Skip to main content

Rhaid diogelu chwaraeon merched yn ystod pandemig y coronafeirws

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhaid diogelu chwaraeon merched yn ystod pandemig y coronafeirws

Ni ddylai chwaraeon tîm y merched gael eu gadael ar ôl wrth ddychwelyd ac adfer wedi Covid-19, rhybuddia gweinyddwr chwaraeon blaenllaw yng Nghymru

Mae Chris Jenkins, prif weithredwr Gemau Cymanwlad Cymru ac aelod o’r pwyllgor sy’n cysylltu â Llywodraeth Cymru ar ddychweliad fesul cam y perfformwyr elitaidd, yn mynnu bod y cynllunio yn ei le i sicrhau nad oes unrhyw fwlch tymor hir rhwng y rhywiau. 

Mae’r gyn bencampwraig Olympaidd, Denise Lewis, yn un o nifer o leisiau sydd wedi mynegi pryder bod chwaraeon merched yn wynebu risg o gael eu gwthio i’r cyrion yn ystod y pandemig presennol. 

 

Mae pêl droed yr Uwch Gynghrair wedi dychwelyd ac mae clybiau Cymru sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth, Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe, yn ôl ar y cae, ond daeth tymor y merched i ben cyn cael ei gwblhau ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr.                                 

Er bod capten Cymru Sophie Ingle wedi ennill y teitl gyda Chelsea, digwyddodd hynny wedi i Uwch Gynghrair y Merched ddod i ben ar ei chanol a chyflwynwyd tlws y bencampwriaeth ar sail pwyntiau ym mhob gêm. 

Gellir gweld sefyllfa debyg yn y byd rygbi, gyda gêm broffesiynol y dynion yn cynllunio ar gyfer ailddechrau ym mis Awst. 

Daeth yr Uwch Gynghrair Bêl Rwyd i ben yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig ar ôl dim ond ychydig o rowndiau yn unig ac mae chwaraeon tîm eraill sydd â chyfranogiad uchel gan ferched, fel hoci, eto i ailddechrau chwarae ar unrhyw lefel. 

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r problemau i chwaraeon merched a dyma pam mae’n rhaid i ni sicrhau bod popeth yn gynhwysol yn y cynlluniau a’r llinell amser ar gyfer dychwelyd fesul cam,” meddai Jenkins.

“Rydyn ni wedi edrych yn fanwl ar hyn oherwydd mae’n bryder amlwg. Ond er ein bod ni ar ben hyn, rhaid i ni nawr sicrhau ein bod yn deall canlyniadau pob cam o’r dychwelyd at hyfforddi a chwaraeon yn llawn.”

Mae Jenkins yn credu bod y gwahaniaeth yn arwydd o’r gagendor rhwng yr elfennau cyfoethocach a thlotach mewn chwaraeon – ac nad rhywedd yw’r cyswllt. 

Dywedodd nad yw Cynghreiriau Un a Dau y byd pêl droed wedi ailddechrau, er bod yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth wedi arwain y ffordd – gyda’u gallu i gyllido protocolau drud a chymhleth ym mhob stadiwm.                                  

Mae’r ddwy adran is, meddai, yn llawer tebycach i chwaraeon tîm proffesiynol neu led-broffesiynol y merched gyda’r incwm yn deillio’n bennaf o refeniw diwrnod gêm. 

Heb wylwyr yn y stadiymau ar hyn o bryd, mae canlyniadau economaidd ailddechrau chwarae gemau’n llawer anos i dimau sy’n llai abl i wneud defnydd o refeniw teledu.                 

“Nid yw Cynghreiriau Un a Dau yn y byd pêl droed wedi dod yn ôl ac mae dychweliad rygbi a phêl droed domestig yng Nghymru’n fwy graddol ac yn debygol o ddigwydd ganol yr haf ar y cynharaf,” meddai Jenkins.

“Mae llawer o hyn yn cael ei sbarduno gan darddiad yr arian yn y lle cyntaf. Ym mhêl droed yr Uwch Gynghrair, mae’n dod o’r hawliau teledu yn bennaf, gyda’r incwm arall yn eilradd. 

“Ond ar gyfer y chwaraeon hynny sy’n dibynnu’n drwm iawn ar wylwyr, sy’n golygu chwaraeon merched i gyd bron, mae’r problemau incwm yn ymwneud i gyd â phryd all y gwylwyr ddod yn ôl. Mae’r protocolau diogelwch a meddygol ar gyfer dychwelyd at chwaraeon yn ddrud iawn.”

Dywed Jenkins bod ymchwil yn cael ei gynnal ar sut gall chwaraeon tîm elitaidd ailddechrau gydag arian yn llawer prinnach.         

Pan ddychwelodd pêl droedwyr proffesiynol Abertawe a Chaerdydd at hyfforddi ddiwedd mis Mai, fesul cam y digwyddodd hynny. 

I ddechrau, roeddent yn gweithio ar ymarferion mewn grwpiau bach gyda’r sesiynau’n mynd yn ddwysach yn raddol wrth i’r chwaraewyr adennill eu ffitrwydd. 

Bydd yr un peth yn digwydd pan fydd y pedwar rhanbarth rygbi proffesiynol yn ailddechrau ymarfer tua diwedd mis Mehefin. Gyda’r risgiau iechyd mewn chwaraeon cyswllt agos eto i gael eu penderfynu, ni fydd pethau’n dychwelyd yn ôl i drefn yn syth. 

Mae’r camau gofalus hyn yn cael eu mabwysiadu gan berfformwyr chwaraeon elitaidd unigol hefyd – yn ddynion a menywod – sydd wedi dechrau dychwelyd i hyfforddi yng Nghymru yn araf bach. 

Un o’r rhai sy’n cynghori’r athletwyr ar ddychwelyd yw Owen Lewis – cyfarwyddwr cynorthwyol Chwaraeon Cymru ar gyfer systemau chwaraeon, strategaeth a gwasanaethau – sy’n dweud bod unrhyw un sy’n brysio’n ôl yn peryglu tanseilio ei holl uchelgeisiau.

Gall anafiadau a damweiniau ddigwydd o dan yr amgylchiadau mwyaf annhebygol fel y canfu’r feicwraig Elynor Backstedt (torri ei choes) a’r rhwyfwraig Vicky Thornley (torri ei braich) pan gawsant anafiadau wrth wneud ymarfer corff, yn hytrach nag wrth hyfforddi. 

“Un o’r pethau mawr i’w ddeall yw nad yw’r athletwyr yma’n dod yn ôl i hyfforddi fel arfer,” meddai Lewis. “’Fydd pethau ddim yn edrych fel hyfforddiant fel arfer. 

“I ddechrau, fe fydd rhaid iddyn nhw ddod yn ôl yn raddol, ac nid ar y lefel oedden nhw’n hyfforddi cyn y cyfyngiadau symud, a chael anaf yn syth.             

“Yn ail, mae’n rhaid iddyn nhw leihau’r risg o anaf wrth hyfforddi oherwydd y baich mae hynny’n ei roi ar y GIG.

“Er enghraifft, os ydych chi’n gymnast ifanc ar far uchel ac os byddwch yn torri eich ffibwla neu eich tibia, fel arfer mae’r GIG yn wych am wella hynny. Ond os nad oes gan y gwasanaeth gapasiti ac os mai dim ond eich rhoi chi mewn cast fydd yn bosib, mae gan hynny oblygiadau mawr i athletwr ifanc. 

“Rydyn ni wir yn annog chwaraeon i feddwl am yr holl risgiau mae athletwyr ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”

Y neges yw cadwch yn ddiogel ... a byddwch yn ofalus.