Main Content CTA Title

Swyddog Actif Dyddiol

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran - Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid 

Cyflog –  Graddfa 7 £41,574.01 - £44,535.11 

Oriau Gwaith – 37 Awr yr Wythnos (Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio oriau llai yn unol â'n polisi gweithio hyblyg). 

Math o Gontract - Tymor penodol 18 mis

Lleoliad – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd (gyda theithio rheolaidd ledled Cymru) 

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i gynnwys symud mewn bywyd bob dydd ac i wella iechyd, lles a chanlyniadau addysgol. 

Mae Actif Dyddiol yn ymrwymiad allweddol fel rhan o strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach. Mae'n ddull ysgol gyfan o weithredu gyda gweithgarwch corfforol, wedi'i gynllunio i greu amgylcheddau dysgu actif sy'n ategu’r Cwricwlwm i Gymru. O ddechrau 2026 ymlaen, bydd cyfnod profi a dysgu yn dechrau, gan weithio gydag ysgolion i ymgorffori'r dull hwn. 

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.   

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.   

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.   

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.   

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio yn y tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni. 

Sut byddwch chi'n cyfrannu

Fel Swyddog Actif Dyddiol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cyflwyno'r dull o weithredu Actif Dyddiol mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod y cyfnod profi a dysgu hwn. 

Byddwch yn gwneud y canlynol: 

Gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion, athrawon a phartneriaid lleol i ymgorffori gweithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol. 

Darparu dysgu proffesiynol, mentora a chefnogaeth yn y dosbarth i staff. 

Cyd-ddylunio dulliau gweithredu ymarferol, cynhwysol ac sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ar gyfer symud yn ddyddiol. 

Cefnogi ysgolion i nodi rhwystrau a datblygu cynlluniau gweithredu. 

Casglu gwybodaeth, adborth ac astudiaethau achos fel sail i ddatblygiad y rhaglen yn y dyfodol. 

Gweithredu fel cysylltydd rhwng ysgolion, partneriaid a'r fenter Actif Dyddiol, gan sicrhau canlyniadau cynaliadwy o ansawdd uchel. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod wrth galon rhaglen sy'n hyrwyddo iechyd a lles plant, yn dylanwadu ar arfer addysgol, ac yn siapio dyfodol gweithgarwch corfforol ysgol gyfan yng Nghymru. 

Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio

Byddwch yn gweithio'n agos gyda’r canlynol: 

Ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol cymunedol 

Rhwydwaith Cymru o Ysgolion Hyrwyddo Iechyd a Lles    

Cydweithwyr ar draws Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru 

Beth fydd angen arnoch

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â’r canlynol: 

Dealltwriaeth gref o’r Cwricwlwm i Gymru (yn enwedig y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles) 

Profiad o arwain prosiectau gwella iechyd, lles neu ysgol gyfan 

Sgiliau hwyluso, hyfforddi a mentora rhagorol 

Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gydag ysgolion a phartneriaid y system 

Sgiliau trefnu cadarn, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau niferus 

Ymrwymiad i gynhwysiant, tegwch ac arfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn 

Mae sgiliau Cymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hynod ddymunol ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr dwyieithog. 

Am restr lawn o’r gofynion hanfodol a dymunol, edrychwch ar y disgrifiad swydd. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr (sylwch nad ydym yn derbyn CV). 

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl hon, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]  

Dyddiad cau

Tachwedd 27ain 2025 9am 

Dyddiad dros dro y cyfweliad

Rhagfyr 9/10fed 2025 

 

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Swyddog Arweiniol Iechyd ac Addysg

 

Chwaraeon Cymru yw'r asiantaeth genedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon ar lefel elitaidd a chymunedol; ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Genedlaethol sy'n gyfrifol am wella iechyd a lles poblogaeth Cymru. Mae'r Cynnig Actif Dyddiol yn ymrwymiad allweddol fel rhan o Strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach ac fe'i cyflwynir drwy bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Cynnig Actif Dyddiol yn ddull ysgol gyfan o weithredu gyda gweithgarwch corfforol, gyda gweledigaeth i gynnwys symudiad ar draws y diwrnod ysgol, gan ategu’r Cwricwlwm i Gymru a chreu amgylcheddau dysgu actif sy'n cefnogi iechyd, lles a chanlyniadau addysgol. O ddechrau 2026, bydd cyfnod profi a dysgu y Cynnig Actif Dyddiol yn dechrau, gan weithio gydag ysgolion i ymgorffori'r dull.

Pwrpas y swydd 

Bydd y rôl hon yn chwarae rhan ganolog yng nghyfnod profi a dysgu'r Cynnig Actif Dyddiol yng Nghymru. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r dull Actif Dyddiol mewn nifer fach o ysgolion prawf, gan sicrhau bod partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol y system yn cael eu gwella, a bod ansawdd a chynaliadwyedd y ddarpariaeth gweithgarwch corfforol mewn ysgolion yn cael eu cefnogi. Bydd y rôl hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu gwybodaeth ynghylch sut gallai'r model hwn weithio ar lefel fwy lleol.

Gan weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a phartneriaid lleol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddylunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ymarferol o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol disgyblion wrth gasglu dysgu a gwybodaeth fel sail i ddatblygiad Actif Dyddiol yn y dyfodol.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol i integreiddio gweithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol. Byddwch hefyd yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Rhwydwaith Cymru o Ysgolion Hyrwyddo Iechyd a Lles.

Prif Ddyletswyddau

Gweithio gydag ysgolion i ymgorffori gweithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol cyfan, fel rhan o Addysg Gorfforol a’r tu hwnt iddi, yn seiliedig ar y Fframwaith Actif Dyddiol.

Darparu cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol, mentora a chefnogaeth yn y dosbarth i athrawon a staff cymorth.

Cyd-ddylunio dulliau gweithredu ymarferol, cynhwysol sy’n cyd-fynd â'r cwricwlwm gyda gweithgarwch dyddiol sy'n addas i gyd-destun pob ysgol.

Modelu arfer gorau mewn addysgeg ddifyr a dulliau cynhwysol o weithredu, gan sicrhau bod pob disgybl sy'n rhan o'r prawf a'r dysgu yn gallu cymryd rhan a gwneud cynnydd.

Cymhwyso'r Datganiadau Beth Sy'n Bwysig a'r Cod Cynnydd i sicrhau bod y gweithgarwch yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.

Gweithio gydag uwch arweinwyr ysgolion - cefnogi ysgolion i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau (e.e., hyder staff, amser, gofod).

Hwyluso cydweithredu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol.

Gweithio gyda Rhwydwaith Cymru o Ysgolion Hyrwyddo Iechyd a Lles i sicrhau cyd-fynd â dulliau gweithredu ysgol gyfan ehangach mewn perthynas ag iechyd.

Cefnogi ysgolion i gwblhau'r Adnodd Asesu Gweithgarwch Corfforol a darparu canllawiau i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu.

Gweithredu fel cysylltydd rhwng cyfnod profi a dysgu Actif Dyddiol ac ysgolion, gan ddarparu gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd, casglu adborth, astudiaethau achos, a thystiolaeth fel sail i fonitro a gwerthuso.

Hyrwyddo iechyd a lles plant, gan sicrhau bod y fenter yn ategu blaenoriaethau fel Ysgolion Iach, ADY a mynediad cyfartal.

Defnyddio technoleg ddigidol i gysylltu ysgolion a phartneriaid, gan rannu gwybodaeth, adnoddau a dysgu. Cyfrannu at ddull cydlynol o reoli risg, diogelu a mynediad cyfartal.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu patrwm o wasanaeth i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

Ein Gwerthoedd 

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y Person

Maes Ffocws Hanfodol Dymunol 

Addysg 

  

Lefel gradd (neu gyfatebol) neu brofiad perthnasol

Statws Athro Cymwysedig (SAC) gyda phrofiad addysgu yng Nghymru neu brofiad perthnasol.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Cymhwyster ôl-radd mewn maes perthnasol

Cymhwyster neu brofiad Rheoli Prosiectau

 

Profiad 

Dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles

Gwybodaeth am yr heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth weithredu'r cwricwlwm

Profiad o gefnogi athrawon a / neu arwain mentrau mewn ysgolion

Profiad clir o gyflawni prosiectau ar amser ac o fewn y gyllideb, gan addasu yn ôl yr angen

Tystiolaeth o feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac effeithiol gydag amrywiaeth o randdeiliaid

Profiad blaenorol o ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau, astudiaethau achos ac adnoddau hygyrch ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid (e.e. ysgolion, partneriaid, cyllidwyr).

Profiad o weithio yn un o'r sectorau chwaraeon, gweithgarwch corfforol, iechyd neu'r amgylchedd

Cyfarwydd â fframweithiau cyflawni corfforol (e.e. STEP, SMILES, RECIPE)

Sgiliau, Agweddau a Doniau  

Sgiliau hwyluso, hyfforddi a mentora cadarn

Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol (ysgrifenedig a llafar)

Gallu datrys problemau'n greadigol

Sgiliau datrys problemau creadigol a dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar atebion

Hynod drefnus ac yn gallu rheoli perthnasoedd gyda nifer o ysgolion, gan ddeall eu blaenoriaethau cystadleuol wrth gynnal ffocws ar nodau Actif Dyddiol

Ymrwymiad cadarn i gynhwysiant, cyfle cyfartal, ac arfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn

Gallu defnyddio platfformau digidol i gefnogi dysgu proffesiynol a rhannu adnoddau

Gallu ysbrydoli, cefnogi a herio cydweithwyr

Model rôl ysbrydoledig sy'n hyrwyddo ffyrdd o fyw actif ac iach

Gwydn a rhagweithiol, gyda dull cadarnhaol o ymdrin â heriau

Cydymdeimladol a chefnogol, gan greu amgylcheddau diogel ac anogol

Angerddol am wella lles plant drwy symud a gweithgarwch

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

Gwybodaeth am fonitro a gwerthuso mewn cyd-destun addysg neu les

Y gallu i ddefnyddio adnoddau a phlatfformau digidol i gefnogi dysgu proffesiynol a rhannu adnoddau

 

Amgylchiadau Arbennig

Yn gallu teithio yn ôl yr angen

Yn gallu gweithio'n hyblyg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol