Main Content CTA Title

Arweinydd Gwasanaethau Rhaglen Safon Byd (WCP)

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Swyddi Gwag Diweddaraf - Chwaraeon Cymru
  4. Arweinydd Gwasanaethau Rhaglen Safon Byd (WCP)

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran - Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru 

Cyflog – Gradd 9: £49,734.98 - £53,277.34

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Math o gontract – Tymor penodol o 2 flynedd

Lleoliad - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd

Pwy ydym ni

Diben tîm Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon yw ‘Creu’r system chwaraeon fwyaf gwybodus o ran gwyddorau yn y byd, gan alluogi pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud ‘ennill yn dda’ yn fwy tebygol.’

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.  Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma. 

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Sut byddwch chi'n cyfrannu

Ydych chi'n teimlo’n angerddol am lunio sut mae athletwyr elitaidd yn cael eu cefnogi ar eu taith i lwyfan y byd?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a mireinio sut mae Chwaraeon Cymru yn cynllunio, yn cydlynu ac yn darparu gwasanaethau gwyddor chwaraeon a meddygaeth chwaraeon (SSSM) i athletwyr sy'n dilyn y Rhaglen Safon Byd (WCP) ac yn byw a hyfforddi yng Nghymru.

Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod pob athletwr cymwys yn cael cefnogaeth amserol, deg, ac o'r radd flaenaf, sy'n cyd-fynd â'u taith perfformiad. Gan weithio mewn partneriaeth â UK Sport, UK Sports Institute (UKSI), Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC), ac ymarferwyr ledled Cymru, byddwch yn helpu i lunio system sy'n canolbwyntio go iawn ar yr athletwr—un sy'n rhagweithiol, yn dryloyw, ac yn seiliedig ar ddata.

Byddwch yn arwain y gwaith ar gynllunio strategol, dyrannu gwasanaethau, a mewnwelediadau i berfformiadau wrth sicrhau darpariaeth amlddisgyblaethol gyson, o ansawdd uchel, sy'n blaenoriaethu perfformiad a lles.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle prin i greu effaith barhaol ar sut mae system Cymru yn cefnogi athletwyr ar y lefel uchaf.

Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio

Byddwch yn cydweithio'n agos â’r canlynol:

Cyfarwyddwyr Perfformiad CRhC Cymru a Phrydain, Penaethiaid Cymorth Perfformiad (HoPS), a hyfforddwyr.

Cydweithwyr o UK Sport, UK Sports Institute (UKSI), a’r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS).

Staff cyflenwi, clinigol ac ymchwil Athrofa Chwaraeon Cymru.

Ymarferwyr a phartneriaid ar draws Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS).

Byddwch yn meithrin perthnasoedd cryf a thryloyw i gysoni’r gwaith o gynllunio cymorth, gwella profiadau athletwyr, a gwella effeithiolrwydd cyffredinol rhwydwaith y Rhaglen Safon Byd yng Nghymru.

Beth fydd ei angen arnoch

Profiad amlwg o arwain neu gydlynu darpariaeth gwyddor chwaraeon a meddygaeth chwaraeon o fewn amgylchedd chwaraeon perfformiad uchel neu elitaidd.

Dealltwriaeth gref o anghenion athletwyr a hyfforddwyr o fewn rhaglenni perfformiad Olympaidd, Paralympaidd, neu raglenni perfformiad cyfatebol.

Profiad o gynllunio strategol a gweithredol, dyrannu gwasanaethau, a rheoli data perfformiad.

Sgiliau arweinyddiaeth, cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol—gallu cydweithio ar draws nifer o sefydliadau a disgyblaethau.

Gallu clir i arwain timau amlddisgyblaethol a dylanwadu ar atebion perfformiad ar draws y system.

Meddylfryd strategol a gallu cydbwyso prosesau cynllunio rhagweithiol a gofal clinigol ymatebol.

Ymrwymiad i ddatblygu systemau teg, sy'n canolbwyntio ar athletwyr ac sy'n hyrwyddo lles a pherfformiad cynaliadwy.

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]

Dyddiad cau

14/11/2025 9am

Dyddiad dros dro y cyfweliad

25/11/2025

 

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Arweinydd Tim Cyflawni a Chlinigol yr Athrofa


Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon

Nod Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon yw llunio system chwaraeon sy'n seiliedig ar wyddorau er mwyn helpu pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud 'ennill yn dda' yn fwy tebygol. Tîm o ymarferwyr gwyddor chwaraeon a meddygaeth ydym ni, gyda chefnogaeth cynorthwywyr ymchwil o Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS). Mae ein gwaith gorau yn digwydd pan fyddwn yn cydweithio ar heriau perfformiad a nodwyd gan bartneriaid chwaraeon. Drwy fynd i'r afael â heriau ar draws y system, rydym yn gwella amgylcheddau hyfforddi ledled Cymru, gan greu effaith barhaol ar fwy o athletwyr a chwaraeon. Rydym yn pontio'r bwlch rhwng arfer gorau a'i gymhwyso yn y byd go iawn, gan roi'r wybodaeth, yr adnoddau a'r gefnogaeth i athletwyr, hyfforddwyr a rhieni/gofalwyr i berfformio ar eu gorau. Rydym yn dysgu, yn cyflawni, ac yn dathlu gyda'n gilydd—oherwydd ein bod yn gryfach pan fyddwn yn gweithio gyda chwaraeon fel un tîm. 

Pwrpas y swydd

Bydd yr Arweinydd Gwasanaethau WCP yn gyfrifol am waith cynllunio strategol, cydlynu a darparu gwasanaethau gwyddor chwaraeon a meddygaeth chwaraeon (SSSM) i athletwyr ar y Rhaglen Safon Byd (WCP), sy'n derbyn gwobr Perfformiad Athletwr (APA) ac sy'n byw ac yn hyfforddi yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn bodoli i sicrhau bod pob athletwr cymwys yn cael cefnogaeth amserol, deg, ac o'r radd flaenaf, sy'n cyd-fynd â'u taith perfformiad.

Gan weithio mewn partneriaeth agos ag UK Sport, UK Sports Institute (UKSI), Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS), Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC), a chydweithwyr Athrofa Chwaraeon Cymru, bydd y rôl yn ymgorffori dull cyson a thryloyw o ddyrannu gwasanaethau - un sy'n cydbwyso cynllunio perfformiad rhagweithiol â gofal clinigol ymatebol. Bydd gan yr Arweinydd Gwasanaethau WCP oruchwyliaeth strategol dros ffrwd gymorth yr ‘athletwr unigol’, gan helpu i lunio a gweithredu systemau a phrosesau sy’n sail i fodel cyflawni perfformiad uchel sy’n canolbwyntio ar yr athletwr.

Mae hon yn rôl allweddol a fydd yn sefydlu'r safonau uchaf posibl o ran dulliau gweithio amlddisgyblaethol, yn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau'r Athrofa, ac yn cyfrannu at uchelgais Chwaraeon Cymru o gael y system chwaraeon fwyaf gwybodus o ran gwyddorau yn y byd.

Prif ddyletswyddau

Arwain y Gwaith Cynllunio Strategol i sicrhau Cymorth i Athletwyr Unigol
Datblygu a goruchwylio'r fframwaith strategol ar gyfer cyflwyno SSSM i athletwyr WCP sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar yr athletwr, yn deg, ac wedi'u cynllunio i gefnogi perfformiad uchel mewn ffordd sy'n blaenoriaethu lles, datblygiad hirdymor, a llwyddiant cynaliadwy.

Arweinyddiaeth ym maes Dyrannu Gwasanaethau
Gweithredu a rheoli proses gadarn a thryloyw ar gyfer dyrannu gwasanaethau i athletwyr WCP, gan ddiffinio rolau a chyfrifoldebau ar draws rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys athletwyr, hyfforddwyr, Cyrff Rheoli Cenedlaethol, UKSI, ac ymarferwyr Chwaraeon Cymru.

Cydweithio â Phartneriaethau Perfformiad
Meithrin perthnasoedd gwaith cryf ac effeithiol gyda Chyfarwyddwyr Perfformiad CRhC Cymru a Phrydain, Penaethiaid Cymorth Perfformiad (HoPS), rhwydwaith TASS, a hyfforddwyr, i sicrhau dulliau cynllunio cydlynol, darpariaeth ddi-dor, a pherchnogaeth a rennir dros gymorth i athletwyr.

Mewnwelediad i Berfformiadau a Rheoli Data
Arwain y gwaith o ddefnyddio AMS Teamworks i olrhain oriau cyflawni, math o gefnogaeth, a metrigau effaith ar gyfer athletwyr WCP—gan alluogi prosesau rhagweld strategol, adrodd i UK Sport, ac effeithlonrwydd gweithredol..

Cydlynu Tîm Amlddisgyblaethol
Sicrhau darpariaeth gwasanaeth gwyddor chwaraeon a meddygaeth chwaraeon (SSSM) gydlynol i athletwyr cymwys, gan arwain ymyriadau rheoli achosion rhagweithiol ac ymatebol

Cynllunio Cyflenwi y tu allan i Gaerdydd
Datblygu atebion arloesol i gefnogi athletwyr sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd, gan sicrhau nad yw lleoliad yn ffactor sy'n cyfyngu ar ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Bod yn gyswllt rhwng UK Sport a'r Gwledydd Cartref
Gweithredu fel cyswllt allweddol, ochr yn ochr â'r arweinydd cyflawni a chlinigol o fewn Chwaraeon Cymru gyda materion sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau WCP, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â fframweithiau UK Sport a rhannu mewnwelediad ar draws Sefydliadau'r Gwledydd Cartref.

Datblygu System Adborth a Dysgu
Sefydlu dulliau ar gyfer adolygu, dysgu a gwella gwasanaethau cymorth WCP, gan ymgorffori adborth athletwyr a rhanddeiliaid i esblygu'r dull dros amser.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Darparu diweddariadau ac adroddiadau rheolaidd i arweinydd tîm cyflawni a chlinigol y sefydliad a phartneriaid allanol, gan sicrhau tryloywder, atebolrwydd a pherchnogaeth gydweithredol o lwyddiant cyflawni.

Cyfrannu at Strategaeth Fyd-eang y Sefydliad
Gweithio gyda thîm arweinyddiaeth ehangach y Sefydliad i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau WCP yn integreiddio â ffrydiau gwaith ar lefel chwaraeon a system heb beryglu cydbwysedd adnoddau na blaenoriaethau strategol.

Ein gwerthoedd

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol

Drwy wneud y canlynol:

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd.  Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y person

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol 

Addysg 

 

Wedi cael addysg at lefel gradd; neu  

 

Gallu dangos profiad a gwybodaeth gyfwerth

Gradd mewn gwyddor chwaraeon neu bwnc meddygaeth

 

Aelodaeth o gofrestr broffesiynol / corff rheoli perthnasol 

 

Cymwysterau Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Hyfforddi

 

Profiad 

Profiad o Gynllunio Strategol a Gweithredol: Hanes amlwg o ddatblygu atebion a strategaethau arloesol mewn amgylchedd perfformiad uchel.


Arbenigedd mewn Cyflawni Perfformiad Uchel: Llwyddiant clir wrth gyflawni perfformiad uchel drwy osod amcanion mae modd eu mesur a rheoli timau amlddisgyblaethol.


Deall Anghenion Athletwyr a Hyfforddwyr: Profiad helaeth o nodi a mynd i'r afael ag anghenion athletwyr a hyfforddwyr elitaidd mewn amgylchedd perfformiad uchel.

Arwain Tîm Amlddisgyblaethol: Gallu amlwg yn cydlynu a rheoli timau amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o randdeiliaid, gan sicrhau cefnogaeth effeithiol i athletwyr sy'n cystadlu ar lwyfan y byd (Gemau Olympaidd, Paralympaidd, neu gyfwerth).
 

Datblygu Rhaglen Gwyddor Chwaraeon: Profiad o ddylunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gwyddor chwaraeon i wella perfformiad mewn chwaraeon perfformiad uchel.
 

Integreiddio Perfformiad Ar draws Chwaraeon: Profiad o integreiddio a dylanwadu ar raglenni perfformiad ar draws nifer o chwaraeon i fanteisio i’r eithaf ar gapasiti timau amlddisgyblaethol.
 

 

Profiad o systemau ac amgylcheddau chwaraeon perfformiad uchel yng Nghymru ac ar draws y DU.

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

Gallu trosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol a chyflwyno hyn yn glir i staff, partneriaid ac uwch arweinwyr

 

Deall elfennau hanfodol timau perfformiad uchel a gallu eu ffurfio gan ddefnyddio sgiliau arweinyddiaeth effeithiol

 

Arwain, ysbrydoli a meithrin parch ymysg cydweithwyr a phartneriaid, drwy sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau cryf o fewn tîm cymorth amlddisgyblaethol

 

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol a gallu gweithio'n effeithiol gydag ystod amrywiol o bartneriaid gan lunio perthnasoedd cryf a chadarnhaol â'r grwpiau hyn

 

Neilltuo amser i eraill, gwrando a hyrwyddo prosesau rhannu gwybodaeth er mwyn llywio gwaith cyflawni a datblygu strategaethau yn well.

 

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

 

Gallu gweithredu syniadau arloesol a dylanwadu ar raglenni cymorth athletwyr a hyfforddwyr

 

Dal ei hun ac eraill yn gyfrifol am safonau perfformiad er mwyn delio'n llwyddiannus ag amrywiaeth o sefyllfaoedd cymhleth yn aml; ceisio cefnogaeth ac arweiniad gan eraill yn y sefydliad pan fo angen

 

Ystyried y ffordd orau o ddefnyddio cyllidebau a phobl yn erbyn blaenoriaethau strategol cystadleuol

 

Ymdopi'n effeithiol â chyflymder, rhwystrau a newidiadau i flaenoriaethau; addasu i sefyllfaoedd dan bwysau mawr a gweithredu rheolaeth dda 

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

 

Gallu cychwyn prosiectau, yn seiliedig ar drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol, gosod nodau, diffinio rolau ac olrhain cynnydd, adolygu, gwerthuso a rhoi gwersi ar waith i sicrhau’r effaith orau bosibl

 

Arddull berswadiol a dylanwadol i sicrhau cydweithrediad, cysoni blaenoriaethau cystadleuol a dylanwadu ar benderfynwyr allweddol yng Nghymru a thu hwnt

 

Amgylchiadau Arbennig 

Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol

 

Gallu teithio yn ôl yr angen

 

Arddull egnïol, llawn cymhelliant a phersonol, gyda'r hygrededd a'r proffil i sicrhau hyder a pharch partneriaid o fewn amgylchedd chwaraeon perfformiad