Adlewyrchu, Gwella, Ffynnu
Mae Sylfeini 360 yn adnodd adlewyrchu digidol am ddim i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru i greu'r amgylcheddau gorau posibl i blant 3 i 11 oed fwynhau gweithgarwch corfforol a chwaraeon.
Mae'n cefnogi Fframwaith Sylfeini Cymru, gan eich helpu i adlewyrchu ar dair egwyddor graidd:
- Diogelwch a Pherthyn
- Mwynhad a Chyfranogiad
- Datblygiad a Hyder
Canlyniad: Darlun clir o sut mae eich clwb yn teimlo i blant, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr – a chamau ymarferol i ddal ati i wella.
Beth yw Sylfeini 360?
Mae Sylfeini 360 yn:
- Platfform ar-lein syml a hyblyg ar gyfer hunanadlewyrchu
- Datblygiadol – yn canolbwyntio ar welliant parhaus, nid ticio bocsys
- Cyfannol – yn casglu gwybodaeth gan bwyllgorau clybiau, hyfforddwyr a phlant
Yn seiliedig ar eich ymatebion, byddwch yn derbyn adroddiad sy'n gwneud y canlynol:
- Tynnu sylw at eich cryfderau fel clwb
- Nodi meysydd i'w datblygu
- Eich cyfeirio at adnoddau perthnasol i'ch helpu i weithredu
Sut bydd yn helpu fy nghlwb?
Mae Sylfeini 360 wedi'i adeiladu o amgylch profiadau real:
- Sut beth yw bod yn rhan o'ch clwb
- Sut mae plant yn ymgysylltu ac yn cymryd rhan
- Sut mae hyfforddwyr yn cael eu cefnogi i dyfu
Gallwch ddefnyddio'r canlyniadau i wneud y canlynol:
- Siapio cynlluniau a blaenoriaethau eich clwb
- Rhannu cynnydd gyda'ch pwyllgor a'ch tîm hyfforddi
- Gweithio gyda'ch tîm datblygu chwaraeon lleol neu swyddog CRhC ar gynllun gweithredu
Rydym yn argymell ailedrych ar yr adnodd yn flynyddol i dracio eich cynnydd dros amser.
Ar gyfer pwy mae’r adnodd?
Mae Sylfeini 360 ar gael am ddim i’r canlynol:
- Pob clwb a sefydliad chwaraeon yng Nghymru
- Pobl sy’n gweithio gyda phlant 3 i 11 oed
Gall aelodau'r pwyllgor, hyfforddwyr a phartneriaid (e.e. swyddogion CRhC) gyfrannu i gyd at adeiladu'r darlun llawn.
Sut mae'n gweithio?
- Sefydlu cyfrif eich clwb
Mae Sylfeini 360 yn rhedeg ar Brightspace, platfform ar-lein diogel Chwaraeon Cymru. - Dewis beth i ganolbwyntio arno
Cwblhewch y gyfres lawn o gwestiynau, neu dewiswch themâu penodol yn dibynnu ar eich rôl neu ddiddordebau. - Adlewyrchu, trafod a chwblhau
Defnyddiwch y cwestiynau i arwain trafodaeth mewn cyfarfodydd pwyllgor neu hyfforddi. - Derbyn eich adroddiad a'r camau nesaf
Lawrlwythwch adroddiad eich clwb, archwilio’r adnoddau sy’n cael eu hawgrymu a phenderfynu ar eich blaenoriaethau.
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Mae Sylfeini 360 wedi'i gynllunio i gyd-fynd â bywyd prysur clybiau:
- Gellir cwblhau pob adran mewn tua 10 munud
- Gallwch gymryd mwy o amser i drafod y cwestiynau yn fanwl
- Gallwch arbed eich cynnydd a dychwelyd yn nes ymlaen
Barod i ddechrau arni?
I sefydlu cyfrif eich clwb, anfonwch e-bost i: sportwales.brightspace@sport.wales
Cofiwch gynnwys:
- Enw cyswllt
- E-bost cyswllt
- Enw'r clwb
Unwaith bydd eich cyfrif wedi'i greu, byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi a gallwch ddechrau defnyddio Sylfeini 360 gyda'ch clwb.