Cadeirydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd profiadol, trawsnewidiol a all helpu i siapio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Ngwent. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig sy’n angerddol am werth ac effaith chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol a’r gred y dylai pawb fod yn actif gyda’i gilydd, am oes. Bydd hon yn rôl proffil uchel, yn dylanwadu ar bolisi a strategaeth ranbarthol a chenedlaethol ac ar flaen y gad o ran dylunio a datblygu chwaraeon cymunedol yng Nghymru.
Dyddiad cau- Hanner nos Dydd Sul 19 Hydref