Cydlynydd Cystadlaethau Dygnwch
Bod yn gyfrifol am ddarparu pob digwyddiad Pencampwriaeth dygnwch oddi ar y trac, ynghyd â digwyddiadau rhyngwladol ac allweddol, gan gynnwys Cardiff Cross Challenge, 5k y Gwledydd Cartref a digwyddiadau fel SIAB a chystadleuaeth ryngwladol Rhedeg Mynydd Prydain. Ymgymryd hefyd â phrosesu trwyddedau rasio ar gyfer digwyddiadau dygnwch a chefnogi darparwyr cystadlaethau allanol o bryd i'w gilydd. Yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cystadlaethau a Thrwyddedu, bod ar gael i gefnogi unrhyw ddigwyddiadau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys holl bencampwriaethau a digwyddiadau trac a maes Athletau Cymru.
Dyddiad cau: Dydd Sul 1 Chwefror 2026