Main Content CTA Title

Prentis Digidol

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran - Datrysiadau Technoleg

Cyflog – Graddfa 3 £24,420.00 - £25,362.02

Oriau Gwaith – 37 Awr yr Wythnos (Gan gynnwys rhyddhau am ddiwrnod i fynychu darlithoedd pan fo angen). Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / oriau llai yn unol â'n polisi gweithio hyblyg.

Math o gontract – Tymor penodol am 4 mlynedd 

Lleoliad – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd

 

Rydym yn cydnabod bod menywod yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiant technoleg ac, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill sy’n cael eu tangynrychioli.

Pwy ydym ni 

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.  

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.  

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio yn y tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni.

Sut byddwch yn cyfrannu

Fel Prentis Digidol byddwch yn gweithio ar draws y tirlun digidol yn Chwaraeon Cymru, gan ennill profiad gwerthfawr a dysgu gwybodaeth werthfawr hefyd am ein seilwaith digidol, wrth gefnogi prosiectau i ddatblygu'r gwasanaethau digidol rydym yn eu darparu, yn fewnol ac i'r sector yn ehangach.

Bydd y brentisiaeth hon yn cynnwys 2 flynedd o astudio rhan amser ar gyfer y cymhwyster Dadansoddwr Seibrddiogelwch Lefel 4, sy’n cael ei gyflwyno gan Goleg Caerdydd a'r Fro. Mae rhagor o fanylion am y cwrs a'r maes llafur i'w gweld yma. Am y 2 flynedd canlynol, bydd gennych y cyfle i ddefnyddio yr hyn rydych wedi’i ddysgu a chael profiad yn y gweithle.

Gyda phwy fyddwch chi’n gweithio

Gyda chefnogaeth tîm dylunio digidol a gwasanaethau hynod fedrus a phrofiadol, byddwch yn gweithio ar draws pob maes o'r busnes i ddatblygu gwasanaethau a sbarduno gwelliannau.

Beth fydd arnoch ei angen

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd ag uchelgais am yrfa yn y byd digidol.

Os oes gennych chi'r presenoldeb a'r personoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel, yn ogystal â'r angerdd a'r ysgogiad i lwyddo, fe fyddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn

Gallwch wneud cais am y rôl hon nawr (sylwch nad ydym yn derbyn CV).

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl hon, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]

Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei gynnal hefyd, lle gallwch siarad ag aelodau o dîm Datrysiadau Technoleg Chwaraeon Cymru i gael gwybod mwy am y rôl a’r sefydliad ehangach. Mae manylion hyn, ynghyd â dolen i ymuno â’r cyfarfod rhithwir, i'w gweld isod:

9fed Hydref 3pm - 4pm – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Dyddiad cau

20/10/2025 9am

Dyddiad dros dro y cyfweliad

06/11/2025

 

Swydd ddisgrifiad

Yn atebol i 

Rheolwr Desg y Gwasanaeth Digidol 

Pwrpas y swydd 

Darparu cymorth technegol o ansawdd uchel i ddefnyddwyr, gan eu cynorthwyo gyda phroblemau cyfrifiadurol, gweinydd, rhwydweithio a chaledwedd dros y ffôn, ar e-bost neu drwy ymweliadau safle.

Cynorthwyo'r tîm gydag amrywiaeth o fesurau i sicrhau bod trefniadau diogelwch gwybodaeth a seibr priodol yn eu lle.

Gweithio fel rhan o dîm cefnogol i gyflawni rhaglenni newid effeithiol fel rhan o drawsnewid digidol.

Prif Ddyletswyddau 

Darparu cefnogaeth dechnegol rheng flaen o ansawdd uchel i ddefnyddwyr cyfrifiaduron mewn ffordd broffesiynol ac effeithlon.

Cymryd perchnogaeth o broblemau defnyddwyr a bod yn rhagweithiol wrth ddelio â materion defnyddwyr.

Cofnodi pob galwad yn fanwl gywir ar y system cofnodi galwadau a chadw dogfennau.

Ymateb i geisiadau ac ymholiadau newid gan ddefnyddwyr.

Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio offer cyfrifiadurol drwy ddarparu'r hyfforddiant angenrheidiol.

Neilltuo materion gwasanaeth cymhlethach i'r aelod perthnasol o'r tîm Stadau Digidol.

Gosod caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu data cyfrifiadurol lle bo angen.

Cefnogi diwylliant o ganolbwyntio ar gwsmeriaid a chydweithio o fewn y tîm.

Cynorthwyo gyda darparu canllawiau technegol a chefnogaeth ar gyfer digwyddiadau mewnol ac allanol.

Cynorthwyo gyda mesurau diogelwch i warchod Chwaraeon Cymru rhag bygythiadau ac ymosodiadau seibr.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu patrwm o wasanaeth i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

Ein Gwerthoedd 

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y Person 

Maes ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol 

Addysg 

  

 2 Safon Uwch gan gynnwys CC neu gyfatebol    
Profiad 

Profiad o ddefnyddio Microsoft Office

 

Sgiliau, Agweddau a Doniau  

Y gallu i wneud penderfyniadau clir, effeithiol a chyson

Y gallu i drin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

Sgiliau dylanwadu / trafod 

Sgiliau gofal cwsmeriaid da

Sgiliau gweinyddol da

Aelod da o dîm 

Diddordeb mewn gyrfa ddigidol

Sgiliau cyfathrebu da

Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw at derfynau amser

Agwedd hyblyg at oriau gwaith

Sgiliau rhifedd a llythrennedd da

Mynd ati i geisio deall anghenion staff a chwsmeriaid yn weithredol ac yn rhagweithiol wrth ddiwallu eu hanghenion.

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog

Amgylchiadau Arbennig