Main Content CTA Title

Cydlynydd Prosiectau

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran – Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon 

Cyflog – £37,129.00 - £39,975.01 (Graddfa 6) 

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â'n polisi gweithio hyblyg) 

Math o Gontract – Tymor Penodol 12 mis 

Lleoliad – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd 

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i gynnwys symud mewn bywyd bob dydd ac i wella iechyd, lles a chanlyniadau addysgol. 

Mae Actif Dyddiol yn ymrwymiad allweddol fel rhan o strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach. Mae'n ddull ysgol gyfan o weithredu gyda gweithgarwch corfforol, wedi'i gynllunio i greu amgylcheddau dysgu actif sy'n ategu’r Cwricwlwm i Gymru. O ddechrau 2026 ymlaen, bydd cyfnod profi a dysgu yn dechrau, gan weithio gydag ysgolion i ymgorffori'r dull hwn. 

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.   

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.   

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.   

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.   

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio yn y tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni. 

Sut byddwch chi'n cyfrannu

Ydych chi'n angerddol am helpu timau i weithio'n ddoethach, yn fwy cydweithredol, a gyda mwy o effaith ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru? 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i siapio sut mae Athrofa Chwaraeon Cymru yn cynllunio, yn trefnu ac yn cyflwyno ei system a'i phrosiectau chwaraeon, y gwaith sy'n mynd i'r afael â heriau sy’n codi dro ar ôl tro a chreu effaith perfformiad hirdymor ledled Cymru. 

Fel Cydlynydd Prosiect, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein prosiectau ni wedi'u strwythuro'n dda, wedi'u cofnodi’n glir, ac yn symud yn effeithlon drwy Gylch Bywyd Prosiect Athrofa Chwaraeon Cymru. Chi fydd y pwynt canolog sy'n cadw pawb yn cydweithredu (Arweinwyr Thema, ymarferyddion, partneriaid Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, a'r sefydliad ehangach) gan sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn fanwl gywir, y cyfathrebu'n llyfn, a bod y cynnydd yn weladwy. 

Byddwch yn cefnogi cydlynu ein cyfarfodydd camau gwerthuso, yn cynnal ein Porthol Prosiect Perfformiad, yn cynhyrchu diweddariadau cynnydd clir a hygyrch, ac yn helpu i ymgorffori arfer rheoli prosiectau cyson ar draws yr Athrofa. Byddwch hefyd yn cefnogi integreiddio dull rheoli prosiectau ehangach Chwaraeon Cymru, gan gyfrannu at ffordd fwy cydlynol ac unedig o weithio ar draws y sefydliad. 

Mae'r rôl hon yn berffaith i rywun sy'n mwynhau rhoi strwythur i gymhlethdod, sy'n ffynnu ar gydweithredu, ac sy'n gyffrous am yr her o helpu i greu system chwaraeon fwy cysylltiedig, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, i Gymru. 

Bydd eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod pob prosiect, mawr neu fach, yn darparu gwerth gwirioneddol i'r athletwyr, y chwaraeon a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. 

Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio

Byddwch yn gweithio wrth galon Athrofa Chwaraeon Cymru, gan gydweithredu'n ddyddiol â’r canlynol: 

Arweinwyr Thema ar draws y maes Iechyd a Lles, Datblygiad Athletig, ac Amgylcheddau Athletwyr i gydlynu a threfnu gweithgarwch prosiect. 

Ymarferyddion ac arweinwyr prosiect o bob rhan o'n disgyblaethau gwyddor chwaraeon a meddygaeth chwaraeon, gan gefnogi cynllunio, cofnodi ac adolygu cyson. 

Yr Arweinydd Clinigol a Chyflenwi (eich rheolwr llinell) a’r Arweinydd Pobl a Gwasanaethau, gan sicrhau cydlynu rhwng cyflawni prosiectau, capasiti a blaenoriaethau sefydliadol. 

Y timau Cynllunio Busnes, Dylunio Gwasanaethau a Chyfathrebu, gan helpu i gydlynu gwybodaeth am brosiectau a sicrhau ei bod yn hygyrch ac yn cael ei chyfathrebu'n glir. 

Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) a phartneriaid sy'n ymwneud â phrosiectau cydweithredol, gan gefnogi cydlynu llyfn a dealltwriaeth a rennir. 

Yr UK Sports Institute (UKSI) a Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (WIPS) ar brosiectau sy'n cysylltu dirnadaeth system, ymchwil ac ymarfer cymhwysol. 

Tîm Cyflawni Rheoli Prosiectau Chwaraeon Cymru, gan gyfrannu at ddull cyson o weithredu ledled y sefydliad wrth gyflawni prosiectau. 

Byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarn ac adeiladol ar draws y grwpiau hyn i sicrhau bod prosiectau'n symud yn llyfn drwy Gylch Bywyd y Prosiect, bod gwybodaeth yn llifo'n effeithiol, a bod y timau'n cyd-fynd â nodau a rennir. 

Beth fydd angen arnoch

Profiad o gydlynu neu gefnogi nifer o brosiectau mewn amgylchedd deinamig, amlddisgyblaethol - rhywun sy'n cyfrannu eglurder, strwythur a momentwm at waith cymhleth. 

Sgiliau trefnu a gweinyddu cadarn, gyda sylw i fanylder a'r gallu i gadw gwybodaeth am brosiectau'n fanwl gywir, yn hygyrch ac yn gyfredol. 

Sgiliau cyfathrebu a hwyluso rhagorol, yn gallu dod â phobl at ei gilydd, cefnogi trafodaethau cynhyrchiol, a helpu timau i wneud penderfyniadau clir a gwybodus. 

Hyder wrth ddefnyddio adnoddau digidol cydweithredol fel SharePoint, Excel, neu systemau rheoli prosiectau i gefnogi cynllunio, adrodd a gwelededd. 

Meddylfryd rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar atebion, gyda'r hyder i dynnu sylw at risgiau, awgrymu gwelliannau, a helpu i gadw gwaith yn symud pan fydd heriau'n codi. 

Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu ac addasu, gan gydbwyso nifer o amserlenni a gofynion wrth gynnal dull digynnwrf ac adeiladol o weithio. 

Ffordd chwilfrydig o weithio, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gyda diddordeb mewn dysgu sut mae dirnadaeth, data ac adlewyrchu’n creu prosiectau gwell ar draws y system chwaraeon. 

Dull cydweithredol o weithio sy'n canolbwyntio ar bobl, gan feithrin perthnasoedd parchus â chydweithwyr, partneriaid ac ymarferyddion, a byw gwerthoedd Chwaraeon Cymru o ddysgu gyda'n gilydd, cyflawni gyda'n gilydd, a dathlu gyda'n gilydd. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr (cofiwch nad ydym yn derbyn CVs).

Os oes arnoch chi angen unrhyw gefnogaeth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]  

Dyddiad cau

08/12/2025 9am 

Dyddiad dros dro y cyfweliad

17/12/2025  

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Arweinydd Cyflawni a Chlinigol yr Athrofa

Yn gyfrifol am

Cydlynu a gweinyddu prosiectau blaenoriaeth yr Athrofa yn unol â Chylch Bywyd Prosiectau Athrofa Chwaraeon Cymru, gan gefnogi Arweinwyr Thema ac arweinwyr prosiectau i gynllunio, monitro ac adrodd yn effeithiol ar draws y portffolio prosiectau.

Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru

Mae Athrofa Chwaraeon Cymru (AChC) yn bodoli i greu'r system chwaraeon fwyaf gwybodus yn wyddonol yn y byd, gan alluogi pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud "ennill yn dda" yn fwy tebygol.

Gan weithio mewn cydweithrediad â chwaraeon, mae'r Athrofa yn helpu i ddatrys problemau sy’n codi dro ar ôl tro a datgelu cyfleoedd heb eu defnyddio sy'n galluogi pob athletwr yng Nghymru i gyrraedd ei botensial llawn.

Drwy berthnasoedd cadarn, arbenigedd amlddisgyblaethol, a Chylch Bywyd Prosiect pendant, mae'r Athrofa yn sicrhau bod pob prosiect yn cael ei reoli'n effeithlon, ei fod yn cyd-fynd ag amcanion, ac yn darparu gwerth mesuradwy i chwaraeon yng Nghymru.

Pwrpas y swydd

Mae'r Cydlynydd Prosiectau’n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod prosiectau Athrofa Chwaraeon Cymru yn cael eu cyflawni gydag eglurder, cysondeb a phwrpas.

Gan weithio gyda'r Arweinydd Clinigol a Chyflawni, yr Arweinydd Pobl a Gwasanaethau ac Arweinwyr Thema, mae deiliad y swydd yn cydlynu gweithgarwch ar draws Cylch Bywyd Prosiect (CBP) - o gyflwyno i adolygu - gan sicrhau bod prosiectau'n parhau i gyd-fynd ag amcanion ac yn cyflawni gwerth mesuradwy.

Drwy gynnal gwybodaeth fanwl gywir, hwyluso cydweithredu ac ymgorffori defnydd cyson o adnoddau’r Athrofa fel y Porthol Prosiectau Perfformiad a'r Fframwaith Blaenoriaethu, mae'r rôl yn helpu i droi tystiolaeth yn weithredu ac yn cefnogi system chwaraeon fwy cysylltiedig, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth.

Prif ddyletswyddau

Cydlynu Prosiectau

Cefnogi cyflawni prosiectau’n strwythuredig a chysondeb.

Cefnogi Arweinwyr Thema ac arweinwyr prosiectau i gymhwyso Cylch Bywyd Prosiect yn gyson ar draws prosiectau.

Cydlynu a chofnodi cyfarfodydd Camau Gwerthuso 1 a 2, gan sicrhau bod penderfyniadau a chamau gweithredu’n cael eu cofnodi.

Tracio amserlenni, cerrig milltir ac elfennau i’w cyflawni, gan uwchgyfeirio risgiau neu oedi yn briodol.

Cadw gwybodaeth fanwl gywir a chyfredol o fewn y Porthol Prosiectau Perfformiad.

Cofnodi a chasglu dysgu yn y camau Adolygu a Dysgu fel sail i gynllunio yn y dyfodol.

Cydlynu a chefnogi’r gweithredu ar waith tîm Prosiect Cyflawni Rheoli Prosiectau traws-sefydliadol Chwaraeon Cymru o fewn y Athrofa, gan sicrhau cyd-fynd â’r Cylch Bywyd Prosiect presennol a chyfrannu at ddatblygu dull cyson o reoli prosiectau ar draws y sefydliad cyfan.

Portffolio ac Adrodd  

Cynnal amlygrwydd ac atebolrwydd ar draws portffolio’r prosiect.

Darparu pwynt cydlynu canolog ar draws holl brosiectau'r Athrofa, gan gynnal trosolwg clir o gynnydd, capasiti a chyd-fynd.

Cynhyrchu diweddariadau a dangosfyrddau cryno ar gyfer trafodaethau arweinyddiaeth.

Cyfrannu at adolygiadau portffolio rheolaidd sy'n sail i benderfyniadau cynllunio a chapasiti gwasanaeth.

Gweinyddu a Chyfathrebu 

Cydlynu cyfarfodydd prosiect, gweithdai a dogfennaeth ar draws timau a phartneriaid.

Hwyluso cyfathrebu clir rhwng ymarferyddion, Arweinwyr Thema ac arweinyddiaeth, gan hyrwyddo cysondeb wrth adrodd ar brosiectau.

Sicrhau dogfennaeth fanwl gywir a storio gwybodaeth allweddol am brosiectau, cymeradwyaethau ac allbynnau.

Proses a Gwelliant Parhaus

Hyrwyddo defnydd cyson o adnoddau prosiect, templedi a phrosesau llywodraethu'r Athrofa.

Cyfrannu adborth ar gyfleoedd i wella systemau fel y Porthol Prosiectau Perfformiad neu dempledi prosiect.

Cefnogi ymgorffori diwylliant prosiect cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar draws tîm yr Athrofa.

Ffyrdd o weithio

Mae'r rôl yn adlewyrchu ffordd gydweithredol Athrofa Chwaraeon Cymru o weithio - agored, chwilfrydig, ac wedi'i sbarduno gan bwrpas. Bydd y Cydlynydd Prosiectau’n gweithio'n hyblyg ar draws timau, gan gefnogi cydbwysedd rhwng disgyblaeth cyflawni a datrys problemau creadigol sy'n helpu prosiectau i addasu, dysgu ac ychwanegu gwerth mesuradwy at y byd chwaraeon yng Nghymru.

Perthnasoedd allweddol

Arweinydd Clinigol a Chyflawni (rheolwr llinell) ac Arweinydd Pobl a Gwasanaethau

Arweinwyr Thema (Iechyd a Lles, Datblygiad Athletig, Amgylcheddau Athletwyr)

Ymarferyddion ac Arweinwyr Prosiect ar draws disgyblaethau Gwyddor Chwaraeon a Meddygaeth Chwaraeon

Grŵp Cynllunio Busnes, tîm Dylunio Gwasanaethau a Chyfathrebu.

Partneriaid allanol, gan gynnwys Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC), cydweithwyr yn UK Sport Institute (UKSI), a chydweithwyr academaidd gan gynnwys Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (WIPS)

Gwerthoedd ac ymddygiad

Yn Athrofa Chwaraeon Cymru, mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd 

Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Mae’r Cydlynydd Prosiectau’n cefnogi hyn drwy hyrwyddo dysgu cyson ar draws prosiectau - gan gasglu gwybodaeth, rhannu canlyniadau, a helpu timau i adolygu beth sy'n gweithio a beth sydd ddim.

Mae’n helpu i ymgorffori adlewyrchu a gwerthuso yn y Cylch Bywyd Prosiect, gan sicrhau bod dysgu’n sbarduno gwelliant a gwerth i'r system chwaraeon.

Cyflawni Gyda’n Gilydd

Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn a gwella perfformiad yn gyson.       

Mae’r Cydlynydd Prosiectau’n ymgorffori'r gwerth hwn drwy gydweithredu, cydlynu prosiectau fel bod Arweinwyr Thema, ymarferyddion a phartneriaid yn parhau mewn cysylltiad ac yn cyd-fynd.

Mae’n creu eglurder a strwythur sy'n caniatáu i eraill gyflawni'n hyderus, ac mae’n gwerthfawrogi cyfathrebu agored ac adborth adeiladol fel rhan o ddiwylliant prosiect iach.

Dathlu Gyda’n Gilydd

Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaethau effeithiol. 

Mae’r Cydlynydd Prosiectau’n chwarae rhan allweddol wrth gofnodi a chyfathrebu cynnydd a chyflawniadau ar draws portffolio'r prosiect.

Mae’n helpu i sicrhau bod dysgu a llwyddiant yn weladwy, yn cael eu rhannu, ac yn cael eu dathlu - gan gryfhau ymdeimlad o gyflawniad a balchder ar y cyd o fewn yr Athrofa a gyda phartneriaid.

 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll

Deall a pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Mae’r Cydlynydd Prosiectau’n gweithio gyda gonestrwydd, parch a thegwch ar draws pob prosiect a pherthynas, gan gydnabod y safbwyntiau a'r arbenigedd amrywiol o fewn tîm yr Athrofa a chwaraeon partner. 

Ychwanegu Gwerth

Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Drwy gydlynu strwythuredig, adrodd dibynadwy a chyfathrebu rhagweithiol, mae'r Cydlynydd Prosiectau’n ychwanegu gwerth drwy helpu eraill i osod ffocws eu harbenigedd lle mae bwysicaf.

Annog Arloesi

Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd, cefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd, a pheidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Mae’r Cydlynydd Prosiectau’n cyfrannu at welliant parhaus - gan helpu i fireinio prosesau prosiect, treialu dulliau newydd o weithredu, ac ymgorffori dysgu o brofiad yn y ffordd y mae'r Athrofa yn gweithio. 

Gyda'i gilydd, mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y Cydlynydd Prosiectau’n cefnogi diwylliant lle mae tystiolaeth, cydweithredu a chwilfrydedd yn sbarduno effaith barhaol ar berfformiad.

Manyleb y person

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol            

Addysg 

 

Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol (e.e. chwaraeon, iechyd ac argyfyngau, milwrol, gweinyddu busnes, neu reoli prosiectau).

Hyfforddiant neu gymhwyster rheoli prosiectau ffurfiol (e.e. PRINCE2, Agile, APM, neu gyfatebol).

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn cydlynu prosiectau, cynllunio, neu reoli data.

Profiad

 

Profiad o gydlynu neu weinyddu nifer o brosiectau neu raglenni ar yr un pryd.

Gallu clir i weithio ar y cyd ar draws timau neu adrannau, gan gynnal trefn a dilyn drwodd mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym.

Profiad o baratoi a chadw cofnodion, adroddiadau a dogfennau prosiect manwl gywir.

Profiad mewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar chwaraeon, iechyd neu berfformiad.

Profiad o gefnogi neu gyfrannu at brosiectau sy'n seiliedig ar dystiolaeth neu brosesau gwybodaeth perfformiad.

Profiad o gefnogi prosesau llywodraethu neu gylch bywyd prosiectau (e.e. gwerthuso, cynllunio, monitro, adolygu).

Profiad o gyfrannu at fentrau gwella systemau neu brosesau.

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

Sgiliau trefnu rhagorol a sylw i fanylder.

Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cadarn, gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ar draws ystod eang o randdeiliaid.

Y gallu i hwyluso trafodaethau strwythuredig, gweithdai a chyfarfodydd prosiect sy'n cefnogi eglurder, cydweithredu a gwneud penderfyniadau.

Cymhwysedd wrth ddefnyddio adnoddau cydweithredol fel SharePoint, Excel a systemau rheoli neu adrodd prosiectau ar-lein.

Meddylfryd dadansoddol a datrys problemau - yn gallu dehongli gwybodaeth a thynnu sylw at faterion allweddol yn glir.

Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu'n effeithiol, gan reoli gofynion cystadleuol i gwrdd â therfynau amser.

Rhagweithiol, hyblyg a gallu gweithio'n annibynnol o fewn amgylchedd tîm.

Dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth, tystiolaeth a gwybodaeth perfformiad yn cyfrannu at wella'r system chwaraeon yng Nghymru.

Y gallu i ddehongli a chyfathrebu data neu dystiolaeth mewn ffyrdd sy'n sail i wneud penderfyniadau.

Y gallu i nodi a chynnig gwelliannau ymarferol i systemau, prosesau neu dempledi.

Hyder wrth ddatblygu dangosfyrddau syml neu adroddiadau cynnydd gweledol gan ddefnyddio adnoddau fel Excel neu Power BI.

 

 

Amgylchiadau Arbennig

Yn gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Yn gallu teithio yn ôl yr angen.

Agwedd egnïol, frwdfrydig a dymunol gyda'r hygrededd a'r proffil i sicrhau hyder a pharch staff a phartneriaid o fewn amgylchedd chwaraeon perfformiad.