Am y swydd wag yma
Adran a chyflog
Adran - Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus
Cyflog - Gradd 5: £30,772.72 - £33,926.93
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
Math o gontract – Tymor penodol o 12 mis
Lleoliad - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd, Hybrid
Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.
Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwelliant parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i chi ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o'n tîm.
Sut byddwch chi’n cyfrannu
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm mewnwelediad, polisi a materion cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru yn ystod cyfnod cyffrous yng ngwleidyddiaeth Cymru. Gydag etholiad y Senedd ar y gweill yng Ngwanwyn 2026, mae hwn yn amser hollbwysig i Chwaraeon Cymru bwysleisio'r rôl hanfodol y mae'n rhaid i chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei chwarae yn nyfodol Cymru.
Yn y rôl hon byddwch yn cyfrannu at raglen waith sy'n llywio’r broses o ddatblygu polisïau, yn gwella penderfyniadau buddsoddi, ac yn hyrwyddo chwaraeon ar draws ystod o agendâu polisi'r Llywodraeth a mwy.
Gyda phwy fyddwch chi’n gweithio
Fel rhan o weithio i Chwaraeon Cymru, byddwch yn cwrdd ag arweinwyr strategol a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol o ystod amrywiol o sefydliadau sydd â diddordeb mewn arwain a chyflwyno cyfleoedd chwaraeon a hamdden – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Cenedlaethol, Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Ymddiriedolaethau Hamdden, Sefydliadau Trydydd Sector a llawer mwy. Byddwch hefyd yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol allanol ac yn cael cyfle i greu perthnasoedd ystyrlon ag Aelodau’r Senedd.
Gan weithio i’r Tîm Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus, byddwch yn gweithio o fewn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Gwasanaethau a Deallusrwydd Chwaraeon. Yn fewnol byddwch yn cydweithio â chydweithwyr ar draws pob cyfarwyddiaeth (gan gynnwys y Cyfarwyddiaethau Cyllid a Gwasanaethau Busnes a Systemau Chwaraeon).
Beth fydd ei angen arnoch
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â diddordeb brwd mewn chwaraeon ochr yn ochr â dealltwriaeth ragorol o'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n deall datganoli ac sydd â rhywfaint o brofiad o weithio ac ymgysylltu â'r Senedd a'i haelodau mewn rhyw ffordd.
Byddwch yn gallu creu amgylchedd gwaith da a chadarnhaol, ac ymdrin yn effeithiol â materion a phroblemau, gan gymell, annog a herio eich cydweithwyr. Mae dull sy'n cael ei arwain gan ddysgu yn hanfodol, gan fyfyrio ar eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Mae sgiliau gweinyddol eithriadol yn hanfodol, gan fod y rôl hon yn gofyn am reoli ymholiadau'r Llywodraeth, ysgrifennu briffiau manwl, ac ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid.
Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, er nad yw'n hanfodol. Os oes gennych chi'r presenoldeb a'r cymeriad i weithio mewn tîm perfformio uwch yn ogystal â'r angerdd a'r cymhelliant i lwyddo, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Beth sy'n digwydd nesaf
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y swydd hon role nawr (sylwch nad ydym yn derbyn CV).
Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]
Dyddiad cau
03/09/2025 12pm
Dyddiad dros dro y cyfweliad
Yr wythnos sy’n dechrau ar 15fed Medi 2025.
Disgrifiad swydd llawn
Yn atebol i
Uwch Arweinydd Polisi ac Ymgysylltu
Pwrpas y swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn cefnogi gwaith y tîm mewnwelediad, polisi a materion cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru yn ystod cyfnod pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Yn y rôl hon byddwch yn cyfrannu at raglen waith sy'n llywio’r broses o ddatblygu polisïau, yn gwella penderfyniadau buddsoddi, ac yn hyrwyddo chwaraeon ar draws ystod o agendâu polisi'r Llywodraeth a mwy.
Byddwch yn cefnogi datblygiad a dealltwriaeth o safbwyntiau polisi ac yn eu cyfleu i randdeiliaid mewnol ac allanol, byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Uwch Arweinydd Polisi i gefnogi gwaith Materion Cyhoeddus ar gyfer y sefydliad.
Byddwch yn datblygu perthnasoedd ar draws y sefydliad, gan ddeall sut y gall chwaraeon gyfrannu at y persbectif polisi ehangach yng Nghymru. Fel rhan o'r rôl, byddwch yn cefnogi dulliau cyfathrebu am waith Chwaraeon Cymru, gan adlewyrchu'r hyn y mae'r sefydliad a'i bartneriaid wedi'i wneud, wedi'i ddysgu, ac yn bwriadu ei wneud, er mwyn defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y ffordd orau bosib mewn cyd-destun polisi.
Fel rhan o'r tîm Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn y tîm i sicrhau bod yr ymchwil a gynhelir ac a gesglir gan Chwaraeon Cymru yn sail i benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru a'n partneriaid, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddangos y dystiolaeth y gall chwaraeon ei achosi ar draws iechyd, lles ac addysg, yn ogystal â meysydd polisi datganoledig eraill.
Byddwch yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau'r llywodraeth a byddwch yn gwella dull Chwaraeon Cymru o ran rhannu gwybodaeth am waith y sector chwaraeon yn ogystal â hyrwyddo hynny mewn ffordd strategol a phwrpasol.
Mae sgiliau gweinyddol eithriadol yn hanfodol, gan fod y rôl yn gofyn am reoli ymholiadau'r Llywodraeth, ysgrifennu briffiau manwl, ac ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid.
Prif ddyletswyddau
Cefnogi gweinyddiaeth gyffredinol y tîm Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus, gan gysylltu â chydweithwyr a chadw ein hadnoddau cynllunio a monitro yn gyfredol.
Casglu ymholiadau polisi llywodraethol a gwleidyddol (ASau Cymru/Lloegr/awdurdodau lleol) ac olrhain a monitro effaith y rhain.
Cefnogi’r gwaith o gyflwyno crynodeb mewnol bob pythefnos ar ‘fewnwelediad, polisi a materion cyhoeddus’ a diweddariad allanol misol i bartneriaid a’n bwrdd.
Cefnogi ein gwaith ar gyflawni ein hargymhellion maniffesto Etholiad y Senedd ar gyfer 2026 ac adolygu’r ffordd y gall gwaith parhaus o fewn y sector chwaraeon a thu hwnt lunio polisi Chwaraeon Cymru a chael ei ddylanwadu ganddo.
Mynd gyda'r Rheolwr Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus a/neu'r Uwch arweinydd Polisi ar ymweliadau a chyfarfodydd ag ASau Cymru/Lloegr, a'i gefnogi.
Cefnogi’r gwaith o drefnu a mynd i ddigwyddiadau perthnasol gan gynnwys cynadleddau pleidiau, cyfleoedd rhwydweithio perthnasol a digwyddiadau dan arweiniad Chwaraeon Cymru.
Hyrwyddo polisi chwaraeon drwy ymgysylltu gwleidyddol, fel cefnogi dulliau datblygu ymatebion i ymgynghoriadau a chefnogi briffiau’r Llywodraeth.
Cefnogi’r gwaith o baratoi deunyddiau allweddol, dogfennaeth, data ac ati i'w defnyddio mewn gwaith polisi a materion cyhoeddus yn fewnol ac yn allanol
Hyrwyddo’r dull buddsoddi cymunedol, gan gynnwys ymgysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol ar effaith dosraniadau buddsoddiadau Chwaraeon Cymru.
Cynrychioli'r tîm mewnwelediad, polisi a materion cyhoeddus mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol pan fo angen.
Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru yng nghyswllt ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.
Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r radd.
Gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr ledled y sefydliad i ddeall a hyrwyddo polisi chwaraeon, gan sicrhau bod yr holl waith yn datblygu mewn ffordd ategol.
Ein gwerthoedd
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
Manyleb y person
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg
| Wedi cael addysg at lefel gradd.
Cymwysterau ôl-raddedig mewn polisi/materion cyhoeddus.
Sgiliau iaith Gymraeg | |
Profiad
| Gwybodaeth am ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus perthnasol yng Nghymru.
Y gallu i gyfleu ymchwil a pholisi mewn briffiau cryno.
| Gwybodaeth am strategaeth a dull gweithredu Chwaraeon Cymru.
Gwybodaeth dda am strwythurau Llywodraeth ganolog, ddatganoledig a lleol yng Nghymru.
Dealltwriaeth o'r sector chwaraeon, cyrff rheoli cenedlaethol, neu bolisi cyhoeddus.
|
Sgiliau, Doniau a Galluoedd | Yn gallu herio consensws mewn ffordd adeiladol a gonest.
Y gallu i feithrin perthnasoedd ag ystod o wahanol randdeiliaid.
Y gallu i ddangos gwrthrychedd a phroffesiynoldeb ar draws ystod o sefyllfaoedd gwleidyddol yn unol â gweithio yn y sector cyhoeddus.
Y gallu i greu amgylchedd gwaith da a chadarnhaol ac ymdrin yn effeithiol â materion a phroblemau.
Sgiliau gweinyddol a threfnu cryf gan roi sylw manwl i fanylion.
Hyfedr mewn Microsoft Office a systemau rheoli dogfennau.
Y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau a bodloni terfynau amser.
Yn gyfforddus yn gweithio'n annibynnol ac ar y cyd ar draws timau.
| Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Profiad o weithio mewn amgylchedd polisi, llywodraethu neu reoleiddio.
|
Amgylchiadau Arbennig | Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rotas ar alwad.
Y gallu i deithio yn ôl yr angen.
|