Main Content CTA Title

Criced Cymru

Swyddog Datblygu Menywod a Merched Criced Cymru x 2, De Orllewin Cymru / De Ddwyrain Cymru

Ffurflenni cais a dderbynnir yn unig

Ydych chi’n angerddol dros chwaraeon merched a menywod?  Ydych chi am ysbrydoli mwy o fenywod i gymryd rhan a helpu i wneud Criced yn Gêm i Bawb yng Nghymru?  

Rydym yn chwilio am ddau Swyddog Datblygu Menywod a Merched newydd i hyrwyddo’r gêm menywod ymhellach, a chynyddu nifer y merched a menywod sy’n chwarae Criced.Mae gan bob menyw a merch ledled Cymru gyfle i gymryd rhan mewn Criced.  Serch y twf cyflym dros y ddegawd ddiwethaf, rhaid inni ganolbwyntio ar gadw chwaraewyr ac ar gynaliadwyedd.  Mae gennym gyfle unigryw i sicrhau mai Criced yw’r gamp fwyaf cynhwysol yng Nghymru, drwy gryfhau ein gêm menywod, dathlu’r effaith, a chodi ei phroffil.

 

Dyddiad Cau:  Dydd Llun 26 Ionawr 2026 - 12 canol dydd