Main Content CTA Title

Uwch Swyddog Datblygu Pobl

Am y swydd wag hon

TEITL Y SWYDD

Uwch Swyddog Datblygu Pobl

ADRAN A CHYFLOG

Adran – System Chwaraeon: Llywodraethu, Pobl a Moeseg

Cyflog – £40,071.33 - £42,925.41  

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Contract tymor penodol o 12 mis o leiaf (bydd secondiad yn cael ei ystyried)

Lleoliad – Caerdydd, Llanelli neu Lannau Dyfrdwy

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth arwain, datblygu a chefnogi ein gwaith datblygu pobl yng Nghymru. Byddwch yn cefnogi ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda'n Harweinydd Datblygu Pobl, a Thîm Llywodraethu, Pobl a Moeseg y System Chwaraeon.

Bydd y rôl yn gofyn am unigolyn profiadol a fydd ar flaen y gad o ran sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad a’r gefnogaeth sy’n cael eu rhoi i ddatblygu pobl (gan ganolbwyntio ar fyrddau ac arweinwyr) yng Nghymru, drwy bartneriaethau traws chwaraeon a thraws sector, rhannu adnoddau, a thrwy ddarparu cyfleoedd i'r gweithlu gyfarfod, cysylltu, cydweithredu a dysgu gyda'i gilydd.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth, gan sicrhau bod cynhwysiant a chydraddoldeb yn rhan annatod o raglenni, prosiectau a chyfleoedd datblygu pobl, o fewn sefydliadau partner ac ar draws y sector.

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau ein bod fel sector yn cydnabod ein diben a’n hatebolrwydd a rennir ar gyfer effeithiolrwydd datblygu pobl yng Nghymru. Byddwch yn cefnogi ac yn gweithio gyda'n partneriaid i ddeall yn well y mathau o systemau datblygu pobl a'r cyfleoedd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion ystod lawer ehangach a mwy amrywiol o weithlu.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO

Byddwch yn gweithio gyda rhwydwaith eang o sefydliadau fel ein bod, gyda’n gilydd, yn gallu creu dulliau arloesol o weithredu i ddiwallu anghenion datblygu pobl yn y dyfodol – gan gynnwys Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol, Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Sefydliadau Cenedlaethol, darparwyr Addysg Bellach ac Uwch, Sefydliadau Trydydd Sector a llawer mwy. 

Yn fewnol byddwch yn gweithio fel aelod o Dîm Llywodraethu, Pobl a Moeseg y System Chwaraeon, yn ogystal â gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Chwaraeon Cymru i sicrhau bod materion sy'n ymwneud â datblygu pobl yn cael eu cefnogi'n llawn. Yn ogystal, byddwch yn cynrychioli Cymru ar lefel y DU ar faterion yn ymwneud â datblygu pobl.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn naill ai addysg oedolion, systemau datblygu hyfforddwyr, datblygu pobl ac arweinyddiaeth, neu mewn creu diwylliannau cadarnhaol a chynhwysol.

Byddwch yn gallu nodi arferion sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru a ledled y byd, defnyddio gwybodaeth ac ymchwil fel sail i bolisi a strategaeth, a sicrhau cymaint â phosibl o effaith y gweithlu ar y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a Strategaeth Chwaraeon Cymru.

Dan arweiniad y dystiolaeth a’r wybodaeth yma, byddwch yn ymroddedig i ddysgu a chefnogi eraill i ddysgu ar draws ein sefydliadau partner. Bydd angen i chi fod yn awyddus i ddysgu a darganfod mwy ac i wella'r rôl yn barhaus.

Bydd gennych wybodaeth a phrofiad o amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, hyfforddi a datblygu a gafwyd drwy Addysg Uwch, Addysg Bellach, a darparwyr hyfforddiant eraill, yn ogystal â gwybodaeth am ffynonellau o gyllid sydd ar gael i gefnogi mynediad i ddysgu.

Bydd gennych y gallu i feithrin perthnasoedd hynod effeithiol a herio consensws mewn ffordd adeiladol a gonest. Bydd angen i chi fod yn effeithlon wrth reoli meysydd gwaith niferus a meddu ar y gallu i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, delio'n effeithiol gyda materion a phroblemau, a chymell, annog a herio eich cydweithwyr.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl ymanawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost at [javascript protected email address].

DYDDIAD CAU

20/08/2025 9am

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

03/09/2025

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN 

YN ATEBOL I 

Arweinyddd Datblygu Pobl

PWRPAS Y SWYDD

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yng Nghyfarwyddiaeth y System Chwaraeon. Mae pobl yn chwarae’r rhan fwyaf o ran darparu chwaraeon diogel, hygyrch a phleserus ledled Cymru. Rydyn ni eisiau i chi chwarae rhan wrth gefnogi datblygiad gweithlu cynhwysol a deinamig ar draws Chwaraeon Cymru.

Byddwch yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i bartneriaid (yn enwedig Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Partneriaid Cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol) ym mhob mater sy'n ymwneud â Datblygu Pobl. Yn benodol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn y gweithlu, a chefnogi datblygiad diwylliannau cadarnhaol a chynhwysol drwy bobl.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Gweithio ar lefel uwch gyda phartneriaid i sicrhau bod datblygu pobl wrth galon eu ffordd o feddwl, eu cynlluniau a'u darpariaeth.

Nodi a hyrwyddo cyfleoedd datblygu pobl o fewn a’r tu allan i'r sector chwaraeon, gan sicrhau bod partneriaid yn gwybod ble i gael mynediad at ddysgu, hyfforddiant a datblygiad priodol, a ble gallant gael cyllid i gefnogi'r dysgu hwn.

Nodi a chreu cyfleoedd i wella datblygiad pobl ledled Cymru, a fydd yn cynnwys nodi enghreifftiau blaengar yn y byd a chysylltu â chyrff y tu allan i Gymru ar y meysydd datblygu hyn.

Gweithio'n benodol gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau o fewn y gweithlu yng Nghymru.

Arwain a chefnogi datblygiad deunyddiau ac adnoddau a fydd yn effeithio ar ddatblygiad pobl.

Cofleidio technoleg ddigidol i rannu gwybodaeth a syniadau perthnasol ar draws meysydd busnes ac i sicrhau bod gwybodaeth a dirnadaeth yn cael eu rhannu mor eang â phosibl ar draws y sector.

Cefnogi datblygiad mentrau cenedlaethol fel Rhaglen y Llysgenhadon Ifanc i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru o ran ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa, gan gynnwys cefnogi gwaith ehangach y tîm Llywodraethu, Pobl a Moeseg.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol          

Addysg 

 

Cymhwyster neu brofiad priodol ym maes datblygu pobl 
Profiad 

Profiad mewn rôl weithredol yn cefnogi ac yn arwain gwaith ar draws nifer o flaenoriaethau sefydliadol

Profiad blaenorol o ddylanwadu ar Uwch Reolwyr, gan feithrin hygrededd a pherthnasoedd rhagorol

Profiad cynllunio gweithredol a strategol wrth ddatblygu syniadau ac atebion arloesol

Enw da am gyflawni ac adolygu meysydd gwaith allweddol, gan dderbyn dysgu a diwygio gwaith yn ôl yr angen

Rheoli cyllidebau'n effeithiol

Gwybodaeth a phrofiad o arwain datblygiad pobl ar draws nifer o bartneriaid

Gwybodaeth a phrofiad o gyfleoedd dysgu, hyfforddi a datblygu sy'n gysylltiedig â diwylliannau cynhwysol

 

Profiad o weithio gyda chwaraeon / Cyrff Rheoli Cenedlaethol

Profiad o ddefnyddio technoleg i lunio a chyflwyno gwaith

Profiad o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau drwy ddull datblygu pobl

Profiad o arwain newid ymddygiad a diwylliant o fewn sefydliadau

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Y gallu i feithrin perthnasoedd ag ystod o wahanol randdeiliaid.

Y gallu i reoli ystod o amcanion gwaith, rhai gydag amserlenni heriol a chystadleuol yn aml

Y gallu i weld y darlun mawr. Cydnabod sut gall gwahanol feysydd gwaith ar draws sefydliad gyd-fynd â’i gilydd.

Y gallu i gymell, annog a herio eich cydweithwyr.

Y gallu i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol ac ymdrin yn effeithiol â materion a phroblemau.

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

Y gallu i ddatblygu a gweithredu syniadau arloesol

Yn dal ei hun ac eraill yn atebol am safonau perfformiad i ddelio'n llwyddiannus ag ystod o sefyllfaoedd sy'n aml yn gymhleth; ceisio cefnogaeth ac arweiniad gan eraill yn y sefydliad pan fo angen

Yn ymdopi'n effeithiol â chyflymder, rhwystrau a newidiadau i flaenoriaethau; yn addasu i sefyllfaoedd dan bwysau mawr ac yn gweithredu rheolaeth dda 

 

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

Gallu sefydlu prosiectau, yn seiliedig ar drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol, gosod nodau, diffinio swyddogaethau a thracio cynnydd, adolygu, gwerthuso a gweithredu'r hyn a ddysgwyd i gael yr effaith fwyaf posibl 

 

 

Amgylchiadau Arbennig

Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Y gallu i deithio yn ôl yr angen.