Partner Datblygu Clybiau
Ydych chi am fod yn rhan o’r byd chwaraeon ond heb gefndir ym myd criced? Dim problem. Os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu ac adeiladu perthnasoedd rhagorol, a greddf ar gyfer cyfleoedd masnachol, mi allai hwn fod yn gam nesaf perffaith i chi.
Yn sgil ein Strategaeth Ddatblygu newydd, sy’n golygu bod Criced Cymru’n gweithio’n bwrpasol ochr yn ochr â Criced Morgannwg i dyfu’r gêm yng Nghymru, rydym wedi creu pedwar cyfle unigryw i fod yn rhan o gyfnod cyffrous i griced yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am unigolion proffesiynol llawn ysgogiad, sy’n gweithio â phobl (er enghraifft ym maes gwerthiant, rheoli cyfrifon, llwyddiant cleientiaid) all weithio ar y cyd â chlybiau criced i’w troi yn hybiau cymunedol ffyniannus.
Ffurflenni cais a dderbynnir yn unig
Dyddiad Cau: Dydd Sul 31 Awst 2025 - 17:00