Skip to main content
  1. Hafan
  2. Beth yw Chwaraeon Cymru?
  3. GWEITHDREFN APELIADAU YN ERBYN PENDERFYNIADAU BUDDSODDI

GWEITHDREFN APELIADAU YN ERBYN PENDERFYNIADAU BUDDSODDI

1. Cyflwyniad

 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob penderfyniad am Gyllid Buddsoddi yn cael ei wneud yn briodol ac yn unol â’n meini prawf fel maent wedi’u cyhoeddi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Partneriaid yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau eu bod yn deall yn llawn y sail ar gyfer pob penderfyniad Buddsoddi a'r rhesymau pam y dyfarnwyd symiau neu, mewn rhai achosion, pam y gwrthodwyd ceisiadau am fuddsoddiad.

Mae Chwaraeon Cymru yn rhagweld y bydd deialog barhaus gyda’n Partneriaid drwy gydol y polisi Buddsoddi. Byddwn yn ceisio sicrhau bod gan Bartneriaid yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ceisiadau / cyflwyniadau, byddwn yn ymwybodol o'r data a gedwir gan Chwaraeon Cymru at ddibenion dyrannu cyllid pan fo hynny'n berthnasol, a byddwn yn ymwybodol o'r ffordd y byddwn yn asesu ceisiadau a sut mae'r polisi gwneud penderfyniadau Buddsoddi yn gweithio. Pan fo hynny'n briodol, rhoddir adborth i Bartneriaid ar eu ceisiadau / cyflwyniadau.

 

2. Apêl

Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymrwymiad i sicrhau bod Partneriaid yn gwbl ymwybodol o'r rhesymau dros pam y gwnaed penderfyniadau Buddsoddi, efallai y byddwch yn anfodlon o hyd ac eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. O dan yr amgylchiadau hynny mae gennym bolisi apêl cadarn i sicrhau bod unrhyw bryderon y gellir eu cyfiawnhau yn cael sylw cyflym a chynhwysfawr.

Mae'r seiliau dros apelio yn gyfyngedig. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol mae Chwaraeon Cymru yn gallu ystyried apeliadau:

  • Rydych chi o'r farn nad yw Chwaraeon Cymru wedi dilyn ein gweithdrefnau, neu nad yw wedi gweithredu ein gweithdrefnau, yn rhesymol.
  • Rydych chi’n gallu dangos ein bod wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais neu'r deunydd rydych wedi'i gyflwyno i ni sydd wedi arwain at leihau, addasu neu wrthod eich Cyllid Buddsoddi.

 

3. Polisi Apeliadau

I ddechrau, byddem yn gobeithio gallu ymdrin ag ymholiadau yn anffurfiol ac, fel rhan o’r ddeialog barhaus, byddem yn eich annog i siarad â’r personél priodol yn Chwaraeon Cymru i gael gwybodaeth mewn perthynas â phenderfyniad Buddsoddi. Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon o hyd ar ôl y ddeialog hon, mae’r polisi apeliadau fel a nodir isod: -

Cam 1

  • I gyflwyno apêl dylech ysgrifennu, yn y lle cyntaf, at Brif Weithredwr Chwaraeon Cymru o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch gadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad eich cais am fuddsoddiad.
  • Mae'n rhaid i'r apêl gael ei chyflwyno'n ysgrifenedig a rhaid nodi sail yr apêl yn glir. Dylech hefyd sicrhau bod yr apêl wedi’i hategu gan unrhyw dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch apêl a / neu ei bod yn cyfeirio’n benodol at ddogfennau a gyflwynwyd yn flaenorol i Chwaraeon Cymru.
  • Bydd eich apêl yn cael ei chydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith i’w derbyn.
  • Bydd y Prif Weithredwr yn cyfeirio'r apêl at unigolyn penodol yn Chwaraeon Cymru sydd â'r lefel angenrheidiol o ddealltwriaeth o'r polisi buddsoddi i ystyried yr apêl ac ni fydd yr unigolyn hwn wedi bod yn ymwneud ag asesu eich cais am fuddsoddiad o'r blaen.
  • Bydd yr unigolyn penodol wedyn yn asesu'r wybodaeth sydd ar gael a gyflwynwyd gennych chi ac sydd wedi'i chynnwys yn ffeil eich cais / eich cytundeb partneriaeth.
  • Gall yr unigolyn penodol, wrth ystyried sail eich apêl, os yw'n briodol, ofyn am ragor o wybodaeth i sefydlu'r ffeithiau gennych chi, neu gan unigolion yn Chwaraeon Cymru neu, os yw'n briodol, trydydd parti.
  • Byddwn yn ymdrechu i'ch hysbysu o ganlyniad eich apêl cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, bydd yr amser a gymerir i ystyried yr apêl yn amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau pob apêl.
  • Bydd yr unigolyn penodol yn cyfeirio'r mater yn ôl at y Prif Weithredwr wedyn gyda chanlyniad ei ymchwiliad a'i argymhellion. Gall y Prif Weithredwr wrthod yr apêl neu gadarnhau'r apêl.
  • Os caiff eich apêl ei chadarnhau, bydd eich cais / cytundeb partneriaeth yn cael ei gyfeirio at Swyddog priodol yn Chwaraeon Cymru i'w ailystyried a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud gan Chwaraeon Cymru.
  • Cofiwch, hyd yn oed os caiff eich apêl ei chadarnhau a hyd yn oed os bydd eich cais yn cael ei ailasesu, ni fydd hyn yn awtomatig yn golygu y bydd dyfarniad yn cael ei gynnig / gynyddu.

 

Cam 2

  • Os ydych chi wedi apelio yn erbyn y penderfyniad Cyllido, yn unol â Cham 1 uchod, ac os ydych chi’n anfodlon o hyd gyda’r ymateb, gallwch gyflwyno apêl bellach i Sport Resolutions UK (“SRUK”) sy’n sefydliad annibynnol a diduedd sy'n darparu gwasanaethau cymrodeddu ar gyfer anghydfodau sy'n ymwneud â chwaraeon.
  • Nid yw Sport Resolutions yn gysylltiedig â Chwaraeon Cymru ac mae unrhyw ymchwiliadau ac argymhellion a ddarperir ganddynt yn cael eu gwneud yn annibynnol.
  • Mae'r seiliau apelio yn y cam hwn wedi'u cyfyngu yr un fath â'r seiliau apelio yng Ngham 1 y cyfeirir atynt uchod.
  • Os ydych yn dymuno cyflwyno apêl o'r fath i Sports Resolutions, dylech roi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r cadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad eich apêl o dan Gam 1.
  • Gydag apêl i Sport Resolutions, mae'r polisi apêl i'w ddilyn wedi'i nodi yn Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions (edrychwch ar y ddolen https://www.sportresolutions.co.uk/images/uploads/files/D_3_- _Cyflafareddu_Rheolau_2.pdf).
  • Cofiwch na fydd Rheol 3 Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions yn berthnasol i unrhyw apêl a wneir o dan y Polisi hwn. Os bydd unrhyw anghysondeb rhwng y Polisi hwn a Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions, darpariaethau'r Polisi hwn fydd yn cael eu rhoi ar waith. 
  • Bydd copi o Reolau Cymrodeddu Sport Resolutions a Chytundeb Cymrodeddu yn cael eu hanfon at yr apelydd pan fydd Sport Resolutions yn derbyn yr hysbysiad o apêl.
  • Bydd apêl i Sport Resolutions yn cael ei hystyried ar sail y papurau. Fodd bynnag, gall unrhyw banel a sefydlir gan Sport Resolutions, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, ystyried gwrando ar dystiolaeth neu gyflwyniadau cyfreithiol neu gyflwyniadau eraill, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
  • Bydd y panel a benodir gan Sport Resolutions yn cynnwys 3 unigolyn a benodir ganddynt a bydd y Cadeirydd fel rheol yn berson â chymhwyster cyfreithiol.
  • Ni allwch apelio i Sport Resolutions os nad ydych wedi cwblhau'r weithdrefn a nodir yng Ngham 1 uchod.
  • Fel rhan o'r polisi apêl gall Sport Resolutions ddarparu argymhellion i Chwaraeon Cymru a fydd yn cael eu cyfathrebu i chi.
  • Ymdrinnir â chostau apêl i Sports Resolutions yn unol â darpariaethau Rheolau Cymrodeddu Sports Resolutions fel a ganlyn:-

• Bydd costau'r apêl, gan gynnwys costau Sports Resolutions UK, y Tribiwnlys ac unrhyw arbenigwyr a benodir gan y Tribiwnlys, yn cael eu pennu gan Gyfarwyddwr Gweithredol Sports Resolutions yn unol â gweithdrefnau Sports Resolutions sydd mewn grym ar y pryd. Oni bai fod y partïon yn cytuno fel arall, neu oni bai fod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, neu oni bai fod unrhyw reoliadau cymwys yn darparu fel arall, bydd pob parti yn atebol am gyfran gyfartal o'r costau.

• Bydd y partïon yn gyfrifol am eu costau cyfreithiol eu hunain a chostau eraill oni bai fod y partïon yn cytuno fel arall, neu oni bai fod y Tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, neu oni bai fod unrhyw reoliadau cymwys yn darparu fel arall.

  • Mae penderfyniad Sports Resolutions yn derfynol ac ni chaniateir apêl bellach.

 

Gwybodaeth Bwysig

Ni all Chwaraeon Cymru ystyried apeliadau ar unrhyw seiliau eraill ar wahân i’r rhai a nodir ym mharagraff 2 uchod ac ni allwn ystyried apêl sy’n ceisio dadlau rhinweddau’r penderfyniad ei hun neu sy’n dadlau bod y data a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r dyfarniad mwyaf yn anghywir. Cyfyngir apeliadau i ddidwylledd y polisi gwneud penderfyniadau yn unig.

Bydd cynnwys a chanlyniadau’r holl apeliadau a wneir o dan y Polisi hwn yn cael eu hadrodd i Bwyllgor Archwilio a Risg Chwaraeon Cymru.