Swyddog Arweiniol
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig a strategol i hybu ein gweledigaeth ar gyfer criced menywod a merched - o gyfranogiad ar lefel leol yr holl ffordd drwodd i’r llwybr talent. Mi fyddwch chi’n arwain tîm o Swyddogion Datblygu Menywod a Merched, yn gweithio â chlybiau, ysgolion a chynghreiriau, ac yn creu cyfleoedd croesawgar, gweladwy a chynaliadwy ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr benywaidd.
Os ydych chi’n credu’n angerddol mewn cydraddoldeb ym myd chwaraeon, yn gwybod sut i ddod â phobl at ei gilydd, a bod gennych brofiad o gynyddu cyfranogiad, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i chwyldroi gêm y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Hydref 2025 - Hanner Dydd