Skip to main content

Achub clwb bowlio ar lan môr

Wrth i Covid-19 ledaenu, roedd Cymdeithas Hamdden Benllech a’r Fro ar Ynys Môn yn ofni’r gwaethaf. Roedd y rhagolygon ariannol yn edrych yn ddu ac roedd pryder mawr y byddai’n cael ei gorfodi i gau ei drysau am byth.

Yn cael ei hadnabod yn lleol fel Clwb Bowlio Benllech, mae hefyd yn cynnwys cyrtiau tennis. Mae’r clwb mewn llecyn tlws yn mwynhau golygfeydd hyfryd o’r môr ac yn denu pobl ar eu gwyliau yn ystod y tymor brig. Mae incwm twristiaeth, sy’n debygol o ostwng yn fawr eleni, yn helpu’r clwb i oroesi drwy gydol y flwyddyn.

Ond eto mae grant gan Chwaraeon Cymru o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi helpu’r clwb i ddal ei dir. A’r wythnos ddiwethaf, cafodd y clwb y newyddion y mae wedi bod yn aros amdano - gallai agor ei ddrysau unwaith eto – ond gyda chyfyngiadau llym wrth gwrs.

Clwb Cowlio Benllech
Clwb Cowlio Benllech


“Fe wnaethon ni lwyddo i ailagor yn gyflym gan ein bod ni’n barod dair wythnos ynghynt mewn gwirionedd,” esbonia trysorydd y clwb Geoff Heald. “Hyd yma mae’r broses gyfan wedi bod yn hwylus. Mae’r system archebu’n gweithio’n dda i weld. O ran hylendid, dydyn ni ddim wedi agor ein toiledau na’n clybiau ac mae’r aelodau’n ymddangos yn hapus i ddod â’u diheintydd eu hunain ar gyfer eu dwylo.” 

Ac mae mwy o newyddion da. Yn ystod y pum diwrnod cyntaf ers ailagor, mae aelodaeth y clwb wedi cynyddu 33%:

“Mae’n edrych yn addawol iawn rhwng popeth. Mae’n rhy fuan eto i fesur beth fydd yr effaith derfynol ar ein cyllid ni. O edrych flwyddyn ymlaen yn unig, mae’n rhaid i ni ystyried cymysgedd oedran aelodau’r clwb. Maen nhw rhwng 60 ac 80 oed yn bennaf ac felly efallai y bydd rhai’n ystyried bod cymdeithasu eto’n ormod o risg, neu chwarae gemau cynghrair. Efallai na fyddan’ nhw’n ymuno eto’r flwyddyn nesaf. 

“Hefyd rydyn ni’n colli’r bobl ar eu gwyliau sy’n darparu refeniw defnyddiol i ni wrth ddefnyddio’r lawnt a’r cyrtiau, ond fedrwn ni ddim cael popeth!”

Archebu i mewn i chwarae yng Nghlwb Bowlio Benllech
Archebu i mewn i chwarae yng Nghlwb Bowlio Benllech


Yn y cyfamser, roedd y clwb yn teimlo y dylai haneru ei ffioedd aelodaeth. Er hynny, y gobaith yw y bydd yn gallu ymestyn y tymor chwarae am bedair wythnos, tan ddiwedd mis Hydref, nes bydd yn cau’n swyddogol am y gaeaf. 

“Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol gan mai ni yw’r unig gyfleuster bowlio a thennis yn ardal Benllech.”

Cyllid newydd i helpu i warchod a pharatoi chwaraeon yng Nghymru

Mae Cymdeithas Hamdden Benllech a’r Fro yn un o fwy na 300 o glybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi rhannu mwy na £600k o gyllid y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng gan Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.         

I helpu i warchod mwy fyth o glybiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, a galluogi iddynt baratoi ar gyfer cynnal chwaraeon ochr yn ochr â Covid-19, fe fyddwn ni’n cyhoeddi Cronfa newydd fawr ddydd Mawrth 7 Gorffennaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth lawn drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Cymru Actif

 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy