Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA), sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yw'r corff aelodaeth annibynnol ar gyfer y sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Mae’n gweithio ledled y wlad, gan ddarparu llais cyfunol i'r sector a grymuso sefydliadau i fod yn wydnach ac yn fwy llwyddiannus a chynaliadwy.
Mae'n chwarae rhan bwysig mewn chwaraeon a hamdden ym mywyd Cymru drwy eiriolaeth, gwasanaethau arbenigol a chydweithredu ar draws y sector.
Beth yw prif amcanion Cymdeithas Chwaraeon Cymru?
Mae'r WSA wedi ymrwymo i gryfhau'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru, gan ei alluogi i ffynnu nawr ac i'r dyfodol.
Ei nodau yw:
- Bod yn llais unedig, annibynnol sy'n siapio polisïau a phenderfyniadau
- Grymuso aelodau drwy hyfforddiant, llywodraethu a chefnogaeth ariannol
- Cynnig adnoddau ymarferol fel archwiliadau DBS dwyieithog a gwasanaethau caffael
- Sbarduno arloesedd, cynhwysiant a chynaliadwyedd
Sut mae gwaith y WSA yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?
Drwy gefnogi'r seilwaith y tu ôl i chwaraeon a hamdden, mae'r WSA yn helpu i greu sylfaen gref ar gyfer Cenedl Actif. Mae’n cefnogi clybiau a sefydliadau ledled Cymru. Felly, gall mwy o bobl ddal ati i fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon.
Sut gall y WSA gefnogi'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?
Fel llais cyfunol ar gyfer chwaraeon a hamdden yng Nghymru, mae'r WSA yn cynnig cymorth arbenigol a chyfleoedd partneriaeth sy'n gwella gwaith sefydliadau ar draws y sector.
Mae’n cefnogi partneriaid drwy wneud y canlynol:
- Eiriol ar ran aelodau gyda Llywodraeth Cymru, gweinidogion a swyddogion polisi
- Darparu gwasanaethau ar draws y sector, fel y Gwasanaeth Archwilio DBS dwyieithog drwy'r partner CBS, a'r Porth Caffael Chwaraeon a Hamdden drwy 2buy2
- Cynnig arbenigedd mewn gwydnwch busnes, cydraddoldeb a chynhwysiant, a gweithio sy'n sensitif i'r hinsawdd
- Cydweithredu â chyrff tebyg ledled y DU i rannu gwybodaeth a sicrhau bod ymdrechion yn cyd-fynd
Mae aelodaeth y WSA yn cwmpasu'r wlad, ac mae ei chyrhaeddiad a'i dylanwad yn ymestyn ar draws y gwledydd cartref. Mae’n gweithio ochr yn ochr â chyrff fel y Sport and Recreation Alliance a’r Scottish Sports Association.
Enghreifftiau o waith y WSA
- Arweiniodd fforymau dychwelyd i chwaraeon cenedlaethol yn ystod pandemig COVID-19
- Cynrychiolodd y sector ar y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol, gan alluogi paratoi athletwyr elitaidd ar gyfer Birmingham 2022
- Cyflwynodd wasanaethau DBS a chaffael ar draws y sector, gan gefnogi sefydliadau mwy diogel a mwy effeithlon
- Partneriaethau ac arolygon parhaus i sicrhau bod y gwasanaethau'n diwallu anghenion aelodau
Cysylltwch â Chymdeithas Chwaraeon Cymru
Gwefan: Cymdeithas Chwaraeon Cymru
E-bost: [javascript protected email address]
Cyfathrebu: [javascript protected email address] / [javascript protected email address]
Twitter: @WelshSportAssoc
LinkedIn: Cymdeithas Chwaraeon Cymru