Main Content CTA Title

Partneriaeth Actif Canolbarth y De

Swyddog Cymorth Busnes

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan hanfodol yng ngweithrediadau Partneriaeth Actif Canolbarth y De (CSAP). Byddwch yn ymuno â thîm bach ond uchelgeisiol ac yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr. 

Bydd y Swyddog Cymorth Busnes yn darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel ac yn cydlynu systemau a phrosesau mewnol sy'n ymwneud â rheoli data, cyllid ac adnoddau, llywodraethu corfforaethol a chymorth prosiectau. 

Mae'r rôl hon yn cynnig amgylchedd gwaith deinamig a hyblyg gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol. 

 

Dyddiad cau: Dydd Gwener 26 Medi 2025.