion a rheolwyr drwy ein darparwr cwnsela.

Bydd y rhai sydd dan rybudd diswyddiad yn cael cynnig cyngor ariannol, cyngor chwilio am swydd a hyfforddiant wedi'i gyllido hyd at £1,000 gan Chwaraeon Cymru. Bydd yr hyfforddiant wedi'i gyllido’n cael ei dalu'n uniongyrchol i ddarparwyr hyfforddiant a gellir ei ddefnyddio i dalu cost unrhyw fath o hyfforddiant sy’n ddefnyddiol i'w ddatblygiad ei hun ym marn y cyflogai.

Hefyd, efallai y bydd cyflogeion yn gallu cael mynediad at gyllid ReAct o hyd at £1500 ar gyfer ailhyfforddi. Bydd manylion cyswllt yn cael eu rhoi i gyflogeion i gysylltu â ReAct i drafod eu cymhwysedd. Byddai hyn yn ychwanegol at y £1000 i’w gyllido gan Chwaraeon Cymru.

Rhoddir amser rhesymol o’r gwaith i alluogi cyflogeion i chwilio am swydd arall, trefnu hyfforddiant, mynychu cyfweliadau a cheisio gwybodaeth am gyflogaeth arall.