Skip to main content

Partneriaeth newydd gyda'r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon

  1. Hafan
  2. Amser Ychwanegol - Ionawr 2022
  3. Partneriaeth newydd gyda'r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon

Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n awyddus iawn i wahodd sgyrsiau ac edrych ar bartneriaethau newydd gyda phobl a sefydliadau sy’n rhannu ein huchelgeisiau ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Felly, rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi ffurfio partneriaeth newydd sbon gyda’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) i gefnogi ymdrechion i gael mwy o bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd i nofio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr eraill.

Mae'r cydweithrediad newydd yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i wneud nofio yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut gall y BSA ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Nofio Cymru a sefydliadau eraill o fewn ein rhwydwaith presennol ehangach o bartneriaid.

Gallwch ddarllen mwy am y bartneriaeth newydd yma.

Un o gydsylfaenwyr y BSA yw Alice Dearing, a ddaeth y nofwraig ddu gyntaf i gynrychioli Prydain Fawr mewn Gemau Olympaidd pan gystadlodd yn 10km y merched yn Tokyo. Fe wnaethom ni holi Alice am ei siwrnai chwaraeon ei hun a’r rhwystrau mae nofwyr du yn eu hwynebu...

Llongyfarchiadau mawr ar eich cyflawniadau yn Tokyo. Beth ydi eich meddyliau am fod yn arloeswr i nofwyr du benywaidd?

Diolch yn fawr! A dweud y gwir, mae wedi bod yn cŵl a chyffrous iawn i mi, a hefyd wedi bod yn hynod o frawychus. Rydw i’n gobeithio y bydd pobl o bob oedran a chefndir yn cael eu hysbrydoli gennyf i ac yn mynd i ddysgu nofio, neu fynd i nofio’n amlach! Mae nofio yn gamp wych, sydd wedi gwneud cymaint o ddaioni i fy mywyd i ac mae'n gas gen i feddwl bod pobl yn colli’r cyfleoedd hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod sut i nofio neu nad oes ganddyn nhw fynediad aml at ddŵr diogel. Er hynny, roedd angen llawer iawn o ddewrder i sefyll a defnyddio fy llais ond rydw i wedi cael fy syfrdanu gan faint o gefnogaeth a charedigrwydd rydw i wedi dod ar ei draws, gan y rhai agosaf ataf i a dieithriaid llwyr.

Pa waith ymchwil mae'r BSA yn ei wneud o ran y rhwystrau sy'n atal mwy o bobl dduon rhag nofio?

Mae'r ddau ddarn o ymchwil y mae'r BSA yn eu cynnal yn torri tir newydd ac yn gyffrous iawn. Mae'r un cyntaf yn ceisio dod o hyd i'r rhesymau pam nad ydi pobl dduon yn nofio o safbwynt cymdeithasol ac ymddygiadol. Mae gennym ni ein hunain syniadau am beth yw’r materion hyn, fel mynediad i byllau, costau ariannol, stereoteipiau niweidiol ac ofn dŵr o bosib. Er hynny, mae angen ymchwil pendant i ddosbarthu ein hadnoddau yn y ffordd orau ac i ddeall y prif feysydd pryder. Mae'r ail ddarn yn ymwneud â chyfansoddiad y corff a'r myth am anallu pobl dduon i arnofio oherwydd dwysedd esgyrn uchel. Er bod y ddamcaniaeth hon yn seiliedig ar ffugwyddoniaeth, mae’n cael ei chredu yn eang ac yn hynod niweidiol, gan ei bod wedi cadw pobl dduon rhag dysgu nofio ers degawdau. Mae'n gyffrous iawn y bydd hyn yn debygol o gael ei wrthbrofi ac fe allwn ni ddechrau gweithio ar annog mwy o bobl dduon i fynd i’r dŵr.

Allwch chi ddweud wrthym ni am yr angen i gapiau nofio mwy priodol fod ar gael a’u caniatáu at ddefnydd elitaidd? Mae'n swnio fel ateb syml i rwystr mawr sy’n atal cyfranogiad.

Mae bob amser wedi bod yn gysyniad diddorol bod capiau nofio yn dod mewn un maint. Pan ddechreuais i nofio, doedd dim gwahaniaeth o ran maint - pan mae brandiau'n cynhyrchu gwisgoedd nofio gyda meddylfryd “un maint i ffitio pawb”, dydi hynny ddim yn gynhwysol i gyfran fawr o nofwyr. Mae hyn yr un peth ar gyfer capiau nofio. Felly mae'n gyffrous iawn gweld brandiau mawr yn mynd i'r afael â'r broblem yma ac yn sicrhau nad yw’n bodoli, nid yn unig i ferched a dynion duon, ond hefyd i unrhyw un sydd â gwallt hirach, mwy trwchus ... neu efallai i'r rhai sydd jyst yn hoffi cap mwy! 

Un o gydsylfaenwyr y BSA yw Alice Dearing, a ddaeth y nofwraig ddu gyntaf i gynrychioli Prydain Fawr mewn Gemau Olympaidd