Uwch Swyddog Datblygu Perfformiad
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm angerddol i greu llwybrau cynhwysol, i gefnogi unigolion ag anableddau i gyflawni eu huchelgais mewn chwaraeon, boed hynny i fod yn gorfforol egnïol mewn chwaraeon neu i gyflawni ar y lefel uchaf.
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i helpu i ddatblygu llwybrau gwydn a chynhwysol sy'n grymuso athletwyr ar bob lefel. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno rhaglenni datblygu perfformiad o'r radd flaenaf sy'n bwydo llwybrau Cymru a Phrydain Fawr, yn cyfrannu at raglen datblygu para-athletwyr sy'n arwain y byd, ac yn arddangos dulliau cynhwysol llwyddiannus yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 12 Ionawr 2026 - Hanner Dydd