- Disgyblu
- Cwynion Cyflogaeth
- Perfformiad a Datblygiad
- Cyfnod Prawf
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Y Cyfryngau
- Chwythu'r Chwiban
- Polisi Gwrth-fwlio, Gwahaniaethu, Aflonyddu ac Erlid
- Cod Ymddygiad
21. Disgyblu
Adolygiad diwethaf: Mai 2025
Adolygiad nesaf: Mai 2028
Mae'r polisi hwn yn nodi gweithdrefn ddisgyblu Chwaraeon Cymru.
Disgwylir i holl gyfloegion Chwaraeon Cymru gynnal safonau ymddygiad uchel drwy gydymffurfio â chod ymddygiad Chwaraeon Cymru, safonau proffesiynol sy'n ymwneud â galwedigaethau penodol a pholisïau a gweithdrefnau eraill Chwaraeon Cymru. Bwriad hyn yw sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn parhau i fod yn amgylchedd gwaith cadarnhaol a diogel i bawb.
Mae'r polisi a'r weithdrefn yn darparu fframwaith ar gyfer ymateb i achosion lle honnir bod ymddygiad unigolyn wedi gostwng islaw'r safon ofynnol. Pwrpas y polisi a'r weithdrefn yw hybu ymddygiad gwell mewn achosion lle canfyddir bod ymddygiad yn anfoddhaol, hyrwyddo perthnasoedd gwaith da, a sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn deg ac yn gyson drwy ddarparu proses dryloyw a syml ar gyfer mynd i'r afael â phryderon sy’n ymwneud ag ymddygiad.
Lle bynnag y bo modd, bydd problemau'n cael eu datrys drwy gyngor ac anogaeth, hyfforddiant neu fwy o gefnogaeth. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall rhai amgylchiadau olygu bod angen cymryd camau ffurfiol.
Gellir cynnal y broses drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae'r polisi a'r weithdrefn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) ar Ddisgyblu a Chwynion.
21.1. Egwyddorion
Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i sut bydd y weithdrefn hon yn gweithio’n ymarferol;
- Bydd pob mater disgyblu yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a datgelir gwybodaeth dim ond i'r cyflogeion hynny sy'n ymwneud â'r achos a'r rhai sydd angen gwybodaeth i ddatrys y mater. Gellir ystyried unrhyw achos o dorri'r cyfrinachedd hwn yn drosedd ddisgyblu ynddo’i hun.
- Cymerir mesurau anffurfiol i ddatrys mân achosion o gamymddwyn lle bo hynny'n briodol cyn symud ymlaen i'r camau ffurfiol.
- Bydd materion disgyblu posibl yn cael eu codi’n brydlon, a delir â nhw'n brydlon hefyd. Ni fydd cyflogeion na rheolwyr yn gohirio’n afresymol unrhyw ran o'r weithdrefn. Os yw'r cyflogai’n methu mynd i wrandawiad disgyblu, neu’n amharod i wneud hynny, gyda rheswm da, caiff ei aildrefnu unwaith. Os na all y cyflogai fynd i’r gwrandawiad a aildrefnwyd, gellir ei gynnal yn ei absenoldeb a gellir gwneud penderfyniad ar y dystiolaeth sydd ar gael. Yn yr achos hwn, cynigir cyfle i'r cyflogai ddarparu datganiad ysgrifenedig i'w ystyried yn ei absenoldeb.
- Bydd gan unrhyw gyflogai a benodir i ddelio â'r achos disgyblu brofiad o reoli pobl, bydd yn ddiduedd a bydd yn derbyn cefnogaeth briodol drwyddi draw gan y tîm Adnoddau Dynol i sicrhau bod y polisi a'r weithdrefn yn cael eu rhoi ar waith yn deg ac yn gyson.
- Bydd y cyflogai’n cael gwybod am natur y gŵyn neu'r cyhuddiad yn ei erbyn a rhoddir cyfle iddo gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad disgyblu cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
- Bydd unrhyw gopïau ysgrifenedig o dystiolaeth a datganiadau tystion perthnasol yn cael eu darparu i gyflogeion cyn gwrandawiad disgyblu.
- Ni chymerir unrhyw gamau disgyblu cyn i ffeithiau'r camymddwyn honedig gael eu sefydlu, yn ôl pwysau tebygolrwydd.
- Fel rheol, ni fydd cyflogeion yn cael eu diswyddo y tro cyntaf iddynt dorri safonau ymddygiad, ac eithrio mewn achos o gamymddwyn difrifol pan all y gosb fod yn ddiswyddo heb rybudd na thâl yn lle rhybudd.
- Bydd gan gyflogai un hawl i apelio yn erbyn unrhyw gamau disgyblu a gymerir yn ei erbyn.
- Yn ystod cyfarfodydd ffurfiol, bydd gan y cyflogai sy'n destun materion disgyblu yr hawl i gael cwmni cydweithiwr neu gynrychiolydd Undeb Llafur cydnabyddedig.
- Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch chi neu'ch cydymaith i ymgysylltu'n ystyrlon â'r broses, bydd y rhain yn cael eu hystyried a'u cefnogi lle bo modd.
- Ni chaiff cyflogeion a/neu unrhyw un sy'n dod gyda'r cyflogai wneud recordiadau electronig o unrhyw gyfarfodydd na gwrandawiadau a gynhelir o dan y weithdrefn hon oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi drwy eithriad gan y rheolwr sy'n arwain y trafodaethau.
Lle bo'n berthnasol, bydd y sefydliad yn hysbysu'r corff proffesiynol cofrestredig priodol ynghylch materion disgyblu perthnasol ac yn cyfeirio materion perthnasol at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn perthynas â gweithgarwch wedi'i reoleiddio.
21.2. Gweithdrefnau
Cam anffurfiol – delio â mân achosion o gamymddwyn
Dylid cymryd camau anffurfiol i fynd i'r afael â’r achos bach cyntaf o gamymddwyn. Gwahoddir y cyflogai i gyfarfod anffurfiol gyda'i reolwr llinell i drafod y pryder. Bydd y rheolwr llinell yn ceisio deall y rheswm dros yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnig cefnogaeth lle bo hynny'n briodol a sicrhau bod y cyflogai’n deall disgwyliadau ymddygiad yn y dyfodol. Gellir cytuno hefyd ar gyfnod o fonitro neu adolygiadau rheolaidd o gynnydd, fel sy'n briodol yn ôl yr amgylchiadau. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ddiymdroi, a gall fod heb rybudd.
Fel rheol, rhoddir gwybod i'r cyflogai y gallai achosion pellach o gamymddwyn arwain at ddefnyddio'r weithdrefn ffurfiol.
Nid yw trafodaethau anffurfiol gyda cyflogeion yn gyfystyr â chamau disgyblu ffurfiol ac felly nid oes gan y cyflogai hawl statudol i gael cwmni cydymaith mewn trafodaethau o'r fath. Fodd bynnag, gall rheolwr llinell y cyflogai ganiatáu i'r cyflogai gael cwmni os bydd yn gofyn am hyn.
Yn dilyn y cyfarfod, dylai'r rheolwr llinell roi nodyn i'r cyflogai yn cadarnhau manylion y drafodaeth. Ni fydd y nodyn yn rhan o gofnod disgyblu ffurfiol y cyflogai, ond gellid ei ddefnyddio mewn achosion o gamymddwyn pellach i benderfynu a oes patrwm o gamymddwyn yn dod i'r amlwg ac wrth feddwl am gamau gweithredu priodol dilynol.
Gweithdrefn ddisgyblu ffurfiol
Fel rheol, defnyddir y weithdrefn hon:
- Os nad yw trafodaethau anffurfiol wedi arwain at y gwelliannau gofynnol mewn ymddygiad; neu,
- Os honnir bod camymddwyn wedi digwydd sy'n gwarantu cychwyn achos ffurfiol neu,
- Os yw’r ymddygiad yn parhau i fod yn annerbyniol o fewn y cyfnod a bennir mewn rhybudd blaenorol; neu,
- Os honnir bod camymddwyn difrifol neu ddybryd wedi digwydd.
Dim ond ar ôl trafodaeth rhwng y rheolwr llinell a’r tîm Adnoddau Dynol y bydd y weithdrefn ddisgyblu ffurfiol yn cael ei chychwyn.
21.3 Disgyblu a Chwyno
Yn ystod achos disgyblu, gall y cyflogai godi cwyn, gan ddefnyddio Polisi Cwynion Chwaraeon Cymru. Os bydd hyn yn digwydd, yn dibynnu ar fanylion y gŵyn, gall fod yn briodol naill ai atal y weithdrefn ddisgyblu am gyfnod byr nes bod modd ystyried y gŵyn neu ddelio â'r ddau fater ar yr un pryd. Gellid ystyried hefyd, lle bo modd, dod â rheolwr arall i mewn i ddelio â'r gŵyn.
Rhaid i'r rheolwr sy'n ymdrin â'r achos gysylltu â'r tîm Adnoddau Dynol i gael cyngor gweithdrefnol cyn bwrw ymlaen ymhellach.
21.4 Cymorth
Mae Chwaraeon Cymru eisiau darparu amgylchedd gwaith sy'n agored ac yn gefnogol i'r rhai sydd am gael cyngor a chymorth. Gall cyflogeion ofyn am gyngor gan eu rheolwr llinell, eu tîm Adnoddau Dynol neu gynrychiolydd Undeb Llafur.
Efallai y bydd partïon sy'n ymwneud â mater disgyblu yn teimlo bod y sefyllfa'n anodd neu’n achosi straen iddynt, ac efallai y byddant am drafod pethau'n gyfrinachol gyda chwnselydd sydd wedi'i hyfforddi'n broffesiynol. Mae cymorth a chwnsela o'r fath ar gael i gyflogeion Chwaraeon Cymru drwy'r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion. Mae hon yn darparu cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim. Gellir cysylltu â’r Rhaglen drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar yr Hafan.
21.5 Atal neu amrywio dyletswyddau
Os yw’r cyflogai’n wynebu camau disgyblu ffurfiol, efallai y bydd y rheolwr llinell yn penderfynu ei bod yn briodol trosglwyddo'r cyflogai i ddyletswyddau eraill/cyfyngedig neu swydd arall, nes bod y weithdrefn wedi'i chwblhau.
Mewn achosion difrifol, lle nad oes dewisiadau eraill addas, gellir atal y cyflogai dros dro tra bod ymchwiliad ac unrhyw weithdrefn ddisgyblu ddilynol yn cael eu cynnal.
Gellir ystyried atal neu amrywio dyletswyddau os yw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- Mewn achosion o gamymddwyn difrifol honedig;
- Pan fydd perthnasoedd wedi chwalu;
- Pan fydd risgiau i eiddo, enw da, neu gyfrifoldebau i bartïon eraill;
- Pan fydd sail resymol dros bryderu y dinistriwyd neu yr amharwyd ar dystiolaeth, neu y dylanwadwyd ar dystion.
Nid yw atal dros dro yn dynodi tybiaeth o euogrwydd ac nid yw'n cael ei ystyried yn gam disgyblu. Tra bydd cyflogai wedi'i wahardd, bydd yn derbyn ei gyflog cytundebol llawn. Bydd atal neu amrywio dyletswyddau fel hyn yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig. Bydd y cyfnod mor fyr â phosibl.
Os caiff cyflogai ei atal o’r gwaith dros dro, ni fydd fel rheol yn cael ymweld â safleoedd Chwaraeon Cymru nac yn cael unrhyw gysylltiad â chleientiaid, cwsmeriaid, cyflenwyr, contractwyr na staff oni bai ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hynny.
Pan fydd cyflogai’n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o fod wedi'i atal o’r gwaith, dylai ei reolwr gynnig cefnogaeth i sicrhau ei fod yn ail-ymuno â’r tîm yn ddidrafferth.
21.6 Y broses llwybr carlam
Gall proses fwy cryno fod yn briodol mewn achosion syml os yw'r dystiolaeth ar gael yn rhwydd, os nad yw’r cyflogai y mae’r broses ddisgyblu'n ymwneud ag ef yn anghytuno â ffeithiau'r achos ac os na allai'r broses arwain at sancsiwn mwy difrifol na rhybudd ysgrifenedig (cyntaf neu derfynol).
Cyn dilyn y broses llwybr carlam, dylai'r rheolwr llinell ymgynghori â’r tîm Adnoddau Dynol.
Os ystyrir bod y broses llwybr carlam yn briodol, bydd y rheolwr llinell yn cyfarfod â'r unigolyn sydd wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi pryder ac yn egluro'r broses. Dim ond gyda chytundeb ysgrifenedig yr unigolyn ar ôl ymgynghori ag ef a gyda'i ddealltwriaeth lawn y dylid defnyddio'r broses llwybr carlam.
Mewn achosion llwybr carlam, yn hytrach nag ymchwiliad llawn, dylid cynnal ymarfer casglu ffeithiau syml sy'n cynnwys camau canlynol y weithdrefn ddisgyblu:
- cyflwyno’r cyhuddiadau i'r cyflogai yn ysgrifenedig, ynghyd â'r dystiolaeth sydd ar gael
- cyfarfod gyda'r rheolwr llinell (a fydd yn ysgwyddo rôl y Swyddog Penderfynu) lle cyflwynir tystiolaeth, a bydd cyfle i’r cyflogai gyflwyno ei achos ynghyd ag unrhyw gamau lliniaru (yn y cyfarfod hwn mae gan y cyflogai yr hawl i gael cwmni cynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr)
- ar ôl gohirio am gyfnod byr i ystyried unrhyw gamau lliniaru a gyflwynir, bydd y rheolwr llinell yn dweud wrth y cyflogai beth yw’r penderfyniad ac yn nodi hyn yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith, gan gynnwys hawl y cyflogai i apelio os rhoddir sancsiwn.
Dylai'r rheolwr llinell ddod â’r broses llwybr carlam i ben os daw'n amlwg ar unrhyw adeg bod cwmpas y camymddwyn yn ehangach ac yn fwy cymhleth nag a feddyliwyd yn wreiddiol neu os yw'r cyflogai am i ymchwiliad llawn gael ei gynnal. Mewn achosion o'r fath, dylai'r rheolwr llinell ofyn i’r tîm Adnoddau Dynol am gyngor ynghylch ystyried penodi Swyddog Ymchwilio annibynnol.
Ni fydd y broses llwybr carlam byth yn cael ei defnyddio ar gyfer achosion o gamymddwyn a allai arwain at ddiswyddo.
21.7 Ymchwilio
Os nad yw'r dystiolaeth ar gael yn rhwydd, os yw’r ffeithiau'n destun dadl neu os gallai'r broses arwain at ddiswyddo, dylid comisiynu ymchwiliad ffurfiol.
Penodir Swyddog Ymchwilio gan y tîm Adnoddau Dynol fel rheol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen penodi Swyddog Ymchwilio sy'n allanol, oherwydd problemau capasiti neu er mwyn sicrhau didueddrwydd, er enghraifft. Bydd y Swyddog Ymchwilio yn derbyn cyngor a chefnogaeth gan y tîm Adnoddau Dynol drwy gydol y broses i sicrhau bod y polisi a'r weithdrefn yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn gyson. Bydd y Swyddog Ymchwilio yn ddiduedd ac ni fydd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r mater disgyblu honedig. Dylai'r cyflogai gael gwybodaeth lawn pan fydd ymchwiliad ffurfiol yn cychwyn i’r hyn y mae wedi’i wneud.
Bydd natur a maint yr ymchwiliad yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater, ond ym mhob achos, caiff ei gynnal heb oedi afresymol. Fel rhan o'r ymchwiliad, bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei baratoi. Bydd yr adroddiad ysgrifenedig hefyd yn dod i gasgliad a oes achos i'w ateb yn seiliedig ar dystiolaeth yr ymchwiliad.
Rôl y Swyddog Ymchwilio yw sefydlu ffeithiau hanfodol y mater a dod i gasgliad ynghylch yr hyn a ddigwyddodd neu na ddigwyddodd, yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mewn rhai achosion, dim ond casglu tystiolaeth ysgrifenedig a ffisegol fydd hyn yn ei olygu. Fodd bynnag, gall hyn hefyd olygu cael datganiadau gan dystion perthnasol, a all olygu cyfarfod, neu’r tyst yn syml iawn yn rhoi datganiad neu ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau gan y Swyddog Ymchwilio. Dylid rhannu nodiadau cyfweliad gyda'r tyst a dylid ei wahodd i gadarnhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o'r drafodaeth.
Disgwylir i unigolion a nodwyd fel tystion gydymffurfio â chais y Swyddog Ymchwilio i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am y mater sy'n destun ymchwiliad. Os oes gan yr unigolyn unrhyw bryderon ynglŷn â bod yn dyst, dylai eu trafod gyda'r Swyddog Ymchwilio neu aelod o'r tîm Adnoddau Dynol fel y gellir mynd i'r afael â'r pryderon a'u lliniaru lle bo modd.
Efallai y bydd angen i'r cyflogai y mae’r broses yn ymwneud ag ef fynd i gyfweliad ymchwiliol. Os cynhelir cyfweliad fel hwn, rhoddir gwybod yn ysgrifenedig am natur yr ymchwiliad a gall ddod â chydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gydag ef. Rhoddir digon o rybudd am y cyfarfod i'r cyflogai fel bod ganddo amser i baratoi. Efallai y bydd angen i’r tîm Adnoddau Dynol fynd i'r cyfarfod i gynghori ar bolisi a gweithdrefn. Cymerir nodiadau yn ystod y cyfarfod i gofnodi prif bwyntiau'r drafodaeth. Bydd y rhain ar gael i'r cyflogai ar ôl y cyfweliad.
Os bydd ymholiadau, ar unrhyw gam o'r ymchwiliad, yn dangos y gallai camymddygiad honedig y cyflogai fod yn drosedd, rhaid i'r Swyddog Ymchwilio hysbysu’r tîm Adnoddau Dynol ar unwaith.
Os daw adroddiad yr ymchwiliad i'r casgliad nad oes achos i'w ateb, bydd y cyflogai’n cael gwybod. Bydd unrhyw dystion hefyd yn cael gwybod bod y mater wedi'i gwblhau. Dyna fydd diwedd y mater. Bydd y cyflogai dan sylw yn cael cefnogaeth briodol gan ei reolwr llinell i sicrhau ei fod yn dod allan o’r broses ffurfiol yn ddidrafferth.
21.8 Trefniadau Gwrandawiadau Disgyblu
Os yw'r ymchwiliad yn argymell bod achos i'w ateb, bydd y tîm Adnoddau Dynol yn penodi Swyddog Disgyblu. Ei rôl fydd cadeirio a phenderfynu ar ganlyniad y gwrandawiad disgyblu. Ni ddylai'r unigolyn hwn fod wedi cael unrhyw gysylltiad blaenorol â'r achos, a lle bo'n bosibl, dylai fod yn uwch na'r cyflogai sydd wedi’i gyhuddo o gamymddwyn. Bydd y Swyddog Disgyblu yn derbyn cyngor a chefnogaeth gan y tîm Adnoddau Dynol i sicrhau bod y polisi a'r weithdrefn yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn gyson.
Bydd y cyflogai’n cael gwahoddiad ysgrifenedig i’r gwrandawiad ac yn cael hysbysiad ysgrifenedig o bum diwrnod gwaith o'r trefniadau ar gyfer y gwrandawiad. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys:
- yr honiad(au), gan nodi'r ffeithiau ategol ac amgáu copïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddefnyddir er mwyn paratoi’r adroddiad, gan gynnwys datganiadau’r tystion; canlyniadau posibl y gwrandawiad hyd at y canlyniad mwyaf difrifol posibl;
- dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad;
- nodyn atgoffa am yr hawl i gael cwmni;
- nodyn atgoffa am y weithdrefn i'w dilyn;
- hysbysiad o unrhyw dystion i'w galw.
Mae'n ofynnol i'r cyflogai gadarnhau ei bresenoldeb yn y cyfarfod i'r Swyddog Disgyblu, gan ddarparu manylion unrhyw dystion y mae am eu galw a datganiadau ysgrifenedig y mae am eu cyflwyno, a hysbysu a fydd rhywun yn dod gydag ef i’r cyfarfod – ac os felly, pwy – o leiaf ddau ddiwrnod cyn y gwrandawiad.
Gall y cyflogai ofyn am ohirio gwrandawiad am hyd at bum diwrnod gwaith os nad yw ef neu'r unigolyn a ddewisodd yn gwmni ar gael ar adeg y gwrandawiad hwnnw, ar yr amod bod y dyddiad/amser arall a awgrymir yn rhesymol ac o fewn pum diwrnod gwaith i'r gwrandawiad gwreiddiol.
Os yw cyflogai’n amharod i ddod i wrandawiad, neu'n methu gwneud hynny, bydd angen i'r Swyddog Disgyblu a’r tîm Adnoddau Dynol ystyried yr holl ffeithiau a dod i benderfyniad rhesymol ar sut i fwrw ymlaen. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen ymgynghori â’r tîm Iechyd Galwedigaethol. Os yw’r cyflogai ar absenoldeb salwch, dylid gofyn am gyngor gan y tîm Iechyd Galwedigaethol ynghylch a yw'r cyflogai’n ddigon iach i gymryd rhan yn y cyfarfod, cyn anfon y llythyr. Bydd y cyflogai’n cael gwybod bod hyn wedi'i gyfeirio at y tîm Iechyd Galwedigaethol a'r rheswm dros hynny.
Os yw’r cyflogai’n iach ond yn amharod i fynychu'r gwrandawiad arfaethedig neu os nad yw’n mynd i’r cyfarfod cyntaf a drefnwyd, cynigir un cyfle arall iddo. Bydd y cyflogai’n cael gwybod am y gwrandawiad sydd wedi'i aildrefnu, ac os nad yw’n gallu bod yn bresennol, dylai gyflwyno unrhyw dystiolaeth y mae’n dymuno iddi gael ei hystyried yn ei absenoldeb, gan y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Bydd y cyflogai’n cael gwybod am y penderfyniad a chanlyniad y gwrandawiad disgyblu yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith i'r gwrandawiad.
21.9 Y Gwrandawiad Disgyblu
Pwrpas y gwrandawiad disgyblu yw:
- datrys unrhyw gwestiynau neu anghydfodau sydd heb eu datrys ynghylch ffeithiau'r achos, drwy drafod y dystiolaeth a'r wybodaeth ategol a rhoi cyfle i'r cyflogai wneud sylwadau;
- rhoi cyfle i'r cyflogai ymateb i'r honiadau yn ei erbyn;
- rhoi cyfle i'r cyflogai esbonio unrhyw ffactorau lliniarol neu amgylchiadau arbennig y dylid eu hystyried; a
- darparu digon o wybodaeth a thystiolaeth i'r Swyddog Disgyblu i seilio penderfyniad arnynt.
Ni wneir unrhyw benderfyniad ynghylch canlyniad y gwrandawiad nes bydd yr holl sylwadau wedi cael eu clywed a'u hystyried. Cynhelir y gwrandawiad gan y Swyddog Disgyblu, gydag aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn bresennol i gynghori ar faterion gweithdrefnol.
Gall y cyflogai ddod â chydymaith gydag ef a all annerch y gwrandawiad, gofyn cwestiynau i dystion ac ymgynghori â'r cyflogai yn ystod y gwrandawiad. Gall y person hwn hefyd ofyn am ohirio'r achos ar ôl cychwyn i ganiatáu amser i ymgynghori. Fodd bynnag, nid oes ganddo’r hawl i ateb cwestiynau ar ran y cyflogai nac i annerch y gwrandawiad os nad yw'r cyflogai’n dymuno hynny, nac i atal y rheolwyr rhag egluro eu safbwynt hwythau. Os bydd cydymaith y cyflogai’n mynd y tu hwnt i derfynau ei rôl, gan achosi aflonyddwch afresymol i'r gwrandawiad, gellir gofyn iddo adael.
Yn y gwrandawiad, bydd yr achos yn cael ei amlinellu, a gellir galw tystion neu gyflwyno tystiolaeth arall a all gynnwys datganiadau ysgrifenedig i gefnogi'r honiadau. Disgwylir i'r cyflogai ateb cwestiynau i egluro'r materion a gall gwestiynu neu wneud sylwadau ar y wybodaeth a gyflwynir.
Bydd y cyflogai’n cael gwahoddiad i gyflwyno ei achos a rhoi sylw i’r honiadau a wnaed. Gall y cyflogai hefyd ofyn cwestiynau neu wneud sylwadau ar unrhyw wybodaeth, gan gynnwys yr hyn a roddir gan dystion. Os yw'r cyflogai’n dymuno cyflwyno tystiolaeth, galw tystion perthnasol neu gyflwyno datganiadau tyst ysgrifenedig, dylid darparu hyn i'r Swyddog Disgyblu o leiaf 2 ddiwrnod cyn y cyfarfod.
Os bydd ffeithiau newydd yn dod i'r amlwg, efallai y bydd angen i'r Swyddog Disgyblu ohirio'r cyfarfod ar ôl cychwyn i ymchwilio ymhellach ac, yn dibynnu ar faint yr ymchwiliad ychwanegol sydd ei angen, ailymgynnull yn ddiweddarach.
Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y Swyddog Disgyblu yn crynhoi prif bwyntiau'r drafodaeth. Rhoddir cyfle hefyd i'r cyflogai neu'r cydymaith grynhoi.
Dylai'r Swyddog Disgyblu ohirio'r gwrandawiad ar ôl cychwyn i ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiad cyn cyflwyno ei benderfyniad. Gellir rhoi'r penderfyniad yn bersonol ar y diwrnod ar ôl gohiriad byr, neu yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Y naill ffordd neu’r llall, bydd y cyflogai’n cael cadarnhad ysgrifenedig o'r penderfyniad a'r rhesymeg.
21.10 Gwneud Penderfyniadau
Bydd y Swyddog Disgyblu yn penderfynu a yw sancsiwn disgyblu, neu unrhyw gamau eraill, yn gyfiawn ai peidio.
Os daw'r Swyddog Disgyblu i'r casgliad nad yw'r honiad wedi cael ei gadarnhau, bydd y cyflogai’n cael gwybod yn ysgrifenedig na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd a bod y mater wedi'i gwblhau. Bydd unrhyw dystion hefyd yn cael gwybod bod y mater wedi'i gwblhau.
Os bydd angen cymryd camau ffurfiol, wrth ddod i benderfyniad, mae'n bwysig bod difrifoldeb y gosb neu'r camau gweithredu eraill yn gymesur â graddfa'r camymddwyn, gan gofio'r angen i weithredu'n rhesymol ym mhob un o’r amgylchiadau. Bydd pa gamau gweithredu sy'n rhesymol neu'n gyfiawn yn dibynnu ar holl amgylchiadau'r achos sydd dan sylw. Bydd y Swyddog Disgyblu yn cymryd cyngor gan y tîm Adnoddau Dynol yn ôl yr angen wrth benderfynu ar y camau gweithredu priodol. Ystyrir:
- a yw rheolau'r sefydliad yn nodi beth fydd y gosb debygol o ganlyniad i'r camymddwyn penodol (gweler yr enghreifftiau yn 19.3)
- cosbau a roddwyd mewn achosion tebyg, er y bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a bydd unrhyw amgylchiadau perthnasol yn cael eu hystyried
- a yw safonau tebyg cyflogeion eraill yn dderbyniol, ac nad yw'r cyflogai’n cael ei drin mewn ffordd wahanol yn annheg
- cofnod gwaith a disgyblu presennol y cyflogai, gan gynnwys a yw’n destun unrhyw rybuddion cyfredol; ei lefel cyfrifoldeb a hyd ei wasanaeth; a allai fod angen unrhyw hyfforddiant, cefnogaeth neu addasiadau i'r gwaith yn ogystal â chosb, neu yn lle cosb; unrhyw amgylchiadau arbennig a allai ei gwneud hi'n briodol addasu difrifoldeb y gosb.
Cadarnheir y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith i'r gwrandawiad. Bydd yr hysbysiad ysgrifenedig yn nodi:
- agweddau'r honiadau sydd wedi'u cadarnhau;
- pa sancsiwn disgyblu, os o gwbl, sy'n cael ei osod;
- canlyniadau tebygol unrhyw gamymddwyn pellach neu amserlen ar gyfer gwella perfformiad; ac
- yr amserlen a'r broses ar gyfer cyflwyno apêl.
Mewn achosion o ddiswyddo, os yw'r diswyddo’n deillio o fethu gwella ymddygiad i'r lefel ofynnol o fewn y cyfnod penodedig neu gynnydd mewn cosbau, gellir rhoi rhybudd neu dâl yn lle rhybudd. Mewn achos o gamymddwyn difrifol, ni roddir rhybudd ac ni roddir tâl yn lle rhybudd. Bydd y diswyddo’n weithredol ar y diwrnod y rhoddir y gosb os caiff ei chyflwyno'n bersonol, neu 3 diwrnod o'r dyddiad yr anfonir llythyr y gosb, ac mae'n rhaid cael cofnod o'i anfon (recorded delivery).
21.11. Sancsiynau Disgyblu
Os oes honiadau o gamymddwyn yn cael eu cadarnhau, mae'n arferol rhoi rhybudd ysgrifenedig i'r cyflogai. Byddai gweithred bellach o gamymddwyn neu beidio â gwella ymddygiad o fewn cyfnod penodol fel rheol yn arwain at rybudd ysgrifenedig terfynol.
Os yw gweithred gyntaf cyflogai o gamymddwyn yn ddigon difrifol, gall fod yn briodol mynd yn syth at rybudd ysgrifenedig terfynol. Gallai hyn ddigwydd os yw’r hyn y mae’r cyflogai wedi’i wneud wedi cael effaith ddifrifol neu niweidiol ar y sefydliad mewn rhyw ffordd, neu y gallent gael effaith o’r fath.
Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae enghreifftiau o ymddygiad a allai arwain at rybudd ysgrifenedig cyntaf yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Un absenoldeb heb ei awdurdodi a heb achos da;
- Mân droseddau’n ymwneud â chadw amser e.e. cyrraedd ar ôl amser cychwyn dro ar ôl tro neu adael yn gynnar dro ar ôl tro heb reswm da;
- Galwadau ffôn personol neu ddefnydd personol o'r rhyngrwyd yn effeithio ar y gallu i gyflawni dyletswyddau;
- Mân achosion o dorri gofynion sy'n ymwneud â lles ac iechyd a diogelwch;
- Mân achosion o dorri polisïau a gweithdrefnau; a
- Mân achosion o dorri gofynion diogelwch gwybodaeth;
Rhoddir rhybudd ysgrifenedig yn nodi natur y camymddwyn, y newid mewn ymddygiad sydd ei angen (o fewn yr amserlen), unrhyw gamau y cytunwyd arnynt gan y rheolwr llinell i gynorthwyo i wneud gwelliannau, a'r hawl i apelio.
Dywedir wrth y cyflogai am ba hyd y bydd y rhybudd yn parhau i fod yn gyfredol, a bydd yn cael gwybod am ganlyniadau camymddwyn pellach o fewn y cyfnod penodedig yn dilyn rhybudd.
Cedwir copi o'r rhybudd ar gofnod Adnoddau Dynol y cyflogai, ond caiff ei anwybyddu at ddibenion disgyblu ar ôl y cyfnod penodedig, sef blwyddyn fel rheol, os cyflawnir a chynhelir ymddygiad boddhaol.
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol
Os yw'r drosedd yn ddigon difrifol, neu os bydd camymddwyn pellach yn ystod cyfnod cyfredol rhybudd blaenorol, gellir rhoi rhybudd ysgrifenedig terfynol i'r cyflogai.
Mae enghreifftiau o ymddygiad a allai arwain at rybudd ysgrifenedig terfynol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Absenoldeb heb ei awdurdodi dro ar ôl tro neu ragor o absenoldeb o'r gwaith heb achos da;
- Prydlondeb gwael neu’n hwyr o hyd;
- Torri gofynion sy'n ymwneud â lles ac iechyd a diogelwch;
- Torri gofynion diogelwch gwybodaeth a/neu ddiogelu data;
- Meddiant heb awdurdod o sylweddau a allai fod yn beryglus neu'n niweidiol yn y gwaith;
- Achosion difrifol o dorri ymddiriedaeth a hyder;
- Torri trefniadau amser gweithio hyblyg yn barhaus
- Gorddefnyddio ffonau, y rhyngrwyd ac offer swyddfa arall fel peiriannau argraffu at ddefnydd personol;
- Torri polisi diogelwch TGCh;
- Torri gweithdrefnau caffael ac ariannol; a
- Thorri polisïau a gweithdrefnau staff.
Bydd rhybudd terfynol ysgrifenedig yn cael ei roi yn nodi natur y camymddwyn, y newid mewn ymddygiad sydd ei angen (o fewn yr amserlen), unrhyw gamau y cytunwyd arnynt gan y rheolwr llinell i gynorthwyo gwelliannau, a'r hawl i apelio. Dywedir wrth y cyflogai am ba hyd y bydd y rhybudd yn parhau i fod yn gyfredol a bydd yn cael gwybod y gallai methu â gwneud gwelliannau arwain at ddiswyddo. Bydd hefyd yn cael manylion am yr hawl i apelio.
Cedwir copi o'r rhybudd ar gofnod Adnoddau Dynol y cyflogai, ond caiff ei anwybyddu at ddibenion disgyblu ar ôl y cyfnod penodedig, sef blwyddyn fel rheol, yn amodol ar gyflawni ymddygiad boddhaol a bod yr ymddygiad hwnnw'n parhau.
Diswyddo
Os bydd camymddwyn pellach yn ystod cyfnod cyfredol rhybudd neu achos cyntaf o gamymddwyn difrifol, gall diswyddo fod yn briodol.
Dim ond Pennaeth Adran all wneud penderfyniadau diswyddo, a bydd y cyflogai’n cael y penderfyniad yn ysgrifenedig, ynghyd â rhesymau dros y diswyddo, y dyddiad y bydd ei gyflogaeth yn dod i ben, y cyfnod rhybudd perthnasol, os yw'n berthnasol, a'i hawl i apelio.
Fel rheol, bydd y cyflogai’n cael ei ddiswyddo o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Os ystyrir bod y camymddwyn yn gamymddwyn difrifol (camymddwyn sy'n ddigon difrifol i ddinistrio'r ymddiriedaeth a'r hyder hanfodol rhwng y cyflogai a Chwaraeon Cymru); neu,
- Os nad oes gwelliannau boddhaol o fewn cyfnod rhybudd ysgrifenedig terfynol; neu,
- Os bydd camymddwyn pellach yn digwydd yn ystod cyfnod cyfredol rhybudd ysgrifenedig terfynol; neu
- Os bu mwy nag un drosedd ar un adeg sydd gyda'i gilydd yn gyfystyr â throsedd fwy difrifol.
Gellir ystyried bod honiadau sylweddol o gamymddwyn difrifol mor ddifrifol, neu fod â chanlyniadau mor ddifrifol, y gellir cyfiawnhau diswyddo heb rybudd am drosedd gyntaf. Fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad llawn a thrylwyr bob amser mewn achosion o gamymddwyn difrifol honedig a bydd gan y cyflogai y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad cyn ystyried diswyddo.
Dyma rai enghreifftiau o droseddau difrifol sy'n debygol o gael eu hystyried yn gamymddwyn difrifol, a gallent arwain at ddiswyddo, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- Lladrad, twyll, ffugio cofnodion yn fwriadol (gan gynnwys taflenni amser, cofnodion amser hyblyg, a hawliadau teithio a chynhaliaeth);
- Rhoi gwybodaeth ffug mewn unrhyw gais am swydd;
- Trais corfforol neu ymddygiad bygythiol;
- Absenoldeb parhaus heb awdurdod o'r gwaith lle mae cyswllt wedi methu ac ymdrechion i ailsefydlu cyswllt wedi dod i ben heb lwyddiant;
- Ymddygiad bwriadol neu ddi-hid sy'n achosi difrod difrifol i eiddo;
- Aflonyddu neu fwlio difrifol, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol;
- Esgeulustod difrifol a allai achosi colled, difrod neu anaf annerbyniol;
- Anufudd-dod difrifol neu barhaus;
- Torri gofynion lles, iechyd a diogelwch yn ddifrifol;
- Torri gofynion diogelwch gwybodaeth a diogelu data yn ddifrifol;
- Dwyn anfri ar y sefydliad. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys bod yn feirniadol o'r sefydliad yn gyhoeddus a/neu ryddhau gwybodaeth mewn ffordd sy'n niweidio delwedd ac enw da'r sefydliad, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol;
- Camymddwyn bwriadol, twyll neu ffugio dogfennau;
- Derbyn unrhyw lwgrwobr, cymhelliant neu wobr er budd personol neu er budd trydydd parti yn gyfnewid am weithred neu drafodiad heb awdurdod;
- Gweithredoedd o ysgogi neu weithredoedd gwirioneddol o wahaniaethu ar sail rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, anabledd, oedran, crefydd neu gred; a
- Gall enghreifftiau difrifol o'r mathau o gamymddwyn a restrir yn yr adran flaenorol, 'Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol', hefyd fod yn sail dros ddiswyddo.
21.12. Apelio
Mae gan gyflogai un hawl i apelio yn erbyn unrhyw gamau disgyblu a gymerir yn ei erbyn.
Rhaid apelio’n ysgrifenedig i'r Swyddog Apêl o fewn pum diwrnod gwaith i'r hysbysiad o ganlyniad y gwrandawiad disgyblu, gan nodi'n glir y sail dros apelio e.e. tystiolaeth newydd, peidio â dilyn y weithdrefn, difrifoldeb gormodol neu anghysondeb yn y sancsiwn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr apêl ar ffurf adolygiad o'r penderfyniad gwreiddiol lle bydd y Swyddog Apêl yn archwilio'r broses gwneud penderfyniadau wreiddiol a'r gosb a roddwyd ac yn penderfynu, yng ngoleuni unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynwyd, a oedd y rhain yn rhesymol. Weithiau, gall ail wrandawiad llawn o'r achos, lle ystyrir y materion o'r newydd, fod yn briodol, er enghraifft, os bu methiant llwyr i ddilyn y weithdrefn yn ystod y broses wreiddiol neu os oes tystiolaeth newydd sylweddol wedi dod i law. Dylai'r Swyddog Apêl ofyn am gyngor gan y tîm Adnoddau Dynol ar ôl derbyn yr apêl i benderfynu pa un sy'n briodol. Dylid hysbysu'r Apelydd o ba lwybr a gymerir yn ei wahoddiad i Wrandawiad Apêl.
Bydd yr apêl yn cael ei thrin yn ddiduedd, a rheolwr nad yw wedi bod yn ymwneud â'r broses ddisgyblu wreiddiol o'r blaen fydd yn ei gwrando, gan weithredu fel y Swyddog Apêl. Bydd ei fanylion cyswllt wedi'u cynnwys yn y llythyr sy'n rhoi'r canlyniad ynglŷn â disgyblu. Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn sicrhau bod yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â phenderfyniadau a gweithdrefnau disgyblu blaenorol ar gael i'r Swyddog Apêl.
Bydd y cyflogai’n cael ei hysbysu’n ysgrifenedig ac yn cael manylion am wrandawiad apêl a gynhelir heb oedi afresymol. Bydd yr hysbysiad yn rhoi pum diwrnod gwaith o rybudd o'r gwrandawiad ac yn cynnwys:
- Dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad
- Nodyn atgoffa am yr hawl i gael cwmni
- Nodyn atgoffa am y weithdrefn a fydd yn cael ei dilyn, gan gynnwys a fydd yr apêl yn adolygiad o'r penderfyniad gwreiddiol ynteu'n ail-wrandawiad cyflawn
- Pa gamau y gall y Swyddog Apêl eu cymryd
Mae gan y cyflogai yr hawl i gael cwmni yn yr apêl, a bydd yr un egwyddorion ag a nodir yn 2.6 a 2.7 yn berthnasol mewn perthynas â chymdeithion a dderbynnir, rôl y cydymaith a chadarnhau presenoldeb yn y Gwrandawiad/aildrefnu’r Gwrandawiad.
Os yw cyflogai’n amharod i ddod i’r cyfarfod apêl, neu'n methu bod yn bresennol, gellir dod i'r casgliad y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Bydd y cyflogai’n cael gwybod am hyn.
Cynhelir y cyfarfod apêl gan y Swyddog Apêl, a fydd fel rheol yr un radd â'r Swyddog Disgyblu, neu'n uwch. Mewn rhai achosion, lle bo hynny'n briodol, gall hwn fod yn Aelod o'r Bwrdd. Bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn dod i’r cyfarfod i roi cyngor ar faterion gweithdrefnol.
Bydd y cyflogai’n egluro'r sail dros apelio a bydd cyfle i wneud sylwadau ar unrhyw dystiolaeth newydd. Bydd y Swyddog Apêl yn gofyn cwestiynau i gael dealltwriaeth fwy cyflawn o'r apêl.
Os bydd y cyflogai’n codi unrhyw faterion newydd yn ei apêl, efallai y bydd angen gohirio a chynnal ymchwiliad pellach. Ar ddiwedd y cyfarfod, bydd y Swyddog Apêl yn crynhoi prif bwyntiau'r drafodaeth. Rhoddir cyfle hefyd i'r cyflogai neu'r cydymaith roi crynodeb.
Dylai'r Swyddog Apêl ohirio'r gwrandawiad ar ôl cychwyn i ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiad cyn cyflwyno ei benderfyniad. Gellir rhoi'r penderfyniad yn bersonol ar y diwrnod ar ôl gohiriad byr, neu yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith.
Naill ffordd, ar ôl y cyfarfod, bydd y Swyddog Apêl yn cadarnhau canlyniad yr apêl a'r rheswm dros y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith i'r cyfarfod. Ni fydd hawl bellach i apelio.
21.13. Gwersi a Ddysgwyd
Pan fydd y broses ddisgyblu wedi dod i ben, dylai'r Swyddog Disgyblu rannu'r gwersi a ddysgwyd o'r broses a'r canlyniad gyda'r partïon perthnasol.
Mae'n debygol y bydd "partïon perthnasol" yn cynnwys Rheolwr Llinell yr unigolyn y mae’r broses ddisgyblu wedi bod yn ymwneud ag ef, ac unrhyw reolwr arall a allai fod yn gyfrifol am fwrw ymlaen ag argymhellion neu fonitro gwelliannau.
Gall gwersi a ddysgwyd olygu newidiadau a argymhellir i brosesau adrannol neu ofynion cymorth i gyflogeion, yn ogystal ag unrhyw argymhellion sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ymddygiad yr unigolyn.
Dylai rheolwyr cyfrifol adolygu a bwrw ymlaen ag unrhyw argymhellion yn ddi-oed.