Am y swydd wag hon
Adran a chyflog
Adran – Cyfathrebu a Digidol
Cyflog – Graddfa 6: £35,623.27 – £38,530.13
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
Lleoliad – Caerdydd, Hybrid
Math o gontract – Swydd mamolaeth am 12 mis
Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.
Sut byddwch chi'n cyfrannu
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y tîm Cyfathrebu a Digidol prysur yn Chwaraeon Cymru. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o reoli brand Chwaraeon Cymru. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad clir a chyson ynghylch y defnydd o'r brand. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun ymgysylltu i gefnogi staff i ddatblygu adnoddau a defnyddio'r brand yn eu meysydd gwaith eu hunain.
Gyda chyfoeth o brofiad o ddarparu cymorth cyfathrebu i weithrediadau busnes ehangach, byddwch yn cynghori ar draws amrywiol swyddogaethau'r busnes, gan ddatblygu a chyflwyno cynlluniau marchnata a chyfathrebu sy'n ychwanegu gwerth at brosiectau sefydliadol allweddol.
Gyda llygad creadigol a'r gallu i reoli cyflenwyr, byddwch yn gweithio ar y cyd â'r tîm cyfathrebu ehangach, gan reoli asiantaethau creadigol amrywiol i ddarparu cynnwys ac asedau cyfathrebu o ansawdd uchel sy'n procio'r meddwl. Byddwch yn gweithio ar draws yr ystod lawn o sianeli cyfathrebu sydd gan Chwaraeon Cymru, gan ymgysylltu â'r gwahanol grwpiau rhanddeiliaid i gefnogi amcanion amrywiol ar draws y sefydliad.
Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio
Byddwch yn aelod pwysig a dylanwadol o’r tîm Cyfathrebu a Digidol a byddwch yn gweithio ar draws holl adrannau Chwaraeon Cymru yn ogystal â chefnogi gwaith ein partneriaid ni.
Byddwch yn gyfrifol am reoli contractau gydag asiantaethau a chyflenwyr allanol, gan sicrhau eu bod yn darparu allbwn o ansawdd uchel yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch angerdd i gefnogi a chynghori cydweithwyr wrth ddefnyddio gweithgareddau cyfathrebu i gyflawni amcanion sefydliadol. Lle bo hynny'n briodol, byddwch hefyd yn rhannu eich gwybodaeth â phartneriaid i gefnogi eu dull o gyfathrebu.
Beth fydd arnoch ei angen
Gyda phrofiad sylweddol o weithio yn y diwydiannau cyfathrebu neu farchnata, byddwch eisiau defnyddio eich sgiliau a rhannu eich gwybodaeth, gan fod yn angerddol am y gwerth y gall gweithgarwch cyfathrebu ei gyfrannu at sefydliad. Rydym yn chwilio am rywun a all gymhwyso syniadau creadigol i ddiwallu anghenion sefydliadol yn y ffordd orau, gan ddarparu canlyniadau rhagorol ar draws y busnes.
Bydd angen i chi fod yn barod ar gyfer yr her a ddaw yn sgil bod yn rhan o dîm mewnol bach ond prysur. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio ar draws sawl platfform, gyda rhanddeiliaid niferus, gan ddefnyddio eich creadigrwydd a’ch sgiliau i wneud byd o wahaniaeth i bobl yng Nghymru.
Beth sy'n digwydd nesaf
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
Os oes arnoch chi angen unrhyw gefnogaeth i wneud cais am y swydd yma, e-bostiwch [javascript protected email address]
Dyddiad cau
29/08/2025 12pm
Dyddiad dros dro y cyfweliad
Yr wythnos sy’n dechrau ar 15fed Medi 2025.
Disgrifiad swydd llawn
Yn atebol i:
Rheolwr Cyfathrebu
Pwrpas y swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y tîm Cyfathrebu a Digidol. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o reoli brand Chwaraeon Cymru. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad clir a chyson ynghylch y defnydd o'r brand, gan gefnogi staff i ddatblygu adnoddau a defnyddio'r brand yn eu meysydd gwaith eu hunain.
Gan gynghori ar draws y sefydliad, byddwch yn datblygu ac yn cyflawni yn erbyn cynlluniau marchnata a chyfathrebu sy'n ychwanegu gwerth at brosiectau allweddol y sefydliad. Byddwch yn rheoli asiantaethau creadigol amrywiol i ddarparu cynnwys ac asedau cyfathrebu o ansawdd uchel sy'n procio’r meddwl, i gefnogi amcanion amrywiol ar draws y sefydliad.
Gan weithio mewn cydweithrediad, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn tîm cyfathrebu ehangach sy'n gyfrifol am gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel sy'n cefnogi negeseuon sefydliadol ar draws ystod o blatfformau. Byddwch yn datblygu ac yn creu cysylltiadau newydd yn fewnol ac yn allanol i gefnogi cynhyrchu'r cynnwys hwn.
Byddwch yn chwarae rôl gydlynu ar gyfer digwyddiadau corfforaethol y sefydliad ac yn rhoi cyngor i gydweithwyr ar ddigwyddiadau llai.
Byddwch yn aelod pwysig o adran gyfathrebu a digidol brysur a bydd disgwyl i chi gyfrannu at ystod eang o brosiectau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amrywiol, gan gefnogi cydweithwyr lle bo angen.
Prif ddyletswyddau
Chwarae rhan arweiniol wrth lywodraethu brand Chwaraeon Cymru a datblygu asedau i gefnogi ei ddefnydd drwy holl waith Chwaraeon Cymru.
Addysgu a chefnogi staff ar draws y sefydliad i ddefnyddio brand Chwaraeon Cymru yn eu meysydd gwaith eu hunain, gan gynnwys rheoli adnoddau a phlatfformau i gynorthwyo gyda hyn.
Gweithio ar draws y sefydliad i ddatblygu a rheoli cynlluniau cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i gefnogi blaenoriaethau busnes.
Rheoli asiantaethau creadigol ar brosiectau allweddol Chwaraeon Cymru a sicrhau eu bod yn darparu cynnwys ac asedau cyfathrebu manwl gywir sy'n procio’r meddwl.
Gweithio ar draws y sefydliad yn chwilio'n rhagweithiol am syniadau newydd i gynhyrchu cynnwys o safon, fel rhan o gynllun cynnwys ehangach, gan sicrhau y gellir ei ddefnyddio ar draws amrywiaeth o blatfformau, a'i fod yn cefnogi negeseuon allweddol y sefydliad.
Gweithio gydag aelodau eraill o'r tîm i sicrhau bod cynnwys yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno ar draws holl sianeli cyfathrebu Chwaraeon Cymru.
Gweithio gyda'r tîm dirnadaeth i becynnu negeseuon allweddol, gwybodaeth a data yn gynnwys difyr a fydd yn annog pobl i feddwl yn wahanol am chwaraeon a Chwaraeon Cymru.
Cydlynu cyflwyno Rhaglen Dysgu a Dirnadaeth Cyfathrebu (CLIP) Chwaraeon Cymru.
Mabwysiadu rôl gydlynu ar gyfer digwyddiadau corfforaethol Chwaraeon Cymru a rhoi cyngor ar draws y sefydliad ar gyfer digwyddiadau llai a digwyddiadau lefel prosiect.
Cefnogi cysylltu â'r cyfryngau, delio ag ymholiadau sy'n dod i mewn, paratoi ymatebion, briffio llefarwyr, a chyhoeddi datganiadau.
Gweithio gydag asiantaethau cyfryngau i reoli’r gwaith o gyflawni cynlluniau marchnata a fydd yn cefnogi ymgyrchoedd Chwaraeon Cymru.
Cefnogi rheolaeth ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle bo angen.
Gweithio ar draws y sector gan gynnig cefnogaeth a chyngor i weithwyr cyfathrebu proffesiynol a helpu eraill i ddeall y rôl bwysig y gall cyfathrebu ei chwarae wrth gefnogi chwaraeon yng Nghymru.
Rheoli, gyda chefnogaeth gan y tîm cyfathrebu, adnodd rheoli asedau digidol gan sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'i ddefnydd yn glir ynghylch ei swyddogaeth a'r prosesau cysylltiedig.
Cymryd rhan mewn rota ar alwad sy'n cynnig cefnogaeth cyfathrebu y tu allan i oriau gwaith. Bydd hyn yn cynnwys delio ag ymholiadau perthnasol gan y cyfryngau yn ogystal â monitro a nodi materion sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i enw da.
Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu patrwm o wasanaeth i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.
Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.
Ein gwerthoedd
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
Manyleb y person
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg
| Gradd mewn cyfathrebu, marchnata neu bwnc cysylltiedig.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (cymhwyster pellach yn cael ei ffafrio). | |
Profiad
| Profiad sylweddol fel aelod o dîm Cyfathrebu neu Farchnata.
Profiad o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu aml-sianel cymhleth.
Profiad o ddefnyddio data a gwybodaeth gymhleth i gynhyrchu deunydd difyr i ddylanwadu ar randdeiliaid.
Profiad o ysgrifennu cynnwys ar gyfer sianeli lluosog a chynulleidfaoedd penodol.
Profiad o friffio a rheoli nifer o asiantaethau creadigol i gyflwyno cynnwys o ansawdd uchel, yn unol â’r fanyleb ac ar amser.
Dealltwriaeth o reoli brand a phrofiad o gefnogi eraill i ymgysylltu â chanllawiau brand a'u defnyddio.
Profiad o ddatblygu asedau brand corfforaethol gan weithio gydag asiantaethau a gwahanol blatfformau i gynhyrchu'r rhain.
Profiad o ddefnyddio systemau Rheoli Asedau Digidol.
Profiad o werthuso gweithgareddau a phrosiectau cyfathrebu.
Profiad o ddefnyddio ystod eang o blatfformau digidol mewn swyddogaeth broffesiynol gan gynnwys platfformau CMS, X, Instagram, facebook a LinkedIn.
Profiad o ddatblygu ystod o ddeunydd cyfathrebu corfforaethol a ddefnyddir ar amrywiaeth o sianeli.
Dealltwriaeth o gyfryngau print, darlledu, lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a masnach y DU a phrofiad o weithio gyda newyddiadurwyr.
Gwybodaeth am systemau CRM a phrofiad ohonynt.
| Profiad o weithio gyda neu yn y sector chwaraeon.
Cyflwyno ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu integredig sy'n llwyddo i annog newid ymddygiad mewn cyd-destun iechyd, chwaraeon neu weithgarwch corfforol.
Profiad o weithio gyda chyrff y sector cyhoeddus ar brosiectau cyfathrebu.
Profiad o gefnogi a rheoli digwyddiadau corfforaethol. |
Sgiliau, Doniau a Galluoedd
| Sgiliau cyfathrebu rhagorol - yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Y gallu i drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol.
Y gallu i ysgrifennu copi ysgrifenedig cryno, cadarn ar-lein ac all-lein ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid.
Y gallu i drin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif.
Y gallu i drefnu eich gwaith eich hun a chynllunio, amserlennu a blaenoriaethu tasgau yn effeithiol.
Y gallu i drefnu a chydlynu nifer o gyflenwyr i gyflawni allbwn fel rhan o gynllun ehangach.
Sgiliau rheoli a chyflwyno prosiectau.
Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys gwybodaeth weithredol dda am systemau CMS a CRM.
Sgiliau dylanwadu / trafod.
Y gallu i weithio dan bwysau ac i gwrdd â therfynau amser.
| Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg - yn ysgrifenedig ac ar lafar. |
Amgylchiadau Arbennig | Gallu gweithio'n hyblyg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Gallu teithio yn ôl yr angen.
|