Main Content CTA Title

Criced Cymru

Swyddog Arweiniol Clybiau a Chynghreiriau

Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig, sy’n dda efo pobl, all ysbrydoli a chynorthwyo clybiau a chynghreiriau i ddod yn hybiau cymunedol ffyniannus, cynhwysol a chynaliadwy.  Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â chlybiau a chynghreiriau, gan sicrhau eu bod â’r adnoddau, yr arweiniad, a’r hyder i dyfu.

Os ydych chi’n feddyliwr strategol sy’n caru adeiladu perthnasoedd, sydd â phrofiad o chwaraeon neu ddatblygu cymunedol, ac sy’n gwybod sut i ddod â phobl at ei gilydd i sicrhau newid parhaol, mi allai hwn fod yn gam nesaf perffaith i chi.

 

Dyddiad Cau:  Dydd Gwener 10 Hydref 2025 - Hanner Dydd